Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

TAITH YN MOROCCO.

News
Cite
Share

TAITH YN MOROCCO. ■ I AIK BLI GRIFFITHS, PRESTATYN. Gadewis fy Dhaith y tro diweddaf pan oeddwn ar adrodd hanes amgylchiad sydd yn digwydd yn fynych mewn gwledydd haner gwareiddiedig; sou yr oeddwn am ddau ddyn a ddaethent ataf gydag anrhegion. Dau elyn marwol oedd y rhai hyn a'u ham- can yn dod ataf oedd cael cyifawnder neu yn hytrach gael fy rnarn ar eu dadl. Ad waenai ein cyfieithydd Mwraidd hwy a thrwyddo ef perais iddynt eiatedd i lawr a dechreuais eu holi.. Goruchwyliwr i un o weision y Sultan oedd y Negro, ac yr oedd ganddo dir yn y lie. Amaethwr ydoedd yr Arab, ac yr oedd yr anghydweled- iad rhwng yr Arab a'r Negro, wedi cymeryd Ileerstalm o amser a'r ffrae yn parhau. Yr oedd gan y dyn du gefn da yn ei feistra dirwyodd yr Arab yn ami yn nghyda'i gar- charu gan ei gyhuddo o ddwyn ceffylau, anifeiliaid a nwyddau. Mynai yr Arab ei 'tod yn ddieuog, a chan nad oedd neb yn ei amddiffyn yn ngwyneb cyhuddiadau y dyn du, daetbai ataf fi am help. Gellwch 4dvchymygu fy mod yn teimlo fy hunan mewn lie cyfyng ac nis gwyddwn yn iawn pa beth i'w wneud. Wedimunndoystyriaeth dywedais wrthynt os y cytuna'r ddau i ga w'r heddwch am fis yr anfonwn at ei Ma wrhydi Brenhines Brydain, ac y gosodwn y holl achos o'i blaen, ei bod hi yn un or dd yn meddu dylanwad mawr a chanddi aewdurdod mewn llawer gwlad. Wedi hir ddadleu a siarad cytunasant i aros am fis ac fod y ddau i'm cyfarfod yn Tangiers yn mhen yr amser hwnw. Gadawodd pob un o'r ddau fi yn hyderus iawn y byddai i'r Frenhines roi dedfryd yn ei ffafref, a gallaf eichsicrhau fod yn dda genyf weled eu cefnau. j Gan fod y diwrnod yn dra thwymn, ni chodasom ein pebyll hyd nes ydoedd yn hwyr brydnawn, oblegid nid oedd genym 6nd deng milltir i fyned i'r pentref y bwriadwn arosynddodros nos. Ein bwriad yn aros oedd dychwelyd i Tangiers ar hyd ffordd wahanol i'r hon y daethom i fyny ar byd ddi. Teithiwn drwy wlad brydferth fel gardd a phersawrblodau. fel yn llenwi yr awel. Yr oeddyrn yn tnyned yn mlaen yn hamddenol heb ddim yn pwyso ar ein meddwl ond y bwriad o gyraedd i'r pentref cyn nos fel y gallem godi ein pebyll yn gysurus- Tra yn teithio fel hyn galwodd yr arweinydd fy sylw at ddyn a redai ar ein holau yr hwn oedd bron yn noeth lymya ae yn cario ysprepan fechan a hongiai o'r tu ol. aOfnais fod perygl,- ond pan ddaeth yn nes dywedwyd wrthyf mai efe oedd yn cario y llythyrau ar cwbl a gaem ganddo oedd fod "Isi amser wedi ei nodi o Fiz i Tangiers ac nad oedd wiw iddo fod ar ol." Dyna'r modd y cerir llythyrau yn Morocco a bywyd truenus iawn yw bywyd y llythyr-gltidwyr hyn. Nid ydynt yn bwyta dim ar eu teiithiau ond ychydig fara a ffigys. Ni byddant yn gorphwys ond yn y nos am ychydig oriau; eysgant y prydiau hyny gyda liinyn wedi ei gylymu wrth un troed a than ar ei ben, yr hwn a gyneuir ganddynt cyn myuedi gysgu, felly byddant yn sicro gael eu deffroi gan y tan yn mhen yr amser gofynol. Rhedant am ddiwrnod cyfan heb weled dyn na chael diferyn o ddwfr; croesant fforestydd yh mha rai y mae'r baedd gwyllt yn cartrefu a dringantfynydd- oedd nas gallai un mul ei ddringo nofiant afonydd; weithiau rhedaut a phryd arall cerddant, weithiau ymollyngant i lawr lleoedd serth ac wedyn dringant fryniau ar [ draed a dwylaw o dan haul poeth Gorphenaf neu gawodydd trymion yr Hydref; gwyneb- ant boethwynt yr anialwch gan gymeryd pedwar diwrnod i fyned o Tangiers i Fiz ac wythnos o Tangiers i Morocco o gwr eithaf yr ymherodraeth i'r cwr eithaf arall. Gwnant Hyn yn droednoeth ac yn haner noeth eu cyrph am ychydig bris. Caf roddi desgrifiad o'r pentref yr ydym yn agoshau ato yn y llythyr nesaf.

ADRAN YR ADOLYGYDD.

Advertising