Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
r HOR DDEDWYDD Y GELLID BYW.
News
Cite
Share
r HOR DDEDWYDD Y GELLID BYW. Mor ddedwydd y gellid byw Pe gellid newid y byd, Pe gellid llunio gwell trefn A choethi y bobl i gyd Mor auwyl fyddai pob un, I Mor dyner ac mor bur- Pob un yn angel a sant A'i fywyd fel y dur. ,ylodi ary nailllaw, A golud ar ylIall- Rhy fach a gormod o waith, Gynyrchant wae heb ball; Pryderu pa fodd i fy w, Ar hur ansicr a bach Bydd wywdod mewn llawer braich. A llawer calon iach. Paham rhaid i weitsi wrfod Yn isel ac yn noeth, Er mwyn i'r segurwyr fyw Mewn urddas ac mewn moeth Os rhaid 1 neb fod yn dlawd, Y segur ddylai fod, A'r gweithiwr a ddylai gael Mwynhad a gss erth a chlod. Mae digon o bobpeth i bawb, Gwisgoedd ddigon a bwyd, Digon o diroedd a thai- Mwy aa- phob rhaid a nwyd Daw golud ar alwad gwaith Yn ddiluwfel y m-ór, Fel awyr golau a dwr, Yn ddidrai fythol stor. I Mae hedd mewn awyr a gvcawl, v A gwledd mewn gwlith a gwlaw, Afonyddofwyniantpur Ddylifant arbob llaw Mae iechyd mewn ffrwyth a grawn, A chan yn nghorn y gwynt, A phleser dibaid i bawb I'w lloni ar eu hynt. Mor ddedwydd y gellid byw pe gellid cael pob no IJweithio ddyddiau ei oes Am ei ymborth ei hun Pe gwnelai pob un ei ran Yn lledwyn t'hanei frawd- Ni welid yr un mewn gwae, Na neb drwy drais yn dlawd. R. J. DERFEL.
( CENHADAETH GYMREIG.
News
Cite
Share
( CENHADAETH GYMREIG. BUGEILIAID MIGNYNT. GAN T PRIFATHRAW M. D. JONES. Ar ol haf gwlyb ac oer eleni, cafwyd clyddiau tesog a mwll yn Medi, fel pe buasai tywydd Golphenafwediei daftu ynmhellach a'r flwyddyn, ac ar un o'r dyddiau hafaidd yma, pan yr oedd chwaon melfedaidd y De- lieu yn ymgenglu am foelydd Mignynt, yaagyfarftt nifer o fugfeiliaid ar Ian Llyn Tryweryn i fwynhau yr aweton iaehus a grychent wyneb y dyfroedd. Yn y llanerch yr ymgyfarfyddent, yr oedd amrywiaeth mawr o fawndir, peth ya siglenydd corsiog a dyfent lawnder o frwyn migwyn a ffa'r eorsydd, cartref elyd i hwyaid gwylltiona giachod. Yr oedd darnan eraill yn fanciau sychion, a grygog, lie yr ymdyrai y gryg ieir am noddfa ae yr arweinid gyroedd gan geiliogod cribgoch a chryglais y mynydd i hedeg o gylch y bryniau cyfagos, o flaen ymwelwyr y gymdogaeth. Yr oedd meini cyfleas wedi eu poethi gan yr haul i'r bugeil- iaid eistedd arnynt ar laD. y Llyn, a thor- lanau sychion i orwedd, ac yma ymfwynhaent wrth weled y goleuni yn dawosio ar y tonau, a chlywed y gylfeinir yn chwibanu yn y pellder, a chymylau o gornehwiitlod yn troi ar brydiau o gylch eo. penau, a'r defaid yn pori gerllaw, ac amhell i famog yn galw ar ei hoen,tra y deuai'r ychain ar y gwres a'u cyaffonau i fyny dan ystola yn un llinyn tuà'r Ilyn., Mynai un o'r bugeiliaid ag oedd yn hoff o ganu, i'r cwmni wrando ar aderyn du'r graig ag oedd ar garnedd gerllaw yn telori yn soniarus, ac yr oedd y troellwr yn yr awyr uwch ben yn chwyrnu wrth nyddu ei bellen, ac yr oedd amryw o'r hedyddion yn canu'n beraidd wrth esgyn at yr haul drwv'r awyr glir. Wedi bir wrando ar gor y ffurfafen, troid ar brydiau i sylwi ar y brithillod torfelyn-yn llamu ar oi gwybed, a siaredid am faint y gwahanol bysgod a welent yn chware yn y dyfnder. Ar ol hir ymbleseru yn ngwahanol olygfeydd catur, ac edrycb ar y mynyddoedd