Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Diwygwyr Crefyddol Cymru gynt.
Diwygwyr Crefyddol Cymru gynt. Gail H. I. J. Siaredir am Gymru fel Gwlad y Diwygiadau," neu yr Adfywiadau Crefyddol." Pa un o'r ddau ymadrodd yna yw yr hapusaf i'w gymhwyso at y ddiwygiadau crefyddol bendigedig gy- mei-asant Ie, ac sydd yn cymeryd lie y dyddiau hyn mewn Ilawer parth o'n gwlad anwyl ? Gwelaf mai y blaenaf bron yn ddieithriad, arferir yn y wasg Gymreig tra mai yr olaf, yn ddieithr- iad, arferir yn y wasg Seisnig. Ai tybed nad y Sais yw yr agosaf i'w le yn yr achos hwn, modd bynag ? Bu cyfnewidiadau er gwell yn hanes creiydd gymdeithasol yn ein gwlad ni a gwledydd eraill, pan mai y gair diwygiad oedd yr ymadrodd priodol f-r gosod hyny allan. Braidd na thyb iaf mai adfywiad" yw yr ymadrodd puodolaf i'w arfer am y "peth yma" s/cld drwy ras y nef yn cymeryd le yn awr yn Nghymru. Diau genyf y gellid cyfleu gwir ddy, mi niad holl ddarllenwyr y Cel o lethynas i hyn yn ngeiriau yr em;pydd Cerdd yn mlaen, nefol da i, Cymer yma feddiant glan." Yn y mwynhad o'r adfywiad pr^eno!. nic oes dim yn fwy naturiol na bod (m ntdclyIiau yn rhedeg yn ul at y "dlwygiwyr," y "diwygiadau, aV "ad- fywiadau," a'r rhai y bendithiodd y nef ein cenedl a hwy, yn yr amseroedd gynt a fu." Y mae i'n gwlad hanes gwerthfawr yn y cyfeiriad hwn. Nis gallwn byth ryddhau ein hunain o'u rhwymau i gydnabod am y dyn.on gwerthfawr godwyd ganddo flynydd- flynyddoedd lawer yn ol, er cynydd crefydd ysbrydol yn ein tir. Erys d)- lanwad y gwaith dros y nef, gyflawnwyd gan y cedyrn hyny hyd y dydd hwn. Y mae Duw o hyd yn ateb gweddiau offrymwyd ato ganrifocdd ac ugeiniau o flynyddoedd yn ol, mor wirioneddol ag y mae yn ateb gweddiau y dyddiau hyn. A bydd Efe yn parhau i ateb am oesau eto ddel, y gweddiau anfonir ato yn y presenol. Mae gweddiau hen weddiwyr Fel angylion yn y gwynt; Pwy a wyr sawl bendith heddyw Sydd yn dod o'r oesau gynt." Nac anghofiwn ein dyled i ddiwygwvr gweddigar Cymru Fu. Beth fyddai i ni mewn nifer o ysgrifau byrion, gymeryd taith h..itio iddynt, gan wrth sylwi arnynt, gyd- nabod Duw yn ddiolchgar am danynt, a phenderfynu y mynwn yn nghymorth ei ras Eí, fod yn olynwyr teilwng idd- ynt. Dechreuir gyda John Penry, a deuwn yn mlaen hyd doriad allan y Diwygiad Methodistaidd," fel ei gelwir. Er mai am Gymru yr ydys yn ysgrifenu, etc, purion peth fyddai deall yn glir fod y syniad—yr ystyr syld i1 ymadroddion—" Diwygiad MedDdist aidd," yn eangach ei gylch na 1 hy- v/ysogaeth Cymru. Y mae yr env\ wedi ei ddefnyddio weithiau s.mrano..t--a dweyd y lleiaf—heb fod yn anrliydcdd- us iawn. Cofied y darllenydd ieuanc fod yr enw yn cynwys y diwygiad trwy y Wesleys a Whitfield. A dyna ei ystyr eangaf. Bu yn Nghymru ddiwygwyr anrhyd- eddus yn flaenorol r Penry, megys Bradwardine, Walter Brute, a John Hengastell-wedi hyny a adwaenid wrth yr enw Arglwydd Cobham. Blodeuai y blaenaf a enwyd yn