Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

GWYLIAU A GWLEDDOEDD AMERICA.

News
Cite
Share

GWYLIAU A GWLEDDOEDD AMERICA. GAN Y PARCH D. JONES, CEINEWYDD. Cyfrifa pob Americanwr, fod ymfudwyr pan yn dyfod i'w gwlad yn meddu ar ryw nifer o gyrn, ond ei fod yn colli un o honynt ar bob pedwerydd dydd o Orphenaf adreul- iant yn y wlad—yn ffodus ddigon, colUis i un o honynt heb fod yn hir wedi imi gyrhaedd yno, am i mi gael y fraint o dreulio y dydd uchod o'r flwyddyn hon yn y wlad. Cefais y fraint o dreulio y dydd hwn yn Pittsburgh, a gofalodd Rhagluniaeth am arweinydd i mi ar hyd y dydd, yn mherson Mr John Morris, Colwell Street, mab yngbyfraith i'r dyddan a'r ffraeth Mr John Daniel Jones, Rawen Hall, Sir Aberteifi. Cefais ef a'i deulu yn garedig neillduol i mi tra o fewn eu cyrhaedd—ond o ran hyny caredigrwyddmawragefaisganboll deulu- oedd eglwys y Fifth Avenue. Mae gan yr Americaniaid lawer o wyliau yn ystod y flwyddyn, ond nid oes yr un yn gymaint o ran pwysigrwydd a'r wyl a gedwir ganddynt er cof am eu "Hannibyniaetb." Llyncir enwau allawenyddpob gwyl arall ifyny gan hon. Rhoddir math o ryddid diderfyn i bawby dydd hwn i wneud eu hunain yn Ilawen. Mae pobpeth bron at eu gwasanaeth. Os y gwelir rhywrhai yn fwy hyf, ac eofn, nag y byddis yn disgwyl iddynt fod, yr unig reswm roddir yw It is the Fourth of July, fel pe byddai hyny yn ddigon i gyfiawnhau pob ymddygiad. Nid oes son ain waith na gwneuthur un math o fasnach ar y dydd hwn ond yn unig brynu a gwerthu defnyddiau i wneud goleu a swn ar hyd yr beolydd. Gwelir pob rbyw ac oed yn tanio ei Squib a'i Cracker y dydd yma, nes y mae yn ddigon a pheri i ddyn dybio ei fod ar faes y rhyfel gan swn y saethu sydd o'i gwmpas, yn unig, nad oes ond ychydig berygl i neb dderbyn niwed oddiwrth yr arferion hyn. Yn ddiamheu fod gwerth canoedd o dduleri o arian yn cael eu gwas- traffu mewn swn a mwg yn y eyfandir ar yr wyl hon. Diwrnod arbenig yw hwn, gan lawer o gymdeithasau cyfeillgar i droi allan i orvmdeithio yr beolydd a chyfarfod yn eu gwahanol fanau i wrando arerchiadau a gwneud trefniadau eraill. Yr oedd y Pabyddion yn cymeryd mantais ary dydd yn Pittsburgh i ddangos eu nifer a'u gallu, ac y maent yn barod i ymffrostio yn eu liiosowgrwydd a'u gallu yn bresenol, ac yn teimlo yn hyderus o ychwanegiad nerth blynyddol, byd nes y deuant i allu cadw a hawlioyrhan flaenaf yn llywodraethiad y dinasoedd mawrion sydd yn y wlad. Sier fod hwn yn berygl y dylid cadw gwyliadwr- iaetb fanwl arno, neu yntau daw yn achos o anghydfod rhwng gwahanol genhedloedd yn y wlad. Yn y gwabanol barciau yr oeddis wedi gwneuthur darpariadau ar gyfer yr ieuainc—ceid yno gyfleusderau i ymryson rhedeg, neidio, ac yn y blaen, rbywbeth cyffely b i'r hyn geir yn y chwareuon gynhelir ar y meusydd yn ein gwlad ni. Pan oedd Ileni y nos yn ymdaenu ceid gweled golwg brydferth ar y ffagodau tan yn mhob cyfeir- iad. Yn Colwell Street, yr oeddwn yn sefyll mewn safle fanteisiol iawn i weled rhan fawr o'r ddinas yn aberthu i Moloch, a pharhau i danio a goleuo a wnaed hyd oriau man y borau. Treuliais yr wyl yn ddifyr dros ben, a chydlawenhawn a hwy am eu tod wedi ymddwyn yn blant mor dda wedi caelou Hanibyniaeth. Gwleddoedd.