Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Y Celt am 1905.
Y Celt am 1905. Nid ychydig ydyw anhawsderau y "Celt" wedi bod yn y gorphenol, ac oni buasai am ffyddlondeb gohebwyr a brwdfrydedd derbynwyr, a chryn hunan-aberth o du rhywrai, buasai wedi tori i lawr ar ei ffordd. Ar hyn o bryd, mae ei dir yn fwy diogel, a'i ragolygon yn fwy siriol nag y buont er's blynyddoedd, ac addaw iddo ei hun a'i edmygwyr, "flwyddyn newydd dda" ar hyd 1905. Bellach, mae ei argyhoeddiadau a'i bolisi yn hysbys i'r darllenydd. Ceidw ei olwg yn graffus, a gobeithia yn gall, ar symud- iadau pwysicaf y presenol o hyd, a gesyd hwy ger bron y darllenydd, yn eu hagweddion o ddyddordeb a phwys. Creda mewn parhau i roi lie amlwg i'r eglwysi, yn eu Cynulleidfaoliaeth a'u Hanibyniaeth, ac yn eu peryglon a'u bendithion; ar yr un pryd, rhydd ar- benigrwydd pellach ar feddwl yr oes mewn gwleidyddiaeth, beirniadaeth, esboniadaeth, a chrefydd a rhydd hyn oil ger bron mewn ysgrifau na font yn blino y darllenydd a meithder ac a marweidd-dra. Teimla y "Celt" fod y "cyffroad" mawr sydd yn myned yn mlaen yn awr yn ysbryd ac yn mywyd yr eglwysi yn gofyn am lawer o wyliad- wriaeth a challineb, yn ogystal ag am fedr a gwroldeb mewn arweiniad; a hyny, nid yn unig er mwyn diogelu dychweledigion newydd, ond yn mhell- kch, er mwyn rhoi ystyr mwy parhaol ac ymarferol i'r "diwygiad" yn meddwl ac asbri y bobl ieuainc hyny sydd wedi ac yn bod mor gyflawn yn ei feddiant. Hydera y "Celt" yn sicr y geill fod o wasanaeth yn hyn. 0 leiaf, mae yn ei fwriad i fod, ac fe wna ei oreu hefyd. Rhaid iddo gyfaddef mai gyda phryder a chryndod y meddylia am y gyfrifoldeb hwn, a theimla fod parhad y diwygiad yn ei dda cyhoeddus, ac yn hyny mae ei wir ogoniant hefyd; ac mae rhoi y cyfeiriad hwnw iddo yn llaw arweinwyr yr eglwysi; ac mae gan arweinwyr yr eglwysi i gadw golwg ar waith newydd, ac ar ffurfiau newydd ar hen waith, os ydynt am gadw "converts" oddi fewn, ac os ydynt am gadw gweddiwyr brwd yn weithwyr doeth. Heb hyn, fe dyr allan mewn eglwysi anghariad a gwrth- darawiad a gwrthgiliadau; drwy hyn, fe feithrinir brawdgarwch a thangnef- edd, ac fe wneir y llwydaiant mewn rhif yn llwyddiant mewn ysbrydol- rwydd a sancteiddrwydd. Cenfydd y "Celt" er's dyddiau mai ysbryd amlycaf y dyddiau hyn ydyw yr awydd a'r ymroad am fwy o ryddid. Cynyddu a wna hwn, ac mae ei feidd- garwch yn herio UyWodraethau a char- charau. Cyfyd yr ysbryd hwn ei hun yn erbyn gwladlywiaethau, ac, yn rahnol, yn erbyn Eglwyslywiaeth. Can- fydder yn ei symudiadau pendant, a chyffrous, a di-ildio yn Ffrainc, yn Rwssia, ac yn Lloegr a Cymru, ac yn ogystal yn Ysgotland. Ymgydnabydd- er a'i neges, ac a'i ddylanwad; a cheir fod y cri hwn am well a mwy o ryddid yn Hawn dwyofldeb. Pa beth yn fwy dwyfol na gwaith pobl yn ffoi wrth y canoedd o afaelion Satan, ac yn cy- meryd eu carcharau, neu i golli eiddo cysegredig er sicrhau i'w hoes well rhyddid. Mae arall-fes wedi codi i'w safle brydferthaf yn nioddefaint y "Passive Resisters." Teimla'r "Celt" i fod Balfouriaeth y dyddiau hyn yn anioddefol, a chreda na buasai hyn wedi cael ei oddef cyhyd oni buasai am glaiarwch a llebaneiddiwch dwsinau o'n haelodau Seneddol. Mae'n ar- gyfWng ofnadwy yn y deyrnas hon ar hyn o bryd, ac mae'r argyfwng yn cael ei oddef, er rhoi rhai o oreuon teyrnas mewn carcharau ar gam a'n haelodau Seneddol sydd yn gyfrifol am hyn. O'n holl aelodau seneddol Cymreig, ychydig yn wir sydd genym o werth brwynen ar gyfer argyfyngau mawr sydd yn rhoi cyfleustra i ddyn- ion mawr, a chan lleied o ddynion mawrion a welir yn yr adwyau heddyw ? Mae nifer o honynt yn "ddynion bach neis," ond mae dynion bach neis i gwrdd a gorthrwm, yn gyffelyb i haid o ieir ar wlaw taranau. Mor ddwl yr edyrcha y ieir-seneddwyr! Mae arnom eisiau dynion cryfion-cryflon eu deall, cryfion eu barn;: cryfion eu hargyhoeddiadau a chryfion eu cyd- wybod a'u hewyllys. Gyda newydd- iaduron eraill, hydera y "Celt" y geill daflu ei hatlingau i'r drysorfa hon. Diocha yn wir am gydymdeimlad a chefnogaeth.
