Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
.@.@' Ar Hyd a Lied y Byd.
.@.@' Ar Hyd a Lied y Byd. Gan Ymdeithydd. Mae y diwygiwr ieuanc, Evan Roberts, wedi tori ar draws rheolau y Methodistiaid, yn nglyn a'r diwygiad yma. Nid oedd wedi bod trwy y dos- barth" ond unwaith, meddir yr hyn o'i gyfieithu yw, nad oedd ganddo hawl yn ol rheolau y Corph i fyned o gwm- pas byd ac eglwys fel hyn heb ufudd- hau a phlygu i'r deddfau a berthyn i'r enwad. Mae tipyn o'r Ceidwadwr yn Shon o hyd ond yn awr, y mae ei geidwadaeth wedi ei chwalu i'r pedwar gwynt, a phawb yn diolch am y cwrs mae'r diwygiwr wedi gymeryd a Shon Gorph yn ei fawrygu gymaint, ie, ac yn fwy na neb, am ei fod, wrth gwrs, yn un o'i blant. Gwnaeth Mabon, rai blynyddau yn ol, dro tebyg i Evan Roberts,—hyny yw, trodd allan i bre- gethu i'r holl fycl, heb fyned trwy y I dosbarth." Nid cwestiwn hawdd fyddai penderfynu i ba ddosbarth y perthynai Mabon iddo. Chwyrnu, ac edrych yn gilwgus ar Mabon, a wnai llawer o'r Corph y pryd hwnw. Ond beth oedd chwyrnu i Mabon? Nid oedd yn ddim amgen na chwiban yn y gwynt. Mae yn gwasanaethu yn awr yn y Corph ac allan o'r Corph, fel y bydd galw am dano. Gwna'r diwygiwr o Casllwchwr yr un peth. Wrth fyned trwy Gorseinon a'm pac ar fy nghefn y dydd o'r blaen, gwelais fod y Parch. Seth Joshua wedi bod yn cynal wythnos o gyfarfodydd cenhadol yno. Sais yn siarad yn nghanol Cymry! Os oedd rhaid cael rhywun, paham na fynasid dyn a allasaa. anerch torf mewn dwy iaith ? Nid wyf yn deall rhai dynion ac eglwysi sydd yn gweddio am adfywiad crefyddol, wedi cael wythnos o gyfarfodydd gweddio cynes a brwd, paham na throesid y gweinidogion lleol bob un yn ei dro, yn Seth Joshua? Ymddengys i mi nad yw y bobl ddim yn credu eu gweddiau eu hunain. Ni raid i'r Ysbryd wrth gorn o draw i chwythu drwyddo mae corn lleol, boed gam neu gymwys, os na bydd crac ynddo, yn gyfrwng y gall yr ysbryd wneud gwaith trwyddo. Y mae eisiau credu hyn yn y dyddiau rhain," ys dywed ambell Fethodist wrth ddechreu oedfa ac nid rhyw ddisgwyl wrth ddynion o draw i wneud gwaith y dylid ei wneud gan y rhai sydd yn byw yn y lie. Dylai dynion gredu eu gweddiau, a cheisio gweithredu yn ol eu disgwyliadau. Gofyn ar gam yw peidio gweithredu yn ol ein gweddiau. Gweddied yr eglwysi am i'w gweinidogion lleol gael eu gwneud yn genhadon lleol, ac nid gweddio a disgwyl rhywun o draw i ddod i fwrw allan gythreuliaid. Gwnawd llawer cynyg i gyfieithu emynau Cymreig yn ddiweddar, ac y rhai wrth y gwaith o hyd. Treiwyd cyfieithu y rhai hyn:- Yn y dyfroedd mawr a'r tonau Dyma Geidwad i'r colledig ond cyfieithiadau gwael iawn gafwyd o honynt. Adeg anghyfleus i gyfieithu emynau ydyw pan mae diwygiad brwd yn symud fel diluw dros y wlad. Mae y ddau benill a nodwyd uchod yn troi yn gyndyn, ac yn anystwyth, pan y ceisir eu cyfieithu i'r iaith fain. Maent fel pe yn ymwybodol fod y tan Cymreig yn cael ei dynu o honynt wrth eu troi i iaith y Sais. Dyma emyn arall aiff yn estron hollol wrth geisio ei gyneithu :— Marchog Iesu yn llwyddianus." Y gwir am dani yw hyn,-y mae'r
Advertising
R.3M.3M3.3R!! so AW TW T7 Atli UIAIB- ivi itfcWEft THAN THE BEST COCOAS. Vi-Co«oa is in the front rank of really valuable loorls. "-Lon"L ImI M I raiII iff A H| £ | J™ f ffll r i"" Address (a Post-card will ^lUlri S i NAmrLt do> ^i-coco*, «>, ■zzjxz fi ■—■ Bunbill How, "London, 23.C. ..L"f1. A _v
Advertising
Gwaith Enillgar i Bawb A ddewisio trwy Brynu Machines i Weu Hosanau. Rhoddir Gwersi i Brynwyr. William Griffiths, 146, WINDSOR ROAD, NEATH. Argraphwyd a Chyhoeddwyd gan E. Rees a'i Fcibion, Swyddfa Llais Llafur, Ystatyfera, Glam., Rhag. 30, 1904. I
Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon
Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon A Dysgu Cymraeg yn yr Ysgolion Dyddiol. Awdurdod uchel ar addysg yn Nghymru ydyw y Proffeswr J. Morris Jones o Fangor, ac efe sydd wedi tynu allan dabl i ddysgu Cymraeg yn ysgolion dyddiol y plant. Rhoddir credyd i'r Proffeswr gan wyr dysgedig eraill, a chan addysgwyr, ar gyfrif ei allu meddyliol cryf, ac ar gyfrif ei hyddysgrwydd yn y pwnc pwysig o addysg. Cyn rhoi cyhoeddusrwydd i'w gynllun yn nglyn a'r Gymraeg, cyf- lwynodd y Proffeswr ef i ystyriaeth a barn hyddysgwyr eraill yn addysg y genedl, yn cynwys arolygwyr yr ys- golion, proffeswyr colegau, a dysgawd- wyr ysgolion eraill; ac yn gyffredinol, dychwelwyd y gymeradwyaeth fwyaf calonog i'r cynllun. Ystyriai pob un o honynt ei fod y goreu yn bod hyd yn hyn, i gwrdd a'r plant unieithog,— sef Cymraeg, ac ag anhawsderau y Gymraeg a'r Saesneg yn y wlad. lach oedd gwrando ar wr o safle y Proff: J. Morris Jones yn dweyd fod ei blant ef yn cael siarad Cymraeg ar yr aelwyd, a'i fod yn eu danfon i ysgolion y bobl, ac nid i ryw ysgolion preifat a neill- duedig. Da beth y dylasai penau teuluoedd Cymru feddwl am danynt- yn enwedig y teuluoedd hyny sydd foedi codi yn y byd ac yn cymeryd yn ganiataol eu bod yn rhywrai o bwys. Prin ydym yn deall yr hyn a feddyliai y Proffeswr yn ei frawddeg fod plant heddyw yn llai deallus (less intelligent) na'u rhieni pan oeddynt yn yr ysgol -ddeugain mlynedd yn ol. Amheuwn y gosodiad ar dir gallu meddyliol ac ar dir gwybodaeth ac mae'r frawddeg fod Deddf Addysg 1870 wedi crampio yn hytrach na dadblygu deall y Cymro, drwy ei ddysgu yn Saesneg, yn swnio yn ddyeithr; er y geill fod llawer o wir ynddi hefyd. Cawsom brofiad o hyn ein hunain drwy ryw raddau o orfodaeth i ddysgu credo yr apostolion yn Saesneg, a thrwy ddysgu ar ein cof enwau dyddiau yr wythnos yn Saesneg, a misoedd y flwyddyn, a gwyliau yr eglwys, yn Saesneg; ac mi gofiwn am byth, yr helynt a gawsem gan enwau Saesneg y Suliau Eglwysig: a dyma rai o honynt: Septuagesima," Sexa- gesima," "Quinqagesima," Quadra- gesima," a'r cyffelyb. Meddylier mewn difrif am blant na wyddent ond Cym- raeg, yn gorfod trysori geirau hyllion, dylion a drwg o'r fath yn ein cof; ac yn cael ein cosbi am ein hanallu i'w cofio. Fe wyr yr ysgrifenydd am driniaeth felly ac mae yn rhyfedd ganddo, fod un math o dyfiant o gwbl wedi bod yn ei feddwl yn ngwyneb y fath ddysgu. Ond dyna, fe gadd ddigon o oleuni i newid ei ochr, a hyny mewn pryd. Bwrieclir i'r addysg Gymreig i gael ei rhoi yn nhymor cyntaf y plant yn yr ysgoiion ac fel y dywedai Mr. W. Edwards, arolygydd yr ysgolion, Merthyr, y buasai hyny yn ychwanegu at eu cymeriad yn o gystal a'u deall. Oes, y mae a fyno iaith y plant a'u cymeriad, fel a'u dealldwriaeth; ac mae ysbeilio plentyn o'i iaith yn gam a'i gymeriad, ac yn anfantais i'w grefydd. Cyfeiriodd O. M. Edwards at y ffaith fod gan Gynghor Sirol Morganwg gynllun cyffelyb, a'i fod mewn grym ond ystyriai fod eiddo y Proff. J. M. Jones yn fwy gorphenedig ac hwylus yn ei fanylion. Mae pawb sydd yn caru eu hiaith yn ymlawenhau yn' yr ymroad hwn o blaid dyogelu a chadw y Gymraeg drwy ei dysgu i'n plant. Nid oes ond Die Shon Dafydd- iaeth falch a wrthwynebai y fath ym- road ac mae yn llawen genym fod arolygwyr ein hysgolion dyddiol yn talu sylw i hyn, ac yn rhoi pob cefnogaeth i'r Gymraeg i gael ei lie gyda'r plant. Mae Dan Isaac Davies yn ei fedd, ond mae neges fawr ei fvwyd yn fyw; ac heddyw y mae yn fwy byw nag erioed. Parchwn y Gymraeg er mwyn ei chrefydd, ei llenyddiaeth, ei sefydl- iadau, a'i chenedl.
