Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
GOFID LOUISIANA: BYS DUW YN…
News
Cite
Share
GOFID LOUISIANA: BYS DUW YN ER- BYN Y LOTTERY. Y sefydliad hapchwareuol—y lottery—y&yw ,gofid mawr talaetb Louisiana yn awr. Niedy y sefydliad llygredig hwn gareg heb ei throi er sicrhau br,einlen i gyfreithloni ei masnach, a'i thwyll fel cynt. Mae galluoedd cryfion yn erbyn y mesur hwn. Mae y dalaeth ei hun vredi ei goodenmio unwaith, alr Llywodraeth Gyffrediftol wedi deddfa yn erbyn pob hap- chwareuaeth drwy yr11011 dalaethau. Modd bynag, nid yw hyn oil yn ddigon i daw ely cefu- ogwyr y lottery. Mae gwrthwynebwyr y sef- ydliad wedi ymgorphori i'w wrthwynebu yn mhob modd cyfreithlon. Gwrthwynebir y lottery gan Gyngrair y Tyddynwyr; diarddelant ei chefnogwyr, gan nad pwy fyddant. Arwein- ydd y symudiad gwrthwynebol ydyw yr Anrhy- deddus Charles Parlanger, o New Orleans. Agorir y rhyfelawd yn ebrwydd—o fewn yr ugain diwrnod nesaf-a chedwir ef i fyny hyd ddydd yr etholiad yn Ebrill, 1892. Nifeddy gwrthwynebwyr gronfa arianol at y gwaith, dim ond penderfyniad moesol,-teimlad parchus at burdeb a rhyddid talaethol i wrthsefyll galla enf awr eroofa arianol pleid wy r y lottery. Bydd yr ymdrechfa yn danllyd i'r eithaf. Cyhoeddir gan bleidwyr y llygredigaeth hwn nadgwiw byth i'r gwrthwynebwyr geisio swydd nac unrhyw salfe enillgar yn Louisiana os enill- ant hwy yr ymgyrch hon. Bydd y canlyniadau yn bendant, terfynol, a dialeddol os y lottery a eBilla. Nodwedd neillduol yn yr ymgyrch yn Neddf. wrfa y Dalaeth ydoedd hon: I basio y rheith- ysgrif drwy y Ty y flwyddyn ddiweddaf, yr oedd yn eisiau ar y lottery 66 o'r aelodau drosti, a. chafodd hyny i'r ffigiwr; i'w basio drwy y Senedd yr oedd 24 yn eisieu, a chafodd hyny a dim un yn ycbwaoeg ac i sicrhau |dy £ arniad yr Uchaf-lys yr oedd tri o'r barnwyr yn eisiau, a chafodd dri. CymeroiJd pethau rhyfedd le "yn y Ddeddf- wrfa ddiweddaf mewn cysylltiad a'i gwaith yn pasio rheithysgrif y lottery. Trodd un aelod a wrthwynebai y rheithysgrif ar y cyntaf i'w phleidio. Gwnaeth efe y rhif gofynol i fyny: ond pan ar bleidleisio ar y mater, cododd i egluro ei ymddygiad, ac i roddi iheswm dros y cyfryw a phan yn cychwyn llefaru tarawyd ef gan ergyd o'r parlys, fel nad allai byth wedi hyny eistedd yn y Ty. Dygodd byn rif y lottery i lawr i 65. Ond trodd un arall o blaid y mesur hapchwareuol; a phan yn nghylch datgan ei droedigaeth, tarawyd yntau 8-t dymchwehad, neu wendid meddyliol, a bu ddyctdiau cyn dyfod ato ei hun. Aeth yn ol, ar ol y ewbl, a thrwy ei bleidlais ef cariwyd y mesur. Eithr pan ddaeth i fyny am y bleidlais ddiweddaf yn y Ty, wdedymbestt o fellt a tharanau yn tori uwehben Baton Rouge—prif ddinas y Dalaeth-yfatb na welwyd yno o fewn cof neb o'r deiliaid. Pan geisiai Shattuck-arweinydd plaid y lottery— siarad dros y mesor, boddid ei lais yn nhrwst arch y daran, a bu raid iddo roddi i fyny, ac eistedd i lawr. A phan gyho&ddwyd y bleidlais tarawyd yr adeilad-y State House-gan fellten, a fflachiodd tan trydanol ar hyd y wifreuau drwy yr holl ystafelloedd Onid llais Duw yn erbyn y lottery oedd hyn ?—Columbia.
