Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

GOHEBIAETHAU-

News
Cite
Share

GOHEBIAETHAU- GAIR AT BWLLGOR COLEG Y BALA—BANGOR. MIt. GOL.,—Ij!un a. Mawrth, cyn i'r Pwyllgor Cyffredinol gyfarfod yr oedd pedwar ar hugaio o ymgeiswyr yn sefvll arholiad yn Rhyl, a daeth y fwyllgor i'r penderfyniad pwysig o dderbyn wyth i fewn; yr oedd y rhai hyn yn rhai goreu wrth reswm yn ol syniad yr arholwyr, ond y rhai goraf yn ol syniad yr eglwysi, canys pregethwyr y mae'r eglwysi yn ymofyn; ond nidoes gwa. haniaetb pa un bynag, a fyddant wedi pregethu nac yn gallu pregethu gan ein colegau, dim ond eu cael yn ysgolheigion da, ac fel rheol nid yw yr ysgolor a'r pregethwr yn cydgyfarfod yn yr un person, felly y mae llawer o bregethwvr arhagorol yn cael en troi yn ol yn siomedig. Yr wyf yn credu yn gydwybodol mai dyben ein Loll athrofeydd ddylai fod cyfranu addysg i fechgyn teilwng 0 bregethwyr da, ond fel yr J wyf wedi dyweud yn barod nid felly y mae. Mae yn llawn bryd i ni fel eglwysi Anibynol Cymru i ddecbreu dihuno mewn cysylltiad a'r fath anghyfiawnder. Yr wyf yn credu mai dy- ledswydd pwyllgorau ein colegau ydyw derbyn ein bechgyn i fewn os byddant wedi d'od i fyny a'r safon pa faint fyddo y nifer, ac nid derbyn rhyw nifer fechan yn ol eu mympwy eu hunain. Onid ein heglwysi sydd yn cynal y bechgyn, ac onid y bechgyn sv'n cynal y colegau trwy gasglu yn yr eglwysi? Pa hawl sydd gan bwyllgor o naw neu ddeg i benodi unrhyw nifer i'n colegau, a pba hawl oedd gan y Pwyllgor a gyfarfu yn Rhyl i droi cynifer o fechgyn o bregethwyr da yn ol? Eu hesgus w mae'n debyg fod y dry- sorfayn wan. Y ffordd i chwi gael y drysorfa yn gref ydyw derbvn pregetbwyr a fedr danio y wlad i fewn i'r coleg. Peth anghyfiawn arall a wnaeth y pwyllgor uchod oedd troi bachgyn ieuanc yn ol ao ytitaa wedi pasio yn uchel yn yr arholiad, a'r unig reswm oedd ganddynt dros ei Wneud ei fod yn glnff. Pa hawl oedd ganddynt i wneud y fath beth ? Onid oedd eglwys Ani- bynol wedi ei ddewis i bregethu ac yn casglu at y ddau goleg trwy y blynyddoedd? Y mae ibadhgen ieuanc arall wedi ei dderbyn i fewn ac mid yw ei egtwys wedi cdsglu yr un dditnai at an o'r colegau er's rhai blynyddoedd. Onid ydyw pethau o'r fath yn anghyfiawnder o'r mwyaf? Hoffwn gael gwybod pa bryd, a pha fodd, a chac bwy y cafodd ein colegau eu troi yn farracks gan nad ydyw cloffion yn caei eu derbyn i fewn ? Onid ydyw yo rhyfedd meddwl fod y fath beth anghyfiawn ac annuwiol yn cael ei oddef gan ein heglwysi? Pa fodd y mae y Prifathraw Michael Jones yn gallu cyhuddo thyw rai wythnosautyn ol yn y Celt fod y Parchn. Oesian ac Eynon' Davieswedi cael eu gwaethaf, tra y mae yntau a'i gyd-weinidogion yn euog o'r un pechod pan yn penderfynu gwrthod der- byn y bachgen cloff serch iddo fod yn Ilwydd- ianus yn yr arholiad. Hoffwn gael gwybod