uchel a ymgod- ent i'r wybr, a'r cymoedd a ymestynent i'r pellderau, tynodd un o'r bugeiliaid rifyn o'r Celt o'i logell, He yr oedd ysgrif ar Gen- hadaeth Gymreig," yr hon a ddarllenodd i'r cwmni, ac a fu wedi hyny yn destyn eu hym- ddiddan. Yr oedd y bugeiliaid oil wedi talu sylw i'r pwnc, a darllen yr oil ag oedd wedi ei ysgrifenu ar y mater, ac yn eu plith yr oedd gwahanol farnau. Mynai Dafydd Glym, o'r Blaenau, nad oedd angen o gwbl am genhadaeth, ac yn danllyd iawn haerai mai nid pobl benchwiban Nantyreiriau, megys "Derwenog, Sion y Dolau, a llanciau Erfyl de<ident y dynion priodol i arwain yr enwad, ond mai yn yNeuadd Goffa Idwr- iaethoi Llundain, ac yn Llynlleitiad, "prif ddinas Cymru," y mae y dosparth yma o Solomoniaid yn trigianu Mor gadarn yn ei bwnc ydoedd Dafydd Glym, fel yr haerai mai esgobion Penygoeden yn unig oeddent wedi cael yr awdurdod i ddywedyd wrth Gymru Benbaladr. "Mynegaf y ddeddf," Hefyd haerai y gwnel«i Cenhad— aeth Gymreig niwed mawr yn Nghymru i Gymdeithas Genhadol Llundsia, a mynai mai dyledswydd pob dyn duwiol oedd cynal y Gymdeithas hono yn unig Pleidiwr aiddgar i'r Hen Gyfansoddiad oedd Sionyn, Craigrhyddid, a chododd yn bwvllus ar ei draed, a dywedai ei fod wedi clvwed mai cefnder i Dafydd Glym oedd Dafydd William, Blaenau Festiniog," go- hebydd y Gelt, a'i bod yn amlwg iawn mai gwrthwyneba y Genhadaeth Gymreig oedd y gredo deuluaidd, a'i lladd yn yr esgoreddfa. oedd eisieu os yn alluadwy. Yr oedd Sionyn Craigrhyddid wedi clywed hefyd fod teulu y Glym wedi lluosogi yn Festiniog, a'u bod yn gweitbto yn egniol dros unbenaeth en— wadol, a Phengoedenyddol, ond yn llechwr- aidd neillduol. Fodd bynag yr oedd yno In mawr hyd yn hyn heb blygu eu gliniau i Baal. Nid oeddSionyn y Graigyn gwybod pwy oedd Dafydd William, Blaenau Fes- tiniog, yn sicr iawn, am fod yno lawer Dafydd William "yn y Blaenau," ond tybiai fod ei leferydd yn ei gyhuddo, a'i fod yn barod iawn i gredu mai cefnder Dafydd Glym. oedd efe, os nad Dafydd Glym. ei hunan. Yr oedd Sionyn yn dwyn amryw resymau er dangos hyn. Pwne mawr, a. phwnc iechydwriaeth yr boll Glymynod yw, I yn gyntaf ac yn benaf oil, nad oes gan neb bawl i gredu, i gychwyn, nac i gynal dim yn mhlith Anibynwyr, ond yr hyn y md.f Esgob- ion Penygoeden yn ei draethu a'i bleidio, a gall y Glym gychwyn unrhywgenhadactb, heb i Dafydd William, Blaenau Festiniog," na'i gefnder, Dafydd Glym, y Blaenau, eu Gyhuddo o wrthwynebiad cenhadaeth Llun- dain. Mae cenhadaeth yr achosion Seisonaeg yn y De, ac un arall yn y Gogledd, yu nwylaw y Glymblaid, ac ni freuadwydiodd Dafydd Glym, y Blaenau, 'nali gefnder, Dafydd William, y Blaenau," erioed am gyhuddo pleidwyr yr achosion Seisonaeg, eu bod am niweidio Gymdeithas Genhadol Llundain. Ond pan yr ydys am godi Cenhadaeth Gymreig, y mae gan Dafydd Glym a'i gefnder tybiedig "Dafydd William y Blaenau," ddaethineb i draethu ynei herbyn, rhagorach na seithwyr yn adrodd rheswm! Yr oedd Sionyn Craigrhyddid yn gallu enwi tuag ugain o fanau, a rhagor, lie yr oedd achosion Anibynol wedi marw o eisiau cymorth, ac y mae'r Trefnyddion Calfinaidd wedi myned i rai manau ar en hoiau neu ar eu traws, c. a chodi achosion llwyddianus. Mae manau ereill wedi en hesgenlusogan bob enwad. Mae manau