Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
m* *$* Y CRONICL AM RHAGFYR 1890. 0 DAN OLYGIAETH Y PRIFATHRAW M. D. JONES A KEINION THOMAS. ADRAN AMRYWIAETH. Y diweddar James Davies, Castellnedd, (gyda darlun). Mr Hugh Jones. Llanfairfechan, gan Keinion. Iachau'r Wlad, gan y.Parch J. P. Evans, Henryd, Conwy. Cof a Chadw. Ail Ddyfodiad Crist, gan y Parch. D. Wynne Evans, Llanelli. Cymdeithas y Lili Wen BARDDONIAETH Myfyrdod ar Angeu Crist, gan Mr G. Davies, Llanuwchlyn Os clyw neb fy llais i, gan Mrs Watson CONGL GOFFA. Thomas Davies, (ieu)., Dolhaidd, Trawsfynydd, gan Mr W. W. Owen, yr Ysgol Frytanaidd YSGOL Y PROFFWYDI.—gan Rabbi NODION AR NEWYDDION. Yr Arweinydd Parnell yn odinebwr Llofruddiaethau Llundain a Bolton Stanley a'i Ol-fintai Masnach, Rydd, v. Dyffin Doll Y GOLYGWYR A'U GOHEBWYR. Y Wyneb-ddalen, Y Rhagymadrodd, a'r Cynwysiad Pob archeb i'w iianion at MR SAMUEL HUGHES, Swyddfa'r Cronicl," Bangor. HOREB, TREFORRIS. DYMUNA yr eglwys uchod hyspysu nad ydyw D yn derbyn cyhoeddiad neb i bregethu heb ytt gyntaf ohebu a'i Hysgrifenydd— JOSEPH REES, Edward Street, Morniton.
NEWYDDION .CYMREIG.
News
Cite
Share
NEWYDDION CYMREIG. AMANFORD,CAEBFYRDDIN—Darlith—Nos Sadwrn, Tachwedd 22ain, traddodwyd darlith yn nghapel Methodistiaid Calfinaidd y lie hwn, gan y bardd enwog Dyfed ar ei Daith drwy wlad Canaan. Watcyn Wyn yn y gadair. Nid oes eisiau geiriau o ganmoliaeth ar Dyfed, oblegid y mae ei enw yn ddigon adnabyddus yn ein gwlad, fel bardd, pregethwr, ,8, darlithydd. Ond gallwn ddweud hyn, ein bod wedi mwynhau y ddarlith yn fawr, ac wedi derbyn llawer o leshad drwyddi. Daugosai y ddarlith yn am'wg fQd gan y darlithydd lygad i weled, a'r tri peth angenrheif'iol i wneud gwir fardd. ac hefyd ei fod wedi gwneuthur defnydd priodol o honynt pan ar 6i daith drwy wlad Canaan. Oblegid cawsom ganddo, nid yn unig ddarluniau byw o'r gwahanol leoedd cysegredig yr aeth drwyddynt, yn nghyd ag arferion a dulliau presenol y brodorion o fyw, ODd cawsom hefyd esboniad newydd ganddo ar lawer o adnodau dyrus yn y Beibl, y rhai a chwiliodd allan drosto ei hun wrth weled y gwahanol leoedd, a chlywed y gwahanol draddodiadau pan yn y wlad. Y-nwisgodd ar y diwedd yn ngwisg yr Arab, Bedawaidd a'r Twrc, a pharodd drwy hyny, ddifyrwch a boddhad mawr i'r gynulleidfa. Ac yr ydym yn credu fod pawb yn ymadael wedi eu boddloni yn fawr, gan iddynt gael darlith farddonol, ddoniol, ac addysg- iadol.Neuadd yr Iforiaid.-Nos Wener, 28ain, cynhaliwyd ail gyfarfod Cymdeithas Ddadleuol Amanford," yn y neuadd uchod, pryd y cafwyd anerchiad gan y llywydd T. Davidson, Ysw, yn yr hwn yr awerymodd nifer o destynau i ddadleu arnynt yn y dyfodol. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf bythefnos yn ol, yr hwn ydoedd gyfarfod rhyddym- ddiddanol. Ac y mae nifer eto o gyfarfodydd i gael eu cynhal, yn ystod misoedd y gauaf, a'r rhaglen yn ymddangos yn bynod obeithiol. Testyn da, a rhai o ddynion galluocaf y lie wedi ei dewis i ddarllen papurau arnynt. Tsgoly Gwytifryn.