Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
-,-Y PEIRIANT BARDDOL.
News
Cite
Share
Y PEIRIANT BARDDOL. Ar briodas y Parch J. H —" I'r pant y rhed y dwr"^—priodi wneir, doed a ddelo. Bendith ar yr nniad! Cyhoeddir y g&n. Ehedwch ddrychfeddyliau fyrdd.—Cynyrch athrylith y gwir fardd. Llwyd a Myfanwy.—Cm' diolch, frawd, am gan mor ragorol-fel arferol. Y eynhauaf.—Cymeradwy. Pen Oalfaria.-Ergydiwyd ataf unwaith drwy y Celt am ddweud fod rhyw ddernyn o nodwedd rhy grefyddol i newyddiadur. Wel feallii fy mod yn ei haeddu, wedi'r cwbl, rhaid rhoi ychydig o le i sentiment. Ni hoffaswn i weled tyrfa gyffrous adeg etholiad yn rhuthro i Gethsemane i ddisgwyl cyhoeddiad y B/sult of the poll." Mae y penillion hyn yn gymeradwy ar y testy a, a rhag i'm teimlad i fod ya camarwain fy marn, cant ymddangos. I.y Tymor Hau,Yr ydych ynailadrod4 eich han yn y g&p hon a'r un i'r Cynhaaaf; hono y w y r oreu, ac nid yw eich "Gwanwyn" yn agos iddi mewn teilyngdod. Ymholiad i'r enaid.—Ceir yma rai llinellan cryfton iawn. Y druanaf o'r oil y w hoa:— "0 na, nag ef paid a danod," Yn boeth y bo un fel hyn! Bywyd.—Gallwch well englyn na hwn. Rhaid nad oeddych mewn hwyl pan gyfansoddasach ef, oblegid y mae yn afrywiog iawn. Y weddw unig.-Ma.e yoy gan rai syniadau pryd- ferth, a llifa drwyddi deimlad tyner ond mae hi braidd yn rhy faith. Cymerwch oral rhag Haw rhag ysgrifenu pyncio yn pincio, gwely yn weli, &c. Anfaddeuol yw ysgrifenu Ilinell fel— Tra Hygrant hwy mewn llygredd." Y ceiliog gwynt.—Nid yw "helynt" a pwynt'' yn cydodli. Mae yr ail englytuir y testyn yn dda iawn, ac yn diddymu y cyntaf. Annibyniaeth.-Englyn a syniadau da ynddo • Trwodd. Gladstone.—Nid yw yr englyn yn deilwng o'r testyn na'r bardd. Temtasiwn.— Pur dda, wir; a chymeradwy, Gwaéd y (hoes ac Anthem Calfaria.—-Dau benill a naws emynol yn rhedeg drwyddynt. I'r swyddfa. Llais yr J<MM.—Hed bellgyrchedig yw rhai f'r syniadau er hyny mae y gan ar y cyfan yn dda, a chaiff Ie yn ei thro. HEN LAW.
CYMANFA GANU ANIBYNOL MON.
