Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

AGORIAD COLEG DUWINYDDOL .Y…

News
Cite
Share

AGORIAD COLEG DUWINYDDOL Y METHODISTIAID CALFINAIDD YN Y BALA. Cynbaliwydy cyfarfodydd hyn nos Lun a dydd Mawrth, Medi 28ain a'r 29ain. Yr oedd dau wedi eu penodi i bregethu y noson gyntaf, sef Dr Fairbairn, Prifathraw Coleg Mansfield, a Dr Saunders, Abertawe. Pregethodd Dr Fairbairn am awr a haner, oddi ar y geiriau, By w i mi yw Crist, a marw sydd elw." Pe addefa pawb ag oedd yn gallu ei mwynhau, ei bod yn bregeth rhagorol, yn Ilawn o dduwin- yddiaeth bur, iaith dda, traddodiad grymus, ac ambell i darawiad yma a thraw ag oedd yn "anorcbfygol. Feaeth yr awr a haner heibio megys haner awr. Clywais rai o'r prif ddyn- ion ag oedd yno yn dweud fod y bregeth y igampwaith mwyaf gorchestol a glywsant erioed, aid yn unig mewn cyfansoddiad, ond mewn traddodiad hefyd. Ar ei ol daeth Dr Saunders, yn Gymraeg, ond fe addefa pawb diduedd, nad oedd y Dr y tro hwn yn ddim o'i gydmaru a'r hyn y clywyd ef. Pregeth gyff- redin, aehab fod yn meddn ar yr ynjhwnw oedd unwaith mor nodweddiadol o hono. Y mae ei gystudd maith wedi dweud arno yn fawr. Dyn anwyl yw Dr Sannders, ac i ni oedd heb ei glywed er ys blynyddau, teimlem yn fawr iawn wrth ei weled. Dymunwn itldo o galon, adferiad buan i'w nerth cyntefig, fel y byddo iddo etc fod yn gwmwl mor ddyfr- adwy ag oedd yn y blynyddoedd a fu. Am naw o'r gloch, boreu Mawrth, yr oedd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd i gael ei gweinyddu. Yr oedd y capel yn orlawn erbyn yr adeg, a chauwyd y drysau ddeg mynud wedi naw. Deehreuwyd trwy ddarlien a. gweddio yn Saesneg, gan y Parch. Elfet Lewis, Llanelli. Darlleniad rlir, y llais i'w glowed yn eglur yn mhob congi o'r eapel mawr, ac O! weddi dfeithiol, mor syml, mor dyner, mor briodol, mor nef eneiniedig, fe'n harweiniwyd yn syth -at y Groes, a gorchwyl nid anhawdd oedd cofio angau y G-wr a groesboeliwyd yno. Fe siar- adwyd ar yr ordinhad gan henafgwr penwyn o'r enw Mr Powell, Pembroke, a phwy mor addas, mor briodol i'r amgylchiad, gyda theimladau mor dyner, mor gysegredig wrth f :» :I' arwain ein meddyliau at y sanctaidd fan-y Groes. Cyfranogwyd o'r ordinhad mewn distawrwydd oedd yn gwbl gydweddu a'r amgylchiad. Gorphenwyd trwy weddi gan y Parch. James Donne, Llangefni, a hyny mewn ysbryd rhagorol. Gresyn iddo ddyweud Nid Duw Abraham, Isaac a Jacob mwyach, ond Duw Thdmas Charles, aDuw Lewis Edwards." Yna gwahanwyd am ychydig fynudau, er cael mantais i awyru y capel. Teimlem wrth, fyned allan, ein bod wedi dechreu y dydd yn yr ysbryd mwyaf priodol Dechreuwyd y cyfarfod nesaf ychydig wedi deg. Richard Davies, Ysw, Treborth, oedd yn y gadair. Darllenodd anerchiad byr a phriodol iawn mewn ysbryd gwir ddymunol. Hwn eto yn Saesneg. Cyfeiriodd mai y rheswm paham yr oedd ef yn y gadair oedd am ei fod yn hen, un o'r rhai olaf o'r hen do ag oedd yn nglyn a'r coleg yn y sefydliad cynfcaf