Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

-... NEWYDOION CYMREIG.

News
Cite
Share

NEWYDOION CYMREIG. ASCMAXRORD, CAKRPYRDDIN.—Cymdeithas Len- lIddoly Gwynfryn.—Nos Wener, Medi lleg, cynhal- iodd y gymdeithas honei chyfarfod wythnosol arferol. Llywyddwyd y noson hon yn ddeheuig a ineiatrolgar gan Mr J J Prichard, Talybout. Y pwnc dadl am y noson oedd, A ydyw Deddf Cau y Tafarndai yn Nghymru wedi profi yn fethiant." Agorwyd y ddadl gan Mri T B Morgan a J J Davies, y naill o blaid y ddeddf a'r llall yn ei herbyn. Yna cafwyd dadleu bywiog ar y pwnc a chafwyd mwy- afrif o'i phlaid. Nos Wener, Medi 25am, cafwyd ychydig o gyfnewidiad yn y gweithrediadau trwy gael papur gan em hathraw, clasurol T Williams, B A., o dan y penawd, "Ychydig ddyfyniadau o'r awduron Groegaidd." Yr oedd yn bapur da ac yn dangos yn amlwg fod yr awdwr yn liyddysg iawn yn ngweithian yr awduron clasurol, yn meddu ar alia beirniadol da, a medr i ddyfynn i bwrpas. Siaradwyd ar ei ol gan bron yr oil o'r myfyrwyr oeddynt yn bresenol, a chan y Parch D D Hopkins (B), Pontardulais, yr hwn oedd wedi tala ymweliad a ni fel cymdeithas. Llywyddwyd y noson hon gan Mr D Oliver Davies, Llanelli, gan yr hwn y calwydamli air pwrpasol iawn yn ystod y cyfarfod, ac nid oedd hyny ond yr hyn a ddisgwyl- iem oddiwrth Mr Davies, oblegidy mae wedi enill hynodrwydd a pharch mawr a cbyffredinol yn mblith ei gydfyfyrwyr fel bacbgen o alluoedd medd- ytifi cryfion, o gymeriad pur difry clieulyd, ae o ym- ddygiadau boneddigaidd a choeth ac yn cael edrych arno gan y rhan fwyaf o honynt fel esiampl o'r hyu ddylai myfyriwr gweinidogaethol fod. Cyfarfod Dirwestol.—Nss Fercher, 23ain cynfisol, cafwyd ar- aeth ddirwestel yn addoldy Anibynol y "Demi Gristionogol," gan yr efengylydd enwog Pnrch J Pugh, Caerdydd. Llywyddwyd gan Mr G Elias, yr Ihwn a draethai lawer o eirian pwrpasol ar y pwnc. Cafwyd araeth hyawdl a thanllyd gan Mr Pugh, a gobeithiwn ei fod wedi llwyddo i roddi ysbryd new- ydd yn y dirwestwyr oeddynt yn bresenol, oblegid yr ydym yn ofni nad oedd yno ryw lawer o'r rhai byny ydarperir cyfarfodydd o'r fath ar eu cyfer yn bresenol fel y mae yn digwydd yn gyffredin yn nghyfarfodydd dirwestol y dyddiau hyn, ond er hyny I yr oedd yn bresenoi lawer, efallai, o gymedrolwyr, a gobeithiwn fod y dylanwad er da ar y rhai hyny. Y mae gwfcith mawr gan ddirwest l'w wneud yn Ajnman ford, ond angen mawr y lle ydyw arweinydd dirwestol, oblegid y mae yma ddigon o weithwyr yn barod yn mhlith myfyrwyr y Gwynfryn ac ereill pe caehj; le i weithio, a rhywuu i'w barwain. Gobeith- iwn ybydd y cyfarfod hwn yn nghyd a'r cyfarfod- ydd ardderchog a gafwyd yn JJandilo y n symbyliad newydd i'r gwnith yn y lie a'r cylch.—Goh. BANGOR.—Gwyl Croesawitd.