Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

[No title]

Advertising

DR. PAN A'R VAN.I

News
Cite
Share

DR. PAN A'R VAN. Ni chlywir rhwng pob dau yn y De ar hyn o bryd, amgen i ddim na dadl ar Y Ddaear i'r Bobl." Priodolwn byn i vmwel- iad Dr. Pan Jones a'i gyfeillion a'r gwahanol gymvdogaethau i draethu eu barn ar y cwestiwn. Gan nad jwy pwne yn un new- ydd i ddarllenwyr cysoa y Gelt, brasgamwn i roddi ychydig o hanes y daitb o Gaer- fyrddin i Aberystwyth. Dealwn fod y campaign od<!iar y cyehwyniad yn Ngbas- newydd rhyw fis yn ol yn llwyddiant per- ffaith. Rhesymol ddigon yw credu fod y derbyniadau a gafwyd yn amrywio mewn gwresowgrwydd, fel ag yr oedd yr ardaloedd yn amrywio yn eu dealltwriaeth o'r pwnc, golygiadau gwleidyddol, a'r mesur fyddent yn ymddihynu ar drugaredd ryw Philistiad tirol yn y gymydogaeth am eu cyohaliaeth. Er byn.v ni ellir achwyn ar y cyfan, mae teimlad yr ardaloedd gweithfaol ac amaeth- yddol o blaid yr achos, fel na raid wan- obeithio am Iwyddiant hwyr neu hwyrach, am yr erys y gwirionedd taw Trech gwlad nag Arglvydd." Ni ellid lai na disgwyl eyfarfod, byd yn nod, yn mhlitb y dosbarth- iadau uchod ag ambell i ddafad ddu, Mae pobl i'w cael mor gibddall i'w lies personoi —caru'r tywyllwch yn fwy na'r gokuni, gor- mes yn fwy na rhyddid, a'r tirfeddiauwr yn fwy na'u teulu, fel na synem glywed taw y nefoedd oreu a ddymunai am bell un o hon. ynt gael, fydtlai derbyn yr un parch ar law eu meistr tir ag a rydd i'w gwn hela-profir chwip a bwyta dan y bwrdd. Nid digon gweitbio ond rbaid cael talu am hyny. Adgoffir ni bob amser gan y bobl hyn am y gwalch hwnw gafodd gynyg ar bymtheg swllt yr wythnos am weithio, ond atebodd yn sarug, Na, rhaid i mi gael dau swllt y dydd." Ystyriwn ef er byny yn ei anwy- bodaeth yn llawer callach na'r bobi yma sydd drwy waseidd-dra yo gadael i landlord. iaid sugno eu ywaed. Ond diolch fod y dos- barth yma yn iJeihan a bod y gwaseiddiaf o honynt bron ag amheu bellach a ydyw pob- peth yn iawn. Gwelir arwyddion o anfodd- lonrwydd o bob tu i ni. Anfoddlonir ar y pwlpud am na f'ai yn pregethu mwy ar y presenol difrifol a llai ar y pell dychmygol, Aafoddlonrwydd a'r wasg am na f'ai o naws mwy crefyddol au yn astudio daioni o flaen plaid a chylchrediad. Anfoddlonrwydd a chasineb cyflawn at drais a gorthrwm mewn byd ac eglwys, a deheuad angerddol am gydraddoldeb, a chwareu teg, mewn pob dull a modd. Cawsom brofion diamwys o hyn yn nghyfarfodydd y Van. Cyfchai y bobl iddynt o beltder wyth i ddeng inilltir, a dangosent frwdfrydedd angltyffredindros yr egwyddorion a ddysgid iddynt. Cafwyd cyfarfodydd da, llawri o deimlad yn Nghaer- fyrddin, ond Mae teimlad dan lestr oedd llawer o hono. Buasai cyfarfod y prydnawn yn llawer Uuosoeach pe ond wedi cadw at yr annser penodedig, ac yn