Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

18_9 0.

News
Cite
Share

er ni bob un. Nis gallant hwy ymuno a ni heb lygru eu cydwybodau, ond" Gallwch chwi ddod atom ni heb lygru eich cydwybod. au o gwbl," ac ychwanega y gohebydd "ym. ddengys mai dyna. y gwirionedd noetb ar y mater" (Seren Cymru Tach. 14). Cam- gymeriad cyffredin yw hyn ymblith y Bed- yddwyr. Cystal iddynt ddeall yn fuan ag vn hwyr, y byddai myned atynt ar eu telerau hwynt yn drais ac yn sarhad ar em heg- wyddorion anwylaf a thyneraf yn llygriad anfaddeuoJar ein cydwybodau, yn aberth creulawn o bethau cysegredig, yn gam dir- fawr a'r efengyl a rodded unwaith i'r saint, ac ni chyflawnwn y pechod hwnw tra caniatao Duw i ni allu i ganfod y rhagor rhwng y gwir a'r gau. Dim ond lied yr afon sy rhyngom meddant, ond pe gallem gy- modi a lied yr afon, a'i dyfnder hefyd, cyn nos heno, nis gallem byth gymodi a rheol wrthun sefydliad phariseaidd eu caeth- gymundeb an-naturiol, anysgrythyrol, afres- ymol, ac annghariadus. Mae ein begwydd. orion ynanwyl iawn genym, a dyna'rpaham nad ydym yn gwneud cymaint a hwy o dwrw yn eu cylch. Ond drwy ein bod mor ddystaw y maent hwythau yn casglu ein bod yn barod i'w gwerthu am y fraint fechan o gael cy- muno gyda hwynt. Mae culni y caeth- gymundeb yn anharddu Cristionogaeth ein gwlad. Ond nid oes dim o hyn yn natur yr Un- deb a geisid ei ffurfio, ac y mae yn rhyfedd fod annealldwriaeth ar bwnc mor syml. Addefai gohebydd yn y Seren yn ddiweddar ei ofn mai amcan yr Undeb hwn yw lladd Caeth-gymundeb. Ac y mae Mr Williams, Rhymni, yn llym-feirniadu an- nerchiad Cristionogol Mr Alfred Thomas, (yr Aelod Seneddol dros Ddwyrain Mor- ganwg). Canmol yr Undeb Ymneillduol yr oedd Mr Thomas, yr hwn sydd ei hunan yn Fedyddiwr selog. Ond y mae Mr Williams yn gweled yn ei annerchiad y fath lac- rwydd ac* anwybodaeth o egwyddorion y Bedyddwyr. A phriodola y cwbl i'r ffaith ei fod newydd gael ei anrhvdeddu fel cadeir- ydd un o gyfarfodydd yr Undeb Cynulleid- faol yn Abertawe. Ond beth sydd a wnelo hyn oil a'r Undeb |Ymneillduol ? ond ar y dybiaeth mai goreu po pellaf oddiwrth bawb y cadwo y Bedyddwyr. Ni raid pryderu llawer. Mae y Cristionogion brawdol sydd yn eu plith yn bobl o ddylanwad mawr. Gallwn ymddiried eto fel cynt, dan fendith, y bydd iddynt lefeinio eu henwad A'u hys- bryd Cristionogol. Yr ysbryd hwnw a fuddu- foliaethodd^ yn Undeb y Bedyddwyr a gyn- aliwydyn Abertawe. Cristionogion sydd i drechu yn mhob man. Dadl Deon Llanelwya Thomas Gee.—Yn y Warier y bu hyn. Ar y degwm yr oedd y ddadl. Anfoesoldeb gwrthod talu'r degwm oedd dadl y Deon. Ar hawl foesol yr Eg- lwys i'r degwm yr ysgrifenai Gee, a phwys- odd ar y Deon fwy nag unwaith i draethu ar hwn. Gochelodd y Deon y pwnc hwn bob cam, a'r man agosaf y delai ato oedd Hawl gyfreithlon yr Eglwys i'r degwn. Ym. ddangosai hon yn fgref; ond profodd Gee fod hyd yn nod eu hawl gyfreithlon i'r degwm yn amheus am na ddefnyddient ef i'r dybenion gosodedig gan y gyfraith ift'ti,6L Ac yna, wrth gwrs, cafodd y maes yn riiydd i ymdrin a'i brif ddadl—nad oes Hawl foesol gan yr Eglwys Sefydledig i'r degwm. Cafodd y Deon bob chware teg, ond ai chyffyrddai a'r Hawl Foesol. Mae y Deon yn ysgrifenwr Cymraeg da, ac yn ddadleuwr cywrain a chyfrwys, ac yn ddigon Jlygad-graff i ochel cael ei gornela. Nerth Mr Gee oedd cadernid ei achos, ac unig wendid y Deo a oedd gwendid ei bwnc. Yr oedd y ddau yn ysgrifenu yn faith iawn, a gofynai gryn lawer o amynedd yn y darllen- wyr yw canlyn yn fanol trwy y ddadl. Mae yn dda genyf fod Mr Gee wedi bod yn ddi- gon eang ei fryd i roddi digon o le i'r Deon i amddiffyn ei bwnc. Profa hyn nad oes ar Ymneillduwyr egwyddorol ofn trin y pwnc hwn mewn unrhyw gyfeiriad. Cynnycld yr Achos DirwestQZ.