Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Dr. Cobden Rowlands, Maesteg.
Dr. Cobden Rowlands, Maesteg. Mor siomedig ydyw pawb a adwaenai Dr. Rowlands i glywed am fei farwol- aeth. Nid oedd ond 37 oed, ac yr oedd wedi bod yn gorweithio gyda chleifion anwydwst ei gylch, fel y cafodd ym- fflamychiad yr ysgyfaint. Gadawa ar ei ol weddw ieuanc, gydag un plentyn pum' mlwydd oed. Daeth i Maesteg tua saith mylnedd yn ol, fel cynorth- wywr i Dr. John Davies ac ar farwol- aeth Dr. Davies, cymerodd Dr. Row- lands ei Ie. Yr ydoedd yn fab i'r Parch. D. Rowlands, B.A. (Dewi Mon) Prif Athraw Coleg Aberhonddu. Caf- odd Dr. Rowlands gychwyniad ei addysg gan ei dad, yna yn Nghaerdydd ac Edinburgh. Yr oedd yn M.B. ac yn C.L.M. Yr oedd Dr. Rowlands yn sefyll yn uchel iawn yn marn Maesteg, am ei ffyddlondeb dibaid i'w alwedig- aeth, ac am ei dynerwch a'i gydym- deimlad. Amlygir cydymdeimlad dwys a'r weddw yn ei galar, ac yn sicr a'i dad galarus, y Proffeswr Rowlands.
Gipsy Smith ac Esgob Llanelwy.
Gipsy Smith ac Esgob Llanelwy. Mae y ddau wron hyglod hyn yn ddiweddar wedi bod yn siarad ar ddifyrion cyhoeddus. Traetha ei Arglwyddiaeth o Llanelwy yn ffafriol i ddifyrion diniwed, ac fel dadl deg a digonol dros ei ffafraeth, dywed fod Iesu Grist wedi dod i achub corph, meddwl ac enaid ac ychwanega, fod dadblygiad y tri o bwys, a hwnw yn ddadblygiad cymhesurol. Er egluro ei feddwl ar yr hyn a olyga wrth ddi- fyrion diniwed, geilw ei arglwyddiaeth sylw at dtlawnsio, chwareu pel, criced, billiards, etc. Y peth mawr ydoedd cadw y gwahaniaeth yn glir yn y meddwl ar gydwybod rhwng da a drwg ac ystyria Esgob Llanelwy mai ffordd dda a dyogel i osod allan y gwahan- iaeth hwn ydyw, drwy ddawns, a phel, a billiards. Dywedai Gipsy Smith fod rhai pobl o'r farn nad oedd un drwg mewn myned i chwareudy. Ni ddywedai y Beibl hyny. Oni wyddoch ddarfod i Mr. Clement Scott, gwr o brofiad ar y llwyfan, ddywedyd ei bod bron yn anmhosibl i fenyw i fod yn bur ar y llwyfan ? A bod hyn yn wir, pa fusnes oedd gan Gristionogion i gefnogi. y .chwareudy? A oedd y chwareudy a Bwrdd yr Arglwydd yn cydweddu ? Paham yr ydych yn ei ddal i fyny? Ar hyn gwaeddai un allan Ni byddaf fi un amser yn myned iddynt ond pan yn myned i Lundain," ac atebodd y Gipsy ef: Mae lluaws o bobl yn meddwl y gallant bechu faint fynont yn Llundain"; ac yn mhellach, dywedai: "Pa hawl sydd gan Gristionogion i fod mewn dawns ? Mae y diwygiad hwn yn dweyd wrth bobl am olchi eu dwy- law yn lan oddi wrth y fath bethau." Canfyddir fod yr Esgob a'r Gipsy yn hollol wahanol i'w gilydd. Yn ngwyneb y ffaith fod, ugeiniau a chan- oedd a miloedd o bobl ieuainc y dydd- iau hyn yn ymwrthod a'r bel ac a'r ddawns, ac a chwareuon eraill, fel pe yn bechod, ac am eu bod yn arwain i bechod onid yw yn rhyfedd clywed arweinwyr crefyddol ac ysbrydol yn cefnogi y fath arferion? Mae genym lawer o son am ddyogelu y dychwel- edigion i'r eglwysi, a gallesid meddwl mai y ffordd sydd gan rai i wneud hyn ydyw darparu dipyn o chwareuon. Beth bynag yw perthynas eglwys Dduw a chwareuon, nid yw yr adeg hon yn un briodol iddi i son am danynt. Mae pob gwir "convert" i'r eglwys yn ffi- eiddio y fath son, ac yn dychrynu yn ,ei ddadwrdd.
[No title]
Gadawodd Mr. Joseph Evans, Fron- y-Gog, Machynlleth, y swm o £8,641 ar ei ol. Nid cynghor heb dad. Nid gweddi heb fam. Nid rhy bryd y prynir daioni. Nid goddef ond am a f'o drwg. Nid da ond a ymgais fod yn well.
