Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Cyd-bwyllgor Addysg Anghydffurfwyr…
Cyd-bwyllgor Addysg Anghyd- ffurfwyr Mon ac Arfon. At Undeb yr Annihjnwyr Cymreig. ANWYL FpoDTR,—Teimlwn fod dyg- wyddiadau diweddar yn y byd gwleid- yddol ac Eglwysig yn galw ar Anghyd- fturfwyr y deyrnas i fod yn effro i'r per- yglon sydd yn eu bygwtfi o wahanol gyfeiriadau. Mae honiadau y Pab o Rufain, yr ymosodiad a wnaed ar ein hegwyddorion a'n buddianau yn y Mesur Addysg diweddar, yn nghyd a'r hyn a 'Wyddys am fwriadau yr adran a adwaenir fel Y Blaid Eglwysig yn y Senedd, ac arwyddion digamsyniol ereill, yn aw- grymu fod argyfwng yn agoshau pan y gosodir prawf adnewyddol, ac o bosibl, chwerw,ar ymlyniad Anghydffurfwyr i'w hegwyddorion. Os ydym i fod yn ffydd- lon i draddodiadau y tadau, rhaid i ni nid yn unig fod yn barod pan ddel dydd y prawf, ond rhaid i ni hefyd benderfynu Swiveud yr hyn a elwir yn gydwybod YIllneillduol" yn elfen fyw yn mywyd cjhoeddus ein gwlad. Profodd helynt y Mesur Addysg eleni, ar fod teimlad Cymru yn iach ar y cwes- thvn, na feddem fel Ymneillduwyr un- rhyw gyfundrefn sefydlog na moddion arall digonol i roi mynegiant unol ac eff- eithiol i'n syniadau gwahaniaethol ni fel Anghydffurfwyr ar hwn nac unrhyw Swestiwn cyhoeddus arall fyddai yn hawlio sylw buan neu gydweithrediad trainns. Llwyddasom yn Siroedd Mon Arfon i sefydlu ar fyr rybudd Bwyll- got a gynrychiolai i gryn raddau y fcsdwar Enwad, a chredwn ddarfod i'r ^Wyllgor, yn yr ymgyrch yn erbyn y ^lesur Addysg, gyflawnu gwaith sydd yn **°Uol gyfiawnbau y inesurau a gymer- WYd i sicrhau cydweithrediad yr Enwad- 8.11. Heblaw yr hyn a wnaed yn y wlad, ^fodd Dirprwyaetli o'r Pwyllgor hwn ^erbyniad parod a serchog gan yr ^odau Cymreig yn y Senedd, a chaf- ed cydymgynghoriad rhwng ein cyn- ^hiolvvyr Seneddol a chynrychiolwyr ^^Urdodedig yr Enwadau ar f any lion ea11l' oedd yn ymwneud yn union- tChola'n bnddianaufel Ymneillduwyr. )tla ty-b. Y rhagolwg am y dyfodol, prin y wiVfxx y gellir gosod gormod pwys ar y ^tais a enillwyd felly. Eithr nis gallai ? %>rwyaeth|ni,^er ei bod ond odid yn barn] gyffredin Ymneilldu. Cymru, siarad gydag awdurdod ond ^°8 ddwy yn unig allan o dair sir ar I ^ywysogaeth. Nid ydym yn W • rhwystr 1 anorfod i sicrhau Ogoj a a^ai roddi datganiad swydd- unol Ymneillduaeth Cymru; a J" cy%w drefniant a datganiad ^j^hrisiadwy a thra effeithiol mewn vTiA .r8yfwng' cyffelyb, fel y profwyd -Udirprwyaeth ranol hon. ADtur- iwn ddweyd pe y bodolai trefniant o'r > fath yn yr adeg y pasiwyd y Mesur Addysg Ganolraddol i Gymru, y buasai'r Ddeddf hono yn rhydd rhag rhai o'r di- ffygion sydd ynddi,-diffygion a gwen- didau y mae ein gelynion eisoes. wedi manteisio arnynt erniwed iachos addysg yn rhai o Siroedd Cymru. Dan ymdeimlad dwfn o'r pethau hyn, anturia ein Pwyllgor apelio at yr Enw- adau yn Nghymru drwy eu Cynullladau Blynyddol i drefnu mesurau a'u galluog- ant