Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
[No title]
Y Diwygiad yn Mangor Gan y Parch. Ellis Jones, Bangor. Ydyw, diolch i Dduw! Hwre! liwre Y mae cael y diwygiad i Fangor o bosibl yn golygu mwy ar lawer ystyr na phe ei ceid i unryw dref neu ddinas drwy Gymru benbaladr. Ydyw, ydyw; y mae bechgyn y colegau wedi eu lladd yn gelaneddau wrth yr ugeiniau. Nid yn unig y myfyrwyr sydd a'u gwyneb ar y weinidogaeth gyda'r pedwar enwad, ond y "normal students," a'r science men ac mae y peth byw yn treiddio yn raddol ond yn sicr i'r .Ladies' Hostel." Ar Ei Ben bo'r Goron!" ydyw hi yma yn mhob man. Yr wyf yn cymeryd y pin i'm llaw i ysgrifenu i'r Celt fel dyledswydd y waith horl.i lawenychu calonau y tadau a'r mamau sydd yn y De, a meibion neu ferched gan- ddynt yn rhai o'r colegau yn y ddinas falch hon. Y mae eich plant anwyl yn ngofal ysbryd y diwygiad er ym Mangor; a rhyfedd iawn, yr oedd y diwygiad waedi cyrhaedd Bangor cyn i'r efrydwyr ddod yn ol o'u gwyliau Nadolig. Y mae yn dwym yma er ys amryw wythnosau, yn wir; ond nid oedd wedi cerdded y ddinas hyd Sabath y Nadolig, pryd y
CYMERWYD RHAN O'R DDINAS "BY…
CYMERWYD RHAN O'R DDINAS "BY STORM!" gan ryw fechgyn o'r ddinas sydd yn gweithio yn y pyllau glo tua Thre- harris, ond a ddigwyddent fod gartref dros y gwyliau. Dyna pryd y dech- reuwyd stormio'r ddinas. Ond nid oedd eto yn mhob cwr o'r ddinas, ychwaith. Ond deallai pawb o honom ein bod yn swn y lleisiau dwyfol. Y Sadwrn diweddaf, daeth y Parch. J. Jenkins, o Casnewydd, gyda dwy foneddiges ifanc i'n plith,-hyd nos Lun, fel y trefnid ar y pryd ond aros- asant yma hyd nos Fercher. Ychydig ddaethant o newydd i'r eglwysi; ond y mae lie i gredu fod plant y seiat wrth yr ugeiniau, ie, wrth y canoedd, yn cael eu hachub: yn cael eu hachub ar hyd yr wythnosau hyn yn y gwa- hanol fanau yn y ddinas ac yr oedd- ym yn cael cyfarfodydd llawn o'r gor- foledd rhyfedd sydd yn beth mor ddieithr i ni, ond mor lawn o swyn pa fodd bynag. Yr oedd y cwrdd nos Sul yn un i'w gofio. Nos Lun, pa fodd bynag, caed peth newydd i raddau. Ambell i fyfyriwr yn tori allan mewn gweddi i gyffesu, ac i erfyn maddeu- ant. Yr oedd y lie yn ofnadwy iawn: chwi glywech ocheneidiau calonau dynion ieuainc cryfion, beilchion, a hunan-hyderus yn cracio yn ganddryll. O! yr oedd y lIe yn ofnadwy iawn. Cawsom awr wrth droed Sinai, ond drwy drugaredd yr oedd Calfaria, gyda'i goryn dwyfol yn y golwg, er yn y pellder hefyd. Ond tranoeth yr aeth hi yn lladdfa fawr ar y myfyrwyr druain, a hyny mewn hen ystafell yn Ngoleg y Brif-ysgol gysegrwyd ag ami i reg yn y gorphenol, a rhai pethau gwaeth, o bosibl, sef y
SMOKE-ROOM.
