Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CYMREIGIAETE.

Y PEIRIANT BARDDOL.

ETHOLIAD CYNGOR TREFOL .BANGOR.

ANGLADD MRS BOOTH.

News
Cite
Share

ddiangol, serch iddynt gael eu taflu gan y tonau yn ol a blaen cyn galla cyrhaedd tir Ffrainc. Bwriadant hwylio am America ar y 24ain i gario allan eu cenhadaeth. Paratoa y Gwyddelod i roi croesaw brwdfrydig iddynt yn New York, a diau i Balfour roi hwb effeithiol i'r gasgl. GLADSTONE A'I. WYNEB AE Y GOGLEDD. Teithiau hynod yn banes teithiau gwleid- yddol yw teithiau Gladstone i ac yn Midloth- ian. Enillwyd brwydrau pwysig mewn gwahanol leoedd ar ol y teithiau hyny. Bwriada wynebu ar Midlothian eto y dyddiau hyn, a gwrendy'r holl wlad ar sain ei udgorn. Bydd Ysgotland yn gwrando beth a ddy wed am Ymreolaeth i Sandy, a bydd y Gwyddelod yn clustfeinio am ei farn yn nghylch Tipperary, a bydd Cymru yn effro i glywed beth fydd ganddo i'w ddyweud ar Ddadgysylltiad a Dad- waddoliad yr Eglwys yn Ngbymru. AEEITHIWE DIOFAL. Dyna yw Mr John Morley yn ol araeth Mr Balfour yn Newcastle. Ie diofal! Neu a'i ddodi fel y dywedodd Mr Balfour ef an un- scrupulous orator. Pan aiff athronydd i alw athronydd arall yn enwau celyd fel hyn, teimlem yn barod i ddiolch am dipyn o synwyr cyffredm, ac i weddio ar i synwyr cyffredin dd'od yn dipyn mwy cyffredin. Ie, athronydd yn ddiofal! Ond i brofi mor ofalus yw Mr Morley gyda ffeithiau, edrycnwch. ar ei ad- roddiad o helynt yrheddgeidwaid yn Tipperary. Mor ofalus ydyw fel y mae yn mynu gwahan- iaethu peth oddiwrth adroddiad yr aelodau Gwyddelig oedd yn bresenol. O. ran hyny, diofal yw pawb ond yTories. Rhai gwych ydynt hwy am ofalu; ie am ofalu am No. 1.