Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

HYN A'R LLALL O'R DE.

News
Cite
Share

HYN A'R LLALL O'R DE. [GAN AP Y FRENI FACH.] Y funyd olaf fe'm rhwystrwyd i ysgrifenu yr wythnos ddiweddaf. Bwriadwn wneuthur -nodiad ar gyfarfodydd Undeb Seisnig y Bedyddwyr a gynbaliwyd yn Nghaerdydd. Daethai y cyfarfodydd hyn yr wytbnos ddi- lynol i Undeb Seisnig yr Anibynwyr yn Abertawy. Rhoddodd Caerdydd dderbyniad llawn mor groesawus i'r Bedyddwyr ag a roddodd Abertawy i'r Anibynwyr. Cafwyd oyfres ragorol o gyfarfodydd, a diau iddynt adael ar eu hoi ddylanwad mawr. :II: :II: Cafwyd yr wythnos ddiweddaf engraifft o a,nffyddlondeb y gweithwyr i'w gilydd, sef yn etholiad Bwrdd Ysgol Ystradfodwg. Yr -oedd yno ugain ymgeisydd am dair sedd ar ddeg. Tri o'r rhai hyn yn unig oeddent ymgeiswyr llafurol, ond gadawyd y tri allan yn yr oerni! Ymgeisydd llafurol oedd yr unigun o'r hen aelodau a gollodd y dydd. Soniai y glowyr lawer am iawnderau y gweithwyr mewn ymddiddan cyffredin a chyfarfodydd cyboeddus, ond, pan ddaw dydd y prawf profir yn rhy ami mai gwag yw eu siarad. Gweithia canoedd o lowyr ddydd a nos dros swyddog y gwaith sydd a chanddo bob mantais i gael buddugoliaeth tra y troant eu cefnau ar eu cydweithwyr a lafuriant yn galed i ymladd eu brwydrau o • dan gymaint o anfantais. Gwir fod y scriw yn cael ei defnyddio. Oni wna y gweith- iwr bob peth i gefnogi y swyddogion ni &yr pa awr neu funyd y daw adeg y dial. Dad paham na saif y gweithwyr fel un gwr yn erbyn y fath drais? Ac o orfodir hwynt i wasgar pamphledaa ac ymweled a thai, paham na ddefnyddiant y tugel i fynu cyn- lychiolwyr nniongyrchol o'u buddianau eu •hunain ? Daw swm mawr o'r arian i gynal yr ysgolion yn Nghymoedd y Rhondda o 'logellau y gweithwyr, ac oni ddylenthwy gael ychydig gynrychiolwyr o'u plith eu hunain ary bwrdd. Mewn gair, dywedant yn ami y dylent, ond mewn gweithred pro- •fant yn rhy glir nad oes fawr dyfnder ar- gyhoeddiad y tu cefn i'w geiriau. „ :II: Ymddengys ilr etholwyr fod yn ffyddlor. -ach yn yr ymgyrch yma i'r swyddog nag i -enwad. Nid yw hyn mor syn mor bell ag y mae a fyno ag Anibynwyr. Enwad nid yw ,,ddim gydahwy. Pan wna yr enwadau ereill yr oil a allant i ddychwelydeu hymgeiswyr, -erys yr Anibynwyr yn berffaith ddifraw. Ond yn yr etholiad yma ni wnaeth hyd yn nod y Method! stiaid fawr o wrhydri. Dau ymgeisydd oedd ganddynt, ac y mae un o'r rhai hyny allan, a hwnw yn ddyn a wnai aelod rhagorol, sef yr Henadur John Jones- Griffiths—hen ysgolfeistr yn byw ar ei arian. Rbyw un Anibynwr a ddychwelwyd, tra y gallai yr Anibynwyr yn rhwydd ddy- chwelyd pedwar Nid wyf yn credu yn fawr yn yr ysbryd cul enwadol a ffyna mewn rhai cylchoedd, ond nis gallaf weled paham y rhaid i'r Anibynwyr fod yn fwy anffyddlon i'w henwad na'r un blaid arall. Yr unig un o'r rhyw, deg a safai am sedd a gafodd yr uchel anrhydedd o fod yn isaf ar lechres y 7 golledigion. Nos Sadwrn diweddaf y bu Mr David Ran del, A.S. yn rhoddi cyfrif o'i oruchwyl- iaeth i ddosran Pontardulais o'i etholaeth. Gydag ef yr oedd Mr James Rowlands, A.S., dros Ddwyrain Finsbury. Cafwyd cyfarfod -tra brwdfrydig. Yn ngwyneb ymgais America, drwy ei deddf i lyffeitheirio y fas. I nach a'r wlad hon mewn tin-plate, anogai Mr Randell weithwvr alean fod yn ffyddlon i'w gwlad ac aros yn y Dywysogaeth ar waethaf pob ymdrech a wnaethai yr Ameri- canwyr yn fuan i'w tynu drosodd i'w cy- northwyo hwy. Yr oedd llawer o'r gweith- wyr y gwneithid yeais hwn atynt, yn bre- senol, a derbyniasant ef gvda banllef a brwdf rydedd. :II: Tra yn Pontardulais, nis gallaf lai na chyfeirio at y gyfrol fechan sydd newydd ei chyhoeddi yn y lie hwn, sef byr gofianty diweddar Barch Penry Evans gau Watcyn Wyn, yn nghyd a dwy farwnad i'r un gwrthrych, gan Onllwyn a Penar. Darllen. ais y gyfrol fechan drwyddi rhwng dwy oedfa ddoe, a gorchwyl pleserus iawn oedd gwneyd, Math o elfeniad ar nodweddion y gwrthrych, yn fwy na hanes manwl o ddigwyddiadau ei fywyd yw y cofiant hwn. Ac nid yn ami y gwelais neb yn dal y glor. ian yn fwy digryn. Dywed Watcyn y gwir am Penry, m@r bell ag y gallaf fi farnu, heb ddyweyd gair yn ormod na sill yn rhy fach, Rhagorol. Priodol iawn y dywed mai darllenwr bychan oedd ei arwr. Clywais ef darllenwr byehan oedd ei arwr. Clywais ef fwy nag nnwaitb yn ymffrostio na ddarllenai ond esboniad Matthew Henry. Y marw- nadau a ddarllenant fel chwedl, ohd nid oes dim yn eu rhwymo hwy i fod bob amser mor fanwl gywir a'r cofianydd. :II: Yn nghyfarfod cynrychiolwyr y mwnwyr n y a gynhaliwyd yn Aberdar dydd Sadwrn diweddaf, pleidleisiwjd yn unfrydol yn erbyn Gwyl wythnosol. Cynrychiolid 54,191 yn y cyfarfod, ac yr oeddynt oil wedi eu hawdurdodi i bleidleisio fel y gwnaethant.

CYFARFOD CHWARTEROL MON.

Family Notices

[No title]