Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
LLWYD A MYFANWY.
News
Cite
Share
LLWYD A MYFANWY. Aeth Llwyd Ap I wan draw, Ta hwnt i'r Werydd, 0 wlad y gwynt a'r gwlaw, I'w Ganaan newydd; Ond cofio'r oedd o hyd, Ei fam a'i gartref clyd, Nes iddo weled pryd Myfanwy Ruffydd. Bu allan gyda'i ddryll, Yn hela beunydd, Ond newid wnaeth ei ddull Am gynllun newydd ;— Heb ddryll, heb gi, heb floedd, Mae heddy w"n dweyd ar g'oedd, Mai'r helfa oreu oedd Myfanwy Ruffydd. Er iddo weled'tir Ei Ganaan newydd, Er codi ty, mae'n wir f Nad oedd yn ddedwydd Ba yno fwleh rhy ddrud I'w lanw gan y byd, N es prynu lIed a hyd f, Myfanwy Ruffydd. Yr haul tanbeidiol, mawr, Bu yntau'n ufudd 1 daflu gwres i lawr, N es lladdystormydd Ond Llwyd oiedd tan ei bla3 A'i galon fel yr ia, Nes gweled heulwen ha/ Myfanwy Ruffydd. Y gwenitli oedd or blaen Vn fawr ei gynydd, Ond ar y dorth mae graen, A bias o'r newydd; A chynydd mwy a ddaw, Fe droir yn ddeg bob naw Gwenithen roi r yn llaw Myfanwy Ruffydd. Pwy oadMyfanwy gu Fun creu Ilawenydd, Fu'n gosod gwerth ar dt, Fel cartref dedwydd ? Siriolach ydyw'r ardd, A phob blodeuyn chwardd 0 flaen Myfanwy hardd-- Myfanwy Ruffydd. DERWENOS.
COITANT Y .TRI BRAWD.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
COITANT Y TRI BRAWD. GAN DR. E. PAN JONES. Yn gymaint a. bod amryw gyfeillion yn ymholiyn nghylch Cofiant y Tii Brawd,— rhai yn holi y fel hyn ae erailly fel arall, dymunaf eu ba-teb fel hyn yn gyhoeddus, ,arbeda i mi lawef o draff erth rhagor eu hatab bob yn un ae un. Bydd y canlynol yn atebiad i bob holiad a ddaetb i law hyd yma. ;'ii; 1. Bwriedir i'r Cofiantgynwys darlun o 7n J. R., y tad, o'r brodyr, pan yn Llanbryn- mair cyn chwalu, darlun o Brynffynon, lie y 1 bu S, R. a Gr. R. yn byw yn Tennessee; darluniau o'r tri brawd wedi dychwelyd i Gonwy, darlun o Brynmair, lie yr oeddynt, yn byw, ar Forfa Conwy. 2. Bwriedir iddo fod yr un blyg a'r Ys- grifbin a'r Dadleuon „ 3. Rhwymir ef mewn lliau hardd, bydd llythyrenau aur ar ei gefn. 4. Os byddir yn dewis gellir cael gilt1 edges, ond costia fwy. 5. Cyhoeddir rhestr o enwau y derbynwyr ar y diwedd o ba herwydd y teimlir yn ddi- olchgar am gael yr enwau gynted ag y gellir. 6. Os bydd gan neb ryw air, llythyr neu benill o waith un o'r tri, neu o waith rhywun am un o'r tri, y carai eu cael i'r Cofiant, byddaf yn ddiolchgar am eu cael ar unwaith fel y galler eu gosod yn^eu lleoedd priodol. 7. Gwneir, rhoddir hanes mor gryno, ond didramgwydd, a. ellir, o'r dadleuon y buont ynddynt ar hyd eu hoes. 8. Os oes gan rywun lythyr neu lythyrau o ddyddordeb cjffredinol o eiddo y naill neu y llall, mi a deimlwn yn ddiolchgar am gael golwg arnynt. Cymaint a, hynyna, yn bresenol. ] A oes gan rywan gyfrol neu gyfrolau o'r Dysgedydd y byddai yn foddlon ymadael a hwynt,—naill ai am arian neu yn gyfnewid, —yn y flwyddyn 1826, y rhifyn cyntaf a'r pumed. 1829, yn eisieu i gyd, 1830, yn eisieu i gyd ond y tri cyntaf. 1831, y deuddegfed yn unig jn eisieu. 1832, y pedwerydd a'r pumed. 1833, yn eisieu i gyd. 1835, yn eisieu i gyd. 1837, yn eisieu i gyd. 1843, yr ail a'r pumed." 1845, y pumed. 1846, y pumed a'r deuddegfed. 1849, yr ail a'r deuddegfed. 1850, y cyntaf a'r nawfed. 1#1, y pumed 1855, y trydydd a'r pedwerydd. 1850, y nawfed. Mae genyf ganoedd o rifynau ar law, rhai o bob blwyddyn o'r "gyfrol gyntaf yn mlaen, mae hono genyf yn rhwym mewn Iledr, y rhai a roddwn yn gyfnewid neu os dewisent talaf am danynt bris teg. Mae ychydig rifynaa o dair eyfrol gyntaf y Groniel yn eisieu arnaf, a oes rhywun fedr fy belpio i'w cyflenwi ? Mae genyf gyfrolau lawer o hono allwh roddi yn gyfnewid.