Gwnaeth gyfeiriad tyner at farwolaeth y Parch. D. Charles Davies, ac yr oedd yn amiwg ei fod yn milwrio o dan anhawsderau i siarad gan fod ei deimladau bron a'i orchfygu. Yna cyflwyn- wyd i Dr Charles Edwards ddau anerchiad, un ar ran bwrdd 11eoly Bala, a'r llall gan ei hen fyfyrwyr a fu o dan ei addysg yn Aberystwyth. Ar ol iddo ddiolch am yr anerchiadau, esgyn- odd i'r areithfa, yno darllenodd ei manifesto, pa un oedd wedi ei ddarparu yn ofalus. Saes- neg oedd hwn eto. Nid ydym am ysgrifenu dim yn awr ar y traethawd, ond yn unig hyn -Amhvg yw fod Dr Charles Edwards yn penderfynu tori tir newydd. Yna galwyd ar Dr Fairbairn i draddodi anerchiad. Siaradodd ar yr achlysur hwn fel y gwna bob amser, yn deilwng o hono ei hun. Canmolai y symudiad o wneud coleg y BaU jm un dduwinyddol yn fawr iawn. Canmolai y Prifathraw fel un addas i fod yn ben ar y cyfryw sefydliad. Dangosai y pwysigrwydd oedd am fod un wedi ei drwytho mewn addysg, ac yna cael nifer o flynyddoedd i astudio duwinyddiaeth, er ei addasu i fodyn arweinydd y bobl, ao i'w dysgu hwynt. Teimlwn ei fod ynymdrinyn glir â gorphenol bob pwynt a gymerai mawn 11aw. Ar ol iddo ef orphen, gorfu i'r Cadeirydd R. Davies, Ysw., i ymadael oherwydd ei lechyd, ac fe gymerodd Thomas Gee, Yaw., Dinbych, ei le Pan y gwelsom Thomas Gee mewn cynulliad o'r fath yma, gofynem yn ddistaw, heb allu creda ein llygaid ar unwaith: "A ydyw Saul hefyd yn mysg y proffwydi." Bhoddodd anerchiad da yn Gymraeg. Yr oedd hyny yn iechyd i'n hysbryd ar ol yr boll Saesneg. Sylwodd mai tri anhebgor awen yw llygad i weled anian, calon i gydymdeimlo ag anian, a dewrder a faidd gydfyned ag anian. Yr oedd ef am newid ycbydig ar y geiriau, a'u dwyri i arweddu ar yr amgylchiad pre&enol. Tri anhebgor dyn yw Ilygad i weled angen, calon I gydymdeimlo ig, angen, a dewrder a faidd gydfyned ag angen. Dyna, ebe fe, oedd ynamlwg- yn yr hen Thomas Charles, o'r Bala, Beibl i bawb o bobl jr byd.' Dyna oedd yn amlwg yn Hugh Pugh, Llandrillo, a Gwilym Hiraethog, a chredai fod y tri peth yna yn nodweddiadol o Dr Thomas Charles Edwards. Y nesaf i siarad oedd Mr Lewis Morris, y bardd. Siaradodd ar yr anghenrheidrwydd i gael prif athrofa i Gymru. Ac y dylai fod duwinyddiaeth yn gangen arbenig o'r athrofa hono, fel y gallai duwinyddion Cymru fyned dan arholiad, ac enill ea gradd o B.D. a D.D., nid fel y maent yn awr, yn anfon 95 i America, i brynu y teitl o D.D, ac ycbwanegai, 'rwy'n ofni fod yma rai yn breseool," ac yr oedd rhai felly yno. Dywedodd amryw o bethdu buddiol iawn. Humphreys Owen. Ysw., Glansevern, oedd y nesaf i ddweud gair ar addysg ganol- raddol. Yna cafwyd gair gan y Parch. George Williams, o'r Deheudir, un o fyfyrwyr eyntaf yr athrofa. Adroddodd ef a Dr Hughes, Oaer- narfon, adgofion difyr am yr amser gynt. Yna terfynwyd cyfarfod y boreu Ar ol ciniaw, ffurfiwyd yn orymdaith i fyned o'r Bala i fynu at y coleg, ac ar lawnt y coleg, yr oedd llwyfan wedi ei