Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Lloffion Misol o'r Meusydd…

News
Cite
Share

Lloffion Misol o'r Meusydd Cenadol. Gofynwyd i Dr. Forseth, cadeirydd Undeb Anibynwyr Cymru a Lloegr, am air yn nglyn a'r Genhadaeth, ar ddiwedd y flwyddyn, a dyma rai o'i eiriau Y pprawf-ofyniad i bob cenedl yw, nid pa ryddid ydych chwi wedi ei enill, ond pa ryddid ydych yn ei roi ? Safai y wlad hon yn well yn ei wyneb, oes yn ol, nag y gwna yn awr. Yn y cyfamser, mae y wlad wedi colli yn ei hysbryd .cenhadol; ac mae rhai oeddynt yn selog y pryd hwnw, dros y Genhadaeth, erbyn hyn yn oeri ac yn amheu. Mesur ein cyfoeth ysbrydol yw, nid yr hyn a gynilwn, ond yr hyn a roddwn. Mae gor-gynildeb yn llyg- redigaeth. Derfydd rhyddid yr eglwysi, os yn rhyddid heb ei ledaenu. ¡ Mae eglwys heb fod yn genhadol, yn darfod a bod yn eglwys rydd. Gor- phwysa angenrhaid cenhadol ar ac yn yr eglwysi rhyddion, yn fwy felly na'r rhai caeth. Gwell fuasai i eglwysi i wadu haner y gwyrthiau na bod yn oer ac yn ddiofal yn eu hysbryd cenhadol. Dibyna ysbryd cenhadol eglwys yn hollol ar ei gweinidog. Nid yw yn dibynu ar bregethu pregethau neill- duol, ar achlysuron neillduol ond di- byna ar don efengylaidd barhaus y pulpud." Un o wyr grymusaf yr en,wad yw Dr. Forsyth, ac mae yn brophwyd yn wir, a chynyddol ydyw ei ddylanwad ac mae ei eiriau yn hawlio sylw ar gyfrif hyny. Ond yn benaf ac yn mlaenaf, hawliant sylw am eu bod yn wir. Awgrymiadol yw y bywyd newydd sy yn gwthio ei hun allan yn China, a hyny drwy atalfeydd dirfawr,-megys traddodiadau, rhagfarnau, defosiynau crefyddol, a chyfeiliornad yn haenau ar eu gilydd; ond mae'r bywyd newydd yn cryfhau, ac yn mynu ei ffordd. Lleda ei wreiddiau, hollta hen gyfun- draethau, chwala dybiau ac arferion, a dengys ei fod yn fywyd anherfynol. Un o gynorthwyon penaf y byd newydd hwn yw llenyddiaeth. Cyhoeddir llyfrau priodol, a gwasgerir hwynt ar 1 hyd a lied y wlad, a darllenir hwynt yn ddystaw a meddylgar, a siaradant a'r deall a'r gydwybod, a gwnant waith wythnosol, a hyny heb drwst na rhod- res na rhwysg o fath yn y byd. Mor ddwyfol anweledig yw dylanwad llyfr da. Darllenir yma fywgraphiadau o ddynion o fath Luther, Cromwell, Washington, ac eraill, ac maent yn gafaelyd yn dyn yn y bob 1. Gwel y bO'J.l wrth eu darllen, nodweddion bywyd cymdeithasol a gwleidyddol a chrefyddol, yn y wlad hon, a deuant i'w hoffi meddwl cryf, agored, a deffro- edig yw y meddwl Chineaidd, ac mae y cynorthwyon sydd ar waith ar hyn o bryd, yn dangos iddo ei bosiblrwydd mewn tyfiant, mewn gwasanaeth, ac mewn dyrchafiad. Gwir fod yn China helaethrwydd o ofergoeledd; a gwir fod ar ffordd ei ddeffroad hunlle uffernol ond er hyn oil, mae ysbryd diwygiadol yn cyniwair yn y wlad, ac yn meddianu'r bobl; ac yr ydym gyda llonder ac hyder, yn bwrw golwfr ar China newydd yn y dyfodol agos. Mae un o bob pump o fenywod y byd yn China. Mae un baban-ferch o bob pump yn cael ei siglo yn nghryd China ac am ei bod yn ferch, mae yn anerbyniol