—Nos Lun, Hydref 5ed, yn ysgoldy Ebenezer, Bangor, bu eryn ymloni. Y Sabboth blaenorol dechreuai y gweinidog newydd ar ei waith, a nos Lun, cyfarfyddwyd ef a'i briod yn yr ysgoldy, y pryd a'r lie y caed eryn hwyl. Yr oedd pwyllgor o chwiorydd wedi ei benodiers ychydig amser i wneyd y parotoadau angenrheidiol ar gyfer yr wyl croesawu, a phofodd yr wyl mai da y gwnaethant eu gwaith. Agorwyd yr ystafell am haner awr wedi pump er fod rhai wedi bod yno ar hyd y dydd yn parotoi. Daeth lluaws yn nghyd ar yr awr gynar hono. Yr oedd yr ystafell wedi ei threfnu yn hynod gyfleus i'r perwyl; gosodwyd yn y canol eisteddleoedd bob yn ddwy res, wyneb yn wyneb, yn awgrymu beth a ddisgwylid i'r rhai a eisteddent arnynt wneyd. Yr oedd dan ystlysfwrdd, un o bob tu, yn gruddfan dan bwysau amrywidl fwydydd. Daeth j Parch Ellis Jones a Mrs Jones i'r golwg yn gynar a llonid hwy yn fawr wrth weled yr olygfa harddwych. Yn fuan dechreu- ai aelodau a gwrandawyr Ebenezer ddylifo yno nes oedd yr ystafell yn Ilenwi. Ymddiddanai pawb am y pethau mwyaf a garent a deuent yn lionach wrth ymddiddan nes oedd y dyrfa dryfrith fel maes o feillion yn gwenu ar eu gilydd a Mr Jones fel haul yo gwenu &r y cwbl. Trefnai Mr J. A. Williams, y Garth, yn ddebeuig iawn y cantorioa a'r cantoresau y rhai o bryd i bryd, a ddadganent ddarouu swynol a da. Yn mhlitb eraill canodd Miss Brereton" Rest in the Lor# a Miss M J Edwards Yr Tsgol yn y wlad yn dda iawn iawn. Tua'r diwedd cafwyd anerchiad gan Mr LDJ ones. Garth, i gyflwyno y gweinidog newydd i sylw y gwyddfodolion. Sylwai fod Mr Ellis Jones wedi symud o faes hapus yn Nghonwy, a hyderai y byddai yr unmor hapus yn Mangor. Deallid fod y brodyr yn Nghonwy yn teimlo yn fliotcedig, a braidd yn ddig o herwydd colli Mr Jones, ond mai mwy canmoladwy i was yw fud ei feistr vi digio wrtho sit fyn'd o'i le na digio am nad ai. iamen pan el y cwmwl heibio y gwel cyfeillion Conwy mai o dde y mae yr olwyn yn troi. Sylwai tefyd fod Mr Jones wedi dod at un o'r eglwysi hynaf yn y air. ac na o'r rhai mwyaf teyrngarol i'w gweinidog yn Nghymru. Yr oedd maes ei hanes yn faes gwaed, a gellid ei galw heddyw yn arwrea brwydrau lawer. Un cysur yn wyneb hyn oedd nad oedd Ebenezer erioed wedi ymladd ond a'r hyn oedd dlrwsf, ac o angenrheidrwyddwedigorchfygu, ac nid oedd eisieu i Mr Jones bryderu, tra byddai yn ymladd dros yr hyn sydd dda, na chai gefnog- aeth unol a cbalonog yr eglwys. Or ochr arall sylwai mai y ffordd fwyaf effeithiol i'r eglwys i wasanaÐthu ei hnn a llwyddo oedd drwy gynor- thwyo ei gweinidog, ae os byth yr a'i i ddechreu rhwystro a drygu y gweinidog na byddai ei hangau yn mhell y pryd hyny. Yna cafwyd anerchiad tarawiadol gan y Parch Ellis Jones. Dywedai ei fodyn gadael eglwys ag yr oedd iddo gyfeillion ffyddlawn ag an wyl, mai gwaith anhawddiawn oedd tori cysylltiad felly ac nas gallodd ei wneud heb fisoedd o ymdrech. Os bai eedd, yna