Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
W. WILLIAMS HAS THE QaQQGB0QG3nBQSElEI0000QE10QQQ T rj rAO t C f A f* V TA/iIaO 30EB0H000000BQI30000B000000 j A J U I J Mil K lH H/jlll OF Engagement Rings, 22ct. Gold Wedding Rings, 18ct. Gold Keepers, English Lever Watches, Pebble Spectacles. □ 0 0 0 s □ □ a 0 0 □ □ 0 □ B □ □ □ 0 □ □ □ 0 E □ □ Gvmry hoff dewch at y Cymro, Y sbectal geifydd, hin-fyaegydd, Os am heirdd fedrwyau aur, Gwres-fesurydd, cwmpawd mor, Oriaduran ac awrleisiau, Geir gan Williams, Hoel y Castell, Gemau, a chadwynau claer; Trowch i mewn i wel'd ei stor. 0000000000000121000000000000 29, Castle Street, SWANSEA. FOREIGN MONEY EXCHANGE.
\Saron, Maesteg.
Saron, Maesteg. YR ADFYWIAD CREFYDDOL. Tachwedd 14, yr oedd cyfarfod gweddi i gael ei gynal yn y vestri, fel arfer am 7.30 yr hwyr. Gorlanwyd yr adeilad, yr hwn a ddeil tua dau cant, tra yr oedd ugeiniau ar y fynwent yn methu cael lie i ddod i mewn. Cyneu- wyd y goleu yn y capel, agorwyd y drysau, ac awd i mewn dan ganu. Caf- wyd cyfarfod anghyffredin dan ar- I weiniad yr Ysbryd Glan, a phender- fynwyd cynal cyfarfodydd bob nos. Nid cynt yr aeth y gair allan yn y gweithfeydd fod adfywiad crefyddol yn Saron, nag y dylifai pobl i'r cyfar- fodydd o eglwysi eraill. Cawsom rai o Siloh, Salem, Jerusalem, Soar, Lib- anus, a Trinity, a Byddin yr Iachawd- wriaeth i gymeryd rhan yn y cyfar- fodydd. Ceid rhai bob nos hefyd i roi eu hunain i'r Gwaredwr. Yr oedd y cyfarfod nos Wener yn un byth gof- iadwy. Erbyn hyn, ceid gwyr a gwragedd, meibion a merched, hen ac ieuanc, gwrandawyr a gwrthgilwyr, yn cymeryd rhan yn y cyfarfodydd. Mynych y celCl dwsin o ferched un tro, a dwsin o fechgyn dro arall, yn mlaen i'r sedd fawr i weddio. Byddai y gynulleidfa yn wylo ac yn chwerthin bob yn ail. Parhaodd y cyfarfod nos Sadwrn hyd tua dau o'r gloch foreu Sabbath, ac yr oedd o ran dylanwad yn anrhaethadwy. o Nos Sabbath yr 20fed o Dachwedd, cafwyd oedfa fyth-gofiadwy. Dych- welwyd dros ugain y noson hono at yr Arglwydd. Tra yr oedd Mrs. Tid- ball yn canu, A glywaist ti son am yr Iesu?" torodd ugeinau allan i wylo dagrau edifeirwch a dagrau o lawen- ydd pur. Pan ddychwelodd y chwaer hon i'w sedd, cafodd ei phriod di- grefydd yn wylo, a gofynodd iddi yn ei ddagrau am weddio drosto. Gwaedd- odd hithau allan," Gwnaf, mi weddiaf drosoch Dychwelodd drachefn i'r sedd fawr i weddio drosto. Wedi gweddio yn ei dagrau dros ei phriod, dywedodd wrtho fod yn rhaid iddo yn- tau weddio yn bersonol am drugaredd a gras. Ufuddhaodd yntau i gymhell- ion yr Ysbryd Glan drwyddi. Gweddi- odd am drugaredd a gras, ac ni chaf- odd weddio yn ofer, o herwydd symud- wyd ef ar unwaith o dywyllwch i oleuni, ac o gaethiwed i ryddid gogoncddus plant Duw. Cydnabyddodd un o'r dychweledigion ar ol yr oedfa hono iddo gael ei glwyfo yn y