Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
y Celt Deiopdd. DYDD GWENER, RHAG. 30, 1904. AT EIN GOHEBWYB. 1. Erfyniwyn, hyd y bo'n bosibl, i ysgrifau a newyddion i fod yn Haw y Golygydd:— PARCH. D. SILYN EVANS, 19, Tanybryn St. Aberdar, erbyn dydd Llun. Os teimlir rhyw anhawsder i gael v Celt Newydd gan rywrai, bydd yn dda genym ei ddanfon drwy y post i unryw gyfeiriad am y prisoedd canlynol:- 1 copi yn wythnosol, am chwarter, 1/71; am flwyddyn, 6/6-BlaendaI. 2. Rhaid dweyd eto, mai byrion yw yr ysgrifau i fod, heb fod dros golofn, neu golofn a haner; cwtogir i ateb hyny, oddigerth fod y testyn yn bwysig a'i ymdriniad yn dda. 3. Gwahoddwn newyddion lleol yn helaeth, am ddigwyddiadau, personau, etc. wedi eu trefnu yn fyr ac yn ddoeth. Mae eisiau Dosbarthwyr yn mhob man. Rhoddir telerau neillduol am 6 ac uchod yn wythnosol. Am fanylion pellach, yn nghyd a phob archebion a thaliadau am y Celt Newydd, dan- foner at E. REES A'I FEIBION, ARGRAPHWYR A CHYHOEDDWYR YSTALYFERA.
0 Fryn i Fryn.
0 Fryn i Fryn. Cymdeithion y Diwygiad. Ni olygwn wrth ei gymdeithion, ei arweddion, neu ei allanolion, megys ei afreoleidd-dra ymddangosiadol, a'i wylo a'i lefain mawr, a gwefr a thrwst ei weddiau, a mellt ei sylwadau, a phrysurdeb gwaeol ei ddychweledigion, a nefolrwydd ei ganu ,a daeargrynfau rhai o'i oedfaon, a gweledigaethau cyffrous rhai o'i danllyd wyr. Ar ei ymdaith, ceir gydag ef y nodweddion yna: y nodweddion awgrymiadol ac arbenig yna, a mwy ond nid atynt hwy y cyfeiriwn y tro hwn. Er mor fawr ydyw y rhai yna, nid ydynt bethau mwyaf a dwyfolaf y Cyffroad; ac mae yn wir bwysig i gadw hyn mewn cof, o herwydd geill eu cyfaredd a'u hudol- iaeth sanctaidd, eu gwneud i ryw rai yn ddigonol ynddynt eu hunain a geill rhywrai eu cymeryd yn safonau gwir ddiwygiad. Mae mawredd y Diwygiad yn ddyfnach na'i ddagrau, a'i grio, a'i waeddi, a'i ganu. Ysbryd y Diwygiad yw ei fawredd, a'i gadwedigaeth; ysbryd ei wirioneddau a'i egwyddor- ion: "Ysbryd Duw" y Diwygiad. Ni phetruswn ddweyd fod hwnw yn ysbryd cariad, ac yn ysbryd cariad fel y mae yn Nuw; ac yn ysbryd cariad fel y mae yn Nuw yn cael ei egluro yn ymgnawdoliad a bywyd Ei Feb, Iesu Grist. Dyna achos ac hanfod a bywyd ymarferol pob gwir ddiwygiad; a hyny sydd wir am Gyffroad mawr 1904. Meddylier, er gweled hyn, am brif ddigwyddiadau yr eglwys ar hyd yr oesau. Mor nodedig o wir yw hyn am y Diwygiad hwn. Edrycher ar ein