Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
GANWYD. MORGAN.Rhagfyr l?fed priod Mr John Morgan, Bryntirion, Caerphili, ar ferch, PRIODWYD. ft ft Davies—Jgnes—Rhagfyr 16eg, yn nghapel Dany- eastell, Crughy wel, Mr Edward Davies, goruch* wyliwr Arglwyddes Llanover, a MrsAnn Jones, Uaefchwraig Syr Joseph Bailey, A.S. BU FARW. DAVIES.—Rhagfyr 9fed, yn 63 mlwydd oed, Wil- liam Davies, Waun-ty-maen, Cwmavon. Blinid ef gan ddiffyg anadl er ys rhai blynyddau fel nad B*uu "Wnydm moddion grasyblva- Jdioedd diweddaf, ond bu yn enwog am ei ffyddlondeb yn nghapel Sion tra y parhaodd ei nerth, a diau y bu marw yn elw iddo. Claddwyd ef y dydd Gwener canlynol yn mynwent y plwyf gan y Parch D Evans, a thystiai pawb fod William Dafydd yn Israeliad yn wir PROSSER Rhagfyr 5, yn 70 mlwydd oei, Mr John Prosser, Ffwddog, ger Crughywel.
RHODD NADOLIG A CHALENIG.
News
Cite
Share
RHODD NADOLIG A CHALENIG. Os oes rhai o ddarllenwyr y Celt eisieu an- rhegu eu cyfeilhon tuar gwyliau presenol, nid oes modd iddynt gael dim fyddo yn fwy der- bynioi na Llawlyfr yr Anibynwyr gan Dr E Pan Jones. .7 a Anfoner yn ddioedi at y cyhoeddwr—Samuel Hughes, Y Celt, Bangor.
Y CWERYL GWYDDELIG.
News
Cite
Share
Y CWERYL GWYDDELIG. Y mae yn gysur i mi i feddwl fod y Celt wedi bod y pleidiwr cyntaf ar pleidiwr cysonaf i'r blaid Wyddelig o'r holl newyddiaduron Cymreig. Heddyw y mae yr holl newyddiaduron Cymreig yn pleidio Ymreolaeth i'r lwerddon ac eithrio yr eiddilod papyrau a gyhoeddir yn Nghymraeg o dan nawdd yr ben estrones o eglwys dreisiol sydd yn dihoeni ar bwys y wlad yo lIe byw erddi. Ddeng mlynedd yn ol yr oedd amddiffyn" y Gwyddelod yn waith ag oedd yn gofyn cryn dipyn o ftnibyniaeth meidwl, a ehryn dipyn o wroldeb moesol yn herwydd dygn anwybodaeth gwerin Cymru o hanes y Gwyddelod; ac nid anrhydedd bychan i'r Celt yw y rhau a gymerodd i gefnogi y Gwyddelod yneu bymdrech i sicrhau iddynt eu hunain hawl i lywodraethu eu hachos- ion eu hunain ar eu daiar eu hunain. Yr oedd yn dda genyf weled yr hen arweinydd cenedl y BonwrM D Jones yn y Celt diweddaf yn am- ddiffyn Parnell, y gwladweinydd. Y mae wedi ei amddiffyn bob amser, a buaswn yn synu pe buasai yn troi ei gefn arpo yn awr ei brofedig- aeth. Ni chlywais erioed i'r Bonwr MD Jones werthu cyfaill na dyn o'r byd yr ymddiriedai ynddo. Y mae Parnell wedi bod yn euog o anfoesol- deb dybryd, ac y mae ei bechod wedi ei oddi- weddyd, fel y goddiwedda bob pechadur hwyr neu hwyrach. Nid oes neb a gais amddiffyn pechoa Parnell, ond credaf mai yr hyn a eilw y Saesonyn cant, a'r hyn a eilw yr lanciaid yn bunkum yw y rhan fwyaf o'r cri a godir yn erbyn Parnell. Nid parch i'r ddeddf foesol sydd yn mhob amgylchiad wrth wraidd y gwrthwynebiad