Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

NEVVYDDION CYMREIG.

News
Cite
Share

NEVVYDDION CYMREIG. BARGOED TBIYI.—Soar Periboyr.—Gwisga'r achos goreu agwedd bur lewyrcbys yn yr eglwys uchod, prawf o'r hyn ydyw fod yr Ysgolion Sabbothol yn y lie hynod luosog, ac yn myned ar gynydd yn barhaus. Y Sul or blaen bu y ddwy ysgol, sef y plant, a phobl mewn oed, yn tala vrnweliad a'i chwaer eglwys yn Saron. Aeth y plant drwy eu gwaith yu feis- trolgor, a dangosasant eu bod yn hyddysg iawn yn Hanes lesu Grist." Adroddodd yr Ysgol Fawr yr ail benod yn Matthew, a rhoddasant atebion cry no a boddhaus ar y benod, a chanwyd dwy anthem gan y naill ysgol a'r llall. Y plant dan arweinind medrus Mr John Williams, a'r bobl mewn oed dan arweiniad cywrain y Parch J. G. Owen, y llafurus. weinidog. Holwyd hwy gan y Parch W. E. Jeffreys. Brysiweh drosodd eto frodyr gweilhgar. Credwn nad oes dim yn well nag ymweliadau fel hyn er creu bywyd yn y gwersyll o bob tu.—■—Saron, Llangeler.—Wei, hai ati, y foment bon daeth i law hysbyslen yn dangos fod Eisteddfod fawreddog i fod yn Saron yCalan nesaf.—Ap Llavxldog.—[Hysbysiad yw'r gweddill.-Gol] BETHEL, GLANTWRCH,-Cafwyd Cymanfa mewn cysylltiad ag Ysgol Sabbothol yr eglwys uchod, ddydd Sul, Tachwedd yr 2il, pan y cafwy dgwledd o'r fath oraf i'r rhai hyny gad want lesu Grist a'i farwol glwy yn agos i'w caloiiau. Gan mai hon ydoedd y gyntaf o gyfres a fwriedir gynal yn y lie, teimlwn nad anmrhiodol fuasai adolygiad ar y cyfryw, er mantais i ddarllenwyr y Celt, a sym- byliad i'r ysgol i fyned rhagddi fwyfwy i roddi hyfforddiant briodol i'r plant, yn awr. Pechod a oddefir mewn llawer gormod o'n heglwysi Cymreig ydyw difaterwcb am addysg briodol i'r plant. Yn ddiddadl, mae llawer talent ddisglaer wedi ei chuddio gan y IIaid a'r llwch, a allasai fod yn ser goleu i addurno pwlpudau ein gwlad, yn unig oherwydd diofalwch a difaterwch athrawon a swyddogion eglwysig. Ond da genym weled fod y cyfryw yn Bethel, yn deffroi ac yn dyfod oddi rhwng y crochanau at angenion yr oes sydd yn codi. Yr ydym yn eu llongyfarch yn eu hymgais i ddyfod i gyfarfod a'r plant yn eu Ilafur: yr hyn sydd yn fynych, ond odid, yn fai pwysig yn y dyddiau hyn. Eiddunwn lwyddiant i'w llafur, a gras ychwanegol i hyfforddi y plant yn mhen eu ffyrdd. Cyfarfod dau o'r gloch a gymerwyd i fyny yn gyfangwbl gan y dosparthiadau lleiaf. Maes eu llafur hwy ydoedd y ddwy benod flaenaf yn Rhodd Mam, ac aethant drwy eu gwaith yn rhagorel. Cyfarfod chwech o'r gloch' ydoedd i holi y dosparthiadau hynaf ar "Enedigaeth Crist," cea yr ail benod yn Matthew. Holwyd y gofyniadau yn y ddau gyfarfod gan Mr Evans, y gweinidog, a chafwyd atebion pur dda ar y cyfan i'r oil o honynt, ac amlygwyd ol llafur mawr yn ,atebion rhai o'r dosparthiadau yn nghyfarfod yr hwyr ereill nid cystal. Teilwng o sylw hefyd ydoedd y cynllun o osod un i adrodd neu y cor i gana yn awr ac yn y man yn ystod yr oedfaon, a thrwy hyny gadw y dyddordeb i fyny yn y gwranda- wyr. Darnau prydferth ac addysgiadol iawn ydoedd •eiddo James Powell a David Owen ar Gad" ac TJfudd-dod." Yr