cbodi, a'r gynulleidfa o'i hamgylch. Mr Bryn Roberts, A.S., yn llywyddu. Siaradwyd yno gan y Prifathrawon Pairbairn, Roberts, Aberystwyth; Evans, Caerfyrddin; a ohan y Parchn. Dr Sannders; T. Levi, James Williams, Caer; Owen Jones, Liverpool, ac amryw eraill. Nid IJes, genyf ddim i'w ddweud am gyfarfod y prydnawn, ond mai cyfarfod i seboni Dr Charles Edwards oedd ef drwyddo. Yr oedd digon o seboni wedi bod yn y boreu, heb fod eisien cael cyfarfod arbenig yn y prydnawn at wneud hyny, a dim arall. Nis gallai Dr Edwards helpu mai yn ddiau, ond dyna oedd teimlad 11awer o'i gyfeillion goreu, ea bod wedi myned yn sal wrth wrando ar y naill ar ol y llall yn codi i fynu, a hyny yn unig, er mwyn seboni. Llawer mwy priodol fyddai dwy bregeth yn y prydnawn. Cawsem ryw fendith oddi wrth hyny, ond ni chawsom ddim wrtb edrych ar ddyn cael ei seboni ain ddwy neu dair awr. Y mae'r athrawon Ellis Edwards a Williams wedi gyvneudcanwaith mwy i goleg y Methodistiaid yn y Bala, nag a wnaeth Dr Charles Edwards, ond prin y son- iwyd gair am danynt hwy, eithr mewn gwir- ionedd eu banwybyddu. Paham na fuasid yn gofyn i'r Prifathraw M. D. Jones, y cymydog agosaf i ddwefd gair P Yr oeddwn i yn meddwl fod undeb i gael ei sefydlu, ond y mae'n debyg na fedr y Prifathraw M. D. Jones ddim seboni: nid yw wedi dysgu'r fiordd, ac wrth reswm, os nad oedd yn sebonwr, nid oedd i gael siarad. Gwelais O. M. Edwards, M.A., Rhydychen, yno, ond ni ofynwyd iddo ddweud gair, er wedi bod yn fyfyriwr o dan y Dr Lewis Edwards, yn y Bala, a'r Dr Charles Edwards, yn Aberystwyth. Beth sydd yn bod ? Sier yw fod rhyw beth. Y mae yn debyg, er yr holl helynt, nad yw athrofa dduwinyddol y Methodistiaid ddim yn cychwyn ar ei gyrfa yn ddigymylau. Athrofa dduwinyddol y Methodistiaid y gelwir hi, a dyna yw hi, a. dyna fydd Jíi. Pa athrofa undebol o fath yn y byd y medr hi fod, pan mae'r corff sydd yn berchen arni, aelodau o'r corfb" y w yr athrawon! Dywedodd y Dr Edwards, yn Llanidloes, fod yn rhaid cael athraw Hebreig o ryw en wad arall, ond erbyn eyraedd Cymdeithasfa Pwll- heli, pan oedd amryw wedi ymgeisio, ac un y gwn i am dano, a gydnabyddir gan ysgoleig* ion yn ysgolor Hebreig o radd flaenaf-oiicl nid oedd neb yn deilwng-Pwy oedd yn abl i farnu, hoffwn wybod? Pellebrwyd ar un waith i Lane Seminary, Cincinnate, i ofyn i Dr Llewelyn J. Evans i gymeryd y swydd— paham ? Onid am ei fod yn Fetbadist-Na sonier am undeb. Pe byddai i'r pedwar enwad ymuno mewn cael un athrofa dduwinyddol yn Nghymru, a hono mewn man canolog, wedi ei ckodi yn rhanol gan yr holl enwadau, aelodau l o'r pedwar enwad yn athrawon, pwyllgor o'r pedwar enwad i arolygu drosti, myfyrwyry pedwar enwad i fyned yno; yna gellid disgwyl i undeb gwirioneddol i gael ei ffurfio, ond pan y bydd enwad yn ceisio Uyngcu yr holl enwadau eraill iddo ei hun, gwel er ei siomed- igaeth, mai methiant cywilyddus fydd pob peth o'r fath. GOH.

Advertising

UNDEB YR ANGHYDFFURFWYR.