iddo. Pe buasai Iesu Grist yn awdurdod ei burdeb yn myned i'r Senedd ac yn dyweud "Pwy bynag o honoch sydd ddibechod tafled yn gyntaf gareg at Barnell." Y mae yn sicr genyf yr ymadawai oddiyno lu mawr o rai a honant fod yn Ilawer mwy moesol na Pharnell. Ar ol y ddedfryd yn y Llys Ysgar (llys yw hwn lie y mae pendefigion a gwyr mawr y Saeson yn rhoddi cyfle i'r werin i weled mor lygredig eu buchedd yw pendefigion) pasiodd yr aelodau Gwyddelig benderfyniad yn datgan ymddiried yn Mbarnell, ond ar ol i'r hwn yr hoffa y Saeson ei alw yn Grand Old Man ddyweud nas medrai ef gydweithio a Pharnell aeth mwyafrif y blaid Seneddol Wyddelig yn ei erbyn, yr un pryd cy. hoeddodd yr offeiriaid Pabaidd lythyr yn ei gondemmo. Tybed na wyddai y bobl dda hyn jjjt odineb," yn rhan o'r deng air aedat cyn x Gladstone agor eu llygaid p Gellir tybio na wyddent. Gofaled y Cymry rbag credu mai Parnell yw yr arweinydd Gwyddelig cyntaf a erhdiwyd gan y Saeson. Dyma fu rhan pob gwladgarwv (^-wyddelig a fu yn arweinydd i'r genedl. Gellir dyweud am Hagh O'J^eill Owen Roe O'Neill, Wolfe Tone, Robert Emmett! Murphy Daniel O'Connell, John Mitchell, 0 Donovan Rossa, Michael Davitt ac aneirif eraill, mai carchar ac angau oedd eu gwobr san y Sais. < ° Wrth son am Lywodraeth Lloegr dywed y Shah o Persia yn ei ddyddlyfr fod yma ddwy blaid, a phan y byddo un blaid mewn swydd, fod y blaid arall allan, ac y mae y Shah wedi hitio y gwahaniaeth rhypgddynt i'r dim. Nid oes y dim lleiaf o wahaniaeth rhwng y Rhydd- frydwyra r Toriaid pan mewn swydd. Pan yr oedd y Toriaid ar lawr aethant i gyngrhair a' Gwyddelod, wedi unwoith fyned i swydd ac aw durdod gwnaetbant eu goreu drwy y Parnel f.eiIdige<3i§' ^offa •'1 J^yr ddifetha y Blaid Wyddehg, ond methasant. Erys rhai blynyddoedd bellach, y mae Gladstone a'i blaid ar lawr, ac yn ei gyfyngder aeth yntau hefyd i gyngrhair a'r Gwyddelod (er iddo pan mewn awdurdod fod lawn mwy creulon wrthynt na Balfour) ac nid oedd neb decach ei wdn ra llaesach ei foes i'r Gwyddelod. Efe oedd y dyn i adfer oes euraidd y gened!. Gwelodd y wlad yn ymddeffro i roddi ei hiawnderau i'r Iwerddon a gwelai y debygrwydd y byddai iddo ef yn fuan gael ei alw i lywodraethu, acyn nghwynap moesol Famell gwelodd egwyl iV ladd fel gwladweinydd. fel y tybiai, gwelai gyfle i wneud yr un bndr. waith ac y methodd y Commission a'i wneud. a chafodd y fantais o sefyll yn ymddangosiadol dros anrhydedd y Deg Gorchymyn wrth wneud. Dyma fely mae y Sais wedi ymddwyn at ddynion goreu mwyaf hunanaberthol pob cenedl a ores- gynwyd ganddo. Y mae ar y gorthrymwyr Seisnig yn Rhyddfrydwyr a Cheidwadwyr ofn plaid anibynol yn y Senedd, plaid wedi gwneud diofryd i fynu iawnderau i'r bobi a gynrychiolant. Nid