cyfarfod awyr agored cyntaf, ond iddo gadw draw o'r cyfarfodydd am wythnos gyfan, eithr," ychwanegai, "pan ddaethum i'r cyfarfod y nos Sul hwnw, aethum yn yfflon." Ar hyn, sicrhaodd y gweinidog ef ei fod yn law Un oedd yn abl i'w gyfanu dra- chefn,—ei fod yn Haw Un na thyr y gorsen ysig, ac ni ddiffydd Ilin yn mygu. Trowyd rhai o'r meddwon penaf yn yr oedfa hon. Nos Lun a nos Fawrth diynol, cafwyd dau gyfarfod undebol o'r holl enwadau, gydag eithrio y Bedyddwyr -y naill yn Siloh, a'r llall yn Saron; a chafwyd tua phymtheg o ddychwel- edigion newyddion yn y cyfarfodydd hyn. t Tachwedd 27ain oedd y Sabbath Dirwestol, a phenderfynodd y gwein- idog gymhell yr aelodau i ardystio oddi wrth Dob math o ddiodydd meddwol fel diodydd. Er ei lawenydd, daeth rhai ugeiniau yn mlaen yn ystod y dydd i arwyddo eu henwau ar y llyfr ardystiad, yr hwn sydd yn perthyn i'r eglwys. Nos Sabbath, dywedodd un o'r daconiaid: Rhoddwch fy enw i lawr fel crotyn naw mlwydd oed," gan gyfeirio nad oedd wedi yfed dim meddwol er ys naw mlynedd, ond nid oedd yn ddirwestwr ardystiedig. Cododd un arall ar ei draed, a dywed- odd Anwyl frodyr a chwiorydd, nid yw fy arferion i yn galw am gymeryd yr ardystiad, eithr clan ddylanwad yr Ysbryd Glan, fel swyddog o'r eglwys ac er mwyn bod yn esiampl ac yn anogaeth i eraill i wneuthur yr un modd, ac er mwyn calonogi y gwein- idog, yr wyf wedi penderfynu ardystio yn eich gwydd chwi oil." Bellach, mae holl ddiaconiaid yr eglwys hon, a holl' arolygwyr ac ath- rawon ac athrawesau yr Ysgol Sul, yn ddirwestwyr ardystiedig,—ond un, yr hwn sydd yn ddirwestwr, ond yn gwrthod ardystio. Mae 220 0 aelodau yr eglwys wedi ardystio, heb gyfrif o gwbl y dirwestwyr sydd hyd yn hyn heb gael cyfleusdra i ardystio. Credwn y bydd y nifer yn fuan dros 300. Nid oedd ond rhyw ddwsin o ddirwestwyr yn yr holl eglwys un flynedd ar ddeg yn ol. Cyn pen un flynedd ar ddeg arall, hyderwn na fydd un aelod heb fod yn ddirwestwr. t Ni anghofir nos Sabbath cymundeb Rhagfyr 4, pryd yr adferwyd 26, y derbyniwyd 43, y trosglwyddwyd 3 drwy lythyrau, ac y bedyddiwyd 4 0 gredinwyr yn gyhoeddus. Mae rhifedi y dychweledigion yn ystod y fhvyddyn yn 102 a'r adferiadau a'r llythyrau yn 48, ac y mae 30 yn curo eto am dder- byniad, a'r tan sanctaidd yn parhau ymledu. Ar ei ben bo'r goron, Byth am gofio llwch y llawr."
: NINAU.
NINAU. Ninau hefyd, dirion Arglwydd, Gaffo brofi'th Ddwyfol hedd; O, llewyrched arnom ninau Oleu glan Dy hawddgar wedd Diolch fyrdd Dy fod yn achub Yr holl filoedd trwy ein gwlad Ninau hefyd, lor Bendigaid. Ninau hefyd, Nefol Dad! Y cryf arfog fynai'n cadw Yn ei rwymau nos a dydd Tor, 0 Grist, ei holl gadwynau, Fel bo i'n henaid ddod yn rhydd Ac a'th Gariad mawr dy Hunan Tania'n calon, llanw'n bryd, Fel na byddom mwy'n hanfodi Ond i ganmol D' Angau drud. Bangor. Dl. Rowlands.