i ddwyn oddiamgylch ryw drefniant o'r fath a nodir uchod. Awgrymwn yn barchus i Gynulliadau Blynyddol y Pedwar Enwad, a gwahoddwn hwy, i benodi Pwyllgor Ymgynghoriadol yn cynwys un cynxychiolydd o bob Enwad dros bob Etholaeth Seneddol yn Nghym- ru. Gaily Pwyllgor hwnw, ospenodir ef, benderfynu ar ei ddull ei hun o weithredu yn mheilach nid ydym ni yn cymeryd arnom awgrymu dim yn y cyfeiriad h,A nw, gan ddewis yn hytrach adael yn gyfangwbl i ddoethineb y Pwyllgor ei hun pan pan gyferfydd i benderfynu ar y mesurau mwyaf effeithiol i gyrhaedd yr amean mewn golwg. Eithr awgrym- wn, os y penodir cynrychiolwyr felly gan eich Undeb chwi,—fel yr hyderwn y gwneir,-y bydd i chwi ar yr un pryd benodi hefyd Gynullydd i'ch adran chwi o'r Pwyllgor; gall Oynullwyr y Pedwar Enwad wedi hyny ymgynghori a'u gilydd yn nghylch y lie a'r amser i alw'r holl Bwyllgor yn nghyd. Gan hyderu y cymeradwyir y syniad gan eich Undeb, ac y bydd i hyny esgor yn ystod y flwyddyn hon ar gynllun o weithrediad a all ac a wna yn y Senedd dymor nesaf, yn ogystal ag mewn cylch- oedd ereill, ddylanwadu er Iles ein budd- ianau cyffredin fel Ymneillduwyr Cym- reig.—Ydym, anwyl frodyr, yr eiddoch yn gywir, EVAN JONES (M.C.), Cadeirydd y Pwyllgor Uarpariadol); OWEN DAYIES, D.D. (B.), Cadeirydd y Pwyllgor Gweithiol; J. HENRY THOMAS (W,), Trysorydd BERUJI G. Ev ANS (A.), Ysg. Carnarfon, Gorph. 15, 1896.
. Bwrdd y Golygydd.
Bwrdd y Golygydd. Neuaddlwyd Anerchiadau a Phregethau a draddodwyd ar Ebrill 6, 1896, yn nathliad Trydedd Jiwbili Cychwyuiad yr Achos, a Chanmlwydd Sefydliad y diweddar Ddr Phillips, fel Gweinidog Neuaddlwyd. Pris 6c. I'w gaelgan y Parch. T. Gwilym' Evans, Aberawron, Darllenais hwn bob gair a sillaf y tu mewn a'r tu allan cyn ei ddcdi o'm llavr. Rhaid cael llyfr byw iawn i deyrnasu arnaf felly. Dylai y llyfr hwn fod yn nwylaw pob Anni- bynwr Cymreig, a byddai yr un mor llesiol i bob Ymneillduwr Cymreig. Ymdrechion Ymneillduaeth yo Sir Aberipifl, yn ol hanes Neuaddlwyd, yw baich y llyfr, fel y gwelir wrth y teatanau-Aunibyniaeth yn Nghyf- undeb Ceredigion yn y Canrif presenol Adgofion am NenaddIwyd-Y Parch. Thos. Phillips, D.D.—Dylanwad Eglwys Neuadd- lwyd ac y Wlad—Dylau^wad Neuaddlwyd ar y Maes Cenhadol—Peryglon Y m neillduaeth —Ein Rhwymedigaeth i fod yn ffyddlawn i Egwyddoriun y Tadau. Yna ceir dwy bre- etli rag geth ragorol gan 0. R. Owen, Glandwr, a B. Davies, Trelech. Pennodwyd ar bersonau cymmwys i draethu ar y pynciau uchod, a gwnaeth pob un ei ran ya deilwng, a rhai o hocynt yn anarferol o dda. Hefyd, ceir dar- luniau o'r Bybarch William Evans, Aber- aeron ac o'i gyd-weinidog, y Parch. T. Gwilym Evana ac o'r cenadwr cyntaf i Madagasgar—y Parch. D. Jones. Dywedaf eto y dylid gwneud ymdrech anarferol i sicrhan lledaeniad anarferol i'r llyfr coffad- wriaethol hwn. Hanes Iesu Grist i'r Plant. Rhan II. Pris Dwy Geiniog. Gan v Parch. J. Grawys