oedd gwrando v ddau hyn yn anig yn ddigon o dal am ddyfod i'r cyfarfod. Yr oedd y canu fel arferol o dan arweiniad J. Dyfrig Owen, a chredwn yn ddibetrus na fu-gwell canu yma er ys blynyddau. Digon yw dweyd fod adfywiad all round wedi cymeryd lie yma, ac nid y lleiaf wedi teimlo oddiwrtho ydyw achos dirwest; oblegid cychwynwyd yma yn ddiweddar obeithlu, a'r hwn sydd yn bresenol yn gwisgo agwedd lewyrchus a dymunol. Yn mlaen byddo'r nod, a ni yn gwybod nad ydyw ein llafur yn ofer yn yr Arglwydd. William Jenkyn Evans. BETHESDA.—Gyfarfod ymadawol Mr Iwan Jenkyn,-Nos Sadwrn diweddaf, cynhaliwyd cyfarfod o'r Gymdeithas Ryddfrydig a chadeirwyd gan y Cynhorwr George Brymer, Llywydd y Gymdeithas. Y Parch D. Adams a ddyijodd y penderfyniad canlynol ger bron y gynulleidfa,—sef, "Fad y cyfarfod hwn o Gymdeithas Eyddfrydig Bethesda yn gofidio yn ddwys o herwydd colli o'n plith y Ehydd- frydwr selog a goleuedig Mr Iwan Jenkyn, ac yn dymuno yn fawr ei lwyddiant yn y dyfodol." Cefnogwyd y penderfyniad yn galonog gan y Parch Griffith Roberts, Carneddi; siariadai y ddau, yn neillduol y Parch G. Roberts yn uchel am Mr Jenkyn—»m ei gymeriad glan, gwyneb agored, am ei ddewrder dros yr hyn gredai oedd yn gyfiawn a Iluaws o bethau eraill. Dywedai y Parch Griffith Roberts, yr hoffai bob amser weled gwyneb braf, agored, unplyg Mr Jenkyn, ond gobeithiai na byddai iddo syrthio yn mhlith seirph Dymunai Dduw ya rbwydd iddo ef a'i deulu, pasiwyd y pen- derfyniad yn unfrydol ac yn frwdfrydig. Ategodd y Llywydd y sylwadau parchus am Mr Jenkyn a wnaed gan y Parchn Adams a Griffith Roberts. Adwaenai yntau Mr Jenkyn yn dda, ac ni welodd ddyn mwy ddidderbynwyneb, gonest, a thrwyadl erioed. Gwnaed yn hysbys' hefyd fod cyfeillion Mr Jenkyn yn bwriadu cyflwyno tysteb iddo. Cadeirydd y pwyllgor ydyw y Parch D Adams; Trysorydd, D. Griffith Davies, Ogwen Terrace, arysgrifenydd, Mr D. Thomas, Prifathraw, Deallwn fod is-athrawon a phlant ysgol y Cefnfaes, wedi hel swm anrhydeddus er mwyn anrhegi eu hathraw cyn iddo ymadael am Sir Forganwg. Darllenwyd y Ilythyr canlynol yn y cyfarfod. Mae Mr Roberts, yn traethu ei farn ef yn glir am Mr Jenkyn :-6, Water-street, Bethesda, 8 Hydref, 1890. Mr Cadeirydd a chyfeillion. Ymrwymiadau pwysig mewn man arall yn unig a'm rhwystra i fod yn bresenol yn nghyfarfod y Gymdeithas heno, a gofidus iawn genyf mai felly y mae wedi digwydd, yn enwedig panddeÛlwyf mai dyna y noswaith olaf i'n cyfaill ffyddlawn ar gweithiwr aiddgar Mr Iwan Jenkyn, fod yn ein plith. Y mae Mr Jenkyn, wedi gwario llawer o'i arian ac wedi treulio llawer o'i amser gwerthfawr er hyrwyddiant yr achos mawr Rhyddfrydol yn gyffredinol, ac y mae ei dalentau dysglaer wedi bod bob amser at ein gwasanaeth ni yn neillduol. Kid oes genyf ond uno gyda'r aelodau eraill yn y dymuniadau goreu iddo ef a'i deulu yn y dyfodol.—Yr eiddoch yn bur, Robert Roberts. Ar ol talu diolchgarwch i'r llywydd, terfynodd y cyfarfod. EBBW VALE.