pa le mae'r arian sydd wedi eu casglu yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf wedi myned? Nid ydynt wedi derbyn neb i'r coleg, yn ystod yr am. ser yna; credaf yn gydwybodol y dylasent dderbyn y tro hwn gynifer ag ymaenfi wedi methu eu derbyn yn ystod yr amser sydd wedi myned heibio, oherwydd yr oeddentyn casglu yr un fath pan nad oeddentyn derbyn neb i fe vn, felly dylasent dderbyn cynifer ag y maent wedi methu eu derbyn yn ystod y ddwy flynedd ddi- weddaf, mae hyny yn eithaf rhesymol gan en bod wedi casglu yr arian. Derbyniasant ddeg i fewn y flwyddyn yma i Aberhonddu, a naw y tro cyn hyny, tra y mae Coleg Bala-Bangor wedi methu derbyn rhagor nac wyth a hyny mewn dwy flynedd o acaser. Maeyn hen bryd i ni fel eglwysi ddechreu dihuno ac edrych i fewn 1 ba le y mae etc harian yn myned ac i ba ddyben. Credaf yn bersonol nad ydyw ein colegau yn ateb unrhyw ddyben fel y maent yn bresenol oher- wydd nad ydynt yn dysgu dim ynddynta wna les mawr gogyfer a'r weinidogaeth. Mae yn rhaid i ni gael chwyldroad colegawl a goreu i gyd po gyntaf a gymer byny le. Credaf y dylai rhywUD sefydlu Institution i ddysgu ychydig glassies ag sydd yn angenrheidiol, a gosod y pwys mwyaf ar ddysgu areitbyddiaeth a Duwinyddiaeth oher- wydd dyna'rpethan mwyaf angenrheidiol i'r rhai "ddyn parotoi gogyfer a'r weinidogaeth. Un dosbarth yn unig sydd yn ein colegau yn bre- senol, a'r dosbarth hwnw ydyw y rhai nad ydynt wedi bod yn gweithio erioed. Y mae ein pwyll- gorau fel pe baent wedi penderfynu cau allan y dosbarth sydd weJi bod yo gweithio yn galed nes eu bod yo ugain a phatup ar hugain oed. Y mae yn anmhosibl i'r dosbarth yina gystadlu a'r rhai sydd wedi derbyn y mauteision goreu o'il mebyd. Terfynaf yn awr gan obeithio y bydd mwy o gvfiawnder yn cael ei woead yn y dyfodol neu rhaid i'r eglwysi gymeryd y peth mewn llaw a mynu cyfiawnder. Gwauncaegurwen. ALFRED JONES. RHYFEL Y DEGWM YN Y DE. MB. Got.,—Ymddangosodd llythyr yn y Celt am Gorpbenaf 17eg, 1891, tan yr enw "Silur- iad." Y mae yr ysgrifeuvdd wedi gwisgo enw yr ymosodwr ofnadwy drwy'r Geninen, ar dde- fodan,ac arferion niweidiol enwadol. Ymosod- wr ydyw yr S}!ariad hwn, gyda'r gwaban- iaeth fod Y Siluriad" yn ymoaod ar arfenon, a'r" Siluriad hwn yn ymosod ar bersonau. Y mae llawer o bethau yn yr ysgrif sydd yn drwg. liwio dynion o gymeriadau pur a diamheuol o ran eu moes, yn y gymydogaeth yma. Nid yd- wyf YiJ ystyried y llythyr yn ddim gwerth i neb, nac i wrthwynebwyr y rhyfelwyr, nac i bleidwyr y rhyftfl, Ymosodlad sydd yma ar antur, heb rith gwirionedd, gydag eithrio ychydig bethau, heb drefn na chynllun. Pwy sydd ddim yn gwybod nad ydyw y ddeddf o blaid y degwm, &e. Y mae'r frawddeg "0 blaid y degwm ar unwaith yn dangos nerth meddyliol y Siluriad hwn. Cvhudda yr arweinwyr o fod yn bersonau anwybodus