Advertising
Advertising
Cite
Share
ST. JACOBS OIL. jgT. JACOBS OIL. jpIODDEF AM UGAIN MLYNEDD. jjIODDEF AM UGAIN MLYNEDD. MR. WILLIAM DEAN, 6, Barleyfield-row, Walsall, a ddy wed" Yr wyf wedi dioddef bron yn barhaus oddiwrth y crydcymalau am ugain mlynedd. Am ddeuddeLg mis aid oeddwn alluog i weithio; profais amryw ysbyttai, nifer 0 feddygon, a llawer math o pbysic,a'r oll yn ofer; a methwn gael gorphwysdra na noa na dydd, hyd nes y cymerais St. Jacobs Oil. Fel canlyn. iad arfer yr Olew gwerthfawr hwn yr wyf yn awr yn gallu cysgu yn dda, ac hefyd fyn'd.at ty ngwaith yn gyson ao yn rbydd oddiwrth boen, wedi fy hollol iachau."
NEWYDDION CYMREIG.
News
Cite
Share
NEWYDDION CYMREIG. ABKHTSTWTTH.—Coleg y Brifysgol i Gymru.— Arholiad am Y,sgolQriaethau, Mehefin, 1831.—Y mae athrawon y coleg hwn wedi dyfarna yr ysgolor- iaethaa canlynol, am y flwvddyn ddyfodol, oddiar waith yr efrydwyr am y tymhor sydd yn awr yn terfynu:—Miss J Partridge, 25p Miss M O'Brien, 25p H J Howell, 20p; MissE C Biggs, 20p Miss M Howells, 20p; Miss A Richardson, 20p A E F Henderson, 15p; Miss R E Brooks, 15p; Miss MF Anderson, 15p; Miss M Davies, 15p; F W Moor- man, 15p; F W Barfod, 15p W L Broadbent- (ammodol), lOp; Miss M Firth, lOp; Miss E Croft, lOp; J T Roberts (ammodol), lOp; Miss A B Hewart, lOp; T C Hall, lOp A J Grieve, lOp; Stephen Jones (ammodol), lOp; Miss E Gadeby, lOp; T P Evans, lOp; David Ellis, lOp; Miss S A Taylor, lOp Bowell Davies (ammodol), lOp; T E Jones, lOp; R J Jones (ammodol), lOp James Daniel Evans, lOp; G H Pethybridge, lOp; Miss E S White, lOp; Miss M M Jeffery, 5p; W H Thomas, 5p; Richard Robert Williams, 5p; Miss A M Hewart, 5p E R Jones, 5p; Miss E M Moul- ton, op; John Phillips, 5p; Miss K Williams, 5p E W Thompson, B.A., ysgoloriaeth neillduol, 20p. —E P Jones, Cofnodydd. AMASFORD, GAERFYEDDIN.—Tsgol y Gwynfry-n. Y mae yr ysgol hon wedi tori i fyny am wyliau yr haf oddiar dydd Gwener diweddaf, Mebefin 26ain, ac y mae yn dda genym altu dyweud fod yr athrawon a'r disgyblion yn ymadael a'u gilydd ar ddiweddy tymhor hwn eto mewn teimladau cyf- eillgar, yr undeb goreu wedi bod cydrhyngddynt yn mhob modd yn ystod y tymor, a'r ysgol wedi bod yn hynod lwyddianus mewn llawer cyfeiriad. Y mae pump o'r myfyrwyr wedi pasio yn llwydd- ianus yr wythnosau diweddaf yr arholiadaii am fynediad i mewn i'r colegau enwadol. Mr E LI Armstrong, Pontardulais D Jones, Cwmamman; a L Richards, Penygroes, i Goleg "y Methodistiaid, yn Trefecca, Mr Armstrong yn ail, a Mr Jones vn drydydd ar y rhestr, a Mr J Morgan Jones a Mr W Evans, Defynog, i Goleg Aberhonddu, Mr Jones yn ail ar restr y rhai oeddynt yn sefyll yr arholiad. Ymaeeraill hefyd yn yatod y tymor wedi bod yn llwyddianus mewn cyfeiri&dau gwahanol, ac y mae yr oil yn tystiolaethu yn gryf o biaid medrusrwydd a diwydrwydd yr atbrawon, a manteision yr yagol ya gytfredinol.——Qyfarfod te.-Fel arfer ar ddi- wedd tymbor yr haf cynhaliodd y myfyrwyr ea cwrdd te dydd Iau, Mehefin y 25ain, mewn adeilad pertbynol i Dr Southern, ger Llandebie. iJwriedid cynal picnic ar fryn eyfagos ond rhwystrwyd ni yn ein hamcan, gan ami gawodydd o wlaw a ddisgyn- ent yn ystod y dydd, ond trwy garedigrwydd Br Southern yn rhoddi i ni fenthyg yradeilad eredwn fod pawb wedi mwynhau eu hunain yn hynad o dda, drwy y prydnawn yn y mwynbad o'r danteith- ion corphorol melus a blasus a barotowyd ar ein cyfer, yn ogystal a'r cyfarfod adloniadol difyr a gawsom o dan lywyddiaeth Mr W G Joaes, un o'r myfyrwyr, ar y diwedd.