Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

"PARCH PR HWN Y MAE PARCH…

News
Cite
Share

"PARCH PR HWN Y MAE PARCH YN DDYLEDUS." MR GoL.,—Hysbys i Gymru i gyd fod ein gweinidoganwyl a ffyddlon, Dr Pan Jones, wedi llwyddo, trwy ymdrech galed a diflino, i ddileu y ddyled oedd ar yr eglwys hon ac yn ymddangos un adeg yn anileadwy. Prin y mae yn rhaid i ni ddywedyd fod yr amgylchiadau a'n hanalluogodd i dalu am ein haddoldy wedi ei wneud yn anmhosilbl i ni. roddi i'n gweinidog y gydnabyddiaeth y gall- asai efe ei hawlio ac y buasai yn' hyfrydwch genym ninau ei rhoddi; ac nis gwyddom i ba fesur y mae, oherwydd hyny,wedi ymwadu er's llawer o flynyddoedd bellach. Y mae yr eglwys a'r gynulleidfa yn awyddus iawn i gydnabod mewn modd ymarferol eu rhwymedigaetli iddo am ei ymwadiad a'i ym- roddiad mawr a Ilwyddianus; ac yn wir, pe na buasai yr awydd hon ynom, anhawdd fuasai i ni beidio gwneud hyn, oblegid y mae llawer iawn o bob rhan o'r wlad wedi ysgrifenu atom yn gwasgu arnom i roddi cyfleusdra iddynt hwy ac eraill roddi mynegiad sylweddol i'w hedmygedd o Dr. Pan Jones ac o'r gwaith rhagoro^y mae wedi ei wneuthur. Yn ngwyneb y cymhellion hyn yr vdym yn fwy ealonog yn anfon allan ac yncyhoeddi y cylchlythyr hwn, fel y gwypo pawb ar y sydd yn ewyllysio cyfranu tuag at dysteb iddo i bwy i anfon eu rboddion. Anfonir llyfrau casglu i bawb a ewyllysio eu cael; derbynir tanysgrifiadau genym ni sydd a'n henwau isod a cbydnabyddir bwy yn y Celt ac yn Tarian y i ir, Gweithiwr.—Yr eiddoch yn gywir, THOMAS ELLIS, Trysorydd, JOHN YAUGHAN, Chapel Walks, Mostyn, Ysgrifenydd Y Cysegr, Mostyn, Gorphenaf 25ain, 1890.

Advertising

NEWYDDION CYMREIG.