gosodiad yn ngoleuni ei emynau, ac yn ngoleuni y rhanau o'r Beibl ddar- llenir yn ei gyfarfodydd, ac yn ngo- leuni materion amlwg ei weddiau, ac yn ngoleuni cri anyoddefol calon dychweledigion edifeiriol; a gwelir mai cariad Duw yn Ei Fab ydyw prif wirionedd y Diwygiad, gyda gweddi am i'r Ysbryd i ddod i'w egluro yn- ddynt hwy a thrwyddynt hwy, i iach- awdwriaeth eraill. Cadwed y darllen- ydd hyn mewn cof, o herwydd wrth draed y gwirionedd hwn, y dodwn y sylwadau sydd yn canlyn. Cymdeithion y Diwygiad! Y fath drugareddau a deifl y llanw mawr i'r lan! Beth sydd i'w gael ar y glanau gyda hwn? Ceir goleuni ynddo neu gydag ef i ddeall y Beibl yn well. Nid yn unig mae ganddo gynorthwy i barchu y Beibl yn fwy, ac i ddarllen y Beibl yn fwy mynych; ond yn mhell- ach, i'w ddeall yn well. Ac os mai cariad ydyw ei hanfod, rhaid fod def- nyddiau esboniadaeth Feiblaidd gydag ef. Esboniwr ar ei ben ei hun, ydyw cariad ac nid oes yr un esboniwr yn troi allan esboniad o werth heb gariad oblegyd pe bai genyf bob gwybod- aeth, a gwybod o honwyf y dirgelion oil, ac heb genyf gariad, nid wyf fi ddim." Rhagorol yw y cyflenwad sydd genym o esboniadau ar y Beibl, a'r cyfryw wedi eu troi allan yn y deng mlynedd diweddaf. Oes beirniadaeth ac esboniadaeth yw yr oes hon. Mewn canlyniad, y fath esbonwyr beiddgar a geir yn mhob man; a'r fath esboniadau newyddion a geir gan bob un. Ond erbyn i wawrddydd y Diwygiad i ledu ei esgyll ar fynyddoedd a dyffrynoedd ein gwlad, gwelir mai esboniadau ac esbonwyr yn y nos oeddynt. Rhai a ddaethant at lesu Grist liw nos oedd- ynt ac fel Nicodemus, mae lliw y nos ar eu meddyliau, a dywedant: Ni a wyddom,"—a phwysleisiant ar y ni; ond erbyn heddyw, gwelir "Ni" sydd yn fwy na ni yr esbonwyr. Pa ryfedd fod rhoi llyfrau ar dan yn bod ? Ie, pa ryfedd, pan gofir ddarfod i'r llyfrau br6n roi'eu darllenwyr ar dan. Mae adenedigaeth a chydymdeimlad ysbrydol yn cael rhy fach o le yn esboniadau yr esbonwyr. Sylwadaeth a dealldwriaeth ac ysgolheigdod ydyw tri anhebgor mawr,, esboniwr iawn gan ddosbarth ond dengys y Deffroad fod un anhebgor pwysig,—a'r pwysicaf, ar ol. A ddarfu i ti feddwl, ddarllenydd, y gelli, os yn blentyn y Diwygiad, es- bonio yr efengylau yn well, ac yn ar- benig yr Actau, ac Epistolau Paul, a'u hesbonio yn well yn ngoleuni'r Diwyg- iad ? Gelli, siwr. Dos a'r Diwygiad gyda thi i'r Ysgol Sul, ar hyd dy oes, fel llawlyfr ysbrydoledig, i