Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

COLOFN Y CLEGION.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

COLOFN Y CLEGION. -Er y llu o gvdymgeiswyr a ddaethant i'r maes, er ymridanuosiad y Geninen, mae yn glod i'w Golygydd diflin hi ei bod yn parhau i ddal ei thir; end Did clod i ni fel cenedl fyddai peid o cefnogi y fath drysorfa o lenyddiaeth bur aChymreig. Yr otdd D. S. D. yn rhy rywbeth i beidio a chyfeirio at ei ysgrif ei bun, ar S. R. pan yn adolygu Ceninen Gorphenaf; ond bydded hys- bys i bawh fod ganddo y fath ysgrif, a'i bod yn dangos D. S. D. ar ei oreu. -Da genvm ddeall fod Ocwtwcw Eistsdd" fodol" arall i gael ei ehy boeddi yn fuan, yo yr hon y ceir darnau gwobrwyedig a chanmoledig mewn gwahanol gystadlenaethau pwysig. Os bydd yn debvg i'r gyfrol olaf a gyhoeddwyd o'r gyfres hon, bydd yn sicr o gael ei darllen gydag awch. Gresj n na fyddai modd perswadio cio hieuenctyd i ddarllen llyfrau fel hyn yn Ile-fel y gwna Ilawer o honynt-dreulio eu horiau hamdrienol i gicio gwynt. -Yr wythnos ddiweddaf bu y Ffrancwyr svdd yn trigo yn Mangor yn dathla coffadwriaeth y ehwvldroad yn Ffrainc. -Er cymaint o dywallt gwaed fu y pryd hyny, cyfeiria y Ffrancwr ato gyda boddhad mawr fel toriad gwawr dydd rhyddid en gwlad a'rwerin oddiwrth iau gorthrymus y bendefigaeth. -Gwers bwysig iawn yr etholiad presenol ydyw na fyn Cymru mwyaeh neb i'w cbynrych- ioli ond y rhai a feddant nerth ac yni i ymladd ei brwydrau ar lawr Sant Stephan. —-Pengys y mwyafrif aruthrol gafodd y Rhyddfrydwyr yn Nghymru fod yn y wlad rbagor na phnmp o Ryddfrydwyr ar gyfer bob tri o'r Ceiowariwyr. Tyned pob dyn call ei het a bloeddiad Hwre! -Er mai 196 oedd mwyafrif Mr Lloyd-George yn mwrdeisdrefi Arfon, mae Rhyddfrydwyr y bwrdeisdrefi yo teimlo fod eu buddugohaeth gymaint a aeb yn Nghymru, pan gymerir i ystyriaeth fod boll allu y blaid wrthwynebol wedi ei chydgrynhoi yn erbyn Mr Lloyd-George. Buasai vn well gan y Toriaid golit yn nihob man nacholli yn Sir Gaernarfon, a bnasai yn well gan y Rhyddfrydwyr i'r blaid Rbyddfrydol golli yn y wlaCl, nag i Mr Lloyd-George golli ya y hwrdttisdrefi.. -Braillt fawr i Fwrdeisdrefi Sir Drefaldwyn a Dinbych fyddai cael Mr Limd-George i fyned drwy y gwa/aaol fwrdeisdrefi i oleuo yretholwyr ar wahanol bynciau y dydd, a diau genym y dy- chwelant y cyfleusdra cyntaf Aelodaa Seneddol perthvnol i Cymru Fydd. -Bu i un o Geidwadwyr Caernarfon bleid- leisio dros un oedd wedi marw, a gwnaeth Tori- aid Bangor stori mai Rhyddfrydwr adnabyddus yn Mangor a Chaernarfon a gyhnddid o dros- eddu y gyfraith yn y cyfeiriad hwnw. Mae llawer o Dotiaid Bangor mor anwybodus a dwl fel y credant bobptth bron a hysbysir iddynt. —Awgryroiadol iawn yw'r ffaith mai yn Ysgol Wladwriaethol Llanystumdwy yn unig yr addysg- wyd Mr Lloyd-George, A.S.. gelvn mawr yr Eglwya Sefydledig a gwr y dywedodd Irving am dano He is a born orator." -Erbyn byn mae coiphoraeth Conwy wedi d'od i gydweled a'r diweddar J. R., ac i gydna- bod na cha-ot ddigon o ddwfr o'r "pyllau" eostus a gloddiasant; ant i Lyn Cowlyd gyda phobl Colwyn i gyrchu dwfr. -Cafodd yr ytngeisydd Toriaidd dderbyniad eiaidd vn Mlaenau Festiniog; gresyn nad allai pobl ddangos anghymeradwyaeth i olygiadau dyn heb anniharchu ei berson. -Collodd yr Archentiaid long ryfel ar lanau Urneaay ac ofnir fod 70 o ddypion wedi boddi -H sbvswyd yr eglwys yn nghwrdd ymadawol y P-nch. Newman Hall fod Mr Meyer, y Bed- yddiwr, wedi derbyn yr alwad i fod yn olynydd iddo ar y dealltwriaetb ea bod yn gosod bedydd- giht yn y capel; rhoes Mr Hall y 200p a dder- byniaeai wrth ymadael at brynu y gyfryw gist ddwfr. —Ymddengya nad yw Mr Vincent Evans am ddwyn peohodau y Cymmrodorion oil ei hunan ond myn i echwynwr wysio Cymmrodwyr eraill hefyd, i d«la dyled y gymdeithas. —iNid oea obaith medd Syr John Harwood y gellir agor Camlas Manceinion cyn lonawr, 1894. -Hen Wlad y Menyg Gwynion am byth! Cafodd y Barnwr Matthew bar o fenyg yn N ghaernarfon ddydd Mercher. -Ood nid yw hyn yn profi fod pawb hyd yn nod vn MwrdeiBdrefi Arfon yu onest. Dywed y Rhyddfrydwyr ddarfod i'r addewidioa a gawsant beri iddynt feddwl y caent 800 o fwyafrif a dywed y Toriaid y dvsgwslient 1 000. —Derbyniodd y Parch. R. Si»howy Jones alwad o Eglwys Anibynol gyntaf Ebeusburgh. -Dywedir i un yn ngwiag pregethwr fyn'd i siop yn Nghastellnewydd Emlyn a gofyn "Beth yw pris yr ysgaden ?" Pan atebodd y siopwraig ef, arcbodd hi i anfon tunell i'w dy. Rhaid fod dyn a wnai hyn un ai yn uiethu gwybod beth oed I digon nen wedi "cael gormod." —Parch. E. Aeron Jones yw cadeirydd yr Undeb Cynulleidfaol Cymreig am y flwyddvn. -Hawliai aelod o eglwys Doethawr Duwin- yddol ragoriaeth ei weinidog ef yn rhinwedd ei D.D. ar weinidog di-deitl ei gyfaill. 4k O mae gan ein gweinidog ni deitl hefyd," atebai hwnw. "I Beth ydyw P" D.V. fe welais hysbjsiad fel hvn y dydd arall, Bydd Mr D.V., yn pregetbu yn y lie hwn y Sul nesaf." Yn ifritb pregethwr Wesle' gellir dyweud i gyfaill y ) D.D. deimlo ei fodaeth yn diflanu.

BYRION.

Advertising