—Yr un noson, cynhaliodd myfyrwyr yr ysgol hon eu cyfarfod wythnosol o'u "Cymdeitbas Ddadleuol," o dan lywyddiaethyr ysgiifenydd, Mr R. Talnedd Jenkins, Castellnedd. Darllenwyd papurau ar y pwnc penod- edig, sef, y Priodoldeb o ddarllen ffugchwedlau," gan Mr J. Davies, Llanwrtyd, o blaid, a Mr J. O. Davies, Llanelli, yn erbyn, a chafwyd dadl fywiog a buddiol ar y p vnc fel arfer, gan y myfyrwyr oedd- ynt yn bresenol, rbai o blaid, a rhai yn erbyn. Y pwnc yr wythnos nesaf fydd y Priodoldeb o ddef- uyddio y Beibl yn yr Ysgolion DyMmU'—Myfyriwr BANGOB.—Undeb Tsgohon Sabbothol Annibyn- wyr Salem, Pendref, a Beulah.-Cynhaliwyd cyfarfod o dan nawdd yr uchod, yn Salem, Hirael, y bore a phrydnawn Sabboth diweddaf, ac anfonodd eglwys Pendref ei chynrychiolwyr; ond digwyddodd damwain anafns, fel ac i atal cynrychiolwyr o Beulah i roddi en presenoldeb, a chan fod cais Cymanfa Ddirwestol ar i'r Sul, neu ran o hono, gael ei roddi at amcanion dirwest, felly, rhoddid anerchiad dirwestol gan Mr Hugh Roberts, yr hwn a lwyddodd i ddangos y drygioni mawr a ddeilliai o anghymedr- oldeb, trwy ei niweidiau, yn bersonol a chymdeith- asol. Ategwyd ei dylwadau yn pwrpasol gan Mri William Roberts a Elias Jones (Myfyrwyr), a'r brodyr Mri John Parry a Robert Thomas, Garth Terrace. Ar ol hyn, holwyd y plant (Dosbarth canol), yn" Hanes Moses," gan Mr William Griffiths, a chaMd pawb eu boddloni yn ddirfawr yn y modd parod yr oeddynt yn ateb. Dangoswyd yn eglur bod yna ffyddlondeb a gweithgarwch wedi ei ddangos tuag at ddysgu y plant yn y rhan yma o waith yr ysgol. Cafwyd cysta-dleuaeth dro yn ol, ar ateb gofyniadau ysgrifenedig, ar yr hanes hwn, a gwobrwywyd y plant yn ol eu teilyngdod; a daeth Mr Mathias Williams, a Mr R. E. Jones a'r feirniad- aeth ger bron y cyfarfod, ac eglurwyd na ddaeth ond deg yn mlaen i gystadlu, laf, Miss Amy Ann Hughes, 2il, Lizzie Williams, 3ydd, Samuel Griffiths, Canmolid y plant yn uchel gan yr arholwyr, am eu hatebion, pa rai, meddant, "oedd agos yn berffaith." Ofnwn fod rhwystr ar ffordd rhai ieuanc i allu ysgrifenu Cymraeg, fel ag y gallent osod allan eu meddwl, am nad ydynt yn cael digon o hyforddiant gartref, a mewn ysgolion dyddiol, yn y gangen bwysig hon o addysgiaeth, a dylai rhieni ac athrawon roddi pob cefnogaeth iddynt i ysgrifenu Ilythyrau yr "hen iaitb anwyl," heb hyn, ofnwn na fyddent yn alluog i ysgrifenu atebion i holiadau o'r natur yma. Yn nghyfarfod y prydnawn, holwyd y plant, (dosbarth ieuengaf), gan Mr William Jones, y rhai a wnaeth eu gwaith yn deilwag o'r ymdrech a delir tuag atynt gan eu hathrawon. Ac yna, daeth Mr Mathew Hughes, Pendref, i roddi anerchiad ar Gadwraeth y Sabboth" a gwaaeth sylwadau amserol a phwrpasol at anallu rhai o'n cyd-ddynion, (ieuanc rhan fwyaf) o fedru cadw, a mwynhau yr addoliad ar y Sul, o Jierwydd fod yr anfanteision mor fawr iddynt fedru gael ond ar y Sul, yr hyn a ehvir yn Fresh Air.' Cydymdeimlwydyn fawr a'r dosbarth hwn o ddynion ond mae y gallu i weila "pechodan" fel hyn yn lIwy law y rhai hyny a'i achosant, sef y prynwyr hwyr," agobeithio-y bydd ymdrechion yn caelea gwneud ar ran crefyddwyr, beth bynag, i wneud ein cyd-ddynion yn ddiesgus o dori y Sabhoth. Dilyn- wyd gan Mr Dcvies, Pendref, ar wahanol agweddau i'r testyn, sef, yr ysgafnder, a'r difaterwch a welir ya yr adtloliad cyhoeddus. Beiir plant yn ami am droseddau o'r