esbonio Gair Duw. Cyfaddefwn yn onest, fod rhai rhanau o'r Beibl, na ddeallasom hwy o gwbl hyd nes i'r Deffroad hwn i ymaflyd ynom; ac yr oeddem wedi ein hachub o'r biaen, hefyd. Mawr obeithiwn y ca'r Diwygiad ei le genym fel cyfrwng i ddeall y Beibl yn well. I Yn mhellach, ni a gawn yn y Deffroad hwn oleuni mwy ar safle ac awdurdod yr eglwys. Yr oedd yr eglwys ar hyd yr ugain mlynedd di- weddaf yn y Dywysogaeth, yn colli tir, am fod ei dwyfoldeb, neu y gogoniant, fel pe yn ymadael a hi. Yr oedd galluoedd a'u dylanwad yn uniongyrch- ol, ac yn anuniongyrchol, yn gweithio yn anffafriol iddi. Ceid hyn mewn gwleidyddiaeth ac yn yr hyn a elwid yn ddiwygiadau cymdeithasol, ac yn sefydliadau addysgol y wlad, ac yn nghynlluniau a chynllwynion y fasnach feddwol, ac mewn dynion cyhoeddus gwan, a dynion cyhoeddus drwg o fewn yr eglwys ac yn aelodau amheus ac aelodau anuwiol yr eglwys ac yn an- allu yr eglwys i ddod i fyny o dipyn a'i phroffes a'i hymgymeriad a rhwng yr oil, edrychid i lawr ar yr eglwys, a phw-pw-id hi gyda chwardd ag ysgorn. Edrychid ar ei gweinidogion gyda thosturi, ac ar ei huchel-wyliau fel ar- ddangosiadau, ac ar ei haddoliad fel mater o chwaeth ac hobby" ond y mae'r Diwygiad hwn, fel llanw mawr yr afon, wedi clirio ei gwely a'i glanau 'o'r fath rubbish," ac ysgubion ac af- iechydon, a cheir sobrwydd a gloewder a phurdeb yn eu lie. Nid oes yn un gwatwarwr yn y dyddiau hyn a ddef- nyddia ymadroddion hyf yn erbyn yr eglwys yn ei safle a'i hawdurdod. Teimlir ei dwyfoldeb yn ofnadwy, ac mae arswyd o'i chylch; ac mae yn sefyll yn anfeidrol uwch yn ngolwg pawb ystyriol nag y gwna y Pwyllgor I Addysg, a'r Cynghor Sir, a'r Senedd Ymherodrol. Peth mawr ydyw rhoi i'r eglwys ei lie mewn cymdeithas ac mae yn cael ei lie, pan Wae ei deiliaid yn eu lie. Hyny a welir heddyw; a hyny a wnaeth y Diwygiad: dod a Duw i'w Ie, i roi dynion yn eu lie. Drachefn, mae y Diwygiad hwn wedi rhoddi goleuni ar addoliad a gwasan- aeth ysbrydol yr eglwys. Mor bell, y mae'r Cyffroad hwn yn gwawdio ffurf yn ei sefydlogrwydd. Gwir fod ganddo ei ffurf, ond mae mor fyrhoedlog a ffurf y fellten, neu ffurf y gwynt; ac mae yn eithaf priodol son am y mellt a'r gwynt yn ddefosiynol. Yn nghyf- arfodydd meithion y Diwygiad, hyd ddau a phedwar y boreu, ni cheir dau yr un fath. Newidia y cyfarfod ei ffurf o awr i awr, ac o berson i berson, ac mae nos Fawrth yn hollol wahanol i nos Lun. Erys