Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

NODION O FEIBION.

News
Cite
Share

NODION O FEIBION. Gwyr darllenwyr y Celt yn eitbaf da am Ben Tillett—gweitbiwr sydd wedi ymgysegru i wasanaethu gweithwyr, ac un sydd wedi ei ddewis ganddynt i fod yn un o'r harweinwyr yn eu rhyfel yn erbyn trais a gormes meistriaid. Y mae Mr Tillett hefyd yn bregethwr gyda'r Primitive Methodists ac yn y cysylltiad hwnw adroddir y chwedl hon am dano yn y papyrau. Yr oedd Mr Tillett yn anerch tyrfa fawr o weithwyr yn Mharc Victoria, yr oedd llawer o Sosialistiaid yn y dyrfa, a dechreuodd Mr Til- lett ddyweud wrthynt am y Dyn o Nasareth. Adroddodd iddynt raio eiriau yDyn o Nasareth pac ar y ddaear. Dywedodd beth oedd gwaith y Dyn o Nasareth pan yma; dywedodd hefyd beth a gredai ef a ddywedai y Dyn o Nasareth yn awr wrth weithwyr o bob math pe buasai yn byw yn eu mysg. Yr oedd yn myned yn fwy hyawdl ac yn fwy difrif wrth fynegu iddynt am garedigrwydd, am gydymdeimlad. am dynerwch, am hunan-aberth ac am gariad y Dyn o N asareth. O'r diwedd gwaeddodd un o'r Sosialistiaid, Rhoddwn three cheers 1 i'r Dyn o Nasareth, dyna'r dyn gore y clywsom ni erioed son am dano," a chyda hyny yr oedd miloedd o leisiau a dwylaw yn uno yn y cheers i'r Dyn o Nasareth. Cwynir yn ddirfawr y dyddiau hyn fod y dos- barth gweithiol-yn enwedig yn Lloegr-yn hynod o anghrefyddol. Nid wyf yn credu hyny am dauynt. Fel y Ffrancod cyn y chwildroad nid dirmygu crefydd Crist y maent, ond dangos eu hatgasrwydd at y gwawdlun o grefydd Crist a gynygir iddynt yn yr eglwysi. Pe astudient Gristionogaeth fel y dysgir hi gan Grist yn yr Efengylau ni fedrent beidio a gweled ac unwaith mai Iesu o Nasaretb yw eu cymwynaswr penaf, ac mai efe yw eu prif nerth yn eu rhyfel yn erbyn trais. Y mae yr amser wedi myned heibio pan y gall yr eglwysi gael gan y gweith- iwr fod yn foddlon i'w dy afiach, a'i or-lafur, a'i gyflog bach drwy gynyg nefoedd iddo yr ochr draw. Gweithiwr caled oedd Crist, yn dylawd drwy ei oes, "beb le y rhoddai ei ben i lawr," a phan y bu farw nid oedd ganddo ddim i'w adael ar ei ol ond ei ddillad-un yn derbyn publicanod a phechaduriaid, a phuteiniaid, a chanddo air caredig i'w ddyweud wrth bob un o honynt, ac ar ei oreu i'w gwella, ond y mae yr Eglwysi' Gwladol yn Lloegr drwy y canrifoedd wedi bod yn dysgu gweithwyr Lloegr mai gwir gynrychiolwyr saer tlawd Nasareth yn Lloegr yw yr archesgobion a'r esgobion a'r uchelwyr eglwysigyn eu palasau a'u cerbydau; mai yr etholedigion yw y pendefigion sydd bob amser o blaid y gorthrymwr ac yn erbyn y gorthrym- edig. Nid rhyfedd fod gweithwyr Lloegr a llawer o weithwyr Cymru yn cael eu hystyried yn anghrefyddol gan y rhai sydd yn camgymeryd "parch i berson plwy" am wir-grefydd. Pe buasai lesu Grist yn byw yn Nghymru yn ein dyddiau ni buasai yn cymeryd rhan flaenllaw mewn gwieidyddiaeth; buasai yn flaenaf gwr yn dadlu dros fynu y grefydd a sefydlodd yn rhydd o dan iau y Llywodraeth Wladol, buasai yn fwy ymdrechgar na neb i ddistrywio gormes greulon landlordiaeth, buasai a'i holl enaid yn ymdrechu cael addysg dda i gyrhaedd pob plentyn bach tlawd drwy'r wlad, buasai yn ymroddi i gael gwell tai a gwell eyflogau i weithwyr, ac i fa el mwy o gyfiawnder i ferched a gwragedd, uasai ei lais fel udgorn yn condemnio rhyfel a chaethwasiaeth, a buasai ei eiriau yn disgyn fel tan ar y rhai sydd yn ymgyfoethogi trwy drais ac yn cyfranu rhyw ychydig o'u budr elw at achos Duw i ychwanegu at eu pechod drwy geisio twyllo Duw ar ol llethu ei greaduriaid. Pe buasai byw yn ein mysg ni y dyddiau hyn, buasai yr esgobion a holl bendefigion y wlad yn codi cri ei fod yn ddyn peryglus, ac yn ei erlid, buasai y Times, ond odid, a'r holl wasg Eglwysig yn gwneud eu goreu i'w lethu, a phrin y cawsai gyrhaedd deg-ar-hugain oed yn Lloegr heb idd- ynt roddi terfyn ar ei fywyd. Dyger i sylw y gweitbiwr y Crist tyner, addfwyc, pur, a ddy- wed, "Deuweh ataf fi bawb ar y sydd yn flin- derog ac ynllwythog a mi a esmwythaf arnoch," ac md y ffug-Grist sydd bob amser yn ochri'r mawrion ac yn diystyru ac yn treisio y tlawd a'r anghenus,-y ftug-Grist sydd yn rhaid iddi wrth gymorth beiliaid a milwyr i gynal ei eglwys, ac ond gwneud hyn ni raid mwyach edliw ei anebrefyddolder i'r gweithiwr. Y mae arjaf awydd diolch i Arglwydd y Pen- rhyn boo ei anerchiad yn nghyfarfod hen wrag- eddos y Friallen-dyma hyd y gwn i yr unig wasanaeth a wnaeth erioed i ddim byd cenedl- aethol Cymreig. Peth dirmygus yn ei olwg yw yr Eisteddfod, a gobeithio na fydd i neb byth gynal Eisteddfod "Betwixt the wind and his nobility." Mynai hefyd I bobl gredu fod ganddo gryn ddylanwad ar y 1 eulu Brenhinol. Y mae Tywysog Cymru wedi ysgrifenu llythyr i ddy- weud ei fod ef yn credu, fel y dylai un yn dwyn yr enw anrhydeddus o Dvwysog Cymru gredu y dylid noddi a chefnogi hen sefydliad sydd mor lesol ac mor urddasol a'r Esteddfod. Dyna farn Arglwydd y Penrbyn. Tybed na chafodd lon'd ei getyn ? EXOBNUS.

CYFARFOD C H W ARTEROL MEIRION.

CWM RHONDDA A'R DEGWM.