Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

barddonTaeth.~~

News
Cite
Share

barddonTaeth. BEDDARGRAFFY CBISTION. Gwr i Iesu goir isod,-yn ybedd, A'i boen wedi darfod; Ni wel farn, mae e'n ail fod Yn eiriander y Drindod. Caergybi. TREFLYN. AR FORAU TEG YN MAI. Yr hyfryd Fai a wawriodd, £ Rhydd i'n anrhegion fyrdd, Fe hidia iechydwriaeth Yn gawod ar ein ffyrdd; Awelon balmaidd natur Fel engyl yn ddi-drai, A dd'ont yn mreichiau gilydd Ar forau teg yn Mai. Mae'r awyr megis grisial, Heb gwmwl ar ei grudd, A'r nos yn dianc ymaith Fel pe yn ofni"r dydd; Fe rydd y lwydlas gwcw Ei doniau yn ddi-drai, Mal duwies yn y mynydd Ar forau teg yn Mai. Mae'r haul yn codi'n forau I wisgo'i fantell aur, Gan wneud y mor a'i wendon Mal rhyw arianaidd bair; Mae natur oil yn dawnsio Wrth wel'd ei wyneb lion, A'r ddaear sydd yn gwisgo Ei pherlau ar ei bron. Mae'r goedwig megis enfys, Mor brydferth yw eu dail,- Fel pe ba'ent am y gorau'n Cusanu gwyneb haul; Mae yntau megis brenin Oddiar ei orsedd drydd A'i wyneb glân goreurog Yn gwenu ar y dydd. Mae natur landeg, brydferth, Fel boneddiges iach, Yn prysur wisgo'r blodau Mal rhyw angylion bach; Daw'r egin tlws i fyny, Fu yn eu gwely clai, I rwyfo yr awelon Ar forau teg yn Mai. Llanrwst. E. HARKER (ISNANT.)

NEWYDDION CYMREIG.