a diegwyddor, y rhai ni phetrn&ant wneud unrhyw driciau ystrywgar i gythaedd ea hamcanioo. Cydnebydd pawb fod cyhuddiad felly yn un difrifol a phwysig, ac yu gymaint mai am y blaid wrthdlegytnol yo Crymmych a'r cylchoedd yr ysgrifena, nid oes eisieu gallu cryf iawn i wybod pwy ydynt y personau hyn. Ac yr wyf fiwedi cymeryd rhan flaenllaw yn y mudiad oddiar pan yr ydwyf yma. Nid wyf yn boni fy mod yn arweinydd, ond edrychir arnaf gan luaws tuallan i'r ardal fel y oyfryw. Ac yr wyf yn teimlo fod y cyhuddiad yn un personol, ac yn y blaen dywed nas gall dynion "I difefl, glan en dwy law," &e. Ni all gweinidogion yr efengyl ymuno yn gydwybodol a'r rbai hyu. Yma y daver cyhuddiad yn fwy personol, vn mha gylch y byddaf fel gweinidog yn cymdeith- asn ond y cylch gweinidogaethol. Pwy bynag ydyw "Siluriad," yr wyf am roi cyfle iddo egluro ei bun yn nglyn a'r cyhuddiad hwn. Nid wyf yn petruso dyvfedyd nad wyf wedi ymdrechu yn yr boll fudiad ymddwyn yn deg a boueddig- aidd tuag at bawb, ac ni ysgrifenais lythyr,dan ffugenw i ymosod ar arweiniwr unrhyw blaid. Cynaaint a hyna yn be,sonol at Siluriad." Nid wyf yn teimlo angenrheidrwydd arnaf i aroddiffyny madiad yn y gwahanol fanylion, sef cyrn, &c., y maent dichon yn eadw'r bel rhag oeri. Ond etc, dywed "Siluriad fod rhai dyn- ion yn cymeryd rhan flaenllaw nas gallant fyned i ffair na marchnad heb feddwi, ac iselhaqi eu hunain. Mor bell ag y mae y gymydogaeth hon yn nglyn a'r mudiad gwrthddegymol. y mae'r gosodiad hwn eto yn gyfeiliornus. Nid wyf yn siarad am un gymydogaeth arall. A ydyw yn iawn i ymguddLo feucefn i ffugenw er nlwyo hyrddio anwireddau ar draws dyniongonest a chywir. Eglured "Siluriad" os mai am gym- ydogaeth arall a sieryd traethed yn amlwg ac Did dwyn cyhuddiad yn erbyn personau wrth siarad am Crymmych a'r gymydogaeth. Dywed "Siluriad" am ereill a ystyriant yn event eu bywyd cael siarad ag offeiriad neu wr bonheddig. Nis gwn pa sarhad sydd o siarad a'r cyfryw. Ond dywedaf hyn fy mod yn arferanerch yr offeiriad yn wastad mor siriol ag unrbyw ddyn arall. Dros egwyddorion yr ymdrecha gwir wrth-ddegymwr, ac nid yn erbyn personau. Yr wyf wedi rboddt derbyniad i'm ty rai bobeddig- ion, ac meddaf, rhoddais iddynt fel personau bob sirioldeb, fel i ryw ddyn arall. Cyn y teil- ynga Siluriad gael sylw rhaid iddo yssrrifenu yn eglurach y tro nesaf. Hwn yn myned i gynghori dynion i ddarllen mwy parthed eu hegwyddorion, ac ystyrid tipyn mwy am deim- ladau dynion ereill. Darllener ei lythyr, a barned 4 pob un faint o foneddwr ydyw ef ? Faint o wr .,l egwyddorol ydyw ef? Yn ymguldio tucefa ffugenw i roddi cynghorion a gwnead ymosod- iadau. Paham na ddaw allan tan ei enw priodol. Disgwyliaf gael eglurhad- ar yr uchod.—Yr eiddoch, &c., Penygroes, Blaenffps, JOHN EVANS. R.S.O., Pembrokeshire.

NEWYDDION CYMREIG.