Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
\....,BARDDONIAETH. Ij
News
Cite
Share
BARDDONIAETH. |« YSGRIFEN Y DARN LLAW." Teyrn Belsassar wnaeth wledd enwog, I gael dawns ac yfed gwin Ond pan osdd a'i gwpan hudawl Yn godedig at ei fin; Gwaeddodd allan yn grynedig, Nes oedd pawb yn syn mewn braw, Pan ganfyddodd ar y pared, Ryfedd eiriau y "darn Haw. Ai llaw Seraph ynte Gabriel, Neu rhyw angel disglaer gwyn, Ynte Haw rhyw gerub cywram Fu yn cerf:Lor geiriau hyn 0, po. na! nid 'run o honynt, Er eu bod a Haw mor gun Mene, Tecel, ac Upharsin! Gerfiodd Duw a'i law ei hun Deall gair nis gallai dewin, Na sylwedvdd o un lle, Na rhoi iot 0 wir ddeongliad Ar ysgrifen gain y ne' Dacw Daniel, focbgoch fachgen, Yn craff syllu ar bob pwynt, Yna d'wedai yn ddibetrus, Llaw fy Nhad a'u cerfiodd hwynt. Dyma'u hystyr mewn byr eiriaa, Heb ddim bost na gwag ymdroi, Mae dy hawddfyd wedi myned, A dy gysur wedi ffoi; o Belsassar, mae dy ddyddiau Wedi'u rhifo gan fy Rhi, A'th frenhiniaeth faleh annuwiol, Sydd ar derfyn 'nawr i ti. 0 Belsassar, dy ddrygioni Fu yn nglorian pwysdy m Duw, Dyma ddarlun Llyfr y Barnwr Uwch dy ben, a thithau'n fyw; Ysgrif fechan ar y pared, Y darn Ilaw a'r dwyfawl bin, Sy'n mynegi dy dragwyddol, Ddifnf brawf, fe'th gaed yn brm. LlandderfeL NID MYFI. (Efelychiad.) I gwrdd fy Nuw ni radaf fi A chyflym ystwyth draed, Hyd lwybrau poblog Canaan gu Fel gynt gan rai a wnaed; 'Thywalltaf fi mor gloew win, Na'r enaint per ei sawr, Na dwyn y clogyn porphor cAn Neu'r Ilian cain ei wawr. Ni cheir myfi yn tori'r blwch Ar ben yr anwyl un, Nae ar fy ueulin yn y Uwch Fel Mair o wylaidd lun Ni cheir myfi yn cario'i groeS, Fel-Simon tua'r bryn, Nac er ei fwyn yn goddef loea A cholli gwaed yn llym. Ni cheir myfi yn rhodio'n fwyn Drwy'r glynoedd diffaeth du, Nac yno'n dringo bryn a thwyn Yn ddirgel gyda'm Rhi; Fy angen i nid oes ar Dduw Er gwneud gweithredoedd mawr, Fo'n synu pobl 0 bob rhyw Yn ngwledydd mwya'r Hawr. Ond 0, fy Nuw, pe gallwn i Wneud un blodeuyn gwan, I sawru'n well am awr i ti, Yn ufudd gwnawn fy rhan; Pe gallwn yn nghynbauaf byd, Lie rhwymir gan y cryf, Ond rhwymo ysgub fach yn nghyd I chadw yn y rhif. Pe gallwn ond llefaru gair, Pan pawb yn dawel bydd, Er belpu'r gwan fyn'd drwy y pair, Trwy gadarahau ei ffydd; Pe gallwn siarad codi'm lief, Nes tynu'r dagrau'n lli, A throi ein enaid tua'r nef Dim rhagor geisiaf fl. Owynfryn, T. BpYNWYN MobgAN. AmMiford.
