Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
HYN A'R LLALL O'R DE.[,
News
Cite
Share
HYN A'R LLALL O'R DE. [, [GAN AP T FRENI FACH.] Gwnaeth Annibyniaeth arddangosiad rhagorol o'i nerth a'i ieuengrwydd yn Aber- tawe yr wythnos ddiweddaf-eystal ag a ellid ddisgwyl yn gyffredin oddiwrth gyfar- fodydd o'r fath. Yma y cynaliodd Undeb Cynulleidfaol Cymru a Lloegr ei gyfarfod- ydd Hydrefol—y padwerydd tro iddynt eu cynal yn Nghymru. Yr oedd yn eglur i bawb a wyddant rywbeth am gychwyniad yr Undeb yn 1831 y cynydd y mae wedi wneuthur mewn poblogrwydd er yr adeg hono. Ymwelodd ag A berdar yn 1859, ag Abertawe yn 1871, aeâ Chaerdydd yn 1879. Henadur Freeman, Maer Abertawe, yr hwn sydd ei hun yn Annibynwr, a roddodd dder- byniad cyhoeddus, croesawus i aelodau yr Undeb prydnawn dydd Llun. Nos Lun cy- naliwyd cyfarfod dirwestol, a thraddodwyd pregeth yr Undeb gan y Parch C A Berry, Wolverhampton, yr hwn a anfarwolwyd gan y gwahoddiad a gafodd oddiwrth eg- lwys Plymouth, Brooklyn, i ddyfod yn ol- ynydd i Henry Ward Beecher. Nid wyf wrth hyn yn meddwl awgrymu nad yw yn- ddo ei hun yn meddu ar elfenau poblog. rwydd, ond dichon fod yna amryw a fuasant mor enwog ag yntau pe cawsai alwad daer oddiwrth Eglwys Beecher. Traddododd Mr Berry bregeth hyawdl a grymus ar 11 Nerth ysbrydol," gan gymeryd yn destyn Luc xxiv. 48 a 49. Sylwai fod nerth ysbrydol yn tybio rhywbeth beblaw gwybodaeth a chred- iniaeth. Gwyddai yr apostolion yr hanes am Iesu, a chredant ynddo; ond eto nid oeddent gymhwys i fyned allan i bregethu yr efengvl, rhaid oedd iddynt aros yn Jeru- salem hyd oni thywalltid y nerth o'r uchel- der. Cafodd Mr Berry fwy na llon'd capel Walter's Road i'w wrando. Pregethodd y Parch J Guiness Rogers i'r rhai na allent gael lie, yny Capel Coffadwriaethol. :JI: >II: :JI: Y Cadeirydd, y Parck Thomas Green, M.A., a draddododd,anerchiad rhagorol ar bwnc amserol, sef y duedd mewn eglwysi y dyddiau hyn i ymollwng gyda rhediad yr nes at ymarferiadau corphorol a difyrion ysgeifn o wahanol fathau, yr hyn aalwai Mr Green yn Secular element y myn rhai ei gydnabod fel rhan gyfreithlon yn mywyd yr eglwys. Yr oedd anerchiad Mr Green yn wesrthfawr a phwrpasol fel gwrthdystiad clir, yn tarddu oddiar argyhoeddiad dwfn, yn erbyn y gormod llacrwydd a ffyna yn y cyfeiriad yma yn marn ac ymarferiad llawer o grefyddwyr. Ond gyda golwg ar unrhyw chwareuon, nad ydynt ynddy'nt eu hunain, nag o angenrheidrwydd yn eu cysylltladau yn ddrwg i gorff nac yn niweidiol i foes, fy marn i yw nad yw crefyddwyr yn enill dim drwy siarad yn eu herbyn fel y cy'fryw. Ai nid gyda'r graddau, a'r moddau, a'r prydiau y mae dynion ieuainc yn colli. Y dyn ieuanc a ddewisa faes y bel droed o flaen y gyfeill- ach, y mae mewn perygl. Ond pe elywn i ddyn ieuanc crefyddol yn ateb un a'i gwa- hoddai i ymuno a Chlwb o chwareuwyr pel a chricket, gan ddyweyd,, "as