SMOKE-ROOM. Boreu Mawrth diweddaf, eisteddai nifer o honynt wrth y ford, yn ys- mygu ac ymgomio. Aethpwyd i siarad am y diwygiad a'r cwrdd nos Lun. Ebai un o honynt yn y fan, "Fechgyn," ebai, "nid wyf yn gwybod i mi erioed glywed 'Aberystwyth' yn cael ei chanu." Peth go ryfedd oddi wrth Gymro, onide ? Aeth rhai o honynt ati i fymian yr hen don fendigedig, ac aeth y mym- ian yn ganu; ac heb yn wybod iddynt eu hunain ymron, cawsant eu hunain wedi plygu pen ar ymyl y ford yn y "smoke-room"—rhai yn wylo yn ddis- taw, eraill yn udo yn uchel, ac eraill yn tori geiriau mewn gweddi. Dyna sut y daliodd Ysbryd Duw fechgyn y Brif-ysgol, y lie a'r modd yn hollol "heterodox." Ond nid dyna lie y gor- phenwyd dim ond dechreu ydoedd hyn. Cyn nos, yr oedd son drwy y ddinas, fel yn heolydd Jerusalem gynt, am y tywalltiad ar y Pentecost yn y Demi, fod Duw yn gweithio yn Ngholeg y Brif Ysgol-y man yr oedd ami Gristion lied gul obosibl wedi ei ddedfrydu i'r tan aniffoddadwy am ei anwiredd Ond wele, dyma yr Ysbryd yno yn plygu, yn dryllio, ac yn achub y myfyrwyr anwyl, bob gradd a rhyw o honynt! A llawenydd fydd gan rieni drwy Gymru oil i ddeall mai nid myfyrwyr y Brif Ysgol yw yr unig rai sydd yn cael eu hail-wneud gan y pwerau dwyfol. Nage y mae bechgyn y Normal College, amryw o honynt, yn tori allan i gyffesu a molianu. Y mae amryw o'r bechgyn wedi eu trwytho yn drwyadl iawn. Un o'r bechgyn mwyaf swil yn Ngholeg y Brif Ysgol yw Philip Roberts—un o fechgyn Davies, Llwydcoed: "shy" ofnadwy wrth natur, er ei fod yn un o'r swell scholars" yn y Brif Ysgol. Neithiwr, safai i fyny o flaen torf o ddeunaw cant i\v hanerch yn Gymraeg a Saesneg, i ganmol ei Waredwr oedd bellach yn ei galon ef ei hun, a chymhellai hwythau i'w dderbyn hefyd. Mae y bachgen yma, yn sicr i chwi, wedi ei feddianu, os meddianwyd rhywun, gan yr Ysbryd Glan. Y mae grym ei apeliadau, addasder ei resymau, angerddolrwydd sydd yn ei ysbryd yn peri ei fod yn hyf mewn ymadrodd,-mae yr oil yn myned i gario argyhoeddiad na buasai dim ond Duw yn gallu rhoddi i Evan Roberts gael goruchafiaeth ar y shyness sydd bron a bod yn afiechyd ynddo. Dyna un arall o'r myfyrwyr yn codi yn nghanol y gynulleidfa fawr. Y mae rhai wedi bod yn sylwi arno ar hyd y moddion yn ocheneidio ac yn wylo yn dorcalous-Bowen, un o fechgyn Bala- Bangor. Mewn llais cwynfanus, cer- yddol, mae yn achwyn ar y gynulleidfa galed: Yr oeddynt yn archolli calon ei Geidwad. Fechgyn Bala-Bangor," ebai, gyda llais dreiddiai drwy galon y caletaf o honom, Fechgyn Bala- Bangor, rhag cywilydd P'le 'rydach chi ? Pam na ddowch chi allan o du yr Iesu, ac i ddangos y'ch ochr?" A chyn fod ei lais wedi dystewi, dyma un ifanc, teneu, tal-un o fyfyrwyr Bala-Bangor, ond sydd yn dilyn cwrs y B.A. yn y Coleg Cenhedlaethol,- Davies o Harlech,yn codi i fyny yn y set fawr, yn plygu yn ei ddau ddwbl, ac yn gwaeddi mewn llais sydd yn myned i enaid dyn Dyma fi yn un ac ychwanegai, lesu, ar dy ochr Di bytli mwy! Wele fi; gwna fel y mynot a fi! Yr wyf yn rhoddi fy hun i fyny i'th wasanaeth yn 'volunteer.' 