Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Nodiadau.

News
Cite
Share

Nodiadau. Gan Ap y Frenni. Y mae tan y diwygiad yn ymledu drwy siroedd Gorllewinol y De. Mae wedi, cyrhaedd St. Clears. "Diolch Iddo Mae yn sain can a moliant yma bob nos hyd ddeg ac unarddeg o'r gloch a'r anhawsder gyda Ilawer yw ymadael wedyn. A'r hyn sydd wir am yr ardal hon, sydd wir am lawer ardal arall yn Siroedd Penfro, Aberteifi, a Chaerfyrddin. Yr ydym ar hyd yr wythnosau diweddaf wedi bod yn myned allan i gyfarfod y llanw, drwy weddiau dirgel a chyhoeddus, a dyhead calon am deimlo yn y tiriogaethau hyn yr hyn sydd yn ffaith mewn rhanau o Forganwg a rhai lleoedd eraill er ys ychydig wythnosau bellach. A myned allan i gyfarfod y llanw yr oeddem. Deuem ar brydiau i gyffyrddiad a folaen y don, a gwelem fod y llanw yn dod i mewn. Mewn ffordd bur ryfedd y daw y llanw i mewn yn naturiol. I'r sawl na wyr ei amser, mor anhawdd yw gwybod oddi wrth ddylifiad y tonau yn ol a blaen dros wyneb y tywod, pa un ai dod i mewn ai myned allan y mae. Hyd yn nod pan y mae yn ddiamheuol yn dod i mewn, teifl rai tonau yn bellach na'u gilydd. Nid yw pob ton yn ymdaflu yn belach na'r un flaenorol. Fel yna buom ninau am nosweithiau yn amheu a'i gorlifiad y llanw dwyfol oedd y profiadau eithriadol uchel a gaem ar brydiau, gan na chodai y teimladau yn llawn mor uchel feallai yn yr oedfa nesaf. Ond erbyn hyn, nid oes am- heuaeth nad ydym wedi cael llawn brofiad o'r cyffro mawr syd dyn y wlad. Yn wir, mae yn llawn Ilanw ambell noson a phe gofynai rhyw amheuwr genyf i brofi hyny, cyfeiriwn ei sylw at hen lestri a ryddheir, oeddynt wedi suddo, rai o honynt, yn y Ilaid a'r tywod er yr degau o flynyddoedd, ac ambell un yn wir heb ei symud gan don erioed. Chwareuai llu o ddynion iueainc ar y tywod,—y bel droed, etc. a daethai y llanw i mewn nes eu gwlychu drwyddynt, a gwaeddent yn ddolefus am newid dillad. Ca'r dillad chwareu fyned am byth. Ydyw, beR- digedig fo Duw! y mae Diwygiad '04 yn ffaith yn y siroedd tawel, digyffro, os nad oeraidd ar brydiau ,a nodais uchod. Yn Sir Aberteifi, o ran hyny, ei ganed. Daw yn 01, fel Evan Roberts ei hun, am dro i'w enedigol fro. Arosed yma'n hir. Gallwn, bellach, yn y Gorllewinbarth yma son am oedfaon byth-gofiadwy. Pe darfyddai y cyffroad heddyw, bydd tyrfa o bobl sydd ieuainc yn awr, yn adrodd yn mhen haner cant a thriugain mlynedd am Ddiwygiad 1904, fel peth y maent wedi ei brofi drostynt eu hunain. Nos Fawrth, Rhagfyr 20, y torodd yr argaeau yn y cylch neillduol yr wvf fi yn 'troi ynddo, yn Llan- ddowror. Cyfarfod unol oedd, agored i'r holl enwadau. Cawsom Ie da yn y prydnawn. Yr oedd pawb yn teimlo yn weddol gynes, ac wrth eu bodd. Tra yr ai y merched a'r gwragedd allan i gael te, arosodd y gwyr a'r gweision ar ol i weddio. Yna dychwelodd y benywod, ac aeth y gwrywod allan i gael te. Erbyn hyn yr oedd bron yn amser eto i ddechreu oedfa yr hwyr. Yr oedd y capel yn llawn. Aed yn mlaen am tua awr a haner, feallai, heb fod dim yn arbenig iawn yn digwydd yn wahanol i'r prydnawn; ond eodai'r: llanw yn gyflymach dipyn. Dechreu- odd y gwreichion tan ddisgyn yn awr, -i mi gael newid y ffigwr-gyda'r cyf- newidiad mawr adaeth dros yr oedfa. Torodd gwr ieuanc allan i weddio yn gyhoeddus, na chlywyd ef yn gwneud dim ond canu yn gyhoeddus erioed. Gyda'i fod ef yn gorphen ei weddi fer, semi, wefreiddiol, ddifrifol, dyma bedwar ger bron gorsedd gras gyda'u gilydd, yn wyr a gwragedd-cyfeillion mynwesol y gwr ieuanc. A dyna hi yn awr yn folianu drwy'r lie am ddwy awr arall. Gwelid ambell hen wrth- filiwr yn sypyn bach yn nghongl y sedd yn foddfa o ddagrau. Siarada y rhai oedd yn bresenol am yr oedfa hon tra y cofiant ddim. Teyrnasai math o arswyd melus drwy y lie. Fel y dy- wedai un brawd ar ei ddeulin nos Wener: Arglwydd mawr, fe gawsom ein dychrynu nos Fawrth! O! fe'n llanwyd ag ofn sanctaidd nos Fawrth!" Ymleda'r tan i gyfeiriad y Gorllewin. Aed dros Gymru oil a'r byd yn lan. Ysgrifenaf y nodiadau hyn yn Nghadle. Treulia "Tawelfryn" a minau Sul a Llun y Nadolig yma. Cawn siarad ychydig yn ein tro ond y mae yr holl bobl ar dan yn cadw gwyl i'r Arglwydd. Hen ac ieuainc yn barod i weddio, y canu yn gynes, a'r dyblu a threblu y gan yn ddiddiwedd bron. Y mae pob oedfa yn gyfuniad o gyfarfodydd pregethu, gweddio, a chyfeillach, a chymanfa ganu yn y fargen. Y mae Mr. Davies ar ei uchelfanau, wrth reswm. Yn sicr, y mae yma deimladau angerddol, ac y mae y canlyniadau yn fendigedig. Daw gwrandawyr a gwrthgilwyr i mewn i'r eglwysi wrth yr ugeiniau. Y mae gorymdaith yn awr ar gychwyn cerdded drwy y lie, dan ganu a siarad a gweddio ar gonglau yr heolydd. Sain can a moliant sy'n llanw'r holl wlad.

» YR EGLWYSI CYMREIG YN LLUNDAIN.

Mr. Albert Spicer, Y.H., a…

[No title]

Y Cadfridog Booth ar yr Aelwyd

[No title]

... AELODAETH GREFYDDOL YN…