pechod mawr Parnell yw ei odineb ond ei waith yn arwain y Gwyddelod i orfodi ffug Ryddfrydwyr Lloegr i roddi Mesur Tir i'r Iw- erddon, a'i benderfyniad i fynu Ymlywodraeth. Y mae ar dirfeddianwyr Lloegr a Chymru fwy o ofn un Parnell nag sydd arnynt o ofn yr boll aelodau Cymreig gyda'u gilydd, ae nid beb achos ychwaith, Y mae Parnell a'i blaid wedi codi ysprydion yn Nghymru a Lloegr y rhaid wrth rywun cryfach na'r Grand Old Man i'w gostegu a u darostwag. Bu y ddrychiolaeth a elwir <« y blaid Gymreig yn flaenliaw iawn yn condemnio Parnell, ond y mae yn gysur meddwl fod y wlad yn prysur ddyfod i gohdemnio y gwanynod. a alwant en hunain "yn blaid Gymreig." Nid yw cynrych- ioliad Cymru yn y Senedd ond ffug noeth Nis gellir disgwyl fod gan Smith, Rathbone, aRen- del fawi-o gydymdeimlad a Cbymry ac nis gall fod gan OsborneJMorgan fawr gydymdeimlad ag Anghydffurfiaeth Cymru. Y mae Stuart Rendel yn cmiawa yn rhy ami gyda Mr Gladstone i fod yn gynrychiolydd Cymreig, ond gwna eithaf cadeirydd i'r blaid Gymreig lasdwraidd wlanen- aidd sydd yn y Senedd ar hyn o bryd. Pa beth a wnaeth yr aelodau Cymreig i GvMup -3yl John Roberts i gau y tafarnau ar y Sab- both, a Byl Claddu Iliprynaidd Osborne Morgan^ a chynygion cyfaodd melfedaidd Dillwyn i Ddadsefydlu Eglwys Loegr yn Nghymru. Y mae y wlad yn galw yn uchel a chroew am resur Tir, am Ddadsefydln a Dadwaddoli yr Eglwys, am well tai i weithwyr, acc., ond y cyfan a gawn yw tipyn o addewidion teg a chwerthin am ben ein hygoeledd. Daw gwell trefn ar bethan cyn bo hir; y mae Cymru yn dechre d'od i weled drwy'r chware ac un waith y deffry caiff y to presenol o'n eynry'ch- lolwyr (ac eithrio un neu ddau), eu Hwyr ysgubo ymaith. Caiff y cyfreithiwr a'r bargyfreirhiwr sydd yn gwneud esgynfaen iddo ei bun o'r werin ryw waith amgen a chaiff y cyfoethogion mawr eu cardod, weled mai nid dyn a phwrs Hawn sydd ar Gymra eisieu, ond dynion o ben clir a chalon gynes-dynion yn barod i aberthu pob peth er mwyn eu gwlad. Dylai Cenedletholwyr Cymreig fyny ymgeiswyr felly drwy Gymru. Y mae yn rhaid eu cael hyd yn nod pe gorfyddid talu am hyny wed'yn, drwy adael i Doriaid fyned f'r Senedd dro neu ddau. Meddylied dar- llenwyr y Celt am yr awgrym, a gadawer i ni gael eu syniadau yn y Celt. Bydd genyf ych- waneg ar hyn eto. o NEWYDD DA.! Y mae y Frenhines wedi anfon i ddyweyd na& gall fyned i Eisteddfod Abertawe y flwyddyn nesaf! Wrth gwrs, ni feddyliodd yr un Cymro yn ei bwyll yr ai. Pwy, tybed, fydd y nesaf i fod yn ddigon ynfyd i gardota cic un o'r teuln "brenhinolp" Pa anrhydedd i'r Eisteddfod fyddai ei chael yno ? Y mae yr hen sefydliad wedi byw yn lied hir heb ei gwen, a bydd fyw- yn hir ar ol brenin a brenhines olaf Lloegr. EXOBUS.