natur yma; ond rhaid hefyd dweyd yn ddifloesgni ei tod hefyd yn mhlith rhai mewn oed, a synwyr yr arferion di-grefydd, plentynaidd, o gyegu, cnoi, a sisial di-ddiwedd, fel mae yn anmhosibl i'r hwn a fyddo yn darllen neu bregethu gael ei feddwl yn ei Ie; ceisiwn ddiwygio yn hyn o beth, a chofio fod darlleniad ewyllys Duw i ddyn, yn hawlio gwrandawiad mwyaf astud y gall dyn roddi. Siarad- wyd yn mhellach ar y testyn gan Mri Robert E. Jones, William Griffith, John Parry, a Thomas Williams. Terfynwyd y gweithrediadau trwy holi yr ysgol yn gyffredinol, oddiar loan vi., a daeth cyfarfod hynod adeiladol a chrefyddol i derfyn. Mae yn amlwg erbyn hyn, beth a ddisgwylir yn y dyfodol, oddi wrth Gyfarfodydd yr Undeb Ysgolion; ar ol cael cychwyniad mor fywiog ac ymdrechgar. Credwn yn ddiysgog y byddai "mwy o undeb ar ran ybgolion Sabbothol Annibynwyr y ddinas hon, yn sicrhau dyfodol dysgleiriach i'n henwad, yn o gystal ac i'r ysgol Sul. Buari y delo y dydd, pan y bydd wnoll yn gweithredu o dan yr arwyddair, "mewn undeb mae nerth." 0 bob undeb, undeb mewn crefydd, a gweithgarwch yr ysgol Sul, ac mae yr oes yma, neu yr oes oleu hon," fel y dywedir, yn gofyn am i ni nesu at ein gilydd i gryfhau y naill a'r llall yn egwyddorion mawr y grefydd Gristionogol, ac mae y gwaith gogoneddus hwn yn syrthio ar holl aelodau eglwys Dduw, ac athrawon yr ysgol Sab- bothol.- Ysgrifenydd. 'fe DYFFRYN DWYREINIOL MvNVY.—CynhaHodd gweinidogion Anibynol y dyffryn hwn eu cyfarfod misol yn Penywain, dydd Marcher, Tachwedd 26ain. Y gynhadledd am haner awr wedi tri. Yr oedd yn bresenol y Parchn. D M Davies, Varteg; J LI Jones, kbersychan M Evans a J P Thomas, Pontypool; J Rees, Griffitbstown; T Illtyd James a S Jones, Cwmbrau L T Hughes, Penywain; D B Hughes, New Inn A D Davies, Hanover Mri. J Thomas, Pontnewydd; a Taylor, Abersychan. Penderfynwyd fod y cyfarfod nesaf i'w gynal yn Siloh, Abersychan, y trydydd Mercher yn Rhagfyr. "Pechod yn erbyn yr Yspryd Glin," i fodyn bwncy gynhadledd, a'r Parchn. M Evans a J P Evans, Pontypool, i bregethu yn yr hwyr. Caf- wyd ymddiddan yn y gynhadledd ddiweddaf ar y modd o wneud y cyfarfodydd misol hyn yn fwy o allu ac o fendith. Pregethwyd yn yr hwyr gan y Parchn. J Rees a D B Hugbes.-G R. EBBW VALE.-Dydd Mercher, y 25ain cynfisol, claddwyd gweddillion y diweddar Charles Edwards, Prif Oruchwyliwr y Gofiaid o dan Gwmni Glyn Ebbw. Er fod yr hin yn arw iawn, daeth tyrfa fawr i ddangos eu parch tuag at Mr Edwards am y tro diweddaf. Daeth llawer o bell ac agos o'i hen weithwyr i'r angladd. Rhywfaint gyda blwyddyn y claddwyd ei anwyl briod. Y mae angau wedi bod yn tori i lawr yr hen bob! o'r ddwy ochr i'r berthynas, ac amryw o blant anwyl Mr a Mrs Bevan mewn amser byr, mewn gwirion- edd y mae angau yn cyniwair yn mhlith y teulu- oedd caredig yma hyd nes y maent mewn gofld a galar yn barhaus.Da genyf gael ar ddeall fod pobl Saron, Twyn Lewis Harri, wedi bod yn ddoeth gogyfer a'r ail-agoriad eu capel. Y mae eu hen weinidog i fod vno, sef y Parch W T Hughes, Belfast, a'r Parch — Owens, Glandwr. Y maent yn Cangos sel mawr dros eu hen weinidog, a bydd yn anrhydedd mawr iddo i gael agor teml mor hardd; gobeithiaf na choll y