Tafolog.
Tafolog. Daw rhagoriaethau a gwendidau dyn- ion i'r golwg pan y gosodir hwy mewn swydd o awdurdod. Os am adwaen dyn, medd hen ddiareb, rhodder ef ar gefn ceffyl benthyg; os am ad'nabod dynoliaeth bardd, gadawer iddo ym- dclangos ar lwyfan yn y cymeriad o feirniad. Ar gefn y ceffyl benthyg yma sylweh ,arno yn ymsythu, yn defnvddio ei ysbardun ac yn clecian ei chwip. Y mae adgof y darHenydid yn peri i rai beirdd a beirniaid ymrithio ger ei fron. Ond, yn sicr, nid yw Tafolog yn eu mysg. Yr oedd yn or mod o dldyn ac o foneddwr, heb son am Gristionj i ym- ddiraddio i wmeud bryntwaith anheil- wng o'r fath. Ac onibai fod olion yr an ware iddiweh sydd yn arwain Hispaen- iaid i fwynhau gwaith y "matador" yn trwyanu y tarw yn mlynu aros yn nghalon rhai Cymry bua,sid wedi all- tudioi y cigyddion beirniadol hyn o'n mysg am eu creulonwaith didostur ac anfarddonol. Gwyddom i Tafolog dderbyn rhai trywaniadau gwaedlyd gan rai cwbl an- all'uog i werthfawrogi ei ddull ef o feddwl a barddoni. Nid ydym yn beio, 0 herwydd diffyg eangder, gwrteithiad beirniad; y mae hyn yn fynych yn an- ocheladwy 3 ond y mae y cyfryw i'w feio am esgyn i gadair anffaledigrwydd a hyrddio ei "deirw" i geisio dychrynu i ddistawrwydd a dinodedd y sawl,a ddig- wyddo wahaniaethu mewn chwaeth neu syniad oddi wrth yr oracl. Y mae genym ami feirniad digon amddifad 0 tarn ac yn cael ei lywodraethu yn or- modol gan deimlad neu fympwy; ond, yn ffodus, y mae nifer yr her-ymladdwyr sydd yn hoffi dyrnodio yn anaml yn ein mysg. Synwn fod yn bosibl i Itomer allu darlunio creulonder y gorchfygwr Achilles yn cylymu Hector orchfygedig gerfydd ei garrau wrth ei gerbyd', ac yn ei lusgo felly oddi amgylch Tfiuriau Caerdroia; synwn yn fwy fod yn bosibl i un beirniad, yn yr oes hon, ymddifyru mewn creulonwaith cyffelyb. Ond yr oedd gan Tafolog hefyd nifer o edmygwyr ag vr oeddi eu syniad uchel am ei athrylith farddonol yn eu gwneud yn arwr-add'olwyr gwirioneddol. Nid oedd ef ei hun fyth yn udganu ei glod- ydd; yr oedd yn naturiol yn ymwrthod a rhwysg a ffug-ymddangosiad1 a, bob math. Ni fynwn ddweyd ei fod yn rhydd oddi wrth fyfiaeth; na, yr oedd yn adnaibod ei hun yn ddigon cywir fel ag i feddu ar lawer o wir hunanbarch; ond yr oedd yn wylaidldl hefyd, am ei fod yn cydnabod mawredd a gwerth llenorion a beirdd eraill. Nid yw gos- tyngeiddrwydd gwylaidd yn golygu fod dyn i ddibrisio ei hun yn gyfangwbl, ym enwedig pan yn adrtaibod ei hun yn gywir ac yn meddu a,r safom gywir i farnu ei werth cymharol. Mynych y cyhuddir beirdd 0' fod yn fyfiol. Dyma wendid y beirdd mawr, fel Tennyson, yn dueddol iddo, yn ogy,stal a "chocos- feirdd diiawen a didalent. Tybir fod pregethwyr hunan-ddiwyll- iedig, na chaws,ant erioed fanteision ysgol nac athrofa, yn fwy tueddol i fod yn fyfiol a hunanol nag eraill y gollyng- wyd gwynt balch,der allan 0 Ihonynt gan frathiad blaenllym gogan a beirniad- aeth eu eydefrydwyr. I lawer 0. feirdd, y mae cystadleuaeth yn gwasanaethu fel disgyblaeth gyffelyb. Cystadleuodd lawer 0 bryd i bryd. Enillodd drodon, a chollodd, feallaii, lawn mor fynych. Collodd, ar ra.i achlysuron, y credir, erbyn hyn, ei fod wedi derbyn cam; ond, er y cyfan, parhaodd mor ddiwen- wyn pan yn colli, ac mor wylaidd pan yn enill, a nemawr i fardd 0 fewn cylch fy adnaibyddiaeth i.—(O'r "Geninen.")
