Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
I'R PARCH. J. FFOULKES, ABERAFON,…
News
Cite
Share
I'R PARCH. J. FFOULKES, ABERAFON, YN EI DRALLOD. Yr oeddwn yn nghwmni rMr a MrSjFfoulkes, Medi 26ain, ac yrnddangosai hi mor fywiog ag un- rhyw ae!od o'r gwmniaeth, a syndod i bawb oedd clywed ei bod wedi marw Medi 27ain. Mawr syndod a blinder Oedd clywed am ddyfnder, Eich trallod mor sydyn a ddaeth Ond na ddigaionwch Yn Nuw ymfoddlonwch A chredwch mai uniawn y gwnaeth. O'ch ty pan ddychwelais Dydd Gwener, y'ch gwelais Yn llawen a siriol eich dau Yn ddifyr ffarweliwyd, Yebydig feddyliwyd, Y deuai'r ysgariad mor glau. Cyn pen y diwrnod, Disgynodd y ddyrnod A ddrylliodd yr undeb oedd gun; Cerdd cariad a ddystawodd, Gwraig bur ymadawodd, A chwithau adawyd eich hun. Ond os taenwyd siomiant, Uros lwybrau eich trefniant, Os casglodd cymylau uwch ben; Mae heirdd aur ymylau, Yn gylch i'r cymylau, Mae'r Arfaeth yn.oleu'n y Nen. Na ddigiwch, na phechwcb, I Boddloni, ymdrechwch, Er gwaetbaf y galon mor drist; I Ewch allan yn gryf/ach Eich ffydd, ac yn lfyfach I Fel gwron a gara ei Grist. Hyd. 1. 1890. Cynonfardd.
TIPPERARY.
News
Cite
Share
TIPPERARY. YPRIFATHRAW M. D. JONES.] Tref yn yr Iwerddon yw Tipperary, sydd irwy yr oesau wedi hynodi ei hunan am ei hymlyniad wrth genelaeth Wyddelig. Er mwyn ymryddbau oddiwrth draismeddianwr yr hen dref, y 1I'.ae tref newydd wedi ei had- eiladu yno, ac y mae Balfour a'i gymdeithion Toriaidd yn ffyrnig eu tymherau tuag at drigolion y lie, a phan yr oedd cwrdd (a. hwnw yn ol tystiolaelh yr enwog John Mor- ley heb fod yn fawr) yn cael ei gynal yno, ymosododd yr beddweision ar y bobl heb fod un trosedd yn cael ei gyflawni, er eu bod hwy yn ceisio taeru fod ceryg yn cael eu lluchio atynt, yr hyn y mae Mr Morley yn ei wadu yn gvfantrwbl. Rhoddodd y bobl fan. llef i longyfarcb Mr John Morley, a dyma'rl beddweision vn syrthio arnyut fel gwall- goj&aid, i'w pastynu'n ddidrugaredd. Wrth ddarlunio'r ymosodiad mewn cwrdd yn St. Helen, dywedai Mr Morley, Yr unig ddar- luniad a fedraf ei gael yw (ac nid wyf yn cilio oddiwrtho) fod defnyddio past/nau ar yr adeg yma, ac o dan yr amgylchiadau, yn derfysgwaith gofidus, yn derfysgwaith llwfrynaidd, yn derfysgwaith drygionus a dialw am dano. Gall Colonel Caddell ac eraill wadu hyn os mynant. Gwn nad wyf wedi dyweud dim wrthych heno nad allaf yn rhwypid ei gyfiawnhau yn mhresenoldeb y rhai a ddaliaf yn gyfrifol. Gwelais yn y newyddur fod yr hyn a elwir yn hanes swyddogol wedi ymddangos. Os bydd y Prif Ysgrifenydd yn dwyn hwnw o flaen Ty'r Cyffredin, gwna fy nghvfaill Mr Illing- worth a minau ei ogrynu a'i ddryllio yn ddarnau mewn deng munud. Yr oeddem yn myned i Tipperary, am ein bod yn ystyried fod y Ceidwadwyr yn myned i yru hoel newydd i'w harch, ac yr oeddem am weled hyny. Yr oedd yr amgylchiad yn drobwynt yn hanes eu gweithrediadau. "Rhodiem yn heddychol nes dyfod at groesffordd. Nid oedd wn yn dysgwyl un- rhyw derfysg, ac er fy syndod yn ddisymwth dyma ni ym cael ein gwtbio L'n bygwth gan heddweision y rhai a godeut eu pastynau i fyny, a'u gwynebau yn dangos ffyrnigrwydd mawr, heb unrhyw achos yn galw am hyny. Nid oedd yrymgasgtiad o bobl ond gwasgarog iawn, dim yn deilwng o'r enw tyrfa. Nid oedd unrhyw anghyfleusdra yn cael ei achosi gan y cynulliadteneu. Y peth agosaf i der- fysg oedd banllef W yddelig i'm llongyfarch. Ond effeithiodd