Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

TAITH I MOROCCO.

News
Cite
Share

TAITH I MOROCCO. GAN DR. GRIFFITHS, PRESTATYN. Y diwrnod wed'yn aeth fy nghyfaill a minau yn nghyda'n harweinyddion Ysbaen- aidd a Mwraidd i weled pentref oddeulu deng milltir o Tangiers, a rhaid oedd i ni fyned a gosgorddlu o'r milwyr Mwraidd, y soniais am danynt o'rblaen, gyda ni, oblegidl ni chaem fyned ragor na milltir y tu allan i gaerau Tangiers heb rai o'r milwyr hyn itn gwarehod. Wedi cyrhaedd y pentref, aeth- om i weled yr byn a elwir yn Morocco yn Cuba, neu Cupola, math o gapel bychan gyda phen isel yn yr hwn y gorwedd gwedd. illion marwol sant hynod. Codir y lleoedd hyn, yn enwedig yn y De, yn ymyl ffynon a phalmwydden, a gwelir hwy o bellder mawr, oherwydd eu bod mor wynion. Ymwelira'r lleoedd hyn gan y ffyddloniaid a'r rhan fyn- ychaf byddant yn ngofa! un o ddisgynyddion y sant as aer ei santeiddrwydd yr hwn a drig yn gyffredin mewn bwthyn yn ymyl gan dderbyn elusenau gan y pererinion a fynychant y fan. Saif Cuba Sidi-Leamani, neu sant y pentref yr ymwelsom ag ef ar ychydig godiad tir oddeutu dau cant o latheni oddiwrth y pentref. Eisteddai nifer o Arabiaid o flaen y drws pan gyrhaeddasom ni i'r lie a'r tu oliddynt gwelem ben hen ddyn, sef disgynydd y sant,yr hwn a lygad. rythai arnom yn synedig. Yn mhen peth amser dodwydein pebyll i fyny a chyneuwyd t&n, a thra y cymerem luniaeth taflwyd blwcb gwag a ddefnyddid i gario sai dines, i ftwrdd gan ein harweinydd. Cipiwyd ef yn union gan yr Arabiaid ac aethant ag ef i'r Cuba i'w archwilio, a buwyd yn siarad yn hir ac yn hyawdl, gallwn feddwl, uwch ei ben. Wedi i'n lab-el-baroda neu ein swper gael ei le ei hun aethom allan i weled y wlad a cherddem o amgylch gyda'n harweinydd- ion, ond ni chaem fyned yn mhell heb fod- y milwyr gyda ni, ac yr oeddynt fel pe yn ofni ein gollwng o'u golwg. Y pryd hwn y gwelais geffyl Mwraidd gyntaf. CefEylau byebain ydynt, a phan ddaethum yn ol i i Ewrop yr oeddwn yn gweled ceffylau at uchder canolig yn fawrion wedi arfer a'r ceffylau Mwraidd. Y mae ganddynt lygaid mawrion tanbaid; y talcen braidd yn fflat, ffroenau llydain iawn, a bochgernau amlwg pen prydferth iawn, y goss vn dlos ei flPurf! yr hyn a bair i'w symudiadau edrych yn es- mwyth neillduol. Ymddangosant yn fwy tueddol i garlamu nac i ditbio, ac yn wir nid ydwyfyn cofio i mi weled ceffyl yn tithio tra y bum yn Morocco. Pe gwelech hwy yn gorphwyso neu yn oerdded yn araf heibio nidyw r goreu o honynt yn ymddangos yn nodedig o hardd. Er nad ydynt yn cael vn agos gymaint o fwyd a'n ceffylau ni ac er eu bod yn cael eu gweithio yn llawer calet- ach, daliant eu gorweithio yn well na'n heiddo ni. Mae'r dull o farchogaetli yn wahanol hefyd yn Morocco. Eistedda'r marchogwr a'i benliniau bron yn gyd-wastad a phen ei glun, a chan fod y cyfrwy vn uchel iawn o'i flaen ac o'i ol fe'i deil mor ddi- berygl fel mal anmhosibl braidd ydywiddo gasl ei daflu. Gwisg&'r marchogwyr esgid- iau disodlau o ledr melyn, ac nid oes gan- ddynt gan amla ddim yspardynau, ond defnyddiant gongl finiog y gwrthaflau yn lie yspardyn. Gwisga rhai ddarn o haiarn miniog ar ffurf dagr wedi ei sicrhau wrth y sawdl gyda chadwen. Traethir pethau rhyfedd am gariad mawr yr Arab at ei geffyl. Dywedir ei fod yn ystyried yn fod cysegredig; ei fod bob boreu ar doriad gwawr yn dodi ei law ar ben ei geffyl ac yn sibrwd Btsmillcih (Yn enw Duw)! ac yna yn cusanu*y llaw a sancteiddiwyd gan y cyffryddiad. Gall hyn fod yn wir, ond mor bell ag y gwelais i, nid yw cariad yr Arab at ei farch yn ei rwystro i dori ei ochrau yn y ffordd greulonaf; neu ei adael allan pan y gallai ei ddodi i fewn, neu ei gymeryd bellder mawr i gael dwr pan yn gloff a lluddedig. 0 Yr oedd v gwres fn dra anghysurus drwy y nos oherwydd i'r arweinydd ddodi tan yn ein pabell. Gorchuddid. y lIawrag ymlusg. iaid, pryfaid copyn, morgrug anferth, chwilod a cheiliogod-yr-hedyn nes peri fod gor- phwyso yn ail i anmhosibl, ac nid wyf yn meddwl 1 lb mi gysgu pum' munud drwy'r nos, a llawenheais yn ddirfawrweled goleuni dydd. Dyma'r profiad cyntaf a gefais o gysgu ar lawr mewn pabell. 9

HYN A'R LLALL O'R DE.

NODIADAU.