gan bawb, os nad yw gan y fam ei -hun. Mae un eneth o bob pump o enethod y byd yn China, ac mae yn cael ei gadael i'w thynged ,ddi- ymgeledd, i fod yn anwybodus, yn esgeulusedig, yn dlawd a dibarch. Y mae un fenyw o bob pump o fenywod y byd yn China yn crio am eu Gwaredwr; ac mae hyn yn gosod cyf- rifoldeb ofnadwy ar ferched a gwrag- edd y byd Cristionogol. Ceir deffroad amlwg yn mhlith y chwiorydd yn Nghymru, gyda'r diwygiad presenol; ac mae hwnw i'w weled yn amlwg iawn yn eu hawydd angerddol am achub eu perthynasau. Ni a hyderwn y daw hwn i gymeryd taith bellach na'r cylch perthynasol, ac y gwelir ef yn y man yn dangos ei hun mewn cydymdeimlad brwd a'r genhadaeth dramor. Pa nifer o ferched ieuainc a gyfyd y don ddiwygiadol hon i'r meusydd cenhadol ? Mae ar law y mamau i chwyddo y casgliad cenhadol, ac i gadw ar eu haelwydydd y dyddordeb a'r brwd- frydedd cenhadol. O! am i hyny i gymeryd lie. Yn hanes Mr. a Mrs. Piggott, y rhai a ferthyrwyd yn China dair blynedd yn 01, ceir hanes difyr am un Mrs. Husch. Yr oecld Mrs. Husch yn hen wraig, ac yr oedd wedi bod ar brawf am oddeutu chwe' blynedd. Gan ei bod yn anwybodus iawn, yr oedd y Cristionogion yn oedi ei bedyddio. Un tro, galwodd ar Mrs. Pigott i'w thy, am fod gyda hi yno ddynes dlawd. Y dydd canlynol, talodd Mrs. Pigott ymweliad a Mrs. Husch a chafodd yn ei thy, ddynes dlawd, yr hon oedd gymydoges iddi, a'r hon yr oedd Mrs. Husch wedi cymeryd trugaredd arni, am fod ei gwr yn haner ei nevvynu, ac yn greu- Ion iddi. Yr oedd Mrs. Husch wedi bod yn ei phorthi bellach am yn agos i wythnos. Gwyddai Mrs. Pigott fod Mrs. Husch yn wir dlawd ei hun, ac am ei bod wedi cadw ei chymydoges yn y ty am wythnos, gofynodd iddi:- Sut y gallasoch ei chadw cyhyd ?" A'r atebiad ydoedd: Drwy wneud fy nghawl fy hun yn deneuach." Nid oedd y cawl hwn a soniai am dano ond reis a dwfr a thrwy roi llai o reis yn y dwfr, y cynhaliodd ei chymydoges. Tybed na ddylasai Mrs. Husch gael ei bedyddio? Os oedd ei phen yn dywyll, yr oedd ei chalon yn oleu. Pa nifer o honom ni sydd yn gwneud ein cawl" yn deneuach, er rhoi rhan i bobl eraill yn eu caledi ? Medrodd Mrs. Husch wneud hyny. 0 Mae dwy wedd ar sefyllfa y Gen- hadaeth Dramor ar hyn o bryd. Un wedd yw, fod y byd yn fwy agored i dderbyn yr efengyl, nag y bu o'r blaen a'r wedd arall ydyw fod yr eglwys yn anmharod, ac ofnir yn anhueddol i gymeryd y fantais oreu ar y drws agored hwn. Mae yr eglwys wedi bod yn galw am ddrws agored oddi wrth y byd pan mae'r byd yn ateb ei chais, mae'r eglwys fel pe yn amheu doethineb ei gweddi, ac yn sefyll o'r tu allún fel pe yn ddifatcr. Pam ? Un paham sydd yn cyfrif am hyn, a gellir ei roi mewn un frawddeg -tlodi yr eglwys yn ei hysbrydol- rwydd, yn ei chariad at Iesu, ac at ddyn ac yn ei ffydd yn ei gwaith. A gyrhaedda effeithiau y diwygiad cref- yddol presenol i China, India, a lle- oedd eraill ? A ydyw ei nerth yn ddigon i'r daith hon ? Amser a ddengys.

Advertising

Rliyfeddol, ond Naturiol.

---...... BEUMARIS. -