trefnweh chwi i gyfarfod ar adegau nad oes genyf fi ymrwymiadau rheolaidd crefyddol, ymunaf a chwibyddai fy syniad i am dano lawer yn uwch nag am un sydd yn rhy ddiegni i gicio pel na darlien Beibl. Y dynion ieuainc a roddant fyny ymarferiadau ysbrydol am ymarferiadau corphorol ydynt yn ddiau mewn perygl. Yn sicr nid i ddim pwrpas chwaith y gwasga Mr Green at galon gwein- idogion y pwysigrwydd o bregethu duwin- yddiaeth y dyddiau hyn; ond yn sicr nid yw traethodau duwinyddol a gyfansoddir megys yn unig er mwyn eu hunain ydyw angen yr oes. Ac eto, nid oes allu yn bod i symud y byd fel athrawiaethau ein erefydd pan ddefnyddir hwynt yn ddeheuig. Symud a gwella y byd yw gwaith y pulpud, ac nid ydys yn -enill dim drwy hollti blew i foddio cywreinrwydd. Ni ddisgynodd oddiar wefusau lesu yr un frawddeg dduwinyddol nad oedd iddi ystyr, gwedd, a gwerth ym-j arferol. Efe yw ein model. Y mae llawer i'w ddywedyd yn fwy nag-a. ddywedodd Mr Green o'r gadair, ond yr oedd ei anerchiad yn gryf, teilwng o'r aehlysur. ac yn haedd- ianol o'r ganmoliaeth uchaf. Ond llanwn i dudalenau y Celt, pe awn yn mlaen fel yma. Dichon yr anfonir hanes y eyfarfodydd gan ohebydd arall. Ni raid i'r enwad Anibynol deimlo cywilydd o'r arddangosiad a wnaed o'i dalent a'i graffder, o'i yni a'i fywyd yn nghyfarfodydd hydrefol ei undeb yn Abertawe. Addewir cyfres 0 gyfarfodydd cyffelyb, gan enwad y Bedydd- wyr, yr wythnos hon eto yn nhref Caerdydd. Dydd Gwener diweddaf, bu farw Mr Charles Herbert James, Y.H., Merthyr Tydfil, yn 73 mlwydd oed. Merthyr ydoedd Ile genedigol Mr James. Yno y tyfodd i boblogrwydd a pharch mawr. Fel cyfreith- iwr, gellid ymddiried ynddo. Yr oedd uwchlaw twyll a hoced. I Gydag addysg, llafuriodd yn ddiwyd. Creaai mewn addysg ei hun, ac nid arbedai amser na nerth i wneuthur yr oil a allai, i ddwyn addysg elfenol o hyd gafael i'r werin. I'r Undod- iaid y perthynai yn grefyddol, ond ymddengys i mi ei fod o Undodwr yn bur uniongred. Ymddengys, y pregethai weithiau ei hun, flynyddau yn ol. Yr oedd yn gredwr mawr yn y Beibi. Rhyddfrydwr iach, gwrol, a phur anibynol ydoedd fel gwleidyddwr. Bu yn un o gyn- rychiolwyr Merthyr yn y senedd o 1880 hyd 1888, pryd y rhoddodd fyny ei sedd oher- wydd afiechyd yn ei deulu. Bu yn aelod ffyddlon. A pha bryd bynag y gwnai ei ymddangosiad yn y-cyhoedd o flaen ei ethol- wyr, cai dderbyniad cynes. Yr oedd yn siaradwr eglur a brwdfrydig. Traethai ei farn yn groew, pa un a fyddai dderbyniol gan y cyhoedd ai peidio. Ar ol, rhoddi fyny ei sedd, gwelid ef yn awr ac yn y man, yn cadeirio ac yn siarad mewn cyfarjfodydd cyhoeddus. Dyddan i'r ieuane bob amser oedd ei glywed yn ystod blynyddoedd olaf ei oes, yn cymharu Merthyr ei febyd, a Merthyr y dyddiau hyn. Ond ei le yntau nid edwyn ddim o hono ef mwy. Gwasan- aethodd ei genhedlaeth yn ddiwyd a ffydd- Ion.
HYN A'R LLALL O'R GOGLEDD..
