Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

ADRAN YR ADOLYGYDD.

News
Cite
Share

ADRAN YR ADOLYGYDD. Y Croniel, Ionawr 1891.-Bangor Argraff- wyd gan Samuel Hughes, Swyddfa'r Croniel a'r Celt.-Daeth yr hen fisolyn i law yn brydlon. Mae ei gynwys ar ddechreu y flwyddyn bresenol yn hynod o addawol. Hysbysir fod y. symudiad y flwyddyn ddiweddaf i Paugor wedi bod yn fendithiol iawn iddo. Cafodd ddillad newydd, t &c enillodd iddo ei hun gyfeillion newydd. Ceir yn y rhifyn hwn ddarlun celfydd o Dr. Dale, Bir- mingham, ac ysgrif gryno ar hanes ei fywyd, gan y lienor dysgedig Llew Tegid. Yr un boneddwr sydd hefyd wedi cyfleithu Y Peth mwyaf yn y Byd," gan Proffeswr Drummond. Dyma ysgrif d £ l am ei darllen a'i iiail-ddarllen drosodd a throsodd drachefn. Mae mor syml ac yn llawn athroniaeth, yn cynwys meddyliau mawr, ond er hyny yn agos atom. Diau genym y bydd darllen manwl ac ymchwilgar ar yr ysgrif hon. Ceir befyd ysgrif gan y Gol. (y Prifathraw M. D. Jones) ar yr "Eisteddfod" Mae Cymraeg y Prifathraw mor Gymroaidd fel y bydd yn dda gan efrydwyr yr oes cesaf edrych i fvny atynt, a'u myfyrio. Da y gwna pwyllgorau eisteddfodau dyfodol dderbyn yr awgrymiadau a rydd y Golygydd o'r Bala iddynt. "Er wedi marw yn llefaru. eto" y gellir dyweud am yr hen wron dewr y diweddar J.R. Dyma bregeth ar Ddir- west" yr hon a ddarllena mor naturiol ag yr arferai yr addfwyn J.R. bob amser ag ysgrifenu a llefaru. Ceir parbad o ysgrifau dyddorol y Parch. D. Wynne Evans ar "Ail Ddyfodiad Crist," ac er nas gallem gydweled a'r awdwr, eto yr oeddem yn cael llawer o fwynhad wrth eu darllen, a diamheu y byddant yn fendithiol i lawer i ymholi A ydyw y pethau hyn felly." Mae beirniadu y don allan o'm cyrhaedd, ond fe -wyr y mwyaf anwybodus mewn cerddoriaeth ei bod yn dda pan ddywedwn ei bod o weithiau Mendelssohn, ac mai Mr D.V. Thomas, Chicago, ydyw Golygydd y Gerddoriaeth. Mae gan Pedrog "Ystorm Tiberius" yn llawn o'r peth byw sydd yn gwneud barddoniaeth. Ceir darnau barddonol eraill lied dda, ac amryw ysgrifau na chaniata eich gofod i mi ymhelaethu arnynt.- Adolygwr.

[No title]

Advertising