,SYN A'R LLALL O'R GOGLEDD.
News
Cite
Share
SYN A'R LLALL O'R GOGLEDD. [GAN PERISON.] Bu gryn helynt yn nbref henafol khuthyft dydd Mawrth diweddaf, wrth osod i lawr, gareg sylfaen adeilad newydd yr Ysgol Ramadegol yno. Bydd yr ysgoldy newydd yn werth dros eh we' mil o buuau, a gwneir darpariadau ynddo ar gyfer tua chant o ys- gol heigion, a deuddeg ar hugain o fyrddwyr. Yn mysg eraill, cymerwyd rhin yn y sere- moni gan Syr W. Hart-Dyke, A.S. (Is- lywydd Cynghor Addysg), yr hwn a dra- ddododd anerchiad rhagorol. Dywedodd "fodynbleser mawr ganddo weled y dy- ddordeb a gymerid mewn addysg yn Nghymru a'u bod yn awr yn gosod sylfaen y gyntaf o'r ysgolion byny a fydd cyn bo hir yn gorchuddio hyd a lied y Dywysogaeth." "Yr oeddym ni yn Nghymru," meddai, wedi cael y blaen ar y Seison, ac wedi eoill peth anhawdd, sef cael arian gan y Llywodraeth." Hyderai yn neillduol y byddai'r addysg a gyfrenid yn yr ysgol newydd yn un ymarferol—cyfaddas i an. I. genrheidiau plant yr ardal, a'r gwaith a'r alwedigaeth y bwriedid hwynt ar eu cyfer. +* Dyweud y gwir sy'n dda bob amser, Dyweud y gwir sy'n digio llawer," meddai'r rhigwm profir hyn yn ngwaith Cyiarwyddwyr Reiiffordd. y Cambrian yn diswyddoMr Hood,gorsaf-feistr Trefaldwyn, yn hollol ddiseremoni y dydd o'r blaen. Efe oedd un o'r tystion a holwyd gan Select -Committee, Ty y Cyffredin, parthed cwestiwn oriau gweithio ar y reilffyrdd ac yn wir nid yw rhai pethan ddywedwyd gan- ddo ef ac eraill o'r tystion yn adlewyrchu rhyw lawer o glod ar Gwmni y Cambrian. .7 Nid efe yw yr unig un ddyoddefa oberwydd eu tystiolaeth, mae un arall wedi ei ddi- swyddo,athrydydd wedi ei roddii lanw swydd is. Yn sisr, dylai fod rhyw ddarpariaeth er amddiffyn dynion fel hyn, a ymddangosant o bryd i bryd gerbron Pwyllgorau Ymchwil- iadol i sefyllfa y dosbarth gweithiol, fel y byddont o gyraedd dylanwad y sgriw, ac y gallont yn ddifloesgni ddyweud y gwiiv, heb ofni'r canlyniad. o orfod dyoddef yneu ham- gylchiadau oherwydd hyoy. M.&iqic-N.-Yn Y Pregethwr am Awst ceir pregeth ar Y Ddau Syniad," gan y Parch. T. M. Jones, Penmachno. Adgofion am oedfa gyd a'r diweddar Tanymarian gan Foneddiges. Yn y golofn farddol ceir Arwyddion Henaint" (Caledfryn), a Cai.