'I surrender!' ydyw hi gyda mi o hyn allan. Yr wyf yn rhoddi fy mywyd i Ti, ac yr wyt tithau yn rhoddi Bywyd i minau, wedi ei warantu-22-carat gold bellach Ond i ba beth yr arosaf i ddweyd yr hanes ? Yr wyf wedi dweyd digon i ddangos fod yma genedl yn cael ei geni mewn un dydd. Onid llawen gan rieni y gwyr ifainc hyn fydd clywed eu bod wedi eu bedyddio a'r Ysbryd Glan? Y mae Tudor wedi cael ei daro yn drwm, a Walters, ac Elfyn Jones—a beth ydwyf yn siarad, y mae Duw yn plygu i bwrpas yn yr holl golegau. Disgwyliwn am ragor o'r pethau bendigedig sydd yn cydfyned a'r dylanwadau dwyfol. see
[No title]
Nos Fawrth diweddaf, traddododd Syr H. Campbell-Bannerman araeth ar brif bynciau y dydd yn Stirling. Slap-dash methods y geilw gynllun- iau presenol y Prif Weinidog. Rhifa streicwyr Westphalia 60,126, y rhai ddalient gysylltiad a 104 a weith- feydd glo.
.I Cofiant Bardd Ieuanc.I
Cofiant Bardd Ieuanc. Yn ystod yr wythnosau diweddaf cy- hoeddwyd cyfrol fawr hardd o dan y teitl "Cofiant a Barddoniaeth Ben Bowen." Dygwyd hi allan o dan ofal a golygiaeth ei frawd, Mr. David Bowen, Treorci-cyfaill ieuanc sydd yn cael ei adnabod yn nghylchoedd lien fel "Myfyr Hefin." Y mae yn gyfrol brydferth iawn yn ei throad allan, ac yn bur wahanol i'r hyn geir fel rheol yn Nghymru a theimlir fod ei phris yn bur isel—pum' swllt a chwe'chein- iog—"rhy" isel, yn wir, oblegid anfon- odd y Barnwr Gwilym Williams "ddeg" swllt am bob cyfrol gymerodd ef, a dywedai yn gydwybodol na cheid hi yn Lloegr heb lawer mwy na hyny. Cyn symud yn mhellach, goddefer i ni ddweyd fod yr amcan oedd gan Mr. Bowen wrth ei chyhoeddi yn wir deil- wng, sef dodi yr elw oil o'r neilldu i godi colofn ar fedd ei frawd, fu farw mor ieuanc, ar ol dod mor enwog, a myned trwy gynifer o helbulon. Pe er mwyn dim ond hyn, gobeithiwn y llwydda ein cyfaill ieuanc yn ei amcan, ac y prynir y gyfrol gan lu mawr o lengarwyr a chenedlgarwyr. Ysgrif- enwyd y Cofiant gan "Myfyr Hefin" ei hun i raddau pell; a phwy wyddai yn well am "Ben Bowen" na'r hwn fu mor dirion o hono hyd y diwedd, ac a ym- ddygodd fel tad tuag ato? Nid yn ami y ceir dau frawd yn caru eu gilydd mor angerddol a'r ddau hyn. Yn wir, yr oedd serch Dafydd at Ben yn mron a throi yn haner addoliad ar ambell funyd. Tiysorodd