Cwymp Port Arthur.
Cwymp Port Arthur. "Ai gwymp a fu fawr!" Fe'i clywyd ar hyd y byd i gyd. Ar ol 328 o ddyddiau, wele y Japs, yn eu gwydnwch rhyfedd a'u dyfalbarhad didroi yn ol, a'u medr milwrol dihafal,-wele hwynt o'r diwedd wedi enill Port Arthur. Gwnaeth y Cadfridog Stoessel gyda'i fyddin Rwssaidd, sefyll yn anrhydeddus a hyny am fwy o amser o lawer nag y meddylid y buasai yn sefyll. Cawodir clodydd ar ei ben am ei wrthsafiad syn- fawr; ac nid heb eu haeddu hefyd. Felly y gellir dweyd am y Cadfridog Nogi o ochr y Japaniaid hefyd. Mae yr ymgymeriad hwn, a'r fuddugoliaeth hon, yn un o'r digwyddiadau mwyaf rhyfeddol yn hanes rhyfeloedd y byd. Beth nesaf, yw'r pwnc mawr-beth i Rwssia, a beth i Japan? A ddaw heddwch? Mae un peth yn eglur, sef y bydd gan y Japs well mantais gyda'i llynges a'i byddin, i frwydrau'r dyfodol. Nid yw yn debyg fod y terfyn yn agos, gan y bycld Rwssia yn debyg o barhau yn mlaen, yn yr hyder y geill yn araf deg i leihau rhif milwyr Japan i gy- maint graddau, nes y bydd iddi allu ei gorchfygu yn llwyr. Ofnadwy ydyw sefyllfa Rwssia ar hyn o bryd. Mae o'i mewn alluoed deffro ac aflonydd ac ymosodol am well deddfau a mwy o ryddid ac mae ei byddin yn y rhyfel yn colli tir bob cynyg ac mae dyodd- efaint ei milwyr wedi bod yn Port Arthur y peth mwyaf aethus ac an- hygol mewn hanes. Mae yn bresenol tuag 20,000 o gleifion a chlwyfedigion yn Port Arthur, ac mae baner wen Stoessel yn chwifio yn y gwynt. wæ.
Claddedigaetb. y Parch. D.…
Claddedigaetb. y Parch. D. B. Hughes, New Inn, Mynwy. Lie cysegredig yw y New Inn hwn, fel eraill o'r un enw sydd yn Nghymru. Hanes crefyddol iawn sydd i'r lie, Yma y bu Davies bach New Inn," yr hwn oedd tua 35 mlynedd yn ol yn ddawn nodedig o felus yn mhulpud y wlad. Dyn cyffelyb i Mr. Davies, mewn rhai ystyron, oedd Mr. Hughes. Bu yn y lie am 14 mlynedd. Urddwyd ef yn Sir Ffiint yn 1883. Ganwyd ef yn Llangadog, pan oedd ei dad-y Parch. J. Hughes, yn weinidog. Dyn dyfal, didwyll a dwys oedd ei dad; ac er na chafodd gyflog fawr erioed, eto trodd pedwar o'i feibion allan i bregethu, sef y Parch. Tanner Hughes, L. T. Hughes,, a John Hughes, a'r Parch. D. B. Hughes sydd bellach yn ei fedd yn mynwent y New Inn, er dydd Llun diweddaf. Yr oedd Mr. Hughes yn gynes ei ysbryd, a chyfeillgar a chym- eradwy yn mhob ystyr. Cafodd gladd- edigaeth barchus iawn, pryd y gwein- yddwyd gan weinidogion y cylch, ac eraill. Mae ugeiniau ar hyd De a Gogledd Cymru yn teimlo yn siomedig yn ngwyneb y newydd hwn ac mae eu cydymdeimlad yn estynedig i'r perthynasau.
Yr Eglwyswyr a'r s Diwygiad.