NEWYDDION CYMREIG
News
Cite
Share
NEWYDDION CYMREIG AMANFORD.-Y mae gan y Celt ychydig enwau yn Amanford. Yr hen dad anwyl a pha-ichus, a'r cristion pnr a gloew John Thomas, Gellimanwydd, yw y Celtwr, efe ddosbarthodd y newyddiadur clodwiw. Gwna ei waith yn rhagorol. Haedda ganmoliaeth nchel am ei ymdrech i'r Celt fod yn meddiant ei ddarllenwyr cynted y mae byny yn bosibl. Nis gwn a oes ganddo lyfr casglu. Os nad oes, hyderwn y ca un yn fuan. Gwnai ddefn- ydd priodol ohono, ac y mae yn haeddu rhan o'r canpunt, Bn Eglwys y Christian Temple yn dewis diaconiaid newyddion yn ddiweddar. Yr oedd chwech yn dal y swydd yn barod; neillduwyd pedwar eraill atynt. Y mae crefydd yn gwisgo agwedd lewyrehus yn yr eglwys ac yn y gymy- dogaeth. Mae yma lawer o bethau yn tysiolaethu fod llwyddiant yn dilyn yr ymdrechion wneir o blaid crefydd. Mae cyfarfodydd yn cael eu cynal gan ieuenctyd yr eglwys; mae ysgol gan lewyrch- us mewn cysylitiad a hi; cyfarfodydd dymunol a chyfeillachau crefyddol dyddorol. Gwneir daioni I mewn amryw gyfeiriadati yn y lie hwn ar hyn o bryd. Mae yma ddynion lawer yn ein plith sydd a thuedd ynddynt at bethau da. Mi fyddaf yn y dyfodol yn awr ac eilwaith yn gwneud rhai syl- wadau ar y bobl dda yma yn nghyda'u cyflawn- iadau, os bydd hyny yn dderbyniol gan Olygydd ymdrecfegar y Celt. Darllenfa Gyhoeddus yw un o sefydliadau goreu y lie. Cynhelir cyfarfod- ydd adloniadol yn achlysurol mewn cysylltiad a hi. Profodd y rhai hyn yn llesol i ddynion ieuainc y Ita i'w cadw ymaith 0 swyn y dafarn. Mae yma ddwy gymdeithas lenyddol, adnabyddir un o hon- ynt dan yr enw Cymdeithas ddadleuol Aman- ford," a'r un arall fel Cymdeithas lenyddol y Gwynfryn." Myfyrwyr Watcyn Wyn yn unig fynycha yr olaf, mae y llall yn agored i bawb. Cymer boneddigion pena'r ardal ddyddordeb yn- ddynt, a gwnant eu goreu drostynt. Gwisga y ddwy agwedd ddymunol a Uewyrchus. Credwn fod iddyut ddyfodol disglaer, ac y gwant les i lawer. — Celt go AmankorA v.rRDDiN.— Ysgol y Gwynfryn. —Nos Iau, KL.-ig, ,.8fed, rhoddwyd gwledd 0 de a theisen i fyfyrw^r yr ysgol hon a gwahoddedig- ion eraill yn yr ysgoldy gan deulu y Gwynfryn a boneddigesau caredig o'r lie, ydynt yn dewis celu eu henwau. Treuliwyd y noson yn hynod o ddi- fyr a llawen. Yr oedd y danteithion wedi eu darparu yn y modd goreu, a phawb yn ymddangos yn eu mwyphau yn dda. Wedi mwynhau yn helaeth o'r pethau hyn, cafwyd amser difyr mewn areithio, canu, rhyddymddiddan, ac ymwnend ag amryw chwareuiaethau difyr a diniwed, yn mha rai y cymerwyd rhan gan y myfyrwyr ac eraill. Cafwyd hefyd anerchiadam barddonol gan rai o'r myfyrwyr ynystod y cyfarfod. Llywyddwyd gau un o'r athrawon, Mr G G Jones, B.A. Credwn fod pawb wedi ymadael gyda dymuniadau am gael cyfarfod tebyg yn fuan eto, oblegid y mae cyfar- fodydd o'r fath yn ateb y diben yn dda, pe na baent ond yn dwyn y myfyrwyr a phobl y lie i adnabyddiaeth o'u gilydd. Y Gymdeithas Len- yddol.