Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
ANERCH I'R PRIF-FABDD PEDROG.
News
Cite
Share
ANERCH I'R PRIF-FABDD PEDROG. Pedrog awenog ei enwi—a drydd Haul am dro i welwi A chawn awen wreichioni, Hudal des o dy Haul" di. Rhodied ei haul i'w feridiau-ei rawd Hir oedo'i orwelian; Arboed gwres ei dgs ai din, Eres hir Gyarro seirian. Own euro cred wnai mewn rhedeg—yn wemp" Olympia'n gwlad gudeg; Conerodd o, wel, do yn deg, IJrddol feib c&n un-ar-ddeg. GORWYST.
AT ARWEINWYR T CADGYRCH j…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
AT ARWEINWYR T CADGYRCH GWRTHDDEGYMOL. fGAN Y DR. E. PAN JONES. Fy Mrodyr,—Pymunaf eich aneruh ar iyr eiriau. Mgte-n 'debyg na fydd genych ddiolch i mi am yr hyn a ddywedaf, ond hyderaf yr addefwch fy mod yn onest ac yn "dymuno yn dda. Gwyddoch, mae'n debyg, ddarfod i mi drwy y blynyddoedd ddadlu ac ysgrifenu, yn ol y ddawa oedd ynof, yn -erbyn boll gyngreiriau tirol a gwrthddeg- ymol Dinbych, yr oedd y sylfaen yn rhy gal,hunanleSi-—a'r adeiladaeth yn rhy ddigynllun, ond nid oedd fy marn i yn y Gelt a'r Tarian am gen gwegi ar gyfer barn pobl fawr yn y Faner, ond gallaf heddyw apelio at y darllenwyr ac atoch chwithau ill deuddeg fel rheithwyr, oni throes pethau allatt gyda'r cyngreiriau tirol a gwrthddeg- -ymol bron i drwoh y blewyn fel y rhagddy- wedais. Yr oeddwn ar y pryd yn gwenu wrth weled fel yr oedd fy hen gyfeillion pwyllog o Solva, Trewyddel, Brytiteifl, Wr Dderwengam, yn y deheudir, Llanarmon, Llangwm, Dinbych a Whitford yn y gog- ledd, yn myned i yspryd eu pwnc ac yn llwyddo i gasglu arian wrth y canoedd i Lyrwyddo y cynwrf, ond ni phetrusais ddy- •weud yn adeg eu llwyddiant mwyaf, yn ofer ac am ddim yr ydych yn llafurio, nid yw eich mesur tir yn werth y papyr, heb con am ei ysgrifenu, ac arian i fyned i log- •ellau cyfreithwyr yw pob dimai ydych yn gasglu, ac ni chafodd y bobl druain ddim am danynt oddigerth ambeU lygad da, a mesur newydd y degwm, yr hwn, meddir, sydd galetach ner, hen. Ai nid dymunol i 'chwi fyddai cymeryd gwers oddiwrth y gor- phenol ac edrych yn bwyllog i ddoethineb a phriodoldeb y cadgyrch newydd hwn, ac mewn trefn i wneud hyn dymanaf arnoch yetyried y sylwadau canlynoi 1. Gwyddoch fod y waedd am Ddatgys- ylltiad yn fwy b bwnc sentiment nag o bwnc angen, mewn ystyr arianol ac amgylchiadol. Nid yw y degwm ond cymharol fychan a gwyddoch na fyddai ofn yr offeiriadaeth ar neb oni bai ei bod wedi ei bachu wrth land* lordiaeth. • 2. Pe ceid datgysylltiad, gwyddochyn dda neu dylasech wybod nad yw mwyafrif y tsnantiad, ie, yn Nghymru, yn barod i ar- wyddo deiseb yn Sa-fr datgysylltiad, oes y mae yma filoedd na fynent ar y byd i'r lord glywed eu bod mewn cyfarfod datgysylltiad. Dan y fath amgylchiadau nis gallech ddis- gwyl ond erthyl o fesur pe caech ef yn awr, mesur tebyg i'r datgysylltiad Gwy- ddelig, mesurau y claddu a'r priodi. 3. Os yw Gladstone i ddyfod i awdurdod yn yr etholiad nesaf, fel y pi-offwydir, y maeefe wedi datgan mai yr Ysgotiaid sydd i benderfynu y cwestiwn yn Scotland a'r Cymry yn Nghymru,»yna ganfodCymry yn addfed fel y dywedwch nid oes amcan i'ch cadgyrch o gwbl. Sham fight ydyw,'a gresyn fydd gwario lO.OOOp i ddim, dyben. Pa un ai anghredu y G- O. M, ydych ai ynte i tipyn o anghysondeb sydd ynoch. 