flaenorol i John Wycliff. Yr oedd Walter Brute vn bregethwr teithiol, ac yn dra efengyl- aidd ei athrawiaeth. Bu efe farw yn ¡ ferthyr dros wirionedd efengyl lesu Grist. Llafuriodd efe fel hyn am tua ugain mlynedd, sef o 1372 hyd 1393. Ganwyd John Hengastell yn Sir Fynwy—yn Swydd Henffordd, medd eraill. Bu hyn fel y tybir yn y flwydd- yn 1360. Merthyrwyd ef yn Llundain, a hyny mewn dull tra dychrynllyd, ar Rhagfyr 25, 1417. Diwygwyr Cymreig o'r iawn ryw oeddynt William Salisbury, yr Esgob Richard Davies, Thomas Huck, a'r Dr. William Morgan,-y rhai rhyngddynt a roddasant i'r Cymry Air Duw yn eu hiaith. Modd bynag, awn heibio i'r dynion rhagorol hyn, heb ond eu henwi fel yna, a chychwynir y tro nesaf gyda John Penry. Ni roddir ond yn unig fras linelliad o'u bywydau a'u gwaith. (I'w barhau.)
CILYCWM.
CILYCWM. Nid yn fynych y ceir dim yn y Celt o Cilycwm. Nis gallaf fi roddi un rheswm dros hyny, ond yr wyf yn gwybod fod yma lawer o newyddion, o bryd i'w gilydd, o werth i'r cyhoedd eu clywed. Cymeraf y pleser o hysbysu i cliwi yr hyn a gymerodd le y 12fed o'r mis hwn. Yn nghapel yr Anibynwyr, yr hwn a elwir Capel y Groes, tra- ddodwyd darlith gan y Parch. J. Volan- der Jones (gynt o Trecastell), ar y testyn, 0 For y Werydd i'r Mor Tawelog." Cadeiriwyd yn ardderchog gan y Parch. D. Davies, B.A. vicar y plwyf. Cafwyd darlith ardderchog. Yr oedd yn addysgiadol, adeiladol, a dyddorol dros ben. Mae gan y dar- lithydd enwog hanes manwl o'r Unol Dalaethau, wedi ei wau a barddon- iaeth o ddechreu i ddiwedd. Rhaid cyfaddef fod ei allu yn fawr. Dylai pob cynulleidfa yn y wlad glywed y ddarlith odidog hon. Pleidleisiwyd diolchgarwch i'r darlithydd a'r cadeir- ydd ar y diwedd. Y Sul dilynol, IJU Mr. Jones yn pre- gethu am ddau a chwech, a chafwvd cynulliadau lluosog, a phregethau da ac effeithiol. Boed i'r had da ddwyn ffrwyth lawer. Ap Gwenlais. [Dowch eto, a diolch.-Gol.J
Tanchwa mewn Glofa yn Gowerton.
Tanchwa mewn Glofa yn Gowerton. DEUNAW 0 LGvYYR WEDI EU LLADD A'U NIWEIDIO. Digwyddodd tanchwa ddycrynllyd yn Nglofa yr Elba, Gowerton, gerllaw Pen- clawdd, ar ffiniau goirllewinol Sir For- ganwg, pryd y Haddwycl deg o lowyr, ac y niweidiwyd wyth eraill yn ddifrifol. Gweithia oddeutu 150 o ddynion yn y lofa hon—dtwy ran o dair o ba rai a weithient y dydd, a'r gweddill (50 neu 60) yn y nos. D'isgynodd y rhai diweddaf i'r pwll am bump o'r gloch nos Wener diweddaf, a chymerodd y danchwa le am un or gloch foreu Sad- wrn. Pan glywodd trigolion, Gowerton ysgytiad y danchwa yn nhatwelwch y nos, rhuthrasant o'u gwelyau mewn braw at enau y pwll, ac yno yr arosent ac y gwylient awr ar ol awr, tra; yr elai cwmni o ddewrion !i wneud ymchwil am y trueiniaid islaw, dan arweiniad Mr. Herbert Griffiths, y rheolwr. Daeth meddygon, mamaethod, ac arolygwyr mwn.su i'r lie ar fyrder, a chludwyd cyrpih y lladdedigion un ac un i "dy'r m-lrvv" (mortuary). Yr oedd chwech o honynt yn briod.