y waedd ddiniwed yma ar yr heddweision i'w ffyrnigo, fel pe buasai pum' mil o Wyddelod wedi gwneud rhuthr arnynt o'r mynyddau gyda'u pastyna«. Ni welais y fath ffolioeb erioed ag a wnaeth yr awdurdodau y tro yma, ac yn ystod y dydd gosodwyd yr heddweision gan eu swyddog- ion mewn ystum i wneud pethau aallent enyn terfysg. Clywais fod Colonel Ooddell yn dyweud, dyma'r cynulliad mwyaf di- drefn a welais yn fy mywyd," ac yr oedd tair neu bedair o foneddesau Seisnig ar flaen y cynulliad "di.drefn" yma wedi eu taro ag ynfydrwydd yr haeriad, fel y chwerthent yn ei wyneb. Yr oedd yr holl weithrediadau yma yn chwerthinus, pe na fuasent yn beryglus." I Yr oedd y neuadd yn amgauedig, a phyrth heiyrn yn arwam iddo. Mae'n hollol an- wireddus ei fod ef a'i gyfeillion wedi cael eu dilyn yno gan dyrfa fawr. Nid oedd yno dyrfa o gwbl. Yr oedd yno yn ol ei feddwl ef gynifer o heddweision fel yr oeddent yn dri am bob un o'r dyrfa. Caniatawyd iddo ef, Meistri Dillon a Harrison fyned i fewn, I. a. rhai eraill, ond gwrthodwyd caniatad i'r trefwyr.- Yr hyn a welodd wed'yn oedd cyfreithiwr yn dyfod ar neges, yr hwn a wthiwyd ymaith gan yr heddweision, a'i daflu yn ddibris oddiwrth y pyrth, a'i sar- hau. Yna aeth Mr O'Brien allan i wrth- dysiio yn erbyn atal y eyhoedd ddyfod i'r Ilys, ac ymunodd Mri. Dillon a Harrison yn. y gwrthdystiad. Cododd lleisiau yn bur uchel, a naill ai heb neu drwy ganiatad, tynodd yr heddweision eu pastynau allan ac heb mn reswm, mewn eiliad dyma waed yn dechreu rhedeg yn rhwydd. "Clywais fod yr ymosodwyr yn dyweud fod ceryg yn cael eu lluchio. Yr oedd fy llygaid i yn agored, ac ni welais geryg yn cael eu taflu. Oddiwrth yr hyn a welais buasai ewpl o heddweision yn ddigon i gadw pyrth y neuadd y diwrnod hwnw mewn unrhyw bentref yn Lloegr. Mae yr hanes a rydd Mr Harrison o'r am. gylchiadau yn gywir. Ymbiliodd a'r hedd- weision, a'r unig ateb a gafodd gan y gwyr oed4 iddynt geisio ei bastynu, a'r diwedd fu iddo gael ei dynu tu fewn i'r pyrth, a'i ben yn rhedeg gan ffrydlif o waed. Hefyd yr oedd un Mr Keating, gohebydd, ar ben gwal tu fewn i'r gaer, yr hwn a gy- I huddir o daro heddwas. Mae hyn yn an. I wiredd noeth. Gan bwyntio at yr heddwas a darawodd Mr Harrison, dywedai ei fod yn gwybod ei fod yn ddyhiryn {ruffian). Ta fewn i'r gaer, cofier, y dywedwyd hyn, a rhoddodd heddwas ergyd llofruddiog i Mr Keating, lie yr oedd pob tawelwch, a thar- awyd ef a phastwn ar draws ei geg, nes oedd e yn syrthio yn ei waed yr ochr arall i'r wal. Nid oedd mwy o angen rhoddi'r ergyd hwnw, mwy nal phe buasai rhyw un yn rhoddi ergyd llofruddiog i mi yma am i mi siarad. Bu pastynu ffyrnig yma am amser, a dynion yn llifo o waed a wthid yr ochr fewn i'r pyrth. Aeth Mr Morley at Mr Caddell i ymbil ag ef ollwng y bobl i fewn. Atebai fod yn rhaid cadw lie i'r tystion. Nid oedd yno yn y Hys ond y ddau ynad, a srohebwyr papyrau yn y Iloft, a'r heddweision yn cadw'r llawr. O'r diwedd caniataodd Mr Caddell i bawb a ewyllysient ddyfod i fewn, ac nid oedd y lie yn agos Ilawn, ae mor weddus eu hymddyg- iad oedd y bobl a phe buasent yn yr addol- iad mewn eglwys. Yr awdurdodau yn unig oeddent yn terfysgu, a'r bobl yn gwbl dawel, ac yr oedd yr ymosodiad yn fonglerwaith ac yn anfadwaith pechadurus. Y drefn a fab- wysiedir sydd yn achost golygfeydd fel hyn, yr hwn gynllun a roddir mewn grym er ys tair blynedd a haner. Yr oedd y Prif Ysg-