4. Pe ceid datgysylltiad y flwyddyn nesaf byddai yr yspryd proselytiawl yn fwy diwyd nag erioed, canys byddai cynal yr egiwysi esgobolyndyfod ar ysgwyddau y lords a naturiol iddynt fyddai gwneud yr oil yn eu gallu i gael tenantiaid i'w cynorthwyo i ddwyn y treuliau, a chwi a wyddoch yn dda fod dylanwad landlords i broselytio lawer yn gryfach na'r Yspryd Glan ei hun yn ol fel y mae pethau yn awr. Os am atal pro- selytiaeth, tyner ymaith ddylanwad y land- lords. 5. Yr ydych chwi yn awr yn gystal a. phawb sydd yn ceisio meddwl tipyn yn addef mai Cwestiwn y Tir yw y cwestiwn mawr, yn unig fod Cymru yn addfetach at y degwm nag at y tir, ond prin y mae yma. J resymeg dda, ac nid oes yma ryw lawer o egwyddor,—addef ma-i y tir yw y cwestiwn pwysicaf, ond gadael i'r bobl redeg ar ol rhywbeth maent yn ddewis. A yw hyn yn deilwng o swydd arweinwyr ? 6. Ni fynwn awgrymu fod un o honoch yn bwriadu sicrhau iddo ei hun swydd, ond y mae eich gwaith yn addef eich bod yn gad. ael y cwestiwn mawr o'r neilldu, yn gystal ag awgrymu fod yna. eto frwydr i fod; prin y mae yn ddoeth, yn deg, yn foneddigaidd, nacyn garedig ynoch i drefnu cadw y wlad yn fyw ferw barhaus fel hyn drwy r blynyddoedd. Gwoaeth 30 mlynedd rhyfel*yr Iseldiroedd, y wlad yn anialwch, a bydd trethu amser ac arian pobl y wlad hon yn sicr o ddyweud ar eu hamgylchiadau. 7. Dywedwchfody Blaid Kyddfrydig (os oes y fath beth i gael, Toriaid fyddaf fi. yn gyfarfod yn mhob man) yn addfed i symud y degwm ond nad ydynt yn addfed at y tir, ond pa ryfedd hyny pan gofiweh ea bod hwy eu hunain yn landlords, rh&i yn fawrion a rhai yn fychain, ond y maent i gyd o'r un yspryd, mae rhywbeth mewn myn'd yn landlord yn trawsffurfio yspryd dyn i gyd, a byddai gystal i chwi ddysgwyl i Bass a Walker fod yn addfed i symud tafarnyddiaeth, a disgwyl i'r landlords yna. sydd yn perthyn i'r blaid Ryddfrydig, ie, y rhai sydd yn perthyn i'r cadgyrch gwrth- ddegymol, fod yn addfed i symud laniilord- iaeth o'r wlod. 8. Gwyddoch. mae-'n' yn ddiau, mai gofid mawr yr arweinwyr Gwyddelig heddyw yw ddarfod iddynt fyned i fewn am ddatgysyllt- iad cyn penderfynu Cwestiwn y Tir a Home- Rule. Wel, os na fedrweh chwithau gy- meryd gwers oddiwrth y gorphenol gartref, dviech fod yn ddigon gostyngedisr i diysgu gwers oddiwrth brofiad y Gwyddelod. 9. A ydych chwi yn credu mewn cadgyrch sylfaenedig ar wnend y pethau sydd gyfleus, a'r pethau fydd y bobl yn addfed am danynt? I Ai nid beth sydd iawn ddylai fod yr egwy- ddor. lywodraethol yn eich cadgyrch, gan faint fydd yr anhawsderau ar y ffordd. Melldith fawr y wlad hon yw gwneud yr h ýn fyddo yn gyfleus ac nid yr hyn fyddo yn iayn. 10. Yn olaf yr wyf yn gofyn i chwi y deuddeg, a oes mwy o reswm, Beibl, cyf— iawnder, synwyr cyffredin, dros ddatgysylltu yr offeiriadaeth na thros ddatgysylltu land- lordiaeth, a oedd rhyw fwy o hawl gynhenid gan rywun yn rhywle i werthu tir nag i roddi tir, os oedd, beth oedd yr hawl hono, a. pha le y mae heddyw? Rhag ofn i'r naill o honoch daflu y cyfrifoldeb ar y llall yr wyf yn apelio at y cadeirydd, y Parch. A. Davies, am atebiad. Unwaith i chwi daflu goleuni ar y gofyniad hwn chwi a gewch lengoi gydweithwyr newyddisn y rhai sydd yn awr yn edrych arnoch gyda llygad amheus. Mae'n sicr y tybiweh fi yn feiddgar iawa am anturio ysgrifenu fel hyn atoch, gaa feirniadu eich gweithrediadau, a digon tebyg yr ystyriwch fi islaw eich sylw, ond yn sicr, manta.is i bob symudiad yw fod digono toleuni o'i gylcb, ond os naA oes goleuni i gaelnid oes dial i ddisgwyl.