News
Cite
Share
CYMANFA GANU ANIBYNOL MON. r Dydd Mawrth, mewn cysylltiad àgY sgolion Sabbothol Anibynwyr Mon, cynhaliwyd y II'. gymanfa ganu flynyddol yn Llanerchymedd, o dan arweiniad y Parch W. Emlyn Jones, Treforris. Llywyddid eyfarfod y prydnawn gan Mr John Thomas, Dtica House, Caergybi; a chyfarfod yr hwyr gan y Parch J. S. Evans, Cemaes; a gwasanaethwyd wrth yr offeryn I gan Miss Williams (Eurgain), Beaumaris, a Mrs Barker Thomas, Llanerchymedd. Swydd- ogiopi yr undeb am y flwyddyn oeddynt y Parcel E. Oynffig Davies, B A., Porthaethwy, cadeirydd y pwyllgor; Mr Hugh Thomas, U.H. (cadeirydd Cynghor Slrol Mon), trysorydd; a'r Mri Thomas Hughes, Porth- aethwy, a John Jones, Llanerchymedd, yn ysgrifenyddion. Er i'r tywydd droi yn anffafriol cafwyd cyfarfodydd lluosog a chanu da. Yn ystod y cyfarfodydd gwobrwywyd y rhai can- lynol am ddysgu allan yn ystod y flwyddyn Am "adrodd Efengyl Luc John Rowland Jones, Royal Oak, Amlwch; Robert T. Williams, Tanybwlch; Mary Williams, Tai- lawr, Maesllan; Maggie J. Jones, Ynysgof, Oaergybi; William Williams, Oilgwyn Lane, ac Owen Pritchard, Wellington street, Llan- erchymedd; Mary Lydia Hughes, Coronwy. View, Rhosfawr; Anne Thomas, Priess, a Thomas Williams, Waterworks, Llanfairneu- bwll; Mary Jones, Bodorgan; Kate Pritchard, Graig, a Jane Owen, Felin Eithin, Bodffordd. —Am dysgu unarbymtheg o benodau o'r un Efengyl; Eliza Williams, Penlon; Eliza Parry, Wyddfa; Ellen Jones Williams, Pare; Anne Bryan, Llainfeirig, Bryngwran; a Catherine Parry, Postoffice, Moelfro—Am! ddysguwyth, benod eto: Mary Roberts, i Castell Gwylan, Brynsiencyn; Elizabeth Anne Williams, Llangefni» Elizabeth Jones, Tanybryn, Moelfro; a Jane Jones, Lodge, Careglefn. v
EISTEDDFOD ABERTAWE.
News
Cite
Share
EISTEDDFOD ABERTAWE. Agorwyd yr Eisteddfod boreu Mawrth, ae yr oedd pobpeth yn edrych yn addawol iawn. Ond tra yr oedd gweitbrediadauy bore yn myned yn mlaen cododd ystorm, a daeth gwynt cryf nerthol gan godi i fyny d6 y babell, yr hwn a ddisgynodd i mewn, gan daraw un wraig o'r enw Matilda Williams, Brompton, Brain, Hereford, oddeutu 40 mlwydd oed, yr hon a fa farw yn ystod y y dydd. Cynhaliwyd y cyngherdd y nos yn yr Albert Hall. Dysgwylid y byddai y babell wedi ei chyfa-nn erbyn bore Mercher.
[No title]
News
Cite
Share
BSBETHEL, CAERNARFON.—Marwolaeth Mrs EUen Williams, Blaen-y-Park.—Priod yr Hybarch Owen Williams oedd y wraig dda uchod. Cafodd ergyd o'r parlys yn y gwasanaeth cyhoeddas yn Bethel nos Sabboth cyntaf o'r mis hwn, a bu farw nos Lun. Awst lOfed. Claddwyd hi yn mynwent Bethel y Sadwrn diweddaf, Awst 15fed. Bu farw yn 76 mlwydd oed. Yr oedd yr angladd yn un parchus a Muososr iawn. Cymerwyd rhan yoddo gan y Parchn R. W. Griffith, Lloyd B. Roberts (Caernarfon),.1. T. Teynoa (Cwm- yglo), H. J. Jones (Maesydref), a H. R. Davies (Cysegr). Arol