Jones, Ebenezer, Aberdar. Hanos y Gwaredwr yn ystod carchariad loan Fedyddiwr yw hwn eto-yr un cyfnod ag sydd yn llyfr Mr Thomas, Soar, Merthyr. Parotoed y naill a'r llall ar gyfer Arholiad Y sgolion Sabbothol yr Annibynwyr yn Mor- ganwg. At y dosbarth hynaf y mae Ilyfr Mr Thomas, ac at y plant y mae Ilyfr Mr Jones a phob un yn ei drefn ei hun. Cyfoethogir y ddau waith ag arluoiau pwrpasol—dyna'r ffordd unionaf i argraffu geithiau ar y cof, yn enwedig ar gof y plant. Mae Mr Jones, drwy el barch dwfn i'r G wared wr, yn gochel y tra-mynychiad arferol o'r enwau Iesu Grist," gan arfer yn unig y gair "Jesn am dano ond gallasai yntau wneuthur yn well drwy ddodi y fannod y o'i flaen—yr lesn. Felly y gwnelai yr Efengylwyr i wahan- iaethu rhyngddo a phob Iesu arall. Enw priodol tra chvffredin yn mysg yr luddewon oedd Iesu neu Josua. Gofalent hwythau ddodi ho Iesous am y Gwaredwr—yr Iesu. Dyaoda hyn ar un waith nad rhy-w Iesu o'r 11u a ddjgent yr enw hwnw oedd yr Iesu, yr unig un a gyflawnodd holl ystyr yr enw. Yr un modd y dywedai'r Efengylwyr ho Christos -y Crist. Wrth ei swyddau bendigedig y mynent hwy son am dano. Hdwyddoreg Byr at wasanaeth Ysgolion Sabbothol yr Annibynwyr, gan J. Hilton Stowell, M.A., cyhoeddedig gan Gwmni'r Wasg Genedlaethol Gymreig, Cyf., Caer- narfon. Pris Ceiniog-. Rhoddir telerau neillduol i Ysgolion Sabbothol. Dyma un o'r llyfrynau bychain llawnaf a welsom eto. Byddai yn hawdd i'n plant ddysgu hwn yn gwbl ar eu cof, a byddai ganddynt gynnysgaefch dda o wybodaeth wir fuddiol. Cais gryrnus yw hwn atadfer yr Holwyddoreg i arferied eto yn ein teuluoedd fel yn y dyddian gynt. Credwn y rhaid dychwelyd cyn hir at y Catecism yn addysg- iad ein plant. Yr Ysbryd Plan. Traithawd gan y Parch. D. Wynne Evans, Llanelli. Darllenwyd y papyr hwn mewn Cynadledd Chwarterol yn Capel Als yn Cbwefror diweddaf, a chyhoeddwyd ef ar gais y Gynnadledd. Traithawd da. y<?yw ar bob cyfrif. Trinia gwmpas mawr o dduwinyddiaeth mewn ych- ydig o Ie. Mae yma ol darlien eang, ond y mae wedi ei ferwi i lawr i ffurf hynod o syml a dealladwy. Trinia y pwno yn dde- heuig. a meistrolgar yn ei berthynas a'r Trindoll dan y tri pennawd hyn —I. Fod yr Ysbryd Glan yn Berson Dwyfol. II. Fod gan yr Ysbryd Glan Weinidogaeth Bersonol yn ystod yr Oruchwvliaeth hoR. III. Fod Mesur Helaethach o'r Ysbryd Glan, nag y mae Credinwyr yn gyffredin yn ei gael, yn Addawedig ac yn Bosibl iddynt yn ystod yr Oruchwyliaeth hon. Dan y pen olaf y mae'r gweithiad allan yn gymhellol a chyffroas. Yma gwelir y credwr crjf, heb yr hwn nht., gellir gwneud daioni. BHu geo)f orfod dangos un gwali pwsig mewn traithawd mor dda Gan mai dim ond dau ryw, yr wrrywaidd a'r fenywaidd, sydd genyra yn y Gymraeg, nid yw nerth a gwerth y gwreiddiol yn dyfoi i'r golwg eystaL. ao y mae yn deilwng o sylw mai nid y canolryw, i ddynodi rhywbeth difywyd, a ddef- nyddiodd ein Harglwydd i osod allan yr Yabryd Glan; eithr defnyddiodd yr wrrywaidd i ddy- nodi Person byw. Nid y neuter. 