.@.@' Ar Hyd a Lied y Byd.
emynau a nodwyd, ac eraill a ellid eu nodi, yn anghyfieithiadwy. Mae bywyd a nerth a grym yr emyn, yn nghyd a'i genhadaeth yn cael eu colli wrth ei gyfieithu. Ychydig o wasan- aeth mae'r cyfieithu yma wedi wneud i'r diwygiad. Mae mwy o gywrein- rwydd wrth ei wraidd nag sydd o gyd- ymdeimlad a'r diwygiad a mwy o gys- tadleuaeth nag o grefydd. Rhyw deimlad i dreio llaw" sydd wrth wraidd yr ymgais, ac nid un teimlad achubol. Pa fodd bynag, fel yna yr wyf yn darllen pethau ac nid wyf yn credu fy mod yn bell iawn oddi wrth y gwirionedd. Byddai penillion i'r diwygiad, neu ysgrif dda, yn llawer gwell na chyfieithu emynau wrth y dwseni. 8 Gyda gwres a goleuni y diwygiad presenol, byddai yn dda genyf gael ar ddeall fod canol-fur y gwahaniaeth sydd rhwng y Bedyddwyr a'r enwadau, sef y caeth-gymundeb, yn cael ei dynu i lawr, a'i chwalu yn llwch. Nid oes dim ond ysbryd sectyddiaeth yn ei gadw i fyny. Gobeithio y cartha y cyffro presenol bob gronyn o ysbryd sectol sydd yn glynu wrth yr enwad. Y mae rhai Bedyddwyr wedi cael golwg ar hagrwch ac anghysondeb yr enwad yn nglyn a'r ordinhad, ac yn tystio na fydd iddynt i uno a'r eglwysi y perthynant iddynt, os na fydd eu cymundeb fel eiddo yr enwadau eraill, yn rhydd i Gristionogion Ymneillduol. Curer yr haiarn tra byddo yn boeth," ebai'r hen ddiareb. Yn ddiau, mae'r Bedyddwyr o dan y cyffro diwygiadol yn gweled mwy o wrthuni ac anghys- ondeb y caeth-gymundeb yn awr nag erioed. Fy nymuniad a'm gweddi yw, doed yr hen gyfundrefn bwdr i lawr, er mwyn cydraddoldeb a chyd-ymdrech Gristionogol yn y dyfodol agos, o. blaid addysg a phynciau eraill ag y bydd yn rhaid i'r eglwysi i'w gwynebu. i Ni chlywais gymaint o ddarllen gwallus erioed ar y Beibl, ag yn y dyddiau diweddaf hyn. Mae yn wir mai y Beibl yw y Llyfr goreu, ac mai efe yw y Llyfr a ddarllenir fwyaf gwallus o bob llyfr. Paham na fyddai dynion yn darllen mwy arno yn eu tai, cyn ymgymeryd a'i ddarllen yn gy- hoeddus ? Dylai synwyr cyffredin ddysgu dynion i wneud hyn heblaw crefydd. Bum bron chwysu ragor nag unwaith wrth glywed yr Hen Desta- ment cysegredig yn cael e i lurginio mor ofnadwy mewn cyfarfodydd cy- hoeddus. Rhaid i mi ddweyd hefyd, fod y Gair yn cael ei ddarllen yn lan a chywir gan y mwyafrif, a hyny gan fechgyn a merched. Ond nid oedd hyny yn gwneud i fyny am fonglerwch eraill yn darllen y Gair. Ymgyd- nabydded pawb a'r Gair cyn yr ym- gymero a'i ddarllen yn gyhoeddus.