Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
GANWYD. HOWELLR.-Medi 27, priod Mr Roger Howells, Llangatwg, ar ferch. PARRT.—Hydref y 6ed, priod Mr David Parry, Carlyle-road, Lozells, Birmingham, ar fab. PRIODWYD. HUGHES—THOMAS -Medi 30, yn nghapel Groes- wen, gan y Parch. C. T. Thomas, y gweinidog, y Parch. David Hughes, Llangatwg, a Miss Elizabeth Anne Thomas, Llythvrdy, Nantgarw, JoNES—DA VIES.—Medi 20fed, yn nghapel Seion, Llanrwst, gan y Parchn. W. Roberts, Llanrwst, a J. Rhydwen Parry, Bethania, Festiniog, Mr W. D. Jones, Bryn Egryn, Blaenau Festiniog, a Miss Margaret Davies, merch hynaf Mr Elias Da vies, Penbryn, Llangernyw. BU FARW. PAEET.—Medi 26ain, yn 81 mlwydd ced, Mr William Parry, Tretwr, ger Crughywel.
Advertising
Advertising
Cite
Share
ARWYDD!ON! PRESENOLDEB Y DROPSY Yn y Cyfansoddiad ydyw y rhai canlynol w Diffyg Dwfr, Grafel juChwydd yn y Traedy Cliniau, Ymysgaroedd, &c.; Gwynt a Llawtider yn y Bol, Poen yn y cefn a'r Arenau, Curiad y Galon, Cramp a Chwsg y Cluniau, Asthma neu Ddiffyg Anadl, Teimlacl o StifEdra yn y Corff, &c. 'Iii Y rhai ydynt yn brawf sicr obresenoldeb. y DROPSY yn y cyfansoddiad, ac y mae yn bwysig peidio esgeuluso defnyddio Meddyg- iniaeth ar ol teimlo un o'r nodau uchod. Trwy anwybodaeth a diffyg gofal goddefir- i'r clefyd marwol hwn i sefydlu egwreiddio, yn y cyfansoddiad cyn sicrhau y Feddygip- aeth Briodol, ac felly terfyna yn angeuoi i filoedd yn lfynyddol. YR UNIG PEDDYGINIAETH .SICR A YOGEL2 YW f>4 CQ rA V CZJ s ft o u n w Ph Q r 1 Y mae GWYR, GWRAGEDD, a PHLANT yn mhob gwlad wedi derbyn budd anhraeth- adwy o'u defyddio. W RHYBUDD Jggi Er mwyn sicrhau pawb rhag twyll, gofale cael y Trade Mark (sef llun Diamond) a'r geiriau DROPSY PILLS" oddifewn ar bob blwch, a'r enw JACOB HUGHES ar Stamp y Llywodraeth. Heb hyn twyll ydyw. Ar werth trwy yr holl deyrnas am Is lie, 2s 9c, a 4s 9c trwy y Post, Is 3c, 2s 11c, a 4s 90- oddiwrth y Perchenog— JACOB HUGHES, D.S., A.Ph.Sv Manufacturing Chemist, PENARTH, CARDIFF. GORUCHWYLIWR YN AMERICA— Mr. R. D. WILLIAMS, Chemist, &c., Plymouth, Pa., Gan yr hwn y gellir cael hefyd GomEpla BALM a HUGHES'S DROPSY PILLS.
NEWYDDION CYMREIG.
News
Cite
Share
0 na byddai'n Baf o hyd," John Thomas, Rhym- ni; With pious hearts, Tom Jones; y pedwar- awd, Sleep gentle Lady," D Bowen a'i gyfeillion, Brynmawr; Y Farewell's, gan Tom Price, J Lewis, A.C., Tredegar; a D Richards, Blainau; deuawd, "The Marttial Spirit" (Blodwen), D Davies a Tom Jones. Y prif ddarn, Gwalia Wen" (Jenkins), dau gor ddaeth i'r adwy, sef cor Nebo, arweinydd J James, a chor Dan Thomas, ae yr oedd digon o wahaniaeth cydrhwng y ddau, a obafodd cor Dan ganmoliaeth tra rhagorol gan y beirniaid. Yr oedd y darlleniad yn gywir, y cyd- bwysiad yn-rba-gorol; mewn gwirionedd yr oedd yn werth dyfod i'r eisteddfod pe bai ond,clywed y cor hwn, a chafodd y wobr. Pe bai Dan Thomas ond cael chwareu teg, deuai yn un o'r arweinydd- ion goreu y sir—mae ei ddullwedd mor aruchel. Hefyd am Polly Davies, dywedodd Tom Price am y ferch hon, ei bod yn feddianol ar lais ardderchog, a thrueni na chawsai hon addysg, deuai yn un o'r cantoresau goreu ein gwlad. Trueni na fyddai modd gofalu am ral hI hon.Y maeyn ofidus genyf i mi adael allan enwau y personau canlynol, nid oedd unrbyw feddwlannheilwng wrth wneyd hyny:-Stall yr Hen Lancyddion, Mr Thomas; Manager Seed Store, Miss Bethel, D B Miles. Os y daw eto rhyw wall, cyfeiriaf ato eto.