—Tirzah% Bedyddwyr Seisnig, Cwm. —Cynhaliasant eu cyfarfodydd blynyddol yn y Tirzah a Caersalem, Victoria, dydd Sul, 2il o Dach- wedd. Dydd Sul, am lleg o'r gloch, pregethwyd gan y Prifathraw Edwards, B.A., Athrofa Pontyi pool; am chwech yr hwyr, y Parch. J 0 Hughes, Caersalem. Yn Caersalem, Victoria, am ddeg o'r gloch, boreu Sul, J 0 Hughes am ddau y pryd- nawn, yn Saesneg, Prifathraw Edwards, B.A., Pontypool, a'r Parch D S Jones, Cendle, yn Gym- raeg am chwech yn yr hwyr, y Prifathraw eto. Dydd Llun, yn Tirzah, Cwm, pregethodd y Parch E Ungoed Thomas, Risca, am haner awr wedi dau, a chwech yn yr hwyr. Yr oeddent yn casglu at ddileu y ddyled sydd yn aros ar Tirzah, a gwnaeth- ant yn rhagorol iawn, a'r oil trwy offerynoliaeth y Parch J 0 Hughes, Caersalem, efe sydd a gofal y Cwm yn awr, ac y mae ei ddyfodiad ef i'r lie yma yn arwydd fod Daw yn beudithio ei lafur. Nid oes dim yn fwy cysurlawn i blant yr Arglwydd na chael arwyddion fod yr Ysbryd Glan yn disgyn yn eu plith a bod Iluoedd yn gwaeddi, Na ato Duw i ni ymffrostio ond yn Nghroes ein Arglwydd lesu Grist," ac ereill yn dyweud yn ddigon eofn, "Nid oes arnaf gywilydd o Efengyl Crist, oblegid gallu Duw yw hi i bob un a gredo." Ac yr oedd yr wythnos o'r blaen tua 32 yn y ddwy eglwys yn gofyn am le yn eu plith. Y mae'n amser bendi- gedig yn Caersalem er's pan y mae y gwas da hwn yn eu plith, nid oes digpn o le i'r rhai sydd am glywed y gair ar nos Suliau. Rhaid yw estyn cortynau y cysegr er cael rhagor o le. Arglwydd lesu, ymwel a ninaui y pen uchaf i'r dref, y mae yma weddio am y tywalltiad, gwawried y bore yw fy ngweddi. Ebenezer, Pont y Gof, M 0.—Cyn- haliasant eu gwyl de flynyddol dydd LI un, y 8ydd cyfisol, a gwnaethant yn rhagorol. Wrth y r byrddau yr oedd y boneddigesau eanlynol :-Mrs G H Jones, Heol y Farchnad; Mrs G Davies, Heol Iago; Mrs Miles, Miss Jenkins, Mrs Morgan, Miss Morgan, a'r Misses Davies, a llu yn cynorthwyo. Ar ol y wledd, cafwyd cyfarfod canu ac adrodd. Cymerwyd y gadair gan Mr J Watkins, a llanwodd hi yn dda. Agorwyd y cyfarfod gan Miss Gwen Williams, merch Abraham Williams, trwy chwareu darn agoriadol ar y berdoneg gyda medr ac yn swynol iawn, os y caiff bob cefnogaeth fel y mae yn bresenol daw yn berddonyddes rhagorol, nid ydyw ond ieuanc. Canodd lane ieuanc, Francis James, The Miller of the Dee," T James, The Powder Monkey," "Pump o honom," gan Thomas Hopkins." CAn, John Price. Can, Polly Davies, Y Bachgen Angylaidd." Can gan T H Richards. Miss Smith a ganodd It was only a sweet little letter." David Davies, fel arfer, mewn hwyl. Isaac Doughton a'i gyfeillion a ganodd Y Gwan- wyn." Yna plentyn bach a ganodd yn swynol, sef Miss Walters. Yna L Rees a ganodd. Hefyd Miss Lilly Davies, Cendle. Yna John Price, canwr penigamp ywef. Yna Miss Smith, Yma y mae y cerddor enwog, Mr T Davies, A.C., y mae parch mawr i Mr Davies am weithio mor galed gyda'r achos hwn, bob amser y bydd cwrdd yma y mae llon'd y lie. Wedi talu diolchgarwch i'r cadeirydd a'r boneddigesau a phawb, canodd y cor "The Sailor's Chorus." Cymdeithranwr, Mr A G Jones, a gwnaeth ei waith yn gymeradwy. Aeth pawb adref wedi eu boddloni, a bydd elw da tuag at y drysorfa.Clywais fod Ysgol y Merched Ponty- gof yn parotoi