Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

CYNLLUN Y CADFRIDOG BOOTH

News
Cite
Share

CYNLLUN Y CADFRIDOG BOOTH I ACHUB GWEHILION CYMDEITHAS. Wrth agor "In Darkest England and the way Out," y peth cyntaf sydd yn tynu sylw ydyw cyflwyniad y llyfr i goffadwriaeth parcbus gwraig yr awdwr galluogr. Cafodd Mrs Booth fyw i gynorthwyqeiphriod i gynllunio ac i ysgrifenu y llyfr, ond cyn iddo ddyfod allan o'r wasg galwyd hi oddiwrth ei llafur at ei gwobr. Yn y penodau cyntaf mae y Cadfridog yn nodi allan mewn dull argyhoeddiadol, mawr drueni un ran o ddeg o drigolion y deyrnas. Dengys y graddau o ddirywiad y mae dyn olryw yn syrthio iddo megis y colledig, yr alltud (outcast), a'r hwn nad oes ganddo feddiant o ddim yn y byd. Y dosbarth cyntaf ydynt y rbai nad oes ganddynt gyfalaf neu incwm eu hunain, a fyddent yn mhen mis yn feirw o newyn pe gadewid hwynt yn hollol i fyw ar ea henillion eu hunain yr ail, y rhai er eu holl ymdrechion nad ydynt alluog i gael cymaint o fwyd ag a ddarperir drwy gyfraith ar gyfer y troseddwyr gwaethaf yn ein carehardai. Ceir desgrifiad byw ganddo o'r digartref—y modd y daethant felly, a dyfnder y trueni yr aethant iddo-o ris i ris-nes colli pob gobaith, a llawer o honynt yn marw o nevvyn yn y diwedd yn nghanol palasau gwychion boneddigion a bro- ffesant eu hunain yn Gristiooogion. Gesyd hanesion gwirioneddol o sefyllfa truenus dynion a merched a gysgant allan ar feinciau neu ar Ijalmant oer a chaled, am nad oes ganddynt arian i dalu am wely, ac a gadwant gorph ac ecaid yn nghyd, un ai trwy ladrad neu trwy gyflawni pechodau ffiaidd a dychrynllyd. Ond er yr holl drueni, ac er mor ddwfnfy mae degwm trigolion ein gwlad wedi suddo iddo y mae gan y Cadfridog; Booth ffydd y gellir ACHUB PAWB AC ACHUB Y DYN I GYD. Amcana i'w gynllun gyrhaedd pawb. Creda nadoes neb wedi suddo yn rhy ddwfn i drueni nad all breichian trugaredd fod yn ddigon hir i'w gyrhaedd, ac fod y fraich ag iddi gadernid yn alluog i'w godi i'r lan. Nid ydyw yn meddwl llwyddo heb gyfnewid y dyn ei hunan ynhollol. 41 Rhaid eich geni chwi drachefn," ydyw y gen- adwri. Ni wna eu symud oddiwrth yowcani na'u codi o'r sefyllfa isel fod yn feddyginiaeth iddynt heb !lJewid calon y dyn yn drwyadl. Ac ymae y Cadfridog yn meddu ffydd y gellir gwnend hyn, os nad a'r oil a bron yr^oll. Dyma anhebgorion ei gynllun:— 1. Rbaid cyfnewid [y^dyn ros¡syr'thio jwnaeth drwy ei fai ei hun. 2. Rhaid newid ei'amgylchiadau oa buont yn fagl iddo neu rywfodd yn achos i'w dynu i Jawr. 3. Rhaid i'r feddyginiaeth fod mor fawr a'r drwg sydd ganddo i'w wrthwynebu. 4. Rhaid i'r gwellhad fod yn sefydlog a phar. haol. 5. Rhaid iddo fod yn'uniongyrchol ymarferol. 6. Rhaid i'r cynllun beidio peru niwaid i'r rhai yr ymgeisir at wneud lies iddynt. 7. Rhaid iddo beidio peru Hes i un doebarth ar draul4niweidio dosbarthfarall. EIIGYNLLUX. jfcyn* yw, sef {cael^trefedigaeth yn Llundain, xm arall yn y wlad, ac un arall dros y moroedd, yn benaf yn neheudir Affrica. Cnewyllyn ei gynllun ydyw, gwneud Llundain fel pena byddai oDd pentref bychan yn nghanol y wlad. Mewn lie felly, os ibydd ar] ddyn eisieu gwneud rhyw waith, mae eifeddwl yn rhedeg dros enwau ei gymydogion, ac y mae yn gwybod yn union pwy ydyw y cymwysaf i wnend gwaith neillduol. JAo er gwneudj Lluudain felly, bwriada y cadfridog yn gyntaf godi yr hoU druenusion i