——Anrhegu teilyngdod. -Diau maidrwg. gan lawer heblaw myfyrwyr yr ysgol hon fydd deall fod ein hathraw clasnrol dysgedig a pharchus, Mr G G Jones, B A, yn ein gadael ar ddiwedd y tymor hwa, gyda'i olwg yn ddiamen ar faes eangach. Pan gafodd y myfyrwyr wybodaeth o'r ffaith, galwyd cyfarfod ar unwaith gyda'r amcan o'i anrbegu ar ei ymadawiad ft chy- tunwyd ein bod fel myfyrwyr yn oyfranu er thoddi rhywbeth iddo fyddai yn arddangosiad o'n teimladau da, a'n gwerthfawrogrwydd o'i kfur a'i gymdeithas yh mhob modd yri ystod y flwyddyn a haner y bu yn dal cysyUtiad a'r ysgol hon. Yr anrheg a ddewiswyd gan Mr Jones oedd desk ysgrifenu, a phrynwyd desk hardd i'r perwyl hwnw, yr hon a gyflwynwyd i Mr Jones ar ran ei gydfyfyrwyr gan Mr W G Jones, Glanamman, un o'r myfyrwyr hynaf yn yr ysgol, boreu dydd Gwener diweddaf. Derbyniwyd y rhodd gyda theimlafeu drylliedig a hynod ddiolchgar gan Mr Joaes yr hwn a ddywadai ei fod wedi gwneud ei oreta yamhob modd dros y myfyrwyr, er pan y mae yn y lie, a'i fod mewn perffaith gyfeillgarwch, a'r oil o honynt drwy yr holl amser, a'r un modd yn y He ac yn ei lety yn y Gwynfryn gyda theulu liaweo a charedig Watcyn Wyn. Yna siaradwyd gan ein prifathraw, Mr Watcyn Wyn, yr hwn a gyflwynai iddo gyfrol o weithian barddcnol Matthew Arnotd yn rhodd, a siaradai yn uchel iawn am Mr Jones fel cydathraw a chyfaill, ac ymddangosai ei fod yn teimlo yu ddwys wrth orfod ymadael ag ef. Siaradwyd hefyd i'r un cyfeiriad gan amryw o'r myfyrwyr, y thai oil a ddangosent eu bod yn meddu parch mawr ato, ac yn teimlo yn ddwys wrth feddwl en bod yn ei golli, gan ddymuno pob llwyddiant iddo etoyn y dy fodol. T'Gymdeithas Leflyddot-Y maey gymdeithas wedi parhau i gynal ei chyfarfodydd wythnosol f drwy iiaoedd yr haf byd derfyn y lymor hwn, yr hyn sydd beth newydd yn hanes cymdeithasau llonyddol ya gyffredin. Er pan ysgrifenasom i'r Celt ddiweddaf y mae pedwar cyfarfod wedi ea cynal. Y cyntaf, nos Wener, Mai 29ain, o dan lywyddiaeth Mr D, Baran Jones, pryd y darltenwyd papyrau hynod 0 alluog, ar y pwnc penodedig, sef 61 Pa un ai gwaith yr eglwys ynte gwaith y wlad- wriaeth yw dyrehafi ad y werin," gan Mr J J Prich- ard, Talybont, Ceredigion, a Mr D Tafwys Jones, Llundain. Yr ail, Mehefin 5ed, dan lywyddiaeth Mr E Li Armstrong. Darllenwyd papyrau ar y pwnc, sef Pa un ai annghrediniaeth ynte meddw- dod vw y pechod mwyaf ? gan Mr W Holmes a Mr D Baran Jones, yn Hawn rhesymau crytion. Cynhaliwyd y nesaf, Mehefin J2fed, 0 dan lywydd- iaeth Mr R W Prichard. Pwnc y ddadl y noson hon oedd Pa un ai o blith y dosbarthiadau nwchaf mewn cymdeithas ynte o blith y werin y mae yr athrylith oreu wedi tarddu ? Darllenwyd papyr- au arno gan Mri Ivor Eliaa a. Roger Williams, Tre- castell, y ddau yn wir dda ac yn arddangos llawer o allua mednisrwydd, Cymerwyd rhanya y dadleuon gan yr oil o'r myfyrwyr ddigwyddant fod yn bresenol, yia fywiog a grymus fet arfer. Cynhaliwyd yr olaf o'r tymor, Mehefin 19eg. Lly- wyddwyd gan Mr D Tafwys Jones. Cyfarfod adloniadol ydoedd hwn wrth ymadael a'n gilydd, a chafwyd cyfarfod hynod o ddyddorol mewn artrodd, canu, areithio, &c. Yna siaradwyd gan amryw o'r myfyrwyr y rhai oil a ganmolent y gymdeithas yn fawr, gan adrodd y daioni mawr oeddynt wedi dderbyn drwyddi yn ystod y tymhorau aethant heibio, ac a deimlent eu colled yn fawr wrth orfod colli aelodau gweithgar fel Mr Armstrong ac eraill ar derfyn y tymor hwn, a phasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch cynes i'r ysgrifenydd, Mr T B Mor- gan am ei ymdrechion gyda'r gymdeithas er ei sefydliad.