-Cred wyf mai hwn yw y peth mawr amlycaf a mwyaf addawol i ddyfodol ein teyrnas ni yn hanes yflwyddyn. Dygwyd cynifer o bethau i brawf caled fel yr argyhoeddwyd y rhai dallaf, a thrymaf eu clyw a'u hamgyffredion fod Dirwestwyr y deyrnas yn llu banerog ac ofnadwy. Dyna, yn ddios, yw barn y llywodraeth Doryaidd bresenol a'i holl bleidwyr tafarnol am danynt. Gorchfygwyd, do, llethwyd, do, lladdwyd, y cais creulonaf a wnaed yn oes y byd i wanhau dwylaw yr Ynadon, i rwymo dwylaw a thraed a thafodau y dinasyddion ac i sefydlu y fasnach feddwol mewn dyogelwch hedd- ychol yn Ngwaddoliad y darllawyi a'r distyllwyr mawrion budr-elwol. Canys dyna oedd ei ystyr ymarferol. Nid i dafarnwyr cyffredin ond i'r perchenogion cryfion. Lluniwyd y mesur yn fwriadol i dwyllo y bobl. Ond gwelodd y byd nad deillion hollol nag unllygeidiog yw y werin Brydeinig. 10 Cawsant eu deffroi mewn pryd gan y gwyl- wyr effro a safent ar furiau y ddinas i ganu mewn udgorn ar ddynesiad y gelyn. CIywyd y floedd yn adsain y Rhybudd o gwr i gwr o'r deyrnas. Unodd pawb i ddyrchafu gwaedd groch mor arswydol nes byddaru clustiau a brawychu y rhai a fwriadent ein drygu. Gorchfygwyd Gostegodd y storm. Llonyddodd y mor. A bu dawelwch mawr!! ond nid cyn ysgytio teyrnas y fagddu i'w seiliau-blaen brawf iddi o'r dynged a'r dinystr sy yn ei baros cyn hir. Parodd hyn adfywiad grymus yn yr achos Dirwestol yn gyffredinpl. Da genyf dystiol- aethu fod dirwest yn eael ei pharchu yn awr, a'i bod ar well sail ynNghymru y dyddiau hyn nag y bu erioed. Nis gallwn beidio canmol pobl cylchoedd Ffestiniog am eu hymosodiad, unol, cadarn yn erbyn trwyddedu cestyll annuwioldeb yn eu hardaloedd hwy, Ni bu Dirwest erioed mor barchus a bywiog yn fy hen ardal enedigol-yn mhlwyf Uangyfelach, ag ydyw yn awr. Cam a'r gwirionedd fyddai peidio crybwyll ymdrechion aberthol y brawd Davies, Cadle (gynt o Dalybont) yn erbyn trwyddedu yr hen ogofau melldithiol yn y plwyf hwnw. Mae eisiau calonogi dynion sydd yn anturio fel hyn yn erbyn cymaint o rwystrau. Mae yr hen Sir Gaerfyrddin hefyd yn deffro o gwr bwy gilydd. Mae cymdeithas ddirwestol rymus anarferol yn Llangadog. Mae Llanddyfri hefyd wedi deffro er cymaint yw gallu y dafarn yno. Ac yn nhref henafol Caerfyrddin ni bu yr aehos mewn agwedd mor llewyrchus erioed o'r blaen. Buasai yn llawenydd dirfawr i'r hen Ddirwestwyr John Daniel, Fountain Hall, a'i gydoeswyr llafurus ar hyd y nos hono gael gweled cyfarfodydd dirwestol poblogaidd y dyddiau hyn yn Nhaerfyrddin-a hyny nid yn unig i wrando dyeithriaid enwog ond i wrando ar eu cyd-weithwyr dyddiol yn cyffesu Dirwest yn ngwydd y byd. Fel hyn y mae i raddau trwy yr holl wlad. Yr wyf wedi arfer credu mai satan yw'r ffwl mwyaf yn y byd. Tydy o ddim chwarter call onite ni fuasai yn cynhyrfu y cais i ddileu deddf y cau ar y Sabbath yn Nghymru. Yn