Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
BODBDBB^, MON.—Y; mae pob gohebiaeth yn 4wyn perthynas ac eglwys Anibynol Bodedern i'w eyfarwyddo i Samuel Jones Parry, Myrtle House, Bodedern, Anglesea.
PE GALLWN MI WNAWN.I
News
Cite
Share
PE GALLWN MI WNAWN. I Pe gallwn mi godwn y Cymry I beD piaacl uchaf ybyd, Mewn rhinwedd a. dysg ac anrhydedd A phob rhagoroldeb i gyd; Yr unpryd mi godwn pob oenedl Of dyfnder i'r Ian gyda hwy, k gweithiwn fur bythol o'a hamgyloh, I'w cadw rhag syrthio byth mwy. Mi wnawn pe gallwn Pe gallwn mi wnawn. Pe gallwn mi borthwn y tlodion Gosodwn bob teulu mewn ty, Billadwa. y gweithwyr mewn gwisgoedd Gan hardded a neb ynyllu; Chai neb ofyn cymorth yn ofer Na neb geisio bwyd heb ei gael, Cyn iddynt gael amser i ofyn, Diwallwn bob anIZen yn hael. Mi wnawn pe gallwn, Pe gallwn mi wnawn. Pe gallwya mi wellwa bob olefyd, Rhownderfyn am byth ar bob haitit. Gwnawn deulu y fagddu yn engyl, A phobl yr holl ddaear yn saint; Gwnawa iechyd a rhinwedd yn heintus Difodwn bob drwg a phob brad, Gwnawn fyd o gasineb yn gariad A gofid yn fyd o fwynhad. Mi wnawn pe gallwn, Pe gallwn mi wnawn. Pe gallwn mi ddysgwn y gweithwyr I ddeall a theimlo eu hawl, I Trigfanau trahausder a gormes, A lanwn a by wyd a gwawl, Symbylwn y bobl i ymuno Mewn cariad a hyder i gyd A nerthwn eu breichiau i yru Tylodi a gormes o'r byd. Mi wnawn pe gallwn Pe gallwn mi wnawn. Pe gallwn difodwn farwolaeth, Rhewn ganad ar enau pob bedd, GWnawn fywyd y byd yn anfarwol, A'i gynwys yn fydoedd o bedd; Chai neb mwy wylo mewn galar Am blentyn, am gariad na mam, Na llances byth dori ei chalon Dan deimlad o hiraeth a eham. Mi wnawn pe gallwn, Pe gallwn mi wnawn. Pe meddwa. ar alta diderfyn, Doethineb anfeidrol, yn nghyd, A stor annherfynol o olud, A modd i gwblhau fy holl fryd j Heb oedi mi fflachiwn oleuni Dedwyddweh dros wyneb y byd, Gwnawn bawb o'r trigolion yn engyl A'r ddaear yn nefoedd i gyd. Mi wnawtt pe gallwn, Pe gallwn mi wnawn. R. J. DBRFJSL,
PARNELL.I
News
Cite
Share
PARNELL. I [GAN Y "PRIFATHEAW M. D. JONES.] Yn yrargyfwng presenol yn y Senedd, y mae y Celt yn ei don ar helyntion yr Iwer- ddon wedi bod i raddau yn wahanol i'r rhan fwyaf o newyddiaduron Cymru, ac fel y 1 mae amser yn treiglo yn mlaen, y mae gwahanol amgylchiadau. yn cyfiawnhau yr hyn y mae y Gelt wedi arfer ei draethu am Parnell, y blaid Wyddelig, a Gladstone. Diau fod Panell wedi pecha pechod gwara- dwyddus, fel Dafydd frenin gyda gwraig Urias, eto yn ei gwymp y mae efe yn dang- os ei fodyn dywysog mewn gallu a, gwrol. der i ymgodymu a Gladstone, ei wrthwyn- ebwyr G wyddelig, a Rhyddfrydwyry Deyrn- as Gyfunol, ac > mae wedi enill drwy rwy- straeth, a dyweud peth gwir yn ddeheuig, cryn lawer ar ei wrthwynebwyr yn yr ym- drafodaeth sydd wedi bod yn ngylch y cynyg a wneir iddo ymneillduo o fywyd cyhoeddus. Dywed efe wir, pan y traetha ei fod wedi llwyddo i uno y Gwyddelod yn mhob gwlad i gydweithio dros ymreolaeth, a'u^ bod yn awr wedi anghofio eu cynfigenau partiol, ac yn cydgyrchu at yr un amean, a theimlai na fyddai efe yn gwneud ei ddy- ledswydd fel dyn ei genedl,"pe byddai yn ymneillduo, heb gael sicrwydd fod yr achos y mae efe a'i gydwladwyr wedi gweithio a dyoddef cymaint yn cael ei lwyr ddiogelu, drwy i Gladstone a Rhyddfrydwyr blaenaf Lloegr draethu a wnant hwy ddwyn byl allan i ganiatau Senedd