News
Cite
Share
HYN A'R LLALL O'R GOGLEDD.. GAN PEBISON. Dydd Mawrth, wythnos i'r diweddaf, cynaliwyd cyfarfod o danysgrifwyr Coleg- TJnedig Bala, Bangor, yn ysgoldy capel Queen Street, Khyl. Nid oes amheuaeth na theimla pob Anibynwr yn ddiolchgar i'r cyd-bwyllgor am ddwyn pethau i'r man He y maent. Er y dywed ami un, fod tir lawer eto i'w feddianu. Fel y dywedodd y Dr Herber Evans, (cadeirydd cyntaf Pwyllgor Cyffredinol yr Athrofa Unedig), y mae uniad y ddau goleg, y ffaith enwadol bwys. icaf a gymerodd le er's llawer blwyddyn. Y mae yr anghydwelediad wedi parhau cyhyd, ac wedi achosi teimladau mor anhyfryd, fel y mae yn anhygoel gan lawer, fod uniad wedi cymeryd lie." Credwn fod yr unol- iaeth-a nodweddai y cyfarfod yn Rhyl, yn, arwyddo yn dda am heddwch parhaol yn yr enwad. 'R oedd pawb o'r brodyr yno'n un, Heb neb yn tynu'n groes." :II< :II< Hyny o ddadleu fu yno, oedd yn nghylch safon derbyniad myfyrwyr i'r athrofa. M;:¡e'r safcn wedi ei chodi; a cheisir drwy hyny beidio derbyn i'r athrofa, ond dynion ieuainc o alluoedd meddyliol cryfion, ac o dalentau dysglaer. Fel y dywedodd rhai o'r brodyr, nid cyfrifoldeb bychan ydyw ceisio gan ddyn ieuanc i ddechreu pregethu. Nis gall yr athrawon mwyaf medrus, roddi cynheddfau meddyliol i wr ieuanc fyddo yn amddifad p honynt; cymaint ag a allant wneyd yw, diwyllio, a thynu allan y galluoedd, a pba rai v bydd Rhagluniaeth wedi eu cynys- gaedda yn barod. Nis gall y saer cywreiniaf wneyd mahogany o bren ffawydd; gall addurno a thrwsio y pren i raddau mawr, ond bydd ei natur yn aros yr un. Yr un fath am yr athrawon yn yr athrofa, gallant drwsio dyn ieuanc fyddo yn meddu ar feddwl, ond os mai hurtyndienaid y cawsant ef ar ei ddyfodiad i mewn, hurtyn y gadaw- ant ef ar ei fynediad allan. # m :II< MANION.-Hysbysir fod y Parch. Hugh Jones, Birkenhead, wedi ei ail daro yn wael" a'i fod mewn sefyllfa anobeithiol Y Parch. Ben Davies, Bwlchgwyn, sydd wedi derbyn galwad i fyn'd yn weinidog i Panteg^ Tstalyfera. Y noswaith o'r blaen, cyf- Iwynwyd i Mr Davies, gan ei eglwys yn Llandegla, bwrs o aur, ar ei ddychwelial ,o'i, "fis mel." Dychwelodd y Prifathraw Edwards a'i briod yn iach i Gymru o'r America, yr wythnos ddiweddaf.- -Mae Cymanfa Ddirwestol Gogledd Cymru yn cael ei cbynal yn Llanrwst, heddyw, (dydd Mercher.——-200 allan o'r 500 o weinidogion y Bedyddwyr, yn Nghymru, sydd yn ddir- westwyr.
Advertising
Advertising
Cite
Share
St. Jacobs Oil Is the grandest remedy in the world. It conquers pals always quickly and surely, it penetrates deep. It acts Hike magic. It relieves pain at once. No waiting. No dosing with quantities of medicine. It is an outward application, harmless and sure. Endorsed by Lady Moreace Dixie, Bight Rev. Bishop Richardson, Henry Tollemache, M.P., the Bar. W. J. Canlfield Brown, M.A., the ReT. Edward Singleton* M.A., D.D., and thousands of others equally protainect. No other medical discovery since the world began 118. ever received such strong endorsement as St. Jacobs Oil. No person hereafter need duffer from Bheumatio 01 Neuialgio pains.for at, Jacobs Oil oonquers pain.
TIPPERARY.
News
Cite
Share
rifenydd wedi amddiffyn pob gweithred o eiddo'r Weinyddiaeth drwy'r tew a'r teneu, o'r ymosodiad llofruddiog yn Mitchelstown i lawr, ac yn mlaen,ac yr oedd y Gwyddelod yn gwbl at drugaredd yr awdurdodau heb gymhorth na gobaith." Yn ngbanol y ffrwgwd, cododd un hedd- was ei bastwn i daro John Morley, a buasai wedi gwneud, ond fel yr ataliwyd ei fraich gan aelod Seneddol Gwyddelig- Barnwyd mai rhyw aelod Seneddol Gwyddelig oedd efe, a dyma y rheswm am geisio ei daro. Fodd by nag gwaith effeithiol yw hyn er dynoethi y drefn a fabwysiedir gan y Tori- aid yn ei holl erchvlldra. Hefyd y mae Dillon ac O'Brien yn cael eu carcharu ar eu mynediad i America i geisio help i'r bohl sydd yn newynu, ar bwriaa yw atal o'r Unol Daleithiau bob cymorth i Wyddelod sydd yn newynu. Pan y daw'r etholiad cyffred- inol cofier am yr ysgelerderau hyn.