John Morley a Balfour.
John Morley a Balfour. Gwr amlwg am ei ddifrifoldeb a'i gysondeb a'i nerth ydyw Mr., John Morley. Mae yn gyfuniad o'r Ilenor gorphenedig, ac o'r gwleidyddwr gonest ac o'r dyn cyson. O'r tu arall, mae Balfour mor aneffiniol a'r gwynt; ac mae ei ffalsrwydd a'i ystyfnigrwydd a'i hunan-ofal yn pery i ni feddwl am y llwynog a'r asyn a'r biogen. Nid yw yn rhyfedd, felly, fod pellder y ddau ddyn hyn yn fawr. Nos Wener di- weddaf, siaradai John Morley yn Montrose. Un o osodiadau pwysicaf ei araeth ydoedd fod ymgeiswyr sen- eddol ac eraill yn myned ar hyd y wlad i ddadleu eu hawliau a'u hochr, ac i ddatgan eu hymlyniad wrth Mr. Balfour, gan anwybyddu neu gon- demnio Mr. Chamberlain. Arfera Mr. Chamberlain ddweyd fod Mr. Balfour ac yntau yn deall eu gilydd yn hollol ac yn foddhaus. Taflodd Mr. Morley her allan, y buasai yn rhoddi gwpbr, yr hon oedd mor sicr a thy, i'r ethol- aeth hono a ddywedai yn gywir yr hyn oedd gwir bolisi Mr. Balfour; ac yn mhellach, galwodd ef i roi eglurhad clir i'r wlad, o'i farn ar Ddiffyndollaeth, ac o'i berthynas a Mr. Chamberlain. Datganai fod y Weinyddiaeth bresenol yn amddifad o gymeriad, ac o awdur- dod, ac o ymddiriedaeth; a'i bod yn wanychdod yn y deyrnas, a hyny ar adeg o bwysigrwydd aruthrol; a rhodd- ai Mr. Balfour ar ei brawf i ddweyd wrth y wlad yn benodol ei safle, fel y gallasai yr etholaethati wybod am y cwrs i gymeryd. Mae Mr. John Morley wedi cymeryd y safle ddoethaf, ac os na etyb y Prif Weinidog ef yn uniongyrchol ac yn blaen, cyll yn urddas ac yn awdurdod ei swydd. Ffordd y Prif Weinidog er dyddiau Deddf Adysg 1902 ydyw an- wybyddu pawb a geisiant ei roddi ar ei dreial, a hyny fel pe na buasai dim wedi cymeryd lie; ac mae yn eithaf tebyg iddo i ddelio yn yr un modd cowardaidd a Mr. J. Morley. Mae i euogrwydd raddau o dawedogrwydd a chyfrwysdra bob amser; ac nid yw ymwybyddiaeth o fethiant ac o fai yn Balfour yn wahanol i ryw bechadur arall. Yr unig beth a geisir ganddo yn awr yw,—A ydyw ar yr un esgyn- lawr a Chamberlain gyda golwg ar Fasnach Rydd? Mae barn Mr. Cham- berlain yn glir genym; ond mae Mr. Balfour yn ddau wynebog ar y pwnc, a theimla'r wlad, os ydyw yn foneddwr ac yn Brif Weinidog i'w barchu, fod yn rhaid iddo i egluro ei hun. Cawn weled. oes
[No title]
Rai dyddiau yn ol, yn Dublin, cod- odd porter bwrs oddi ar yr heol, ac ynddo B200. Dychwelwyd y pwrs i'w berchenog, a chafodd y porter y swm anrhydeddus o swllt am ei Seindio Rhydd y Due o Westminster waith i ugeiniau o bobl segur i wneud prif- ffordd o Fflint, trwy y Nant, i Helygain --tair milldir o hyd.
Cam Nesaf Dr. Clifford.
Cam Nesaf Dr. Clifford. Mae Dr. Clifford wedi rhoddi ei eiddo ar enw ei wraig; felly, pan ofynir iddo nesaf am arian at dreth Deddf Addysg 1902, ni bydd yn canlyn ond ei garchariad. Amcanai y Dr. i gadw hyn yn ddirgel, ond er mai un person a gadd y gyfrinach, ac er i hwnw addo ei chadw, mae y gyfrinach ar ei hedyn, ac mae'r wlad erbyn hyn yn ei gwybod. Yn ngharchariad gwr o nod Clifford y gwelir creulonder yr esgob- ion a Balfour a'r Ceidwadwyr yn ei wir erchylldra.
[No title]
.(8. Yn fuan wedi cyfarfyddiad y Senedd cymer priodas Mr. S. T. Evans, K.C., A.S. a gweddw Mr. Herbert de Pinto Ie. Merch ieuengaf Mr. Charles Rule o Cincinnatti, ydyw y briodasferch. Dywedir fod Ymherawdwr Rwssia am gael llynges a gyst £ 50,000,000. ——— Rhoddwyd 22 am gydyn o wallt y Brenin Iorwerth mewn arwerthiant yn Llundain, dydd Mawrth. Mae Esgob Llandaf yn bur wael ei iechyd y dyddiau hyn.