ar eglwys Ebenezer yr oedd y bai, o herwydd na wnaeth efe gymaint a chodi bys bach erioed i wahodd galwad, ond i'r hyn a wnaed gael ei wneud yn hollol anni- bynol arno ef ao anwybyddua iddo, ac nis gallodd wneud ei feddwl i fyny heb lawer o bcyder. Eto tybiai nad oedd ganddo lawer o le i feio ei hun am yr hyn a wnaeth, a chredai na byddai i'r brodyr anwyl yn Nghonwy ddal i'w feio yn hir. Teimlai ei fod yn symud i afael cyfleusderau newyddion ac i faes llafur eangacb, a bwriadai wneud ei oreu i lenwi ei gylch newydd. Ni honai y gallu i wneud gwyrthiau, ond bwriadai wneud y defnydd gcreu o'r gallu oedd ganddo. Yr oedd wedi ei osod yn nod o'i flaen, i symud hyny o ddyled oedd yn aros ar yr ystafell hono, so i wneud hyny oeddyn ei allu i lenwi y capel. Ni wnai, fodd bynag, byth ym- ostwng i broselytio, ac nid oedd yn cymerad- wyo y gwaith hwnw pwy bynag a'i gwnai, ond hyderai drwy nerth cefnogaeth a dyfalbar- had i allu cryfhau gwersyll Anibyniaeth yn y ddinas. Diolchai am y croesawiad cynes a gawsai Mrs Jones ac yntau y noaon hono a gobeithiai nad oedd ysplander y cyfarfod croesawu hwn yn ddim ond cysgod o'r dedwyddwcb oedd yn arcs yr eglwys ac yntau yn y dyfodol. Ar ol ychydig ymgomio pellach a chan neu ddwy, ymwahanwyd wedi treulio yr hwyrnosmwyaf difyrusa deiml wyd ers tlawer dydd. Ni wiw dechreu enwi y boneddig- eaau gan fod lluaws o honynt a phob un yn haeddu yr un faint o glod a'u gilydd, ac aid bychan yr haeddant hwnw, hwy a wnaethant ea gwaith yn dra chanmoladwy iawn. Nos Fawrth y 8ed, cyfarfu Mr a Mrs Jones blant y Band-of-Hope yn yr ystafell lie y cyfarfyddant. Yr oedd yr ystafell yn llawn o blant a'r plant yn Hawn llonjant. Darparodd y boteddigesau dê a danteithion i'r plant a chawsant awr hapns iawn cyn cyfarfod y Gymanfa Ddirwestol am chwech. Boed llawer o lwyddiant, yn dilyn yr hen eglwysenwog yu Ebenezer ai gweinidog newydd llafurus. CAERFYKDDXN.—YsgolyrHen Goleg.-Y mae y dref henafol hon wedi arfer er's oesau bod yn enwog am sefydliadau a llwyddiant addy&gawl, ond ni fu'r ffaith hon erioed mor eglur yn ei hanes ag yn bresenol., Ac o'r holl sefydliadau addysgol sydd yma, nid oes un wedi gwneud mwy o waith syl- weddol, a ellir alw yn gynydd a llwyddiant, nac Y sgol yr Hen Goleg," a ddygir yn mlaen gan ein cyd-drefwr poblogaidd, Mr Evan Jones, M.A., yn cael ei gynorthwyo gan Mr W. Roberts. Credwn y bydd yn llawenydd ddigymysg gan gyfeillion addysg, yn ogystal a ehyfeillion y dynion ieuainc, i weled y fath restr o enwau rhai llwyddianus yn ngwahanol ganghenau ad/lysg yn ystod y tymhor diweddaf. Paeiwyd y London Matriculation gan Mri W. Roberts, Williams, ac E. Griffiths. V n arholiad diweddaf Prifysgol Aberystwyth, enillodd Mr Evan Griffiths ysgolorisleth o ddeg punt. Pas- iodd y rbai canlynol arholiad y Science and Art mewn Mathematics. Dosbarth