cydfyw mor gysurus a dedwydd ag y bu neb yn y wlad am dair blynedd ar dde,, ar hugain, chwith iawn yn ddiau fydd gan y brawd anwylo Flaen-y-Park fod heb gwmni tawel a distaw yr hon iddo ef a fu yn mhob ystyr yn ymgeledd gymwys. Nawdd y nefoedd fyddo drosto. Cani»teir iddo brydnawnddydd tawel a disgyniad araf ac esmwyth i'r glyn, a mynediad helaeth i mewn i lawenydd ei Arglwydd. Dymunwn hefyd bob daioni i r perthyn- asau sydd ar ol.—Qalarwr. DYFFRYN ABRON.—Boreu dydd Iau, Awst 6ed, tafiwydtrigolion y Dyffryn a'r ardaloedd cylehynol i fesur helaeth o dristweh gan y newydd am farwol- aeth Mr T Jones, Bendrelas. Yr oedd Mr Jones hyd o fewn ychydig ddydciau cyn ei farwolaeth yn bur iach a heinyf ac yn llanw ei gyloh mewn byd ae eglwys gyda'i sirioldeb arferol. Teimlir galar a chwithdod ar ei ol gan ei gymydogion yn gylfredinol, er mai yn ei gartref ac yn eglwys Ty'nygwndwn y teimlir yr ergyd drymaf, am mai yno y gwybyddir oreu am ei werth ai gymeriad hynaws a dirodres. Ba yn ddiacon ffyddlawn yn Ty'nygwndwn am taa deuddeng mlynedd ar hugain. Gallasai fod yn llanw swyddi cyhoeddus pwysig pe b'ai ynddo ryw duedd i ymwthio iddynt ond yr oedd yn hynod o rydd oddiwrth bob uchelgais o'r tath. Cymerodd ei gladdedigaeth le dydd Llun, Awst lOfed, pan yr ymgynullodd tyrfa fawr iawn o bobl o bob gradd a sefyllfa i dalu eu teyrnged i'w goffadwriaeth. Wrth y ty darllenodd y Parchn Evans, Llanbedr, a Phil- lips, Ty'nygwndwn, a phregethodd y Parch B C Davies oddiwrth y geiriau, "Bydd ffyddlon hyd angau," &c. Claddwyd ef o dan y drefn newydd, ac yn y fynwent gweddiwyd a thraddodwyd an- erchiadau priodol a thoddedig gan y Parchn Jones, Ffaldybrenin; Phillips, Ty'nygwndwa a Thomas, Llanfair. Ar ol canu yr hen emyn Bydd myrdd o ryfeddodau," &c., ymwahanodd y dorf gan deimlo eu bod yn gadael yn mhriddellau y dyffryn yr hyn oedd farwol o un oedd yn Gristion syml a dirodres -un a,tr iddo air da gan bawb a chan y gwirionedd ei hun.—Hiraethus.
Advertising
Advertising
Cite
Share
CYMDEITHAS GENHADOL GYMREIG I'R ANIBYNWYR. MEWN cyfarfod rheolaidd o gynulleidfa eghvys Anibynol Beulah, Llanerfyl, Maldwyn, pasiwyd yn unfrydol yr hyn a ganlyn:—"Yn gymaintan bod ni fel eglwys yn Beulah, a tlawer ereill, oher- wydd rhyw resymau, yn peidio a. chyfranu at y Genhadaeth er ys blynyddoedd, oni fyddai yo well cychwyn Ceohadaeth Gymreig yn ein mysg, ag y teimlai pawb ag pydd yn earn llwydd teyrnas y Gwaredwr yoddedwydd i gyfranu ati ? A oes neb yn ein plitb, fel enwad, a gymer arnyat eu hanain y gwaith o ddwyn hyn i ben, drwy nodi ysgrifenydd a thrysorydd darbodol, hyd nes y ceir ymgynghoriad pellach —Arwyddwyd dros yr eg- lwys, JOHN EBTYL JONES, Ysg. Y WLADFA MEDI 24, bydd agerlong yn myned yn syth o Liverpool i'r Wladfa. Y mofyner & Lamb a&d Edwards,\4, Water Street, Liverpool.
f CROGLOFFT.