Carmel, Clydach.
Carmel, Clydach. Cynelir Cyfarfodydd yn riglyn a sefydliad y Parch. J. Oldfield Davies, B.A. (diweddar o Talwrn, Coedpoeth), yn weinidog yr eglwys, Sul a Llun, Chwefror 5 a 6, 1905. Pregethir y Sul gan y Parchn. R. Gv/ylfa Roberts, Llanelly; a G. Penar Griffiths, Pentre Estyll. Cymer y sefydliad le am 2 o'r gloch prydnawn dydd Llun. Bydd pregethu y Llun am 10.30 y boreu, a 6 yr hwyr. Gwasanaethir gan rai o weinidogion y Cyfundeb ac eraill. Rhoddir gwahoddiad cynes i weinidog- ion a Ileygwyr-y cylch, ac eraill, i fod yn bresenol. 109-10 E. Williams, ysg.
BETHEL, PENRHYNDEUDRAETH
BETHEL, PENRHYNDEUDRAETH CYFARFODYDD SEFYDLU. Dydd Maiwrth a Mercher, lonawr y 3ydd a'r 4ydd, 1905, cynaliodd yr eglwys uchod gyfarfodydd sefydlu y Parch. W. 'by M. Davies yn weinidog arnynt. Nos Fawrth pregethwyd gan y Parchn. D. Ffrwdwen Lewis, Trevor, a T. C. Jones, Llanfyllin. Boreu Mercher, am 10, pregethwyd gan y Parchn. J. W. Ed- wards (cyn-weinidog Penrhyndeudraeth) a D. J. Williams, Porthmadog. Am 2, cynaliwyd y cyiarfod sefydlu. Cymer- wyd y gadair, yn absenoldeb y Parch. Y\J. Nicholson, Porthmadog, gan y 6 Parch. J. C. Jones. Wedi myned drwy y rhanau arweiniol, darllenwyd llythyr oddi wrth y Parch. D. Rees, Rock, Cwmavon, yn datgan ei ond a'i absenol- deb yn herwydd afiechyd teuluaidd. Rhoddai dystiolaeth o flynyddoedd o adnabyddiaeth 0 Mr Davies, a chymer- adwyai ef fel dyn unplyg, Cristion dis- glaer, a chymeriad da. Dymunai lwyddiant imawr ac arddeliad amlwg ar ei weinidogaeth. Darllenwycl hefyd frysneges oddi wrth y Parch. Mr. Rees, gwemidog (B.), Penrhyn, yr hwn oedd oddi cartref, yn amiygu ei ofid nas gallai fod yn y cyfarfodydd, gan ddymuno Duw yn rhwydd. Yna gofynwyd arwyddion o gydsyniad o du yr eglwys a'r gwteinidog i'r undeb a ffurfid, yr hyn a gafwyd, a gofynwyd bendith ar yr undeb gan y Parch. J. C. Jones. Yna traddodwyd "charge" grei a phwr- pasol iawn i'r eglwys gan y Parch. 1"). Ff Lewis; a phregethwyd ar ei ol gan y Parch. D. J. Williams. Am 6.30, trwy garedigrwiydd brodyr y Methodist- iaid Calfinaidd, cynaliwyd y gwasan- aeth yn addoldy hardd a helaeth Nazar- eth. Pregethwyd gan y Parchn. D. Ff. Lewis a J. C. Jones. Cafwyd cynulliadau rhagoirol, pre- gethau grymus, a nerthol. Yr oedd y brodyr ar eu huchelfanau, a'r Nefoedd mewn modd amlwg yn gwenu ac yn arddel y genadwri, fel yr oedd yr hen, hen hanes yn felusfwyd o'r fath oreu. Dechreuwyd y gwahanol gyfarfodydd gan Mri. D. Ff. Lewis, — Owen (M.C.), Penrhyn; J. Ellis, Utica, Maentwrog; ac E. Jones (Asaph Golien), Ffestiniog. Gwelwyd yn v cyfarfodydd heblaw a enwyd Y Parfhn. — Evans (M.C.), a S. Pearce (B.), Penrhyn. Bendith y Nef- oedd ar y cyfarfodydd ac ar yr undeb, er adeiladaeth eneidiau a gogoniant Duw. Z, Aelod.