Wyddelig i reoli'r heddweision, a chael yr hawl i'ddeddfu ar | bwnc y tir. Mae Gladstone yn gwrthod yn j hollol dwyn unrhyw ymdrafodaeth yn mlaen » a. Parnell, ac yn amledd ei burdeb moesol nid yw am gyffwrdd'a'r wisg a halogwyd gan y cnawd. Yn y pwyllgor a fu gan y blaid Wyddelig, yn yr hwn yr oedd ym- neillduad Parnell yn cael ei drafod, pan y deuwyd 1 ranu, yr'oedd 44 am iddo gilio o fywyd cyhoeddus, a 29 am iddo aros yn flaenor y Gwyddelod, ac yr oedd efe yn fodd- Ion i ymgilio, ond i'r Rhyddfrydwyr sicrhau Ymreolaeth Wyddelig a fyddai yn foddhaol i'r Iwerddon- Er i Parnell bechu yn erbyn deddfau gor-bwysig y teulu, nid oes lIe am eiliad i ameu ei wladgarwch, ac nid yw yn debyg ei fod yn myned i roddi ffrwyth llafur ei oes heibio ar archiad Gladstone a Rhyddfrydwyr Lloegr, y rhai heb brawf a'i carcharasant ef a'i gydlafurwyr yn Kilmain. ham am y trosedd o ymladd yn wladgar dros fmreolaeth. Efeyw brenin anghoron- og yr Iwerddon fel yr addefir yn gvffredinol, efe a enillodd y safle bresenol i Ymreolaeth Wyddelig, ac er iddo droseddu deddfatt cymdeithasol pwysig, nid y ffordd i wneud iawn am hyny fyddai troseddu rhagor drwy fod yn anffyddlon i'w genedl, a diosg ei ar- fau ar arch dynioa nad ydynt wedi ymladd dros yr achos fel efe. Gan na fyn Gladstone fwyta unrhyw ym- borth gwleidiadol 0 lestri Parnell, y mae y blaid Wyddelig tra yn hoffi'r ymborth Par- nelaidd, ac wedi gweled y rhesymoldeb o'r hyn a gynygir ganddo, yn awr yn cynyg yr un bwyd i Gladstone yn eu llestri eu hun- ain. Mae Gladstone yn boddloni i ym- gynghori a'r blaid Wyddelig, ac nid oes ganddo wrthwynebiad i bron unrbyw fwyd gweddus a gynygiant, ond iddo beidio dyfod oddiar ford, ac yn liestri Parnell. Pa mor rhagorol bynag y byddo y bwyd hwnw, a'r llestri a'i cludant, nis gali edrych arnynt, os bydd He i dybio fod dwylaw Kitty O'Shea wedi eu halogi, ae er ei anrhydedd y mae hyny yn terfysgu eigionau ei gylla moosol. Er cystal yw ei ffroenau moesol, ni ddarfa iddo erioed am a wn i glywed dim o arogi Ann Boyleyn, set cariad.ferch Harri'r wythfed, ar ei grefydd, fel y prawf y dafell fawr a roddodd i'r eglwy's esgobyddol wrth ei dadgysylltu, ond nid ei cayflawn ddad- waddoli ynyr Iwerddon. Y mae rhyfedd- odau fel hyn ar brydiau mewn natur. Nid yw y cadaaw ag sydd mor I ff roendenea i glywed pob arogl allanol, mewn un modd yn elywed ei ddrewi ei hunan. Os collodd Parnell yn ddirfawr yn ei foesau, y mae ei treaedlgarwch a'i allu eith. riadol fel gwleidiwr cawraidd ytu hwut i bob amheuaeth. Yn y ffrwgwd bresenol y mae efe wedi enill ar ei gydaelodau, hyd nes cariodd rwystraeth yn erbyn y 44ain a'i gwrthwynebai i'r fath eithafedd nes gorfodi iddynt ymgilio, y rhai syd 1 yn awr wedi ymffurfio yn blaid wrthwyneHol iddo, a bydd yntau a.'i gefnogwyr yn apolio at, y wlad. Os Parnell sydd fel Dafydd frenin yn euog o odinebu, y mae'r Celt wedi traethu llawer gwaith mai Gladstone ai weinydd- iaeth sydd yn euog o ladd nid rhyw un Urias ffyddlon, ond miloedd o bobt ddiniwed a gwladgarol yn yr Aifft. Yn ol y darostwng mawr sydd ar Parnell, a'r eodi mwy sydd ar Gladstone, gellid tybio nad yw tanbelenu dinas anarfog fel Alexandria, a lladd miloedd o Aifftiaid cehedlgarol, ond chwilen o bechod yn ymyi mynydd o drosedd fel godinebu gyda Kitty O'Shea! Mae esgobion gor- dduwiol y Pabyddion wedi Uawnodi ardystiad