_______ NODIADA U.
News
Cite
Share
mae Toriaid yn ei bleidio, oblegid bydd yn fwy ffafriol i'w hachos hwy fod yr ymraniad yn yr Iwerddon yn lied gyfartal o bobtu, ac os gellir ei wneud yn barhaol. Gwelai y blaid Doriaidd y byddai y Gwrth-Barnelliaid yn gryfion heb eu cynorthwy hwy, ac er mwyn sierbau digon o nerth yn yr ochr arall i sefyll ar ei thraed ac ymladd, mae y wasg Geidwadol yn gwaeddi, "Da iawn, Parnell!" Ond beth, i Ryddfrydwr egwyddorol, sydd yn Parnell fel y mae yn awr yn werth i wneud arwrohonop Gwir naddylai neb fod yn annhrugarog wrtho, er ei fod wedi cwympo, ond yn hytrach dylid ymddwyn tuag ato fel un posibl-os posibl hefyd-i'w adfer. Ond peth arall yw ei osod yn arweinydd cenedl. Mae yn anmhosibl cael arweinydd i genedl mewn materion gwleidyddol heb ei fod hefyd yn cario dylanwad mawr ar holl fywyd y genedl. Mae Parnell wedi ei brofi i fod yn euog o ddi- nystrio cartref cyfaill; o ddarostwng gwraig dyn arall, o lunio twyll ac o ddyweud anwireddau dybryd; o herfeiddio, a gormesu, a dirmygu mwyafrif ei blaid, a chyfrif fel ysgubion y byd," rai o'r gwladgarwyr penaf a sangodd yr lwerddon erioed. Wedi'r cwbl, ai dyma y gwr y mynir ei alw yn "frenin anghoronedig p" Go- beithio y bydd mwyafrif yr ochr arall mor fawr fel ag i fod yn ysgub digon effeithiol i symud y fath bentwr o hunanoldeb, o ddigywilydd-dra, ac 0 drythyllwch ag ydyw Parnell oddiar lawr gwleidyddol yr Iwerddon am flynyddau. I CWRDD SEFYDLU ESGOB BANGOR. Dydd Gwener diweddaf ydoedd ucbel-wyl Eglwyswyresgobaetb Bangor, pan yr aed trwy y ddefod gyfreithiol o orseddu y Tra Pbarchedig Daniel Lewis Lloyd yn Esgob Bangor. Yr oedd clerigwyr yr esgobaeth i'r nifer oddeutu chwech ugain wedi ymgynull oil yn eu gynau gwynion. Cychwynasant yn orymdaith o'r Canonry, ych- ydig latheni oddiwrth borth y fynwent, gan or- ymdeithio yn drefnus tua'r Eglwys Gadeiriol, ac aetheut i mewn drwy y drws gogleddol tan ganu ac ar hyd un ochr yr eglwysgan ddychwelyd i lawr y canol i gyfeiriad yr allor yn y pen dwyreiniol. Cludai un gwr ieuanc groes fawr o bres wedi ei chodi ar drostan, yr hon oedd yn amlwg iawn yn yr orymdaith. Wedi i'r clerigwyr gael eu harwain i eisteddleoedd oddeutu canol yr eglwys, o dan y bout Iley bwriedir adeiladu twr yr eglwys ryw dro, dychwelodd y Deon, yn cael ei arwain gan wr yn cario ffon bach ddel, hyd at y drws gorllewinol, ac yno y cyfarehodd yr esgob, gan draddodi y siars iddo, a'r esgob mewn geiriau cymwys a'i hatebodd. Gyda'r esgob yr oedd y canghellydd, cyfreithiwr yr esgobaeth, a'i gapleniaid. Vychwelasanthwythau tua'r dwyrain hyd at yr allor, tan ganu. Cor- ganwyd y gweddiau a'r urdd-weddi, a chymerodd yr esgob y llw, a, chynhaliwyd gwasanaeth crefyddol, yn ystod pa un y canwyd dwy anthem, o dan arweiniad yr organydd medrus Dr Rogers. Ar wahoddiad y maer yr oedd rhai o aelodau corphoraeth y ddinas yn eu gwisgoedd swydd- ogol yn yr eglwys, tra yr oedd ereill yn bresenol yn mhlith y gynulleidfa. Gwnaed y gynulleidfa i fyny gan lawer o Ymneillduwyr, ond ni welsom yr un o weinidogion Ymneillduol y ddinas yn bresen ol. Yr oedd y r b oil wasanaeth yn Saesneg, yn awgrym eglur mai eglwys estronol ydyw y sefydliad yn Nghymru. Er cymaint y waedd sydd wedi bod am esgobion Cymreig i Gvmru ymddengys nad ydyw yr amser wedi d'od i or- seddu yr un esgob yn yr iaith Gymraeg Cyn- haliwyd gwasanaeth Gymreigyn yr bwyr, pryd y pregethwyd gan y Parch E T Davies (Dyfrig).