ychwanegol, byddai yn arbediadsiomiant i lawer ag oedd wedi teitbio gryn ffordd gyda'r amcan o glywed y Doctor. Dywedir wrthym i'r eyfarfodvdd yn Nghonwyl, Velindre, Castell Newydd, a Llandyssul droi allan, yn bobpeth a ellid ddymuno. Ni fuont wrth reswm heb gael peth gwrthwynebiad, Bhaid i'r chwerw ganlyn y melus. Nid yw Miara yn mhell o Elim. Fel engraifft, yn Nghastell Newydd Emlyn cyflogwyd Punch and Judy gan y Toriaid fel counter I attraction, ond yn wir y dywed y Sais, the game was not worth the candle. Deallodd y gelyn taw gwell oedd ffoi na chynyrfu teimladau pobl yn ddiachos drwy ymyraeth a dysjiad yo mlaen gyfarfod rheolaidd a chyfreithla^n. Gwyr Toriaid Castell New/dd yn dda mai hiws gwneud gwynebau na gorchfygu gwrthwynebwr noewn dadl. Unais a'r Vanyn Llanbedr ac aethum efo'r Gipsies hyd Aberystwyth. Cafwyd cyiarfodydd rhagotol yn Llanbedr, Sadwrn ar Sul. Taeddid ni i gredu ar ein dyfodiad i'r lie mai derby niad oeraidd a gawsem, ond siomwyd ni yn yr ochr oreu. Pregethodd y Doctor prydnawn Sul oddiar y Van i dyrfa fawr, a chlvwsom lai wedryn yn dyweud yr aetbent bob Sul i gapel pe caent bregetbau CyfFeiyb. Ni wnaiff hyn eto ond gwirio yr hyn a ddywedasom yn barod, fod yn rhaid dyfod yn agosach at ddyn cyn y cyffyrddir a'i galon. Rhaid i ddynion gael bias netoedd yma cyn y medr- ant gredu mewn unrhyw nefoedd arfll. Os mai pric ddigon a gaiff o fara a dwfr i'w gorph yma, pwy a aIlei. feio am amhea bod digon ar gyfer ei enaid mewn byd ar ol hwn. Aethom yn ein blaen o Llanbedr i Dregaron, Pontrhydfendigaid, ac Aberystwyth, a chaf- wyd derby niad rhagorol ganddynt- Cyn- haliwyd dau gyfarfod yn y lie olaf, un ger— llaw y Town Hall, a'r llall ar y Terrace yn gwynebu'r m6r. Ni wnawn yn awr fanylu ar y cyfarfodydd bob yn un ac un; digon yw dyweud iddynt dynu llawer o bobl yn nghyd a chael sylw neillduol. Buwyd mor ffodus achael ein hvsbysiadu yn dda gan newyddur bychan Ceidwadol sy'n byw ar landlord patronage.Ni wnawn ei enwi rhag gwneud drwg i'w gylchrediad, ond yr yd/m yn hynod o ddiolchgar i'r golygydd athry- lithgar am roddi adroddiad mor dda i'r cy- hoedd o gyfarfodydd y Gipsies." Ni haedda ei nodiadaa golygyddol neuarweiniot ar y cwestiwnunsylw pellach oddiwrthym na hyn, Gratiano speaks an infinite deal of nothing, more than,any, man in all Venice; his reasons are as two grains of wheat hidden in two bushels of chaff; you, shall seek all day ere you find them; and when you have them they are not Worth the search" (Jotier y medr, pob ffwl grechwain a chwerthin, ond rhaid cael dyn i siarad synwyr. Gwell i ni roddi pen ar y mwdwl yn y fan hon, gyda dymuno am y dydd pan y bydd cyd- raddoldebachwareu tegyn toi'r ddaear fel y mae'r dyfroedd yn toi y mor. Coleg Caerfyrddin. BEN EvANS.

I COLOFN Y CL.ECION.

CENHADAETH GYMREIG.