MYFYRDOD YR AFRADLON UWCH…
MYFYRDOD YR AFRADLON UWCH Y BEDD. Mae fy nghalon bron yn ddarnau; Nid oes ynwyf gysgod hedd, Pan edrychwyf drwy ty nagrau I diroigaeth oer y bedd; Yn y bedd, o swn pob awel, 0 afaelion chwantau ffol, Huna'm ceraint yno'n dawel, Minau'n gruddfan ar eu hoi. Yno' mae fy m.am a'm dysgodd, Ac a'm carodd tra'n byd; Mae'r gwefusau a'm cusanodd 0 dan gloion angeu'n fud; Nid oes gobaith am ei chwmni I'm cysgodi mwy rhag cam; Mae y byd yn loes a chyni Er y dydd y claddwyd mam. Cofio geiriau tyner galon, Geiriau olaf anwyl fam, Sydd yn rhuo dan fy nwyfron, Gwneud cydwybod ynwyn fflam.. Dyna'r geiriau dwys lefarodd. Tra yn byw eu cofia wna- "Rho dy hun i'r Iesu'n fore, Cofia fod yn fachgen da." O na byddwn wedd cadw Holl gynghorion hoff fy mam; Byddai cysur yn fy elw, Byddiai f'enaid yn ddinam Byddai'm llwybr yn llawn cerddi, Teg rosynau yn fy myd; Ond ys truan wyf ar drengu, Dan gydwybod euog lid. Crwydro wneuthum oddi cartref, Hudwyd fi gan swynion gau, Ac mewn c'wilydd, rhaid I'm addef 'Rwyf mewn pechod wedi'm gwau Ysglyf wyf yn mreichiau Satan, Ac yn gaethwas yn ei gol, Ac yn ddamniol advn truan, Heb un nerth i ddod yn ol. Gyd-ieuenctyd sydd a'ch rhiaint Eto'n gysgod dros eich pen, O anwylwch hwynt, gan ddiolch Am diriondeb Brenin nen; Mae yn golled wna'n gofidio, Colled anghydmarol ddrud; Mam mewn graian oer yn huno, Minau'n dlawd ar draeth y byd. Peidiwch diystyru'r cysgod, Gwneud gweddiiau da yn sarn Mae dialedd Duw ar ddyfod, Dydd ofnadwy fydd y farn; Duw! rho nerth i ie'nctyd Cymru, Ateb weddi mam a nhad! Boed D' amddiffyn dros bob teulu, Cadw Di gartre'fi'n gwlad. Ystradgynlais. Idris Jeffreys.
Advertising
¡ A + + + MLO was + | Envelopes Gesglu + a *1* AT X | Wasanaeth Capeli. t <* + <♦ Dymuna perchenogion y "Celt Newydd" a .1. | u Llais Llafur" hysbysu fod ganddynt | ST0C HELA1TH | f ❖ Y o'r Envelopes uchod, a'u bod yn barod i gyflenwi y cyfryw wedi eu hargraphu ag Enw y Capel, ^'u Jl. ♦t* rhifnodi,— yn barod i'w trosglwyddo i'r aelodau. «§» Galluogir hwynt, gyda'r X I Pcirianau Diweddaraf f ❖ i gyflenwi pob archeb, o bob maint ar rybudd byr am I BEISOEDD TEG. I «§>> ♦ — f f Ymofyner am Brisiau yn J* | Swyddfa'r Celt Newydd a Llais Llafur <§» YSTALYFERA. 41