News
Cite
Share
Miglywaiseu bed^ohw^yn ddigon dwl yn Ffrainc i ofala am y mynegbyst YEa. drwy'r wlad, a. bod bwrdd ar bawl wrth yr agorfa i bob pentref ag enw v pentref aroo. ynnghyd a.'r pellder i bob lie o bwys o'i gwmpas. Rhaid fod y Ffra-ncod yn ddylach o lawer ma ni, neu ein bod ni ganrifoedd yn nes yn ol na hwynt. Fe ddylem ni yn Nghymru symnd va mlaen gyda ein hell fanteision. 'Does dim llawer o amser er pan oedd Oymru yn cwyno nad oedd hi yn cael dim sylw na ffafr gan y Senedd, ond rhyfedd meddwl, yn awr ni chlywir ond CWYN LLOEGB" yn mhob man. Gwelais ertbygl y dydd o'r blaen o un olu papyrau yn rhifnodi y deddfau Uesol y mae Cyrnru wedi eu cael ar wahan i Loegr, a'r sylw mawr y mae y Dywvsogaetb wedi ei gael yn ddiweddar; dengys hyn, meddai, beth ellir wneud gan blaid fechan 0 bobl ond iddynt fod yn unol a phender- fynol. Cwyna wedyn yn dost nad yw Lloegr yn cael dim byd gan y Senedd, a 'thafl gilwg genfigenus at "Gyrory fechan dlawd," yn mwynhau ei Sabbothau hedd- ychlawn, ac yn yfed ei haddysg gyn., ail, ac Tiwchraddol. gRhyfedd, onide, clywed Hoegr, sydd wedi bod yn byw ar y brasder ar hyd yr oesoedd yn dechreu cwyoo ar ei bwyd. Daliwn ni afael tyn yn yr hyn sydd genym a gwyliwn rhag "rhoi y dorth a begio'r dafell." Mynwn fel cenedl nid yn unig sefydliadau cymwysi'n gwlad, ond mynwn hefyd eu llywodraethiad yn ein dwylaw ein hunain. Codwn Gymry i'n swyddau cyhoeddus, i'n cadeirian addysg, i'n meinciau cyfreithiol, a'n seddau Seneddol. Ein cywilydd ar hyd yr oesoedd yw eiddo Esaa flysig. Nid treisio ein swyddau oddiarnom a wneir fyn- yched ag y rhoddwn hwynt a'n dwylaw ein hunain am yddfau torchog estroniaid, gan adael ein cenedl ein hunaia i newynu ar gulni briwsion a chrwst. Y mae y teimlad cenedlaethol yn deffro, a diolch am hyny. Daeth i'r golwg yn mhenodiad Prifathraw Aberystwyth ac er mai Cymry Llundain oedd yn penodi ae mai yn Llundain y gwneid eto ni feiddiasant ben odi Sais, boed a fo. Beth wna Cynghor Coleg y De, tybed, gyda OHADAIR CABRDYF ? Mae nhw yn dyweud fod yr Hwntws yn fwy o Saeson na'r Gogleddwyr. Dywedai yr hen John Jones, Llanrwst, am danynt, wrth ganmol y Gymraeg a beio y Saeson:- Ni all eu 16a enill tir—y gogledd, Ea gwaglais wrthodir, Er bod Sais (heb arbed sir) Wedihudo'r deheudir." Nis gwn a fu hyn yn wir ryw dro neu Tjeidio, ond credaf mai ychydig yn y De- heudir" heddyw sydd yn foddlawn i gy. faddef ei bod hi felly yn awr. Y mae Aberystwyth wedi profi ei hun yn bur i'w chenedl, pa beth a wna Caerdyf ? Os gwerthant eu genedigaeth-fraint yn yr am- gylchiad hwn mi gredaf fi y bydd yn Nghymru wed'yn fwy nagan. CRYGLAIS. SOAR, TALYBONT.—Cyfarfod Daufisol.—Cynhal- iwyd yr uchod y tro hwn yn Soar, ddydd Mercher, Awst 12fed, pregethwyd gan y Parchedigion J Llewelyn, Clarach; J Thomas, Salem; G Parry, Llanbadarn; a J Miles, Aberystwyth. Caed cyfarfod da yn mhob ystyr, y pregethu yn afaelgar, a lluaws mawr wedi dyfod yn nghyd. Mae golwg lewyrebus ar yr achos yn Soar, a chan y bobl galon i weithio. Tr oeddynt wedi ymdaflu iddi am y goreu i ddangosearedigrwydd gyaa'r dl- ,eitbriaid a chafodd pawb en boddhau. Caed gwledd i gorff a gwledd i enaid nad aughofir mo honynt yn ftian. Yroedd vn bresenol heblaw a enwyd y Pàrchn J Davies, Bethesda; T Francis (B), Taly- bont; J Evans, Llundain J J Pritchard, Amman- ford. Arhosed yr amddiffyn Dwyfol droa yr holl • ogoniant.—Goh.