ysgrifau y bardd fel pe yn trysori gemau, ac onibai am ei ofal didor ef, ni chawsid y cyfan- soddiadau sydd yn y gyfrol ysblenydd hon. Nodedig o dyner yw hanes yr ymchwil am iechyd yn Kimberley, ac y mae'r dyddlyfr a gedwid yno yn bur ddyddorol. Ysgrif rymus iawn yw ciddo Mr. James, Bodringallt, ar y "flwyddyn olaf" i'r bardd. Un o'r pethau mwyaf scathing "-nid antur- iwn yn rhy agos i'r tan. Diau fod eisio dweyd ychydig ar yr ochr ofidus hon i bethau. Amser yn unig ddyd yr holl fater yn y goleu iawn. Mae "Myfyrfab" hefyd yn gosod yr ochr Eis- teddfodol i fywyd Ben Bowen mewn llewyrch go ddeifiol, ac ysgrif dda ydyw. Fodd bynag, "Ben Bowen" y bardd sydd i gael mwyaf o sylw. Chwith iawn oedd marw yn 24ain mlwydd oed a'i ddyhead o hyd oedd cael byw i gyr- aedd 30. Paham y dododd 30 yn fare nis gallwn ddirnad: os nad oedd yn meddwl y byddai ei awen wedi cyr- aedd ei nerth erbyn hyny, ac addfed- rwydd wedi dod i'w holl waith. Diau fod y "meddwl" yn ei fan goreu:— mwyaf byw, mwyaf treiddgar, mwyaf diofn—oddeutu 30ain oed. Efallai fod ei lygaid yn tyroi at ami i wron fu farw yn yr oed hwnw hefyd ond breuddwyd tlws nad oedd i'w sylweddoli fu hyn. Gwyr y cyfarwydd yn hanes llenyddiaeth fod amryw o feirdd y byd wedi marw oddeutu yr un oed a Ben Bowen: Kirke White a John Keats, a Bloomfield, a Chatterton (yn llawer ieuengach), 0, feirdd Lloegr; a Gol- yddan a Thelynog, a John Oliver, ac Ieuan Ddu, a Gwenffrwd, o feirdd Cymru. Y tebycaf o honynt yn Lloegr i Ben Bowen yw Kirke White, a'r tebycaf yn Nghymru yw Golyddan. Yr oedd mwy o athrylith gan John Keats na chan Kirke White, ond nid oedd llwybr ei awen ef a'r eiddo Ben Bowen yn gorwedd yn gyfochrog. "Sobrwydd" Kirke White sydd yn dod debycaf at y bardd Cymreig ieuanc: bu'r ddau fatw yn bur debyg, o'r un afiechyd, a gwnaed galar cymesur am danynt. Yr oedd Ben Bowen yn fwy barddonol na'r holl rai ieuainc yn ei genedl ei hun, ag eithrio "Golyddan," efallai. Nid wyf am gymharu y ddau -ond yr oeddynt yn ddwy "athrylith," yn ddiau. Y peth sydd yn ein taro a syndod yn y bardd o Dreorci yw ei "addfed- rwydd." Wedi'r oil, pan gofir iddo farw yn 24ain oed, dengys y gyfrol hon feddwl eithriadol iawn. Y mae yn anhawdd dweyd oddi wrth hyn beth ddeuai o hono pe wedi cael byw. A fuasai efe yn datblygu "llawer" wedyn ? oblegid yn araf iawn y mae y meddwl athrylithgar yn datblygu fel rheol. Dyry addewid fawr yn gynar, ond ni cheir y ffrwyth melusber hyd yn mhen amser. Efallai fod gwaith mawr Gol- yddan, a Keats, a Ben Bowen "wedi" ei wneud: fod y meddwl, yn ei ddat- blygiad cyflym, wedi cyrhaedd yn agos i'w eithafbwynt, ac mai cyflymder y datblygiad oedd yn ysigo'r corph