'it,' ond y masculine, He, Him, His (tud. 4). Y gwirionedd yw mai yny ganolryw y soiiir, am yr Yabryd Glan bob amser. Cymerwn y He a nodir gan Mr Evatis (Ir>an xiv-xvi), a. chawn ho Pater (y Tad), ho Iluios (y Mab), y ddau yn y rhyw wrrywaidd. Yna to, Pneuma, (yr Ysbryd) yn y ganolryw-y neu- ter gender). "Ysbryd y gwirionedd, yr hyn- (neuter) ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled ef (auto, neuter) nac yu ei adnabod ef (auto, neuter), ond chwi a'i hadwaenoch ef (auto, neuter)." Dan yt* enw Ysbryd, canolryw ydyw; dan yr enw Dydd- anydd, gwrrywaidd ydyw. a cheir v ddau yn yr un adnod (loan xv. 26) Eithr pan ddel y Dvddanydd (ho Parakletos, gwrryw- aidd) a anfonaf ti i ch wi odJiwrth y Tad (sef Yysbryd y gwirionedd, yr hyc (neuter) sydd yn deilliaw oddiwrth y Tad) tie (eheinos, gwrrywaidd) a dystiolaetha am danaf fi. Gwall cof oedd hyn, ac nid yw yn gwanychu nac yn cynnorthwyo ymresyraiad y brawd Evans ar bersonoliaeth yr Ysbryd Glan. Ffrwyth brys oedd y tarn aid rheswm gau hwn.
Y BICYCLE.
Y BICYCLE. Clywais fod Papur Paivb yn cynyg gwobr i'r neb a ddyfeisio yr enw mwyaf llithrig a hylaw yn y Gymraeg am y Bicycle. Olwyn- farch" yw ffafryn Baner Gymru, ond ni chaiff hwnw byth mp'r wobr. Deugylch I. yw yr enw a gynygir gan yr efrydydd Cym- reig i-iewydd-y Dr Goodall, Pennaeth y Gwallgofdy, Caerfyrddin. r' Rhaid iddo yntau sefyll i lawr y tro hwn. Nid cylch yw olwyn, ac nid cylchau yw olwynion. Rhaidcael gwell as byn. Mae genyf yr hyfrydwch o gynyg enw newydd spon- Bicycle—Dtvyrod. Rhod yw wheel yn iaith Deheudir Cymru. Y Gogieddwyr bia yr olwyn am wheel Rhod yw hen airy Deheuwyr, Y mae dwyrod, gan hyny, yn gytiaith llythyrenol i'r gair bicycle. A gellir berf hwylus o hono. Cycling neu wheeling^ yw y ferf gan y Saesou, gan adu allan y bi—dwy. Yna dyweder Rhoda am cycling, Rhodydd am cyclist; Rhodent i mewn i'r dref, am they wheeled into town. Gofaler rhag cymysgu Rhoda a Rhodio. Myned oddiamgylch yw rhodio, ond gyrru olwyn yw rhoda. Cydrodient, they went about together. Cydrodent, they wheeled (cycled) together. Rhodau, wheels. A'r nn modd bydd Teirrod yn air cywir am Tricycle. Yn awr, yr wyf yn hawlio y wobr am dwyrod fel y gair hwylusaf a pherffeishiaf am bicycle. Ac os bydd Papur Pawb yn ei farnu yn oreu o ddigon, yr wyf yn gorchy- myn i'r awdurdodau hyny anfon y wobr yn gyfan i'r Parchedig Dan Evans, Cwmavon, Port Talbot. Ganddoef y cefais yrawgryJn cyntaf am Dwyrod. ■■ ♦
Bryn, Llanelli.
Bryn, Llanelli. Y Sabbath diweddaf bu yr efeng-ylvr melus o Wrexham—Dr. Roberts—yn pre- gethu yn nghapel y Bryn fore a hwyr. Mae y Dr. wedi heneiddio llawer er pan y gwel- som ac y clywsom ef ddiweddaf, ond yr oedd yn dda gan ugeiniau ei weled unwaith eta. Er fod ei lais treiddgar wedi eolli llawer o'i BWyn, dangosai ei bregethau fod ei feddwl yn fyw iawn, er ei oedran mawr.