Balfour a'i Weinydd= iaeth.
Balfour a'i Weinydd= iaeth. Pan gyferfydd y Senedd yn Chwef- ror, codir gwelliantau yn haid i faterion cyhoeddus y Weinyddiaeth. Nid yw yn wybyddus eto y materion a geir yn yr Anerchiad. Dichon fod araeth y Prif Weinidog yn Edinburgh yn cynwys y nifer luosocaf o'r rhai hyn. Modd bynag, mae ystorm a chroes- wynt i fod ar gychwyniad y Senedd, a chaiff lleihad y treuliau gwladol, ac amgylchiadau y Transvaal, a gweith- rediadau y Ddeddf Addysg, sylw brwd. Tybir y bydd i'r Senedd hon i gael ei chadw mewn awdurdod Balfouraidd hyd yr eithaf, ac mai y prif reswm am hyny yw ymrwymiad Mr. Balfour i'r esgobion, i ddal yn ei swydd hyd y bo yn bosibl, er rhoddi eithaf chwareu teg i Ddeddf Addysg 1902. Er y gwrthwynebiadau sydd i'r Ddeddf hon, ac er bod y rhai hyn yn cynyddu ac yn myned yn fwy bygythiol, eto, cred Balfour mai amser a goddefgarwch dystaw ydyw yr unig ddau allu a'i gwna hi yn sicr o'i gafael yn y wlad. Y ddwy ddeddf anwylaf gan Balfour yw y Ddeddf Addysg a Deddf Gwadd- oliad y Fasnach Feddwol; ac mae yn ddigon call, ac hirben i weled, neu i gredu o leiaf, mai po hiraf yr erys y rhai hyn mewn grym, cryfaf i gyd fydd eu gafael yn y wlad ac anhawdd- af fydd eu gwella a'u dadwneud. Hawdd genym gredu hyn; mae yr oil yn nodweddiadol o Balfour. Felly, mae y cymhellion cryfaf i barhad y Wein- yddiaeth hon yn codi o'i chydymdeim- lad a gorthrwm ac anghyfiawnder cymdeithasol, ac o'i ffafraeth anuwiol i esgobion a bragwyr.
! |Y Diwygiad a'r Clybiau…
Y Diwygiad a'r Clybiau Meddwol. Wele'r fasnach o'r diwedd wedi dwyn diwygwyr ger bron llys barn, am gynal gwasanaeth crefyddol o flaen y clwbdy. Bu hyn o flaen ynadon Merthyr ddech- reu yr wythnos ddiweddaf. Brodyr crefyddol o Treharris a ddygid ger bron, am ganu a gweddio o flaen y clwb sydd yn y lie. Darllenodd am- ddiffynydd y clwb y ddeddf oedd yn gwahardd yr hyn a wnaethai y diwyg- wyr, a dyma hi: Nid oes yr un person i barhau i swnion, neu i chwareu ar offeryn cerdd neu offeryn trystfawr, neu i ganu, neu heb achos digonol i achosi swn ufchel o fath yn y byd,, mewn unrhyw heol o fewn can' llath i'r preswyldy, ar ol cael ei wahardd gan y preswylydd, naill ai yn bersonol, neu drwy genad, neu drwy hedd-was. Geill y ddeddf hon gael ei rhoi heibio mewn gwasanaeth crefyddol priodol, oddieithr fod y preswylwyr yn dymuno yn wahanol o herwydd cystudd." Dyna'r ddeddf. Dywedodd dadleu- ydd y clwb nad oedd ganddynt ddim yn erbyn y diwygiad, ond eu bod yn condemnio y gweddiau a wnaethid yn uniongyrchol yn erbyn y clwb. Par- haodd yr ymdrafodaeth ar y pwnc am dair awr a haner ac ar ol cyd-siarad, dedfryd yr ynadon oedd fod i'r diwyg- wyr dalu Is. o ddirwy, am eu bod wedi ymyraeth a hawiiau cyfreithlon y clwb. Dangosodd yr ynadaeth lawer o bwyll ar yr achlysur, gyda doethineb, a rhoddodd fynegiad o'i chydymdeimlad a'r diwygwyr ond mae y dyfarniad yn ymddangos yn dywyll ac yn siomedig; ac nid oedd yn syn i glywed y diwyg- wyr yn dweyd y buasent yn cymeryd carchar cyn talu ffyrling o iawn. Ceir gweled yn mhellach. Mae lluaws o ddeddfau ein gwlad can belled oddi wrth gydymdeimlo a diwygiadau, ag yw uffern oddi wrth y nefoedd. .f>.@-