—Cynhaliodd aelodau y gymdeithas hon eu cyfarfod wythnosol aTferol, a'r olaf y tymor hwn, yn ysgoldy Gwynfryn, nos Wener, 1ge9. Llyw- yddwyjl gan Mr D O Davies, Llanelli, a darllen- wyd papurau ar y pwnc penodedig, sef" A ddylai Mr Parnell ymddiswyddo o arweinyddiaeth y blaid Wyddelig?'"gan MrT Jenkins, Castellnedd, a D B Jones, Baran; y cyntaf yn gadarnhaol, a'r olaf yn nacaol. Cafwyd dadl fywiog ar y pwnc, a phan ranwyd, cafwyd y mwyafrif dros y nacaol. Neuadd yr Iforiaid.-Nos Wener, Rhagfyr 12fed, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus o dan nawdd Cymdeithas Ddadleuol Amanford yn y lie hwn. Llywydd y gymdeithas y Parch T Davidson (EJ, yn y gadair. Darllenwyd papur rhagorol y tro hwn gan Mr J Lloyd, Pontyclerc, ar ei Daith i'r America." Nos Wener canlynol, Rhagfyr 19eg, cafwyd dadl gyhoeddus yn yr un lie, ar A ydyw darllen ffugchwedlau yn fuddiol." Llywyddwyd yn ddeheuig a doniol gan Watcyn Wyn. Darllen- wyd papur galluog ar yr ochr gadarnhaol gan Mr G G Jones, B.A., Gwynfryn ac ar y nacaol gan Mr R Callard, y ddau yn Seisneg. Yna cafwyd dadl gyhoeddus yn yr hon y cymerwyd rhan gan y Cynghorwr Jones, Tirydail; Dr Humphreys, Mr S Callard, a Miss Prichard o'r lle,a Mri R. T Jenkins a T B Morgan, o ysgol y Gwynfryn. Pan ranwyd y ty cafwyd mwyafrif o naw dros ddarllen ffug- chwedlau.-Gohebydd. Cynwyd.—Yr Addoldy Anibynol.—Da genym ddeall fod y oyfeillion Anibynol yn y lie uchod wedi penderfynu gwneud eu goreu i dynu'r ddyled sydd yn aros ar yr addoldy newydd. Oynhelir cyfarfod- ydd adloniadol ganddynt 111 ystod y tymhor gauafol r yma; a chafwyd y pumed o'r gyfres nos Fawrth diweddaf, dan lywyddiaeth y Cynghorwr H Davies. Mae Mr Pritchard, y gweinidog, yn llafario ya ddiwyd a llwyddianas, ac mae yntau fel ei bobl, ya gwneud ei ran gyda'r ddyled. Rhai o'r Sabbothaa diweddaf, bu yn y Bala yn pregethu, ac yn casglu at yr achos, a daeth adref wedi cael croesaw helaeth gan ddeiliad Athen. Nid oedd y swm ddim llai nag oddeutu .£15, a chyfrif yr ychydig sylltau sydd mewn addewid. Tra yn canmol pobl y Bala am ddyfod allan mor anrhydeddus, yr ydym yn canmol y gwein- idog llafurus am weithio mor galed 0 dan yr anfan- teision, o'r pryder meddwl yr oedd ynddo oherwydd afiechyd ei anwyl briod. Da genym ddeall ei bod ya gwella yn dda yu ysbytty Lerpwl, ar ol bod 0 dan operation. Ein gweddi yw, ar iddi gael adferiad buan i fod yn gysur i'w theulu am lawer blwyddyn. -Goh. Dyffryn Dwybeimol Mynwy.—Cynhaliodd Gweinidogion Anibynol y dyffryn hwn eu cyfarfod misol yn Siloh, Abesychan, dydd Mercher, Rhag- fyr 17. Y gynadledd am 3.30, pryd yr oedd yn bresenol y Parchn L Rees, Blaenafon, yn y gadair; J Ll Jones, Abersychan (ysgrifenydd) D M Davies, Farteg; M Evans a J P Thomas, Pouty- pool; J Rees, Griflithtown a Mon Evans, Rhiw- deryn; ac amryw o faodyr a chwiorydd 0 Siloh. Y cyfarfod nesaf i fod yn Rhiwderyn, Mercher y Mercher olaf yn lonawr. Pwnc y gynadledd yw Cristionogaeth gymdeithasol fel yr amlygir hi ya nghynllun y General Booth." Dysgwylir y Parchn D M Davies a J Ll Jones i bregethu yn yr hwyr. Yn y gynhadledd ddiweddaf cafwyd ym- ddiddan ar y "Pechod yn erbyn yr Ysbryd Gl&a"—- yr oedd pawb o'r un farn am dano, yna cafwyd cynhaliaeth corfforol blasus gan Mrs John Thomas. Yn yr hwyr dechreuwyd yr oedfa gan y Parch L Rees, a phregethwyd gan y Parchn J P Thomas a M Evans, Pontypool.