Ile si diddymu fe'i cadarnhawydhi gydag awdurdod mawr. Gweinyddir hi yn Ilwyrach yn awr nag erioed. Ac y mae yr Ustusiaid yn deall yn well eu gallu hwy yn ol y gyfraith yn erbyn y fasnach. Cynrychiolaelh Seneddol Cymru. — Nis gallwn beidio synu a dyolch am y gwahan- iaeth mawr er gwell sydd rhwng ein cyn- rychiolaeth bresenol a'r hyn a feddem ddeng mlynedd yn ol, heb son am un cyfnod hynacb. Cvmry sydd yn cael eu hethol yn awr ar bob cyfle a geir. Ac y mae hyn wedi dylanwadu yn iachus ar y Saeson sydd eto yn ein cyn- rychioli. Y mae yn bosibl i ambeil Rydd- frydwr Seisnig neu Wyddelig neu Albanaidd ein gwasanaethu yn egniol ond eithriadau amlwg a fyddant o hyn allan. Un peth yw parchu hen aelodau cymeradwy—peth arall hollol yw peidio dewis Cymry galluog i bob sedd a ddelo yn wag. Mae yr ychwaneg- iadau diweddaf a wnaed wedi cael eu profi. yn meddu y metel angenrheiJiol i'n cyn- rychioli ni. Mae genym nifer eisoes o rai a wnelent gystal arweinwyr plaid Gymreig ag a fu erioed yn arwain plaid yn y Senedd. Ond y mae un peth eto yn ol. Cyfoetlu Blin genyf fod Thomas Ellis yn wael ei iechyd. Caniataed Rhagluniaeth iddo ad- feriad cyflawn, o drugaredd a'n cenedl ni. Gwnai efe Arweinydd rhagorol yn mhob ystyr. Ond rhaid i ni gofio un peth. Mae cyfoeth T. Ellis bron i gyd yn ei ben a'i galon, a chynysgaeth ardderchog sydd'gan- ddo ond nid yw hyny yn ddigon i gyfan- soddi Arweinydd effeithiol. Rhaid i arwein- ydd fod yn alluog i wario cannoedd o bun- noedd bob blwyddyn. Nid ymgymeraf ag enwi neb i'r swvdd, ond dyna Mr Lloyd George, yr aelod dros Fwrdeisdrefi Arfon. Nid yw yn ol mewn craffder na gwroldeb na hyawdledd i'r aelod o Feirionydd, ond y mae ei gyfoeth yntau yn ei ben a'i galon wladgarol. Y Radical cyfoethocaf a feddwn yw y Pendefig Mr Stuart Rendel, aelod Maldwyn. Ond y mae yn un lied araf a di- gychwyn, er ei fod yn caru ein cenedl ni yn fawr. Gallai efe gymeryd swydd a threuliau Arweinydd y blaid pe eeid ganddo i wneud hyny. Ond nid oes genym hawl a.r gyfoeth neb. Y drefn onestaf fyddai i ni efelychu y Gwyddelod a chasglu Cronfa at wasanaeth jr Blaid Gymreig yn y Senedd. Diau fod miloedd o Gymry yn barod ac ewyllysgar i gyfranu yn flynyddol at y fath drysorfa. Yr ydym yn eu hethol yn awr fel yr etholwn gynrychiolydd i gynadledd grefyddol heb dalu ceiniog o'u treuliau. Dylem gofio mai i LUNDAIN yr ydym yn eu hanfon ac nis gallant fyw ar ychydig yno-ond yr ydym yn dysgwyl iddynt gyflawnu gorchestion enwog ar eu traul eu hunain bynag a fedd- ant foddion ai peidio. Blin iawn gan Ryddfrydwyr yw sefyllfa ein plaid yn Merthyr Tydfil. Nid yw y rhwyg afu yno wedi cael ei gyfanu eto. Nis gwn fod un symudiad ar droed tuag at hyny. A phe dadgorfforid y Senedd yn fuan y mae He i ofni mai anrhefnus i'r eithaf y byddai pethau yno. Nis gallwn feio yr hen Bwyll, gor am fod mor ddigyffro. Ond dylai Rhyddfrydwyr eraill yr etholaeth ryddfrydol hon wneud rhyw osgo at gael cyd ddealltwr. iaeth â'u gilydd er mwyn rhagflaenu cynen. ae annhrefn a thrybini. Gyda hyn o eithriad y mae rhagolygon Cymru yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf yn dra addawol Y Wladfa Gymreig.—Mae ein llygaid yn edrych i gyfeiriad Patagonia yn ami. Ond y peth a dynodd fwy o sylw nag arfer afci eleni oedd y Gwrthryfel a fu yn Buenos,