yr ysbryd, ond newidia ei ffurf. Diolch am hyn ob- legyd dyma brawf arall i ni, nid yn unig o'i ysbrydolrwydd aruchel, ond yn o gystal o'i ddwyfoldeb diamheuol. Mor ffurfiol ydyw ein gwasanaeth add- oliadol wedi bod. Pe gallesid myned drwy Gymru, a galw yn mhob capel a llan, yn mis Hydref diweddaf, cawsid pob cynulleidfa yn unffurf ar ei hyd. Wedi gweled un yn myned drwy ei gwasanaeth, buasid wedi gweled pob un arall. O esmwyth addoliad. O easy-going wasanaeth. Y fath beir- iant addoliad a gawsid o gapel i Lan ond erbyn heddyw, eler drwy addoldai Cymru, a cheid y newydd-deb mwyaf fifres a chynhyrfiol mewn canoedd o honynt. O'r blaen, yr oedd prif arosfa yr addoliad yn yr hwn a fuasai yn gweinyddu ac yr oedd ami i dro, bell- der ofnadwy rhwng y gweinyddwr a'r gwrandawr. Yn awr, mae'r addoliad yn y bobl. Sylw ffyddlon i hanes a wnaeth Cynddylan y dydd o'r blaen, sef mai un o nodweddion Diwygiadau Cymru, yw eu bod yn codi o'r bobl, ac yn cael eu cadw i fyn'd gan y bobl. Mor wir yw hyny yn awr hefyd. Os oes gofyniadau yn cael eu rhoi i bre- gethwyr a gweinidogion gan y Diwyg- iad hwn, dyma un o honynt: Sut i wneud gwasanaeth cyhoeddus y dyfodol yn fwy o ddyddordeb i'r bobl, ac o ad- eiladaeth i'r bobl? Byrhaer ychydig ar y bregeth, oddigerth i wynt cryf ddod o dan ei hadenydd; a rhodder mwy o le i weddi a chanu, ac adrodd profiad yn y gynulleidfa, a gofalu am ddoethineb, bywiogrwydd, ac Ysbryd Duw yn yr oil. —
EGLWYS ANIBYNOL BETHEL, CARWAY,…
EGLWYS ANIBYNOL BETHEL, CARWAY, PONTYEATES. Yr ydym yn hysbysu y cyhoedd, fod yr eglwys uchod yn dibynu ar sup- plies ar hyn o bryd, ac mai enw a chyfeiriad ei hysgrifenydd yw:—John Harries, Carway, Kidwelly. [105-8
[No title]
Darlith ddyddorol oedd yr un a dra- ddodwyd yn Fflint nos Fercher, gan y Proffeswr Lewis Jones, Bangor, ar George Burows," awdwr Wild Wales." Cashai Burrows Anghydffurf- iaeth, ond edmygai lenyddiaeth Gym- o reig. Yr oedd yn gyfaill i sipsiwn. Beth a ddywedasai am yr erlid sydd arnynt yn awr tua chymydogaeth Llundain ? Y dydd o'r blaen, bu farw gweddw yr heddgeidwad cyntaf yn Mhenybont- ar-Ogwy, yn 95 mlwydd oed. Bwriada Cwmni Ffordd Haiarn y Great Western godi pont newydd dros yr Afon Tywi yn Nghaerfyrddin. Sibrydir yn Noc Penfro y bydd i'r Morlys, yn y flwyddyn gyllidol nesaf, ddechreu adeiladu doc sych yn y lie hwnw, er i un o'r llongau rhyfel mwyaf gael ei gosod yno.
Y Bywyd Newydd yn Rwssia.