—Goh. CYMANPA MTNWY.—Oynhaliwyd yr ochod ar y dyddiau Mercher ac Iau, Mehefin 24ain a'r 25ain,ya Berea, Blaenau. Y gynhadiedd am haner awr wedi dau y dydd cyntaf. Mr J Davies, Casnewydd, ya y sadair. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch J Griffiths, Oasnewydd. 1. Darllenwyd a chadaroka- wyd cofnodion y gymanfa flaenorol. 2. Penderfyn- wyd fod y gymanfa nesaf i fod yn Maesycwmwr. 3. Fod y Parch D R Morgans, Berea, i fod yn gadeir- ydd am y flwyddyn ddyfodol. 4. Fod y Parch D LI Wflliams, Machen, i g&sglu at y genbadaeth. 5. Derbyniwyd y Parch J Williams, Siloh, Aber- sychan, i'r cyfundeb. 6. Condemniwyd Tywysog Cymru am ehwareu Baccarat. 7. Condemniwyd Ysgolion Elfenol heb fod dan lywodraeth y bobl. 8. Cymeradwywyd Mesur Mr S T Evans, A.S. Yna cafwyd anercbiad y cadeirydd cyn gadael y gadair wedi bod yn ffyddlon iddi am flwyddyn gton. "Anibyniaeth yn Mynwy," oedd pwnc y papyr, un cryf, llym, ceryddol, eto yn Hawn o ddymuniadaa da oedd cynwysiad y papyr. Wedi cael gair ar y papyr gan y Parch.R Rowlands, Treflys, a J Thomas, Merthyr, a diolch yn y modd oynbeaaf i Mr Davies am ei bapyr rhagorol, gyda dymuniad am iddo pel ei gyhoeddi (wrth gwrs). Terfynwyd y gynhadledd hon drwy weddi.Moddion.Am baner awr wedi saith, dechreuwyd gan y Parch J T Evans, Brya- mawr, a phregethwyd gan y Parchn J Thomas, Merthyr, a Dr J Thomas, Lerpwl. Dydd Mercher, am saith, dechreuwyd gan y Parch D W Rees, Coed- duon, a phregethwyd gan y Parchn D Ll Williams, Machen, a J Jones, Mynyddislwyn. Am haner awr wedi deg, deehreuodd y Parch J T Phillips, Tredegar Newydd, a phregethodd y Parchn J Thomas, a Dr J Thomas. Am haner awr wedi dMf, dechreuodd y Parch J S Rees, lianhiddel, a phre- .gethodd y Parchn J T Phillips, a J T Hughes, Maesycwmwr. Am haner awr wedi chweeh, dech- reuwyd gan y Parch D Morgans, Ysfcradfellte, a phregethodd y Parchn R Rowlands a Dr J Thomas. Ar yr un adeg, yn y capel Seianig, yr oedd oedfa. Seisnig. Dechreuwyd yr oedfa hon gan y Parch Rhys Harries, Abertileri (gweinidog dyfodol Nar. berth, Penfro), a phregethwyd gan y Parchn J Ll Jones, Abersychan, a J Thomas, Mertbyr. Mae ysgrifenyddion y cyfundebau yn arfer rhoddi rhyw- beth yn y fan hon yn nghylch y trefniadau, a'r ym- borth a'r croesaw, &c. Ddyweda i ddim ond dy- rauno ar y Pen Mawr i wneud y goreu o'r oil er ein gwella.-D M P. EBBW VALE.—Neho (B).-Dyddiau Sul a Llun, 21ain a'r 22ain cyfisol, y cynhaliwyd eu cyfarfod mawr hwy. Yr oedd yn gweinyddu y parchedigion canlynol: W Williams, New Tredegar; a G Griffiths,, Rhymni. Ar y Sul am ddau o'r gloch, pregethodd W Williams bregeth yn Seisnaeg. Cafwyd pregethau cryf a dylanwadol ac arwyddion amlwg fod y gwlith nefolaidd yn disgyn arnynt. Gobeithio y gwelir ffrwyth lawer, o'r rbai a tydd ar gael byth. Casglwyd yn helaeth at drywrfa y &