ac yn dryllior bywyd: pwy wyr? Bardd rhagorol oedd awdwr y cynyrchion hyn. Rhoddodd fwy o sylw i feddwl nag i ffurf yn ei holl waith. Pe wedi byw, credwn y buasai Ilai o bryddestau meithion, ac y ceid ganddo fwy o delynegion per. Ond y mae ei brydd- estau yn gryfion iawn. Yr oedd ganddo awydd mawr am Gadair a Choron yr Eisteddfod Genedlaethol, a buasai yn cael y ddwy cyn hir, oblegid daethai yn gynghaneddwr meistrolgar. Beth gwell fuasai o'u cael ? Y mae ei enw llawn cyfuwch heddyw ag a fuasai pe wedi ei ddodi yn y gadair, ac wedi plygu i'w Goron. Ac y mae yn ddi- ddanwch gwel'd ambell i awdl a phryddest ddodwyd yn ail ac yn dryd- ydd. Cofia Cymru o hyd mai yr awdl "gollodd" y gadair yn Aberffraw yw yr un anfarwol, ac nid yr hon wobrwywyd. A gwyddom oil mai yn awdl Dewi Wyn ar "Elusengarwch" y mae llinellau fydd byw byth, ac nid yn y gadwen blwm a englynion gafodd ei dangos fel aur ar ddydd yr Eisteddfod. Onid yw pawb yn gwybod mai yn nhy yr hen Galed- fryn, druan, y dylasai Cadair Rhudd- lan fod, ac nid yn ficerdy Ieuan Glan Geirionydd? Yr ydym yn teimlo fod mwy o werth yn rhai o gynyrchion Ben Bowen am na chawsant eu gwobrwyo. Ac y mae colli yn yr Eisteddfod bron a dod yn sicrwydd fod rhywbeth yn y cyfansoddiad sydd yn colli. Anhawdd yw dyfynu dim yma o farddoniaeth Ben Bowen ond heb yn wybod iddo ei hun, y mae dyn, wrth ei ddarllen, yn trosglwyddo llawer penill i'w gof. Gwylfa Roberts. —
SILOA, ABERDAR.
SILOA, ABERDAR. Y Sabbath a'r Llun diweddaf, cyn- haliodd yr eglwys uchod ei chyfarfod- ydd Jubili yn nglyn a chliriad dyled yr addoldy. Safai tua B600 o ddyled ar yr eglwys, ac ymgymerwyd mewn modd dystaw, yn mhlith yr aelodau a'r gwrandawyr, i'w casglu, er eu llwyr dalu ac nid hir y buwyd cyn eu cael oil, gyda gweddill. Bellach, mae yr eglwys yn rhydd o ddyled, ac y mae ganddi dir newydd i fyned i mewn iddo mewn adeiladu, yn o gystal ac mewn gwaith arall. Cafwyd cyfarfodydd ar- benig yn mhob ystyr, drwy weinidog- aeth y Parchn. Gwylfa Roberts ac E. Davies, Llanelli; a'r Parch. Penry Evans, Porth. Mae yr eglwys hon, fel eglwysi eraill, wedi derbyn yn helaeth o'r diwygiad yn rhif y dychweledigion, ac yn adfywiad ysbrydol yr aelodau. oe-
BETHEL, ABERDAR.
BETHEL, ABERDAR. Nos Lun, Ionawr 15, traddododd y Parch. J. Volander Jones ei ddarlith ar y testyn poblogaidd, "0 For y Werydd i'r Mor Tawelog." Yr oeddis wedi ei gohirio unwaith oblegid y diwygiad, ac yn wir, tipyn o anturiaeth oedd mentro arni yn awr, am-fod y brwdaniaeth yn parhau. Modd bynag, cafwyd noson ddyddorol, lawn o addysg. Yr oedd y darlithydd mewn hwyl gampus, canys daethai yma wedi bod yn darlithio mewn amryw leoedd yn flaenorol.