- Dydd Sul diweddaf oedd yr olaf i'r Parch Thomas, Tabernacl. Pregethodd ei bregeth ffarwel nos Sul. Bydd cwrdd ymadawol nos Lun nesaf. Oewch glywed y manylion eto -;EhedyddWyn. GOWBBTON. — CynhaHodd eglwys y TahernacI (gweinidog, 5 Parch W Gibbon), yn y lie uchod ei chyfarfod blynyddol nos Sadwrn a Sul, Medi 27ain a'r 28ain. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gany Parchedigion D E Williams, Henllan: H Evans, a J T Evans, Brynmawr. Cafwyd cyfarfodydd ar- aderchog yn mhob ystyr, cynuileidfaoedd lluopog, casgliadau da, a'r brodyr parchus yn traddodi y genadwri am y groes gydanerth a dylanwad mawr. HIRWAEN A BERDARE .—Cyfarfodydd Gweddi.- Dydd Sul, Medi 28ain, cynaliodd eglwys Nebo a Tabernacl. gyfarfodydd gweddi er deisyf am dywalltud helaeth o'r Ysbryd Glan ya ystod cyfarfodydd yr Undeb yr wythnos hon. Ac yn enwedig ar yr Eglwysi yn gyffredinol. Gwnaed hyn ar gais PwyHgor yr Undeb. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol o'r dechreu i'r diwedd. Bendith a'u dilyno. — W. S. LLAN GELER.—Llawenydd priodasol.—Dydd lau, Hydref yr 2il, yn swyddfa Oastellnewydd Emlyn, unwyd mewn glan briodas Mr Thomas Jones, butter merchant, Penpwll, a Miss Hannah Jones, Parkswadog, y ddau o'r plwyf hwn. Yr oedd amryw fwau wedi cael eu codi, reis ac esgidiau yn cael eu taflu, ac ergydion yn cael eu gollwng, a bloeddiadau llongyfarchiadol i'w clywed yn mhob eyfeiriad, nes yr oedd y cymoedd yn diaspedain 0 gwr i gwr, ond i ragori ar yr oil cawsant haul ar y fodrwy. Lwc dda i'r par" ieuane.Brynsaron.- Cynhaliwydcyfarfod cystadleuol ac adroddiadol yn y capel uchod nos Wener, Hydref 3ydd. Cadeirydd, Dr. Edwards, Conwyl; beirniad y gerddoriaeth, Mr Ben Davies, Pentrecagal; yr adroddiadau, &c., Mri. Geler Jones, a Sulgwyn Davies, myfyrwyr. Yr oedd y rhaglen yn faith a dvddorol. Cynygiwyd y diolchiadau arferol gan y Parch. W. E. Jeffreys, ac eiliwyd gan Mr Evans, Ty'rga,er, ac yna ymwahan- wyd wedi cael tair awr hynod ddifyr ac adeiladol. Bwriedir cael cyfarfod cyffelyb yn fuan yn baron eto.Manion.-Mr D. Geler Jones oedd yn llanw pwlpudau Saron a Bryn y Sul, Hydref 5ed. ■ Bwriedir cael Wallis Puw i roddi pregetb yn nghyfarfod diolchgarwch Saron eleni. —— Holi sydd ble'r oedd cerddorion Saron ar nos cwrdd y Bryn? Cofiwch, boys, rhaid rhoddi help cyn cael help,Dywedir nad oedd holl gerddorion y Bryn hefyd ar y maes ar nos y cwrdd. Gofynir gan lawer Ibeth sydd wedi dod o'r clustfeiniwr hwnw a/i glywedion y dyddiau hyn ? At dy waith frawd, y mae llawer o bethau i'w clywed ymaac acw y byddai ynllesol iawn eu cael ar ddu a gwyn. -Ap Llawddog. PoNXEY.—Y mae y tymor wedi dod pan yr ydym wedi dechreu ar ein cyfarfodydd arferol yn yr eglwys Anibynol y He uchod. Y mae y Band of Hope wedi dechreu yn well yr olwg nac erioed, yr oedd y cyfarfod cyntaf yn rhifo 102, y mae ein gobaith o'r dyfcdol yn dda. Y swyddogion a ddewiswyd am y tymor ydynt y rhai a ganlyn; Llywydd, 0. J. Owens; ysgrifenydd, Walter Wil- liams trysorydd, C. Morgan. Y mae cyfarfodydd y gwyr ieuainc wedi dechreu o dan lywyddiaeth y Parch. O. J. Owens, y gweinidog; is-lywyddion, David Griffiths a John Thomas; ysgrifenydd, C. Morgan; trysorydd. Thomas Mathews. Y mae ein rhagolygon am gyfarfodydd llwyddianus. Y mas ein capel yn ddiddyled, ac nid oes yr un capel yn y Ehos na'r Ponkey yn ddiddyled ond efe. Ond nis gallwn orfoleddu yn hir am y byddwn yn helaethu ein capel yn fuan. Dydd LInn, Medi 29ain, oedd ein gwyl de, ac fe ddaeth gydag arddeliad, fe ddaeth tyrfa fawr o blant a rhai mewn oed, dros 300, yr oedd gofal y te ar Mr David Griffiths. Gwnaeth y boneddigesau eu gwaith yn rhagorol. Am chwech yn yr hwyr caed cyngerdd o dan lywyddiaeth y Parch. O. J. Owens. Caed cyfarfod rhagorol mewn anerchiadau, cauu, adroddiadau a dadleuon. Gwnaeth y plant eu rhan yn rhagorol 0 dan ar- weiniad Joaathan Griffiths. Yr oedd y capel wedi ei orlanw.