Y Bywyd Newydd yn Rwssia. Cyfeiriasom dro yn ol at ddeffroad y bywyd newydd yn Rwsia, a hyny ar linellau mwy o ryddid, a mwy o gyd- raddoldeb, a rhagorach manteision i'r bobl i dyfu yn eu dyheadau, a'u hani- byniaeth a'u defnyddioldeb cyhoeddus. Eglur yw fod y fath ysbryd yn Rwssia, a'i fod yn fwy effro yn awr nag y bu o'r blaen. Mae pawb sydd yn adnabod Rwssia, yn unochraeth ei swyddogaeth ac yn unbenaethdod ei gwladlywiaeth, yn gwybod y fath atalfeydd a ga y fath ysbryd yn ei dyfiant. Fe ofyna am gryn amser, a rhaid iddo basio drwy lawer brwydr. Lle cymharol ganolig a ga'r mab bychan i ddechreu ei fyd ac fe gynygia Herod a'i giwaid am ei fywyd a bydd gwylio ac erlid arno gan ysgrifenyddion a Phariseaid; a rhaid iddo fyned drwy ei Gethsemane yn sicr ac yn y diwedd caifif ei groes- hoelio. Ond er hyn oil, profa yn orchfygwr hyd yn nod ar angau. Ar hyn o bryd, digon tywyll yw y rhag- olygon am ddiwygiadau cymdeithasol a gwladol yn Rwssia. Yn ngwyneb cyffroad beiddgar a theg y bobl am ddiwygiadau, mae y Llywodraeth yn cynyg at gymedroli rhyw gymaint ar bethau; ond nid yw hyny yn amgen na thaflu darn o gig i gi sydd yn cyfarth, er dystewi ei gyfarthiadau a'i atal i gnoi. Dangosa heddgeidwaid hyfdra nid bychan yn eu gwaith yn myned i sefydliadau y bobl, er eu hatal i ymgynllunio yn ffafr eu har- gyhoeddiadau; ac i safn-rwymo y wasg rhag siarad yn ffafr y werin a'r miloedd. Mae'r bendefigaeth, yn nghyd ag Eglwys Groeg, yn erbyn y mesurau diwygiadol. Meddylier am hyn eilwaith. Ffaith awgrymiadol ac ofnadwy yw fod y gwyr mawr a'r gwyr crefyddol swyddogol ar ffordd gwell- iantau. Felly mae wedi bod ac felly mae yn bod yn awr. Ceir hyn yn y wlad hon, yn o gystal ag yn Rwssia. Saif y gwyr mawr, a'r swyddogion crefyddol, er dyddiau Iesu Grist, yn erbyn diwygiadau cymdeithasol. Sibrydir fod peth llydanrwydd yn nghydymdeimlad y Czar, ac y buasai yn dda ganddo fel dyn i ddwyn oddi amgylch welliantau; ond nis geill wneud hyny fel swyddog. Gwr gwan ei ewyllys ydyw; ac mae yn llaw y bendefigaeth. Mae gan ei swyddog- aeth gryfach dylanwad arno na'i ddyn- oliaeth. Mae y werin, a phobl y wlad, —hyny yw) y dosbarth gweithiol,—yn meddu ar syniadau rhydd a diwyg- iadol, ac mae ganddynt ddelfrydau newyddion a da; ond nid yw ysbryd y deffroad wedi cymeryd meddiant digon hollol a phendant ynddynt; maent eto heb godi i dir hunan-ymwadiad ac hunan-aberth, er magu eu goleuni newydd. Y prif ailu i ddeffroi y bobl o'u cysgadrwydd yw tlodi ac eisiau. Sieryd y cldau allu hyn a hwy yn hyotlach nag areithiau gwleidyddol. Nid oes dim yn anghyffredin yn hyn. Mae i bob llywodraeth orthrymus, ddy- lanwad syfrdanol ar y deiliaid dylan- wad fo yn eu gorfodi gydag amser i foddloni ar orthrwm yn ei ffurfiau gwaethaf. Darllenasom am ferch ieuanc, yr hon a waredwyd o gaeth- iwed, yn ei llesgedd a'i chystudd, ac a gymerwyd i glafdy cenhadol. Yr oedd yr eneth hon ar y dechreu, yn ysgyrn- ygu danedd ac yn ysgrechian yn wall- gofus at y rhai oedd yn garedig iddi. Yr oedd ei chaethiwed wedi gwneud caredigrwydd yn fath o greulonder iddi; a gwir ryddid fel caethiwed. Ceir hyn i raddau yn Rwssia yn awr; ond er hyn oil, credwn fod y bywyd newydd sydd yn y wlad afiach hon, yn sicr o ddal ei dir, ac yn sicr o enill tir; ac yn y man, daw yn ddigon cryf i dori yn yfflon llyffetheiriau gorthrwm, ac i greu byd newydd iddo ei hun, yn llawn o ryddid ac o gydraddoldeb, a chyf- iawnder cymdeithasol.