Yr Eglwyswyr a'r s Diwygiad. Un or ffurfiau mwyaf adgas ac anioddefol yn nglyn a'r diwygiad ydyw honiad pobl o'u rhan neillduol hwy yn ei gychwyniad. Mae enwau cyhoeddus y rhai oeddynt yn anwyl genym wedi colli llawer o'u parch ar gyfrif eu haer- iad eu bod hwy yn gychwynwyr y diwygiad. Mae hyn yn ffiaidd mewn personau, ac mae yn fwy ffiaidd mewn enwadau. Gwyddom am rai enwadiu na chydnabyddant neb ond eu iiunain yn y deffroad, ac mae yr Eglwys Wladol yn fwy yn ydylni hwn na'r un blaid grefyddol arall. Y dydd c'r blaen, danfonodd Esgob Bangor ei lythyr bugeiliol allan at offeiriaid ei esgobaeth. Gyda golwg ar y diwyg- iad hwn, dywed ei Arglwyddiaeth; Mae hanes yr Eglwys, o ddyddiau yi Apostolion hyd yn awr, yn ein rhv- buddio rhag rhai peryglon ag y maer symudiadau afreolaidd hyn, er gwaeth- af eu canlyniadau daionus, yn agoreJ iddynt." Ie, y "symudiadau afreol aidd hyn, a'u "gwaethaf" daionus. Cenfydd ei Arglwyddiaeth le i lawen- hau am fod y diwygiad "wedi enill cymaint o dir yn ystod tymhor vr Advent." Mae awdurdod uchel arall i'r Eglwys Wladol yn dweyd: "Na syned neb at adfywiad ar grefydd ya y dyddiau hyn. Mae offeiriaid, lley- gwyr yr Eglwys, sydd wedi bod vn rhoddi eu hunain yn aberthau bywtol yn y gorphenol, wedi bod yn dyheu am yr ysbryd a thrwy ddarllen yn fanwl, nid oes eisiau synu at hyn." Ac yn nglyn a'r gwirioneddau i'w credu yn y diwygiad, dywed yr un awdwr: "Yr Ysbryd a arweiniodd y tadau i amlygu mewn geiriau, yn ol credauo'r Eglwys, beth sydd uniongred." "Mae'r Ysbryd yn awr yn chwilio am le i drigo yn nghalonau dynion yn unol a chred yrEglwys." Dymunwn yn dda o galon i bob enwad a phlaid o grefyddwyr, a chymerwn yn ganiataol i fod pob un o honynt wedi bod o'r blaen ac yn par- hau yn awr yn weithgar, ac am hyny yn rhagredegwyr ac yn noddwyr i'r diwygiad ond pan welwn blaid fel hyn yn son am eu Heglwys a chredo, eu Heglwys fel safon yr Ysbryd i weith- redu wrthi, yr ydym yn troi oddi wrth- ynt ac yn eu gadael i'w ffolineb, hyd nes y delont i weled hyny drostynt eu hunain, ac i ddysgu moesgarwch cref- yddol callach.
— - —-BARN MEDDYG CRAFF.
— —- BARN MEDDYG CRAFF. Gwrthwynebir y Diwygiad gan y di- ffydd ac addolwyr respectable," o her- wydd fod ambell un gwan ei gyneddfau wedi colli ei synwyr drwyddo. Wrth ymwrando ar gri felly, sylwodd Dr. Fraser, meddyg nid an-enwog yn ardal Abertawe,d darfod iddo er dalu y sylw arbenig i effeithiau y deffroad ar iechyd pobl, a'i fod ef yn argyhoeddedig mai gwell yn mhob ystyr fyddai anfon un gwallgofddyn i'r gwallgofdy o dan effaith gwallgofrwydd crefyddol, nag anfon cant yno o dan effaith gwallgof- rwydd y ddiod feddwol.
...6). Y Diwygiad a'r Tafarndai.
.6). Y Diwygiad a'r Tafarndai. PENDERFYNIAD CYNRYCHIOL- WYR Y G WEITHWYR. Yn rhanbarth Abertawe, ddechreu yr wythnos, mewn cyfarfod o gynrychiol- wyr y gweithwyr, penderfynwyd nad ioedd cyfarfodydd y gweithwyr o hyn allan i'w cynal mewn tai trwyddedig i werthu diodydd meddwol; ac yn mhellach fod pob ymdrech i'w gwneud i gael y clybiau o'r tafarndai. Amlyg- wyd yr un penderfyniadau mewn lle- oedd eraill, a chafwyd siarad difrifol ar y pwysigrwydd o gydnabod ysbryd Duw gyda materion masnachol, cydrhwng meistri a gweithwyr; a'r pwysigrwydd o ofyn am Ei gyfarwyddyd. Ffurfiau ymarferol diwygiad ydyw y rhai hyn, ac mae eu pwysigrwydd a'u hangen- rheidrwydd yn ddiamheuol. Mae gweithrediadau Ysbryd Duw yn fwy llydan na'r capel a'r cwrdd gweddi a darllen y Beibl. A ga'r diwygiad hwn chwareu teg i ddangos hyn.
[No title]
Collodd Corphoriaeth Salford y swm o JB570 o herwydd y tawch yr wythnos ddiweddaf. Y nos cyn Nadolig, bu farw un Mr. James Hite, Thurleigh, Sir Bedford, yn 101 mlwydd oed.