Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

GOHEBIAETHAU.

News
Cite
Share

tr"11 L GOHEBIAETHAU. AI DOETH CAEL NEWYDDIADUR PRCHWARELWYRP I,p MR GOL.,—Teimlaf pan yn ceisio ymdrin a'r nchod, fy mod yn ymwthio fy hunan o dan wialenau tanbeidiol golygyddion y wasg Gymreig; ond, modd bynag, nis gallaf lai nag edmygu y syniad o gael newyddiadur uniongyrchol i'r chwarelwyr, er trin a thrafod yr hyn sydd yn llwyr angenrheidiol, a'r hyn hefyd ag sydd yn cael ei anwybyddu gan y rhan fwyaf o'r aewydd- iaduron sydd eisoes ar y maes. Nid fy amcan wrth awgrymu hyn ydyw ceisio cyfleu unrhyw syniad o adgasrwydd yn meddyliau neb tuag at ein newyddiaduron, ond yr wyf yn hollol i'r gwrthwyneb, ac yn mhellach dymunaf ddywedyd fy mod o galon yn rhoddi parch i'r hwn y mae parch yn ddyledua," ond, harnedy darllenydd pa rai ydyw y rhai hyny ag sydd yn teilyngu • parch a chefnogaeth, ie, hyd yn nod oddiar law y chwarelwyr, ond syr, llefara yr unrhyw wirion- edd wrthym fod eraill o un gwerth i'r chwarel. wyr, neu lafar gwlad Yn werth dim," felly hawdd y gall y mwyaf anysgedig o'r dosbarth chwarelyddol farnu pa newyddiadnron ag sydd yn teilyngu eu parch a'u cefnogaeth iddynt. Ac eto, os y digwydd i minau tra'n ceisio ysgrifenu fel hyn daraw a theimladau unrhyw un o honynt, nis gallaf trwy hyny lai nag anogi y cyfryw yn mull gwladol ein hen gyndadau Os yw y cap yn ffitio gwisgwch ef." Yn awr, gellir nodi amryw resymau a brawf yn eglur mai doeth ydyw cael newyddiadur arbenig i'r chwarelwyr, acfel un rheawm gellir dywedyd, am fod gan bob dosbarth o weithwyr eu newyddiadur arbenig. Aillai felly y chwarel- wyr ? ie, yo ddiau o gymaint nad oes gan y ehwarelwyr ddim cymaint ag un ag y gallant ddywedyd mai eiddynt hwy ydyw, ac yn mhellach dywedaf nad oes yr un ag y gellir dywedyd fod amcan ei fodolaeth yn gyfangwbl er mwyn lleshad y chwarelwyr, o ganlyniad paham y mae yn rhaid i'r eyfryw ddosbarth anwybyddu eu iiunaia o'i breintiau yn fwy felly na rhyw ddos- barth arall o weithwyr ? Ai am eu bod yn fwy anysgedig na'r dosbarthiadau eraill P Nage ddim, ac os oes rhywun yn credu felly, meiddiaf ddy- wedyd fod ei grediniaeth yn ei arwain i gyfeiliorn- adau dybryd, oblegid y mae yn mysg y chwarel- wyr ddynion wedi ac yn bod a ddeil i'w cydmaru gydag unrhyw ddosbarth arall o weithwyr, ie, dynion ag sydd wedi ac yn profi eu hunain yn ddynion,ac nid gwlanenod,a phe caniata eich gofod syr, gallaswn yn hawdd ymhelaethu llawer ar hyn, yr hyn a brawf ar unwaith mai nid o ddiffyg dysgeidiaeth mae yr amryfusedd hwn wedi bodoli eyhyd o amser yn eu mysg, ond yn liytrach o ddiffyg undeb, ag ohyny gydweithred. iad, dyna yr unig ddiffyg i ba un y gellir priodoli y cyfryw amryfusedd, a llawenydd meddwl fod y diffyg hwnw yn gorfod clirio o'r maes y dyddiau presenol, gan eu bod yn uno mewn gwir uncleb; Ilawer yn uu, ac nid un yn llawer, fel ag y gellir dywedyd am danynt yn awr eu bod yn ogyfuwch ag unrhyw ddosbarth arall o weithwyr, yn yr ystyr a nodwyc!, a mawr ydyw fy hyder nad yw yr amser yn rhyw bell cyn gwawrio, pan y bydd gau ie, hyd yn nod y chwarelwyr newyddiadur o'r eiddynt eu hunain. Rheswm