-G. R. EBBW V ALE-Angeu yn dyfal weithio.—Y mae angeu wedi chwalu tad, mam, a'r ferch, 0 Ionawr hyd Rhagfyr, 0 Heol yr Eglwys, sef y diweddar Dan Williams, yn Ionawr, ei anwyl briod yn Chwefror, a Ruth yu marw yn Rhagfyr, gan adael y 11 dim ond un ferch ar ol, ac y mae hono yn hynod sal. Y mae yr ergydion bron wedi ei llethu i'r llawr. Tad yr amddifad, cofia yr unig un sydd ar ol, ac estyn dy law drugarog i'w chynorthwyo.——- Eto David Jenkins. Cafodd oes hir ar y ddaear, sef 85 o flynyddau. Yr oedd efe yn aelod selog yn Penuel. Cafodd amser hir i barotoi gogyfer a'r byd tudraw i'r lien, a gwnaeth ddefnydd iawn o'i amser, ac y mae wedi myned oddiwrth ei waith at ei wobr.——Bryrihyfryd (B).-Nos Sul, 14eg cyfisol, cafodd lleg eu bedyddio gan y Parch Roberts, eu gweinidog. Y mae hynyna yn llefaru yn uchel iawn fod gwaith yr Arglwydd yn llwyddo; y mae sierwydd y llwydda, medd y gwirionedd, ac y mae yr arwyddion sydd yn gan- fyddadwy yn yr ardel hon yn profi hyny, canys wele yehydig arwyddion. Caersalem, Victoria (B).-Dydd Sul, 14eg cyfisol, oedd eu cyfarfod chwarterol hwy. Yr oedd yn gwasanaethu yn y cyfarfodydd y Parch — Davies, Login. Sir Gaer- fyrddin, a'r Parch — Jenkins, Heol yr Eglwys (B), Tredegar. Yr oedd yno gynulleidfaoedd aruthrol o fawr trwy'r dydd. Yn y boreu, yn Gymraeg. Davies, Login am ddau, Jenkins, yn Seisneg, a Davies, Login, yn Gymraeg a Seisneg yn yr hwyr, Davies yn Seisneg, a pheth Cymraeg. Yr oedd tywalltiad helaeth o'r Ysbryd GlAn yn gan- fyddadwy trwy y dydd, a chasglwyd yn dda at achosion yr eglwys. Providence (B).-Cyuhal- iwyd y cyntaf o'r cyfarfodydd adloniadol nos Lun, y 15fed oyfisol. Cymerwyd y gadair gan y gwr parod a defnyddiol, sef Henry Cool, gwr yn deall ei waith yn dda yw efe. Gwasanaethwyd gan y rhai canlynolCan, H Blakmore, Dan Thomas, Francis James, John Price, Lizzie Jones; deuawd, H Blackmore a Lizzie Jones; can, John Price; darlleniad, G Peck; adroddiad, Miss Nobbe a A Morgans; darlleniad, H Blackmore; ac araeth ddifyfyr ddaeth a'r cyfarfod i ben. Y Cymdeith- ranwr, A Jones. Cafwyd cyfarfod rhagorol o dda, yr elw at drysorfa yr eglwys. Y maent i fod bob pymthegnos am y gauaf.—JShedydd Wyn. Gogledd Ceredigion.—Cynhaliwyd cyfarfod daufisol y cyleh hwn yn Llangwyryfon, ar y dydd- iau Mawrth a Mercher, Rhag. 9fed a'r lOfecU Pregethwyd gan y Parchn. Davies, Bethesda; Jones, Talybont; Lewelyn, Clarach; Parry, Llaa2 badarn Penry, Aberystwyth Thomas, Salem, a Miles, Aberystwyth. Yr oedd y cynulliadau yu. lluosog, mor lluosog fel y gorfu i ni fyned y noson olaf i gapel eang y Methodistiaid. Cafwyd hefyd weinidogaeth nerthol a charedigrwydd mawr. Arosed bendith Duw ar y praidd bychan yn y De. -Gok.