cyntaf:— Mri W. E. Morris, T. Rees, T. E. Jones, H. Anthony, J. Davies, D. E. Williams, J. E. Phillips, E Griffith, ac E Williams. Ail ddosbartb :—Mri T. Gower, Hetor Jones, J. Jones, 0. Evans, J. Griffith, J. J. Davies, T. Williams, J. M. Davies, G. Lloyd, D. J. Harries, J. J. Williams, T. B. Stephens, T. D. Wil- liams, Thomas Richards, a Daniel Thomas. Y mae y rbestr uchod yn profi fod gwaith mawr wedi ei wneud, a'r gwaith a wneir yn prophwydo pethau mawr am ddyfodol addysg Cymru. Y mae yn eglur, pa mor gyflym bynag y symuda deddfwraeth addysgol yn mlaen, na fydd eisieu gwthio addysg i lawr cegau y Cymry, ond yn hytrach diwallu eu sycbed parhaus y byddir. Eleni eto, y mae'r gwyliau trosodd, ac fel pawb eraill, y mae'r ysgol hon yn ei llawn hwyliau yn awr yn gwynebu gwaith y flwyddyn. Dymunwn bob rhwyddmeb i Mr Jones a'i dyrfa ysgolbeigion i wneud gwaith y flwyddyn aesaf eto tel arfer, yn glod i addysg Cymru.—Cymrjf Fydd. CiLCBNisr A DIHBWYD —Cymanfa Myfyrwyr Llansawel.—Dydd Sul, y ^7ain cynfisol, cynbaliwyd y gymanfa uchod. Pregethwyd gan y brodyr can- lynol Am ddeg, yn Cilcenm. gan Mr 0 Williams (W), Pwllheli, ac yn Dihewjd^yr un adeg, dechreu- wyd gan Mr T LI Roderick (M.C.), a phregethwyd gan Mr D H Williams (A), Dihewyd, a Mr J Griffiths (B), Clydach Vale. Am ddau, dechreuwyd yr oedfa gan Mr D H Williams (A), a phregethwyd gan Mr J T Phillips (B), Adulum, Pontardawe, a Mr 0 Williams (W), Pwllheli Am chwech, yn Dihewyd, dechreuwyd a. phregethwyd gan Mr TLI Rodrick (M.C.), Llanfynydd; a Mr 0 Williams (W), Pwllheli. Yn Cilcenin, dechreuwyd gan Mr D H Williams a pbregethwyd gan, X-ri J T Phillips a J Griffiths. Cafwyd cymanfa dds. o'i dechreu i'w di- wedd, y. gweision yn en hwyliau goreu. Yr oedd yn amlwg fod y brodyr anwyl hyn wedi bod yn ym- bil a'u Meistr cya d'od allan. Yr oedd y dylanwad yn fawr gyda'r hen hanes; yr hwn oedd yn cael ei draethu gyda nerth mawr. Credwn pe byddai pob pregethwr o'r un yspryd a'r brodyr anwyl hyn y byddem yn sicr o gael adfywiad yn fuan yn y wlad yma. Yn wir y maent yn anrbydedd i'r eglwysi sydd wedi eu codi yn gystal ao i'w hathraw galluog y Parch Jonah Evans. Yr 6edd yma un peth arall i'w edmygu ynddynt i bob pregethwr a brawd, sef eu hanwyldeb at eu gilydd, a'n dymuniad yw par- haed brawdgarweh. yn eich mysg fel myfyrwyr. Ac yr ydym yn dymuno hefyd aim eich clywed yn fuan eto. Cafwyd casgliad rhagordl hefyd, yr hwn oedd yn myned at gynorthwyo y brawd D H Williams at gael ei addysg. Yr oedd y oynulliad yn lluosog, ac yn gwrando gyda bias.— Un oedd yno. CcmwEN.—Darlith.