arall dros ei gael ydyw, y bydd o ddir- fawr wasanaeth i'r ieuangc ddeall pyngciau ag isydd yn dal perthynas bwysig ag uniongyrchol alr chwarelwyr; ag hefyd y gwahanol ddulliau gyda pha rai y gweithir, mewn gwahanol chwarelau, yn mhob ran (os y gellir o'r byd, h.y., lie mae chwarelaa) ond a chaniatau na bydd ond yn unig y Deyrnas Gyfunol, meiddiaf ddywedyd syr, y bydd hyny yn fwy lawer nag ar sydd yn hysbys i'r rhan fwyaf o'r chwarelwyr y dyddian presenol, ac er prawf ar hyny, goddefwch i mi ofyn, faint sydd o chwarelwyr Gogledd Cymru yn gwybod am eu cyd-chwarelwyr yn yr Iwerddon, Lloegr a'r Alban? Yr atebiad yn ddiau ydyw, mai ychydig iawn mewn cyflmhar- iaeth ydynt, felly, pa fodd gan hyny y gall y chwarelwyr ddeall eu gilydd, tra mewn gwirionedd nad yw un haner yn gwybod fod yr haner arall mewn bodolaeth, o ganlyniad ai nid doeth ydyw cael newyddiadur i'r dibeu o ddod a'r cyfryw dywyllwch i oleuni, er mantais i'r to ieuange (ie, ag hefyd y to canol oed, a'r hen) gael meddu gwybodaeth am y eyfryw chwarelydd a'r chwarel- wyr, yn nghyda'i dull o weithio, &c. Goddefwch i mi awgrymu un rheswm eto, a dyna ydyw, y byddai cael y cyfryw newyddiadur yn rhoddi mantais (yr hyn nad yw yn bod ar hyn o bryd) i amlygu i'w gilydd, yn nghyda'r cyhoedd eu cwynion, a'r anrhefn sy'n bodoli yn eu mbysg, pa rai nad amlygwyd erioed, mynych y gwelir y geiriau canlynol ar ddeehreu ein newyddiaduron. "At wasanaeth, &c. ond dylasai fod, at wasanaeth rhyw rai wyf fi (yr ymchwyddawl Mr Golygvdd) yn eu hoffi, canys felly y bu yn y gorpheLol, ac felly y mae yn bresenol, o ganlyniad rhaid ydyw i'r ysgrifenydd druanfyned a'i ychydig eiriau yn ei Jaw achaa ymgrymu o flaen Mr Gol, a'i gyfarch o'r bron pob gair yn syr, ac os bydd yr ychydig eiriau yn y cyfryw ysgrif yn ymwneyd o bell a rhyw yswain etholedig, dear anwyl, rhaid ydyw ymwrthod a'r ysgrif neu gwneud i ffwrdd ag enw yr yswain, atolwg ddarllenydd, ai onid gwir hyn ? ie, yr wyf yn cadarnhau y cyfryw ie, trwy brofiad personol; gwn yn dda beth yw anfon llythyr i swyddfa un newyddiadur, ac yr ydoedd y cyfryw lythyr i gael ymddangos yn yr un dilynol, ond erbyn i hwnw ddod, nid oedd cymaint a son am fy ysgrif ynddo, ac hyd y dydd hwn nid wyf wedi llwyddo i rwbio digon o fel a sebon dros gorff gwael y parchus berchenog, felly nid oes gobaith y bydd i'r cyfryw ysgrif gael ymddangos. Pa hyd mewn difrif y bydd yn rhaid dioddef y camwri hwn o eiddo perchenogion a golygyddion y wasg; ac y bydd yn rhaid ymostwng iddynt er cael yohydig wirionedd trwy gyfryngau eu newyddiaduron ? Wel, ai doeth ydyw cafel newyddiadur arbenig i'r chwarelwyr er amlygu i'r cyhoedd eu hangenion ? Ond saif yr atebiad ar law y chwarelwyr eu hunain oblegid ganddynt hwy mae y gallu i roddi bodolaeth i newydd- iadur o'r eiddynt eu hunain; eithaf priodol ydyw gofyn, ai doeth i ddyn ddioddef eisiau ymborth tra mae ymborth o'i flaen ar y bwrdd? Felly hefyd y gellir gofyn, ai doeth ydyw i'r chwarelwyr anwybyddu eu hunain tra y mae gwybodaeth megys ar y bwrdd o'i flaen ? Gadawaf i'r cyfryw ddosbarth ei ateb.—Yr eiddoch, B. Festiniog DERLWYN.

Y SENEDD.

Advertising