Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

f CROGLOFFT.

News
Cite
Share

f CROGLOFFT. AWST 15FED, 1891. Pa. sawl Cymru sydd ? Dyna Gymru Fu, Cymru Sy', a Chymru Fydd, a heddyw dyma GYMEU newydd spon i law. Cyfeiriaf at rifyn cyntaf o gyhoeddiad newydd O. M. Ed- wards, M.A., gyhoeddir yn Nghaernarfon. Y mae edrych ar fantell goch yr ymwelydd parchus yn cario dyn yn ol yn mhell. Y mae cynlluniad ei amlen yn bur dda a dengys grynhodeb pur ddewisol o ddigwyddiadan yn hanes Gwalia Wen. Pan oeddwn yn myn'd i'w agor wedi canmol y cas dros y ty,. gwaeddodd fy nain, Beth am y lliw r" Y mae yr hen wraig yn fy nghymeryd yn ys- gafn braidd hefo'r lliwiau yma byth er busnes y cochddu a'r coch Lerpwl. Wei, beth am dano ?" meddwn i. Wyt ti ynei leicio fo P" meddai hi. Ydw, am wn i," medde fi. Mae o ddigon hawdd i'w wel'd. Ho, 'roeddwn i yn meddwl mai gwerdd oedd y geninen," meddai yr hen wraig, ac yn mlaen a hi i droi yr uwd. Yn mlaen a finau am dro drwy y "Cymru" newydd yma. Yn wir mae o yn dda ofnadwy. Y mae gwylltineb a ffraethder awdwr Pen- llyn Fh wedi ei gymletbu a gochelgarwch a gofsfl y golvgydd medrus i'w ganfod ar bob dalen o hono. Y peth cyntaf fyddaf ft yn edrych mewn cyhoeddiad newydd bob- amser yw At ein gohebwyr." Dyna lie mae darlun o'r golygydd i'w gael. Rhodd- odd y fasgedaid hon gymaint bcddhad i mi nes yr annghofiais fy mod heb fy swper. Diau y daw hwn yn gyhoeddiad teilwng o'i enw, ac y caiff ei gefnogi yn helaeth., Nid yw y darluniau y tro hwn yn rhyw beni- gamp iawn, ond diameu y gwellhant bob yn dipyn. neu yr hyn fyddai llawn cystal mewn. rhai engreifftiau y rhoddir eu He i erthyglau dyddorol. 'Dwy i ddim yn credu mewn. rhai engraifftiau y rhoddir eu lie i erthyglau dyddorol. 'Dwy' i ddim yn credu mewn rhoi dail cyhoeddiadau cenedlaethol i' Sgethwrs, i ednaygu eu hunain a chaEmol eu gilydd. Beth feddyliech chwi o grogi llun y Tywysog Llywelyn tu ot i'r pwlpud mewn capel Sentars," neu Owain Glyndwr mewn capel Method us ? Ond peth yn ei le fydda i yn ei leicio. Pob peth digon rhy- fedd fy mod i yn fy lie heno, bu agos i mi, fyn'd o fy lie am byth y dydd o'r blaen. Pan fyddaf yn myn'd allan o'r llofft yma byddaf yn cerdded o ddifrif calon. Mi aethum allan y dydd o'r blaen i ganol y wlad a thrafferth fawr gefais i iddod yn ol. Dechreuais ffwndro yn y croesffyrdd a llwybrau diddiwedd yma. Waeth i ddyn heb holi yrwan os na fedr o Saesonaeg. Dyna mae pawb yn siarad, rhyw grwtiaid cymaint a dwrn, chewch chi yr un gair o Gymraegl ganddyn nhw, na. Saesonaeg chwaith o ran hyny. Meddyliwch am gre- adur fel y fi yn nghanol y wlad wedi colli y ffordd, mewn eisieu bwyd, yn y gwlaw, heb yr un wlawlen wrth gwrs, yn mha. sefyllfa foesolfeddyliech chwi y byddai dyn dan amgylchiadau fel hyn, ac oni byddai MYNEGFYS V yn foddion gras iddo. Byddent yn gosod y pvst hylaw hyn i fyny erstalm medden nhw, ond mae yn debyg fod pobl yn myned ya gallach neu rywbeth, ac yn gwybod y ffordd hebgyfarwyddyd. A gaf fi ddwyn ar gof j'r Cynghorau Sirol fod ambell un go ddwii fel taswn i a. fy nain, yn cerdded y ffyrdd ynaa eto.a byddai mynegboat yn un ffordd i atal i fechgyn ieuainc arfer geiriau drwg.

NYN A'R LLALL O'R DE.

Advertising

,SYN A'R LLALL O'R GOGLEDD.