brawd ei Gymraeg na'r hen ysbryd hwnw oedd ganddo nett fe gaiff ef y ffon; nid oes achos dyweud am fawredd y gwro Glandwr, y mfce ef fel ton y mor, a sicr y eawn wledd iawn wrth agor y Saron newydd. Y Meistr Mawr ddelo gyda ei weisxon. Clodi Gymro eto. —Y mae yn dda genyf gael allan fod un o Gymru pur Glyn Ebbw yn cael ei ddyrchafa am ei allu fel trefnwr ac ysgrifenydd yn Undeb y Gweithwyr Haiarn a Dur y siroedd cylchynol. Y mae Evan Jones wedi llafurio blynyddoedd i geisio dwyn allan ffordd newydd a da, ond wedi methu mewn un ffordd, ceisio ffordd arall, nes o'r diwedd y mae o'r diwedd wedi argyhoeddi ei gydweithwyr mai mewn undeb y mae nerth, a phwnc mawr yw i ddyn da i gael ei weled gan ei frodyr ei hun, ond y mae eithriad i hynyna weithiau, felly y tro yma, y mae Evan Jones wedi ei ethol yn brif ysgrifen- ydd yr Undeb y Gweithiau Haiarn a Dur y cylch mawr hwn, ac yn wir nid gorchwyl hawdd yw bod yn ysgrifenydd undeb fel hwn. Os wyf wedi deall yn iawn y mae Evan Jones wedi tynu allan gyl1- llun i reoleiddio prisoedd y farchnad a prisoedd y gwerthwyr (sliding scale) rhagorol o dda, ae y mae hynyna yn goron ar ei ben, a gobeithiaf y bydd yr undeb hwn yn cydnabod gwerth Evan Jones. Bai eyffreclin yn y cyfeiriad yma yw hyn, os mai Cymro fydd y dyn, O dylai wneud y gwaith am ddim, neu yn anrhydedd o gael ei ethol yn y swydd. 0 na, nid fel yna chwaith. Teilwng i'r gweithiwr ei dal. Taro y Cymro i lawr yw ein bai ni fel Cymry. Pe buasai Gwyddel, Saia, Albanwr, nett un o'r Indiaid Cochion yn cael ei ethol yn ysgrif- enydd, y pwnc cyntaf gan ein cenedt ni fyddai, "Er cywilydd i ni yr wyf yn dywedyd hyn." Pa faint o dM a roddwn i'r ysgrifenydd ? 0, hyn a hyn. Ie, tal iawn a gaiff am ei fod yn estron, ond am ei gyd-ddyn nid yw werth dim, ond gwneud y cyfan am ddim. Wei, ynte, holl Un- debwyr Haiarn a Dur, cymerwch yr hynt, a gwerthfawrogwch dalent. Rhagor o amddiffyn ein dynion ein hunain sydd yn angenrheidiol. Y mae cenhedloedd ereill yn gofalu am hyn bob dydd. Os aiff Cymro i'r America yn medda ar daleut, i fyny ag ef yn y man yn ol ei deilyngdod. Y mae llithiau Morien ar ei deitbiau yn America yn profi hyn yn eglur. Buan y gwelwn wedd arall ar ein byd.Nid teg yw cadw hen deimlad drwg yn y galon ar ol eyhoeddi heddwch yn y gwersyll, fel yna yr wyf fi yn ei chael i yn y dyddiau presenol, a hyny mewn perthynas i werthiant y Celt. Y mae yr hen rwygiad mawr colegawl wedi ei wneud i fyny mewn heddwch a thangnefedd, a diolch am hyny. Ond dangoswch enw y Celt i rhai o'r pigwyr cynhenus, y maent bron a llewygu, ac os gofynwch iddynt os ydynt am eilgael, na wnaf yn siwr i ehwi, hen elyn fel yna. Yn wir y maent yn destyn o dosturi, yn credu fod eu na hwynt yn ddigon i ladd y Celt am byth. Er fod Anibynwyr o'r gwaed yna yn ei wrthod, wele y Bedyddwyr, Wesleyaid. Calfinilc)id, Presbyteriaid, ae Eglwys- wyr yn ei gefnogi, yn ei barchu, ac yn ei ddarllen gyda bias bob wythnos, ac us na chant ef i'r diwrnod, dechreuant holi am dano. Os na ally rhai sydd am i ereill faddeu i'w gilydd, pa fodd y gallant hwy feddwl am faddeuant byth. Carthwca allan yr hen fydreddi, a ceisiwch ddodrefn newydd a da, yna ni chewch y dwymyn.—Ehedydd Wyn.