s TRECYNON.
TRECYNON. CYFARFODYDD PREGETHU EBENEZER. Pregethwyd yn nghyfarfodydd y Nadolig yn y lie uchod gan y Parchn. Penar Griffiths ac O. R. Owen, Ler- pwl. Erys y diwygiad yn ei wres yn y cylch hwn o hyd, ac yr oedd yr oed- faon yn rhai bendigedig iawn. Yr oedd y cyfarfodydd yn nglyn a chan'- mlwyddiant yr achos a hyfryd ydyw meddwl fod diwedd ei ganrif wedi ei goroni a llwyddiant heb ei fath o'r blaen. Gweithgar a dedwydd yw y gweinidog a'r bobl. Casglwyd yn dda at y ddyled:
j.e>. - ABERCWMBOY.
.e>. ABERCWMBOY. Mae rhai 0 donau'r diwygiad wedi golchi ac yn parhau i olchi dros y lie uchod. Sul i'w gofio i dragwyddoldeb ydyw Rhagfyr 4, 1904, pryd y cato Id ein parchus weinidog (sef Mr. Davies, Bethlehem), y fraint o dderbyn gy- mundeb yr eglwys rhwng gwrand iw/r a gwrthgilwyr, 94 0 eneidiau ac mae ugain neu ragor yn y gyfeillacn yn sef/H am aelodaeth. Hefyd, Tiid- JIT y bcc.) ddwyr yn ol o brofi dynab.v.idau v mae llawer wedi ymuno a hw) nt. Tcimlwn yma nad yw hi cto end dcchreu gwawrio." Ein dymuniad yw, Cerdd yn mla'n, nefol dan." C.
Advertising
El H 00000000000000000000000000 00000000000000000000000E0B 0 i 11 Lenor ■« BregethwrnJduu^wdrTn^ygw«ny^Ifrni 1 0 000300000000000000000000 ROL-L TOP DESK. Nis gellwch|| 0 000000000000000000000000 ddewis anrheg mwy pwrpasol. Q 0 8 a Ð 0 0 0 Os gellwch ymweled a!n Maelfa, cewch yno STOC FAWR ac am- G rywiol; ac os na fedrwch, bydd yn bleser genym ddanfon catalogue a Q manylion llawn, gyda'r post. □ 0 B 0 £ 3 QQQElQQE100QQQQ0naG0QE]000BQ00 00 00000E10OE)00B0BQQQ000a0i3 0 B j G B B 8 o E3 8 B □ □BHHOQBOQBQQQQOOQBQQSOGQOOQQQQQElQElQSQQElElElClSDBQQQQBHg El 11 [a 0 I EDDERSHAW A1 FAB, I 2 HIGH STREET, ABERTAWE. 1 æ a a 3 SEaQa0G000Qa0QQQCD[3Ell3000Q0000 0000000000000aQ[3!a0H13[3I30at33 QaaBB0000000a000000013S0BB000B0Q00QQ0QQBBQBQiaaQEiaB0SE113