Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CYMREIGIAETE.

News
Cite
Share

CYMREIGIAETE. GAN Y PEIFATHRAW M. J). JONES. Bu y Uywodraeth Seisonaeg yn y cyn- amserau yn egniol iawn,i ddifodi y Gymraeg, iaith ag sydd yn anwyl iawn i bob gwirGym- ro. Pasiwyd cyfreithiau ynfyd o greulon yn erbyn arfer ein hiaith"o gwbl, a gosodwyd ein cenedl hyd heddyw dan anfanteision mawrion heb ddysgu ac arfer yr iaith Seis- onaeg. Hen gynllun treisiol goresgynwyr yw hwn, yr hwn y mae Rwssia yn ei gario allan yn Mholand yn ein dyddiau ni, a. dyma oedd cynllun y Rhufeiniaid gynt gyda'r cenhedloedd a oresgynent. Llwyddasant i ddarostwng Celtiaid y Cyfandir, y rhai a. oresgynwyd wedi hyny yn rhwyddach gan lwythau Teutonaidd o Ffrancod ac Ellmyn. Mae goresgyn cenedl yn lladd ei hunan- hyder, a thrwy eu gwneud yn llwfrynaidd yn eu paratoi i fod yn ysglyfaeth i ailym. osodwr. Y Teutoniaid, y rhai na allodd y | Rhufeiniaid eu llwyr oresgyn, yw prif genhedloedd Ewrop yn y dyddiau hyn, ac y mae eu trais wedi gwneud gwehilion o'r cenhedloedd Celtaidd, ond fel y mae add- ysg a Christionogaeth yn eu codi i sefyll dros eu hiawnderau. Y mae hanes yn eg- lur brofi mai cael ei darostwng y mae pob cenedl wrth gael ei goresgyn, ac aflwydd o'r fath fwyaf yw cymeryd trefniadau gwlad oddiar ei phobl. Maepeudefigion Lloegr wedi soddi'r werin yuo i ddygn dlodi a gwaseidd-dra llegaeh, drwy eu hatal i gael rhan briodol yn y llywodraeth, ond nid yd- ynt yn goresgyn eu hiaith, yr hon a ddef- nyddir yn iaith masnach, cyfraith, a Henor- iaith, yr hyn sydd yn rhoddi mantais fawr i Seisoa ar bob cenedl wahanol. Bu'r Normaniaid yn eu rbod yn defnyddio'r Ffrancaeg yn iaith y llys, ac yn trin y Seison fel y maent hwy yn gwneud a'r Cymry, a phobloedd goresgynedig eraill, a dyddiau tywyll i ryddid, crefydd, a llenor- iaeth Seisnig oedd y rhai hyny.. Yr unig ffordd i ddwyn Seison i gydnabod. melldith anaele goresgyniaid fyddai i lFfrancocl, Ellmyn Rwssiaid, neu Americiaid oresgyn Lloegr, a buan y clywem am yr ergyd dinystriol a roddid i ryddid, gwareiddiad, a Iledaeniad y grefydd Gristionogol, ond haerir fod eu goresgyniad hwy o bob cenedl yn fanteisiol yn mhob gwlad i addysg, moes, a duwioldeb y rhai a orchfygir a'u cleddyf! Mae'n analluadwy i Seison dd,fodiy Gymraeg, heb i Gymry eu hunain gymeryd eu eamarwain gan eu goresgynwyr, ac o'u gwirfodd roddi i fyny eu hiaith. Mae e yr un mor anymarferol difodi iaith cenedl, a'u rhwystro i feddwl mewn dull neillduol, ond, gellir eii gosod mewn anfantais. Mae dos- parth o bobl yn ein plith yn parhaus bregethu fod eisieu achosion Seisnig yn Nghymru, am fod y cenllif Seisnig yn rhuthro ar draws ein gwlad, a bod eisieu i Ymneillduwyr ymbarotoi ar gyfer y diluw hwn, Cenllif o gread Die Shon Dafyddion ydyw, ac nid oes eisieu ond anog pobl ein gwlad i fod yn ffyddlon i'w hiaith, a bydd y dylif a'i beryglon wedi treio yn llwyr. Mae gweinidogion efengyl wedi bod yn gymaint •o apostolion Die Shon Dafyddiaeth uchel- ffroen a neb. Daw rhyw golier bach o Forganwg, ryw gono bach o was fferm o Sir Gaerfyrddin r neu gryddyn o Sir Aberteifi yn fyfyriwr i Goleg Aberhonddu, a dysg ym- wisgo'n foneddigaidd, a throi ei ffon & gylch ei ben, a'i fenyg duon am ei ddwylaw. Ar ol gorphen ei amser yn y Coleg, dichon y eaiff alwad mswn rhyw eglwys, a phrioda wraig, ac alltudia iaith ei wlad oddiar yr aelwyd. Cwyd ei blant i fyny yn anwybod. us o Gymraeg os medr, neu yn medru ond rhyw Gymraeg clapiog, gan ystyried hyny yn foneddigeiddrwydd! Myn ddosparth Seisnig yn yr Ysgol Sabbathol, a'i wraig ef fydd yr athrawes. Amlheir y dosparthau Seisnig, a bydd merched y diaconiaid mwyaf boneddigaidd yn athrawesau, a siaradant y Saesonaeg a'u gilydd yn barhaol, gan ranu y gynulleidfa yn bobl foneddigaidd (sef y Die Shon Dafyddiaid) a'r dosparth isel, sef y bobl a lynant wrth eu biaith. Haerir mai dyma'r ffordd i Ymneillduwyr wrthweithio Eglwys Loegr yn effeithiol, pan mewn gwirionedd mai dyma'r ysprydiaeth sydd yn rhoddi bywyd yn EgIwysLoegr y dyddiau hyn, a'i boll amcan yw gwrthweithio gwerin- iaeth a chydwastadrwydd Beiblaidd, a chadw'r mawr yn fawr, a'r bach yn fach. Gwaeddir yn mhen amser fod y bobl ieuaine yn myned yn Seison, a bod rhaid cael un gwasanaeth Seisnig, ac ni orphwysir hyd nes cael yr holl addoliad yu y Seisonaeg, ac alltudir y Gymraeg yn hollol o'r ty cwrdd, er mawr anfantais yr hen bobl fyddant wedi talu am godi'r addoldy. Mae degau o'r gweinidogion coreneidiol yma wedi myned o'r diwedd yn offeiriaid yn yr Eglwys Wladol, a rhai ereill wedi aroe ag sydd mor amddifad o naws Cristnogaeth ostyngedig ag esgyrn sychion Eseciel gynt, ond yn or- lawn o bob bonedd bach yn rhedeg dros yr ymylon, "Heb roddi eich bryd ar uchel bethau, ond bod yn gydostyngedig a'r rhai iselradd," meddai'r Apostol, ond rhoddweh eich bryd ar uchel bethau, a pheidiweh a bod yn gydostyngedig a'r rhai iselradd yw nod bywyd y rhai hyn. Os ar y tir yma yr eir i gydredeg ag Eglwys Loegr, nid oes un gobaith i YmneiUduaeta ei threchu. Ar dir mawredd bydol y mae'r offeiriad yn hirgoes, ac nid oes wiw i bregethwr byrgoes geisio ei basio. Mae'r offeiriad heglog yn braslamu ar ddolydd hyfryd ysweiniaid a phendefigion, ac heb som am grefydd, mewn mawredd daearol, y mae esgob botymog ar weir- gloddiau gwastad y Llywodraeth yn sicr o basio i rywle rhyw bwtyn o bregethwr Die Shon Dafyddol, gyda phais am bob coes, yn ceisio hobelu hyd diroedd geirwon y werint gan nad pa mor Seisnig ei yspryd. Mae'r holl brophwydo sydd wedi-bod gyda'r Trefn- yddion am y diluw Seisnig, a pharotoi arch y capel Seisonaeg ar ei gyfer wedi aeddfedu lluaws o'u pobl ieuainc i fyned i'r Eglwys Wladol, ac y mae'r Anibynwyr Die Shon Dafyddol, gyda'u. capeli Seisnig wedi anion canoedd yno, yr un fath ag y mae Puseyaid defodol yr eglwys wedi troi miloedd o es- gobyddion i ymaelodi yn Eglwys Rhufain. (Jymraeg sydd wedi gwneud Cymru yr hyn yw, ac edrycher ar Sir Faesyfed, a gwelir beth a wna Seisonaeg o'n hanwyl wlad, ae y mae Brycheiniog yn ymdrechu gwneud ei hun yn bagan Clawdd Offa fel Maesyfed, a • "Seisony Merth," sef pobl Siroedd Gaer- lIeon, Amwythig, a Henffordd, y rhai nad ydynt ond Cymry wedi myned drwy'r ffatri Seisonaeg, a'u Paganeiddio, a'u dysgu i yfed cwrw, ac afalwy (cider) a pheidio addoli un Duw ond eu boliau.

Y PEIRIANT BARDDOL.

ETHOLIAD CYNGOR TREFOL .BANGOR.

ANGLADD MRS BOOTH.