safle ceffyl omnibus, sef rnoddi iddo gartref clyd a bwyd; wed'yn bwriada ofalu am waith iddo, yn gyntaf yn y Noddfa, lie y caiff fwyd a gwely clyd, ond rhaid iddo weithio i dalu am dano. Mae y Cad- fridog yn erbyn rhoddi yr hyn a elwir yn elusen i neb, am fodhyny ya diraddio dyn. Yn 3ydd, Chwilio allan am waith i bobl. Cadwmatho Swyddfa Cofrestrol (registry office,) lie y gall dynion allan o waith dd'od iddo bob dydd, ac yna gael eu hanfon i weithio i'r lleoedd hyny y bydd jgalw am danynt. Mae y Cadfridog wedi cael profiad yn hyn eto. 4. Adran i alw yn mhob ty, ac i gasglu oddiyno unrhyw beth all fod yn ngweddill, rywbeth fyddowedi tori, ac Da fydd gan y perchenog angên. am dano. Drwy hyn deuir i feddu gwybodaeth am bob ty yn y ddinas, a cbredwn y gellir gwneud yr adran hon yo fendithiol iawn i ranu hysbysiadau, &c. Bwriedir rhanu Llundain yn ardaloedd (dis- tricts), gan ddechreu gyda'r lleoedd hyny y dis- gwylid y ceir fwyaf o bethau. Anfonir dau ddyn, neu ddyn a bachgen i gasglu yn y lleoedd hyn. Gofynir hefyd i bobl y tai ofalu am ryw lestr fel y gallo y morwynion daflu i mewn iddo, megys bwydydd, &c. ac hefyd ddarparu sach at gadw hen bapurau, rags, hen boteli, tyniau, &c. Yna cesglir y cyfan unwaith peuddwy yn yr wythnos, nen yn amlach, yn ol fel y byddai angen, a chludir hwynt, i'r Drefedigaeth yn y Wlad. Y DREFEDIGAETH YN Y WLAD. Wedi i'r rhai a godir fod yn y Noddfeydd yn y ddinas am beth amser yn derbyn eu haddysg, symudir hwy i'r Drefedigaeth yn y wlad, He y dysgir iddynt amaethyddiaeth, garddwriaetb, a. phob peth angenrheidiol er eu gwneud yn gym. wya i gael eu symud i'r Drefedigaeth dros y mor- oedd. Mae y fantais o hyn yn amlwg iawn. Ceir tiawer wediymfudo iwledydd pell yn tori en ealonau ar unwaith oherwydd fod eu sefyllfa mor newydd a hwythau mor anghymwys iddi. I'r Drefedigaeth yn y wlad fe gludir yr holl weddillion a gesglir yn Llundain ac yno fe'u defnyddir yn mhob dull a modd y gellir meddwl am dano. Bydd pob swyddog yn y Fyddin yn rhwym o roi mantais o'r wybodaeth sydd yn ei feddiant er cynorthwyo y trefedigaethau. Ceir felly wybodaeth nas gallai nab arall ei gyfleu mor berffaith a'r rhai hyn. Trwyddynt crynboir gwahanol ddulliau pob gwlad i drin y ddaear, magu anifeiliaid, &c., yn un wybodaeth gyffred- inol i'r sefydliad yn y wlad, a bydd y lie yn fath o Brifysgol er oymhwyso dynion a merched i ail* ddechreu byw mewn gwell manteision nag y buont ynddynt eribed o'r blaen. A ganlyn ydynt reolau y sefydliad. Cyn y derbynir neb i mewn rhaid iddynt arwyddo cytundeb i fyw yn ol y rheolau. 1. Rhaid parchu yr holl swyddogion ac ufudd- hau iddynt. 2. Ni chaniateir arfer diodydd meddwol ar un. rhy# gyfrif, ni chaniateir i ddim meddwol ddy- fod o fewn i'r terfynaa. Fe droir ilffordd am y trosedd cyntaf bwy bynag a doro y rheol hon. 3. Diarddelir am feddwdod, anonestrwydd, neu gelwydd wedi troseddu dair gwaith. 4. Ni chaniateir iaith anweddaidd o fewn i'r lie. 5. Ni cheir arfer crealondeb at na. dyn, dyoes, plentyn, nac anifail. 6. Troir allan bwy bynag a droseddo yn erbyn rhinwedd a phurdeb merched neu yn erbyn plant. 7. Ar ol cael prawf digonol, ac ar ol dangoa amynedd mawr, diarddelir pawb a wrthodant weithio. 8. Fod penderfyniad prif-swyddog y Drefedig- aeth yn y ddinas, yn y wlad, neu dros yjnoroedd i fod yn derfynol. 