Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

GOHEBIAETHAU.

News
Cite
Share

GOHEBIAETHAU. MERCHED A'U GWALLT. MR GOL,-Mae un o dan yrenw D. Ff. D. yn ysgrifenu yn y Celt diweddaf am "Ferched a'u Gwallt." Hawdd yw gweled nad oes ganddo chwioryddnagwraig neu buasai yn gwerth- fawrogi y fraint o fyw—a hyny yn ddistaw-heb son am feiddo trespasu ar eu 'tirhwy. Mae yn son am ferched ya trin eu gwalit fel pe yn unig er, mwyn edmygedd y rhyw arall, ond pe bai yn gwy bold, on d, ychydig oln hanes ni gwyddai nad yw enill edpaygedd y llanciau ond peth ail-radd neu drydedd yn ein golwg, mai prif bwnc y merched yw enyn eiddigedd eu gilydd neu wneud eulhunain i fynu mor ferffaith fel nas gall hyd yn 6d un o honom ein hunain weled gwall ynom. Gallaf ddweyd yn ddibetrus fod genym lawer mwy o ofn barn ein gilydd na'r rhyw arall, oblegid gwyddom fod y lords yn llawer hawddach eu twyllo. MERCH. "PARCH I'R HWN Y MAE PARCH YN DDYLEDUS." MR GOL.Hysbys i Gymru i gyd fod ein gweinidog anwyl a ffyddlon, Dr Pan Jones, wedi llwyddo, trwy ymdrech galed a diflino, i ddileu y ddyled oedd ar yr eglwys hon ac yn ymddangos un adeg yn anileadwy. Prin y mae yn rhaid i ni ddywedyd fod yr amgylchiadau a'n hanalluogodd i dalu am ein haddoldy wedi ei wnend yn anmhosibl i ni roddi i'n gweinidog y gydnabyddiaeth y gall- asai efe ei hawlio ac y buasai yn hyfrydwch genym ninau ei rhoddi; ac nis gwyddom i ba fesur y mae, oherwydd hyny,wedi ymwadu er's llawer o flynyddoedd bellach. Y mae yr eglwys a'r gynulleidfa yn awyddus iawn i gydnabod mewn modd ymarferol eu rhwymedigaeth iddo am ei ymwadiad a'i ym- roddiad mawr a llwyddianus; ac yn wir, pe na buasai yr awydd hon ynom, anhawdd fuasai i ni beidio gwneud hyn, oblegid y mae llawer iawn o bob rhan o'r wlad wedi ysgrifenu atom yn gwasgu arnom i roddi cyfleusdra iddynt hwy ac eraill roddi mynegiad sylweddol i'w hedmygedd o Dr. Pan Jones ac o'r gwaith rhagorol y mae wedi ei wneuthur. Yn ngwyneby cymhellion hyn yr ydym yn fwy calonog yn anfon allan ac yn cyhoeddi y cylchlythyr hwn, fel y gwypo pawb ar y sydd yn ewyllysio cyfranu tuag at dysteb iddo i bwy i anfon eu rboddion. Anfonir llyfrau casglu i bawb a ewyllysio eu cael; derbynir tanysgrifiadau genym ni sydd a'n henwau. isod a chydnabyddir hwy yn y Celt ac yn Tarian y Gweithiwr.—Yr eiddoch yn gywir, THOMAS ELLIS, Trysorydd, JOHN VAUGHAN, Chapel Walks, Mostyn, Ysgrifenydd. Y Cysegr, Mostyn, Gorphenaf 25ain, 1890.

Advertising

CYFARFOD C H W ARTEROL MEIRION.