-Golt.. SOAR, CASTELLNEDD. — Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol yn yr eglwys uchod ar yr 28ain a'r 29ain o Fedi. Y pregethwyr fu yma yn gweinyddu oeddynt R. S. Williams, Dowlais, a D. S. Jones, Porth. Am nas gallai Mr Williams aros y noson olaf, cafwyd gan Mr Jones (B.) o'r dref i lanw ei le. Cafwyd eyfarfod rhagorol drwlddo.-Goh. YSTALYFERA..—Dydd Sul, Medi 21, bu y Parch D S Davies Caerfyrddin, yn Pantteg a nos Lun yn yr un He y bu yn areithio ar Ddirwest neu lwyr- ymwrthodiad, a phrofodd i ni yn ddigon eglur ar ddechreu ei araeth fod natur yn rheidiol i ddirwest, ac yn siarad yn ddigon croew, dwr, a dim ond dwr i mi, a hyny oddiar yr amser y dechreuodd Adda fyw yn yr ardd canys yr afonydd oedd yn rhedeg trwyddi oedd yn disychedu ei phreswylwyr a holl anifeiliaid y maes. Yn nesaf aeth i mewn i'r hen gyfrol sanctaidd er cael prawf mwy eglur, sef Duw yn llefaru yn ei Air a'r penau oeddent, y lythyren dywyll a'r lythyren oleu o'r Beibl, a daliodd y rhai hyn ar, gyfer eu gilydd, nes yr oedd y bobl yn gweled trwy y rhai tywyll yn ngoleu y rhai eglur, nes gofru i rai ymadael a Westend meddwdod ad'od i ryddid gogoneddus llwyrymwrthodiad. Darlith yn Uawn o addysgiadau a chynghorion i'r bobl ieuainc. Cymerwyd y gaadair gan y Parch J Davies, Wern, yr hwn sydd ddirwestwr o'i febyd Yr oedd y cynulliad yn dda, a'r darlithiwr yn ei hwyliau goreu. Siaradodd am ddwy awr, a chaf- odd wrandawiad astud. Wern. -Dydd Iau, Medi 25ain y cynhaliodd y capel uchod ei gwyl de, er ysgafnhau ychydig ar y ddyled sydd yn aros arnynt, pryd y daeth pobl lawer i fwynhau eu hpnain o'r danteithion oedd wedi eu darparu ar eu cyfer, ac hefyd i fwynhau yr olygfa hardd oedd wedi ei wneud ar y capel; ac yn yr hwyr yr oedd cyngherdd ardderchog i fod. Ond erbyn amser dechreu yr oedd y bobl wedi mwy na llanw y capel fel y gorfu atai ar haner y programme gan fod yr hin,mor boeth a'r cynulliad mor fawr. Carwn awgrymu yn y fan hyn wth basio, Beth am y bobl hyny oedd ar fedr cymeryd mewn Haw mater yr hall? A ydyw Ystalyfera yn ol i lefydd eraill yn ei moesau a'i chwaeth? Neu paham y mae yn ol mewn pethau fel hyn ? Lle sydd mor lluosog ei thrigolion heb yr un hall na darllenfa. A ydyw yn anmhosibl ei gael yma y mae yn dda genym 'feddwl fod yma ddarllenfa ar waith gan Mr E Rees, argraffydd. Llwyddiant iddo yn ei ymdrech i wneud daioni lawer yn yr ardal. Nidoesyrun lie yn galw am ddarllenfa yn fwy na Ystalyfera, am nad oes yma yr un man i bobl ieuainc fyned i fwynhau eu hunain ond y dafarn, a dyma feallai sydd i gyfrif am fod yma gymaint o yfed y ddiod feddwol, yr hwn arferiad sydd ar ei gynydd yn yr ardal hon, ac yn ddifrifol ar y Sabboth, a hyny yn eofn a digywilydd. Paham na fyddai ofn ar y byd i bechu a thori y Sabbathau, a hyny yn yml cy- maint o eglwysi a phobl sydd yn proffesu eu*bod yn gaalynwyr i Fab Duw ? Dyma y paham, am nad ydynt yn ceisio byw y Saim gyntaf a thai Bacchus yn rhy anvyyl ganddynt, sef pechod y llaw ddekeu, eu Benjamin, tor af ymaitha thafl ef oddiwrthyt, fel y del daioni.-G H. T.