gogyfer a chael cyngherdd yn y dy- fodol, ac y mae disgwyl mawr am dano, dyna lie y gwelir llu o rieni yn dyfod i gyngherdd, ni welir hwy byth ond yn clywed y plant. Y mae clod dauddyblyg i'r brif athrawes, Miss Duggan. Y mae hi yn dalentog gyda y plant, ac y mae pawb yn cydnabod hyny. Clywais fod teyrnged o barch i gael ei ddangos i foneddwr parchus yr wythnos nesaf. Os y byddaf byw, af yno, achawch glywed pwy yw, a beth fydd y wobr. Clywais fod holl weithwyr y Graig Fawr wedi cael eu talu i fyny, ac y mae holl o'r gwaith yn sefyll, rhyw anghyd- fod rhwng meistr a gwas sydd yna, ond da fydd clywed fod yr oil wedi ei wneud i fyny yn hedd- ychol, oblegid y mae yn golled i'r naill fel y Ilall, fwy felly i'r gweithiwr, am mai ef yw y gwanaf. Y pyllau yma yw dyfodol fywyd y dref hon. Nid oes le i adeiladu tai yn y Graig Fawr, felly y maent yn adeiladu yn Glyn Ebbw, megis Heol Prydferth, Eureka Place, Ida Place, ac amryw o fanleoeddereill. Gau hyny, at y Pyllau yma y byddwn yn y dyfodol, a buan y delo yr amryfusedd hwn i ben. Hynyna heddyw.-Ekedydd Wyn. LLANDUDOCH. — Cynhaliwyd ewrdd undeb yr ysgolion rhan uchaf sir Benfro, yn y lie uohod Tachwedd 4ydd, Mr Davies, Tyrbos, yn llywyddu. cwrdd y bore, 10-30. Mater "dyledswydd athraw- on yr Ysgol Sul at blant yr eglwys," pryd y siarad- wyd yn effeithiol arno gan y cynrychiolwyr canlynol: Mri. John James, Llandudoch; John Williams, Tyrhos William Lewis, Cippin James Selby, Trewyddel; Thomas Davies, Antioch, a John Nicholas, Trefdraeth. Hefyd cafwyd ychydig eiriau gan y brodyr canlynol: Mri James Thomas, Trefdraeth; Cadben Davies, Trewyddel; George B. Phillips, Cippin; David Thomas, Tyrbos, a D. S. Lewis, Llandudoch, a Lewis Davies, o'r un lle. Cafwyd hefyd ychydig eiriau gan y Parchn. Morris, Capel Mair, Aberteifi, a Phillips, Bryn- berian, a gweddiwyd gan Jones, Trewyddel. Cwrdd rhagorol iawn. Am 2 p.m., dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Mr Morris, Capel Mair, a phregethodd Mri Evans Hope (Seisneg), Aber- teifi, a Phillips, Brynberian, dau frawd ieuano gobeithiol wedi dod i'r gymydogaeth ydyw yr uchod. Duw yn rhwydd iddynt i wneud gwaith mawr. Yn yr hwyr, am 6-30, dechreuwyd gan Mr. Evans, Peaygroes, a phregethodd Mri Stephens, Llwynyrhwrdd, a Jones, Trewyddel.-W. J., ysg. pro. tem. NEW TREDEGAR,—Workman's Hall. Cafwyd cyngherdd mawreddog yn y lie uchod, nos Iau 30ain, er cynorthwyo yr aiChos Anibynol Seisnig, yn y lie, yr hwn sydd wedi ei ddechreu er ys yn agos flwyddyn yn ol. Datganwyd yn y eyngherdd gan rai, o brif ddatganwyr y Deheudir, sef, Madame Nellie Rees(Llinos Rhondda), Miss Jessie Collins, Mountain Ash, Mr D. Howells (Gwyn Alaw), Fern- dale, a Mr John Broad, Treorci, ynghyd ac amryw eraiil. Ni raid i'r ddau ddiweldaf wrth ganmol- iaeth, oblegid mae ei llwyddiant yn ddiweddar yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn profi yn uobel, trwy enill am yr unawd Tenor, a Bass, ei bod yn rhai o brif ddatganwyr Cymru. Llywddwyd yn ystod y eyngherdd, gan Mr Phillips. Cafwyd canu rhagorol, y lie yn orlawn o bobl.—Ap Tomos. I

GWIN Y CYMUNDEB.