—Nos Lun, yr 21ain eyfilOJ" bu Mr Hvwel Cynon yn traddodi ei ddarlith ar Tanymarian," yn nghapel Anibynwyr Cymreig y lie hwn. Yr oedd yn noson wlyb ac ystormus, ond cafwyd tynulliad da iawn o dan yr amgylchiad. Yn ystod y ddarlith canodd Mr Howell amryw ddarnau yn effeithiol u meistrolgar, A gwasanaeth- wyd ar y, berdonec; yn garedig a medrus gan Mra Salmon, o'r He hwn. Cademwyd yn ddoeth yn absenoldeb y Parch J Williams (M C.), gan Mr H Morris (Rhyddfryn). Oyjarjod pregetnu,— Tranoeth. sef dydd Mawrth, yr 22ain, yn yr un capel, cynhaliwyd cyfarfod pregethu, yn yr hwn y gwasanaethwydgan Mr Hywel Cynon a'r Parchn T T Phillips, B D., Bala, a R Robetts, Rhos. Am 10 pregethwyd gan Mr Roberts, am 2 gan Mr Howell a Mr Phillips, ac am 6 gan Mr Phillips a Mr Roberts. Ni wrandawsem well pregethau, mwy grymus a dylanwadol, nemawr erioed. Yr oedd yn eglur iawn fod ysbryd Duw yn cynhyrfu y gweision i lefaru, ac yn ymwneud yn rymus a medd- yliau a chalonau y gwrandawyr. Yn sicr mae yna ddyfodol dysglaer ac enwogrwydd mawr fel pre- gethwr o flaen Mr Phillips, B.D., Bala. Mae gan- ddo genadwri Ilawn sylwedd at feddwl yn ogystal ag at deimladau a chydwybod y bobl. Dyma nodwedd yr holl bregethwyr ar hyd y dydd.. Hyderwn yr erys dylanwad y cyfarfodydd hyn yn nerth a symbyliad ysbrydol i'r eglwys yn y lie am dymor hir, yr hon sydd yn cael ei nodweddu gan fywyd, ac yn gwisgo agwedd lewyrchus iawn yn bresenol. Dechreuwyd oedfa y boreu gan y Parch D Lloyd (Llwyd o'r Nant), Corwen, a'r oedfa 2 gan Mr William Jones, Coleg Bala-Bangor, a'r hwyrel gan Mr Thomas Griffiths, Coleg Bala-Bangor. Yr oedd yno hefyd amryw o weinidlogion cylohynot yn yr oedfaon, megis y Parchn Ellis, Prichard,, Gynwyd, Williams, a Lloyd (M.C.), Corwen.—— Dirwestol.—Mae yr achos hwn nid yn unig yn fyVT ac yn gwisgo gwedd fywydol a llewyrchus, eithr yn ymosod yn hyf a dinystriol ar y gelyn mewn gwahanol ffyrdd, ac yn bu,ddugoliaethu hefyd. Er's tua mis yn ol llwyddwyd i gael gan y faine ynadol i gau un ffau lie y llecbai ao y dinystriai y gelyn, a phenderfynwyd i frwydro yn mlaen i gan eraill, a dydd Gwener diweddaf gwelwyd adran o'r fydditi ddirwestol yn ymgasglu i'r llys gwladol, er ymladd ail frwydr a'r fasnaoh ddinystriol, a buan y gwelid gan rym yr ergydion sut y troai y frwydr. Llwyddwyd i gau yr ail dafarndy, a hyny o fewn mis o amser. Ofn llawer yn awr yw, na fydd yr un Glanmagl Hotel" yn Nghorwen, i Mr Gol. ei gwerthu. Tebyg y rhaid i'r arwerthwr droi ei law at rywbeth arall yn fuan iawn. Mae yma yn bresenol gwmni dylanwadol a cihryf ar gael ei ffurfio i agor dirwestdy eang a chyfleus, yn yr hwn y bydd digon o ymborth a llety i ffermwyr ac eraill ddyddiau ffair a marchnad, a phob amser, ac hefyd iard ae ystablau cyfleus i droi oeffylau ac anifeiliaid eraill. Ac yn sicr dyipwr egwyddor iawn a llwyddianus i weithio arni. Y mae yn rhaid agor yn gystal a chau—agor tai anrhydeddus, yn meddu pob cysar a chyneasdra, a chau y diotdai a'r tafaru- au ag sydd yn fagl a dinystr i gynifer. Y mae 111 rhaid i ffermwyr a dieithriaid gael rhywle i fyn'd,.