9. Am droseddau y tro cyntaf y gospedigaeth fydd cadw cofnodiad o'r trosedd; yr ail dro ei gyhoeddi; y trydydd fydd troi i ffordd neu droa- glwyddo y troseddwr i'r awdurdodau. Ni orfodir nebynyTrefedigaethaui dderbyn rheolau Byddin yr Iachawdwriaeth, ond os bydd rywrai yn ewyllysio uno a'r Fyddinpc&nt wneud hyny. Oa ceir fod rhai o'r trefedigaetbwyr wedi eu cyfnewid yn ddigon trwyadl, ac yn dangosawydd i ddechreu ar en cyfrifoldeb eu hunain, roddir tir iddynt, ac unir hwynt a'u gilydd yn bartner. iaid tuag at weithio y ffarm newydd, a chant bob cynorthwy yn bosibl er mwyn iddynt dd'od yn mlaen. Y DREFEDIGAETH DROS Y MGR. O'r ail drefedigaeth fe symudir y rhai fyddo yn gymwya dros y moroedd lie y c&nt dai a ffermydd ac offerynau amaethyddol, hadau, &c., mewn gair pob peth yn barod iddynt fel na fydd y symudiad ond megis symud o un cwr i'r wlad i'r cwr arall. Cymwysir y bobl at y wlad, a'r wlad at y bobl. Y He cymhwysaf yn ol barn y Cadfridog ydyw Deheudir Affrica, am fod yno ddigon o dir cymwys i gael, marchnadoedd da, a digon o waith i'w gael yn y gweithfeydd pe byddai iddynt flino ar y tir. Yn ychwanegol at symud y rhai cymwys o un Drefedigaeth i'r llall, bwriada y Cadfridog gael Ueyn LIundain lie y gall pwy bynag a ewyllysio ymfudo gael gwybodaeth gywir am y lie goreu iddynt symud, ac hefyd rhoi cymorth arianol iddynt i ymfudo a gofalu fod rhywun yn eu der- byn yn y wlad newydd ac yn eu cyfarwyddo y modd a'r He goreu iddynt fyw. Fe Iwriedir prynu llocg hefyd at gludo yr ymfudwyr, yr hoh a eilw mewn gwahanol leoedd ar ei mordaith, a lle y cynhelir cyfarfod crefyddol bywiog gan y Fyddin, ac ymdrechu drwy hyny i achub eneidiau. OLWYN MEWN OLWYN. I berffeithio eynllun mor fawr bydd gan y Cadfridog luaws o Adranau (Brigades) rhai i fyned i lawr i'r'selerydd tywyllaf i chwilio am y ddafad golledig. Bydd yr Adranau hyn fel ol- wyn mewn, olwyn yn y peiriant er ceisio dyr- chafn y truan a'r anghenus. Fel tad y mab afradlon rhoddir iluaws" y wisg oreu ellir gael ac esgidiau am eu traed. Bydd ganddynt ys- bytty teithiol ar gyfer y claf a'r oedranus, ac fel y Samaritan da tywalltant olew ar eu briwiau, a. dygir y claf i'r Hetty lie y caiff bob ymgeledd yn bosibl. Mae yn Llundain yn unig yn agolli haner cant o filoedd o blanti bach troednoeth, a bydd i'r Cadfridog ddarpar esgidiau i'r cyfryw rai wedi eu gwneud gan weitbwyr y Noddfa, n«u yn y Drefedigaeth yn|y wlad. SEILIATJ DROS EI LWYDDLANT. Mae y Cadfridog yn meddu ffydd gref yn ei lwyddiant. Ffydd wedi ei chryffeau gan y wy- bodaeth sydd ganddo o'r natur ddynol, a'r prof- iad ar raddfa fechan sydd yn ei feddiant fod cynllun o'r fath wedi cyraedd yr aracan. Mae ganddo oddeutu 90 yn gweithio eisoes yn White- chapel. Dynion a merched wedi eu codi o'r ffosydd iselaf. Mae y sefydliad hwnganddo er mis Mehefin diweddaf. Mae y bobl yn cadw dda, yn gweithio yr oriau yn Hawn, ac yn ufuddhau i'r awdurdodau, ac yn byw yn gytun a didramgwydd gyda'u gilydd, ac y mae rhai o honynt yn hynod am eu diwydrwydd gyda'u gorchwylion. Dengys y cyfraniadau sydd eisoes wediel1 derbyn fod gan gyfoethogion y wlad ymddiried ynddo. Yn mysg y rhai'n y mae esgobion, a gweinidogion, uchelwyr, masnachwyr, &c. Go- fyna y Cadfridog am filiwn o bunau, 100,000p i ddechren, a 30,000p yn flynyddol at gario y gwaith da hwn yn mlaen, a dywedir fod oddeutu yr haner wedi ei sicrhau.

[No title]

Advertising