-Gwiedda y mae pob Ameri. caawr pan yn myned lawer o weithiau yr un dydd at y bwrdd gartref, ond nid at y byrddau huliedig yn y tai yr wyf am gyfeirio, ond yn hytrach at y gwleddoedd geir yn gysylltiedig a'r capeli. Mae yr hi-n yn rhy boeth yn yr haf. iddynt fwynhau cwpanaid o de yn y prydnawn, fel y gwneir yn nglyn a chapeli y wlad hon, ond y maent yn mynu rhywbeth i gyfateb hyny yno, ond fod y drefn yn wahanol; yma y drefn yw, te yn y prydnawn a'r gyngherdd yn yr hwyr, yno y gvngherdd neu y cyfarfod adloniadol yn gyriiaf yna ymneillduo i'r neuadd perthynol i'r capel i gyfranogi o'r darpariadau. Yr oeddwn yn ffodus ddigon i gael un o'r gwleddoedd hyn y noswaith gyntaf y cyr. haeddais y wlad. Yr oeddwn yn cyrbaedd tua un o'r gloch y prydnawn, a chyda fy mod a'm traed ar dir, y mae geneth fechan y Parch E. D. Evans, yr hwn yn nghyda'i briod oeddent yno yn fy nghroesawi, yn dweyd wrthyf fod ganddynt hwy yn Eleventh Street Chapel," yr hwn gapel y mae ei tbad yn weinidog, wledd y noson hono, gwledd flynyddol yr hufen rhew (Ice cream Festival) ac fod yn rhaid i mi fyned jno. Teimlwn braidd yn falch fod pethau yn digwydd fel pe buasent wedi eu bwriadu i'm llongyfarch ar fy nglaniad yn y wlad. Aethwm gyda'r teulu yno, a chyn myned i mewn cefais fy nghyflwyno i ddegau o Gyuny, yn eu plith Prof. Stevens, mab y diweddar Parch Stevens, Brychgoch. Wedi myned i mewn a cbael nad oedd y cadeirydd apwynciedig ddim.wedi gwneud ei ymddang- osiad, rhaid oedd i mi gymeryd at lywyddu. Gwnaethum fy ngoreu dan yr amgylchiadau, a dywedais yn ngwrs y siarad fod y Parch T: C. Edwards, D. D. Aberystwyth wedi cael gwledd i'w groesawi, a fy mod inau yn teimlo yn ddiolchgar iddynt am drefnu y y wledd hono i fod y noson neillduol hyny, oblegid drwy hyny y gallwninau mewn rhyw ystyr ddweyd ty mod wedi cael gwledd i'm groesawi fel yntau. Aeth y cwbl heibio yn foddhaus iawn-y canu yn dda iawn-canodd Prof. Stevens, amryw weithiau. Wedi hyny ymneillduwyd i'r neuadd i gyfranogi o'r darpariadau, y peth pwysicaf yn y wledd oedd hufen rhew, "a chyda golwg ar y peth hwn, y dywedai y brawd Hugh Evans, gynt o Llan Ffestiniog yn ddireidus mai derbyn. iad oeraidd oeddwn yn gael, ond yr oedd y wen siriol oedd yn chwareu ar wynebau pob rhyw ac oed yn ddigon bron a pheri i'r ia ei hunan doddi yn eu gwydd. Felly y treuliais i y noson gyntaf yn y eyfandir yn ddifyr iawn. Yr oedd y bobl ieuainc ar eu goraf yn ceisio gwerthu y cwbl oedd wedi ei ddar- paru, er i rywbeth neillduol perthynol i'r eglwys a'r gynulleidfa. Yr oeddwn wedi meddwl cyfeirio at wleddoedd cyffelyb a gefais yn Hyde Park a Plymouth, ond gwelaf mai doeth yw eu gadael hyd rhyw dro eto.

Advertising

Y MERCHED A'U GWALLT.