Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
NODION 0 FEIRION.
News
Cite
Share
NODION 0 FEIRION. Yr oedd dydd Iau, Medi 18fed, yn ddi- wrnod pwysig yn y Bala. Yr oedd Cym- deithas Ryddfrydol y sir yn cynal ei chyfar- fod yno i edrych dros ei sefyllfa arianol, i ethol swyddogion, ac i ddarparu gogyfer a'r dyfodol. S. Pope, Ysw., bargyfreithiwr, oedd y cadeirydd y llynedd, ac ail-ddewiswyd ef. O'm rhan fyhun ni fuaswn yn dymuno ei well, y mae yn foneddwr arianog hael, yn Rhyddfrydwr aiddgar, ac yo caru ein cenedl ni lawn cymaint, hwyrach yn fwy nacy gellir disgwyl i Sais wneud. Bu tipyn o siarad yno yn nghylch y North Wales Liberal Federation. Credai llawer mai rhyw fath o Mutual Admiration Society yw. Amddi- ffynodd y Proff. Ellis Edwards hi yn wresog, ond terfynwyd y cyfarfod heb i neb a wn i newid fawr ar ei farn a ffurfiasai am dani cyn dyfod yno. Rhaid cael ychwaneg o oleu ar y cynghrair naca gafwydyno cyn y bydd iddo byth enill ymddiried y wlad. Y prif at-dyniad i'r Bala oedd cyfarfod cyflwyno tysteb i Mr T. E. Ellis, A.S., ar ei adferiad o'i gystiadd blin, am ei wasanaeth i'w genedl yn y Senedd. CyHwynid y dysteb yn Ysgoldy y Bwrdd. Codasid esarynlawr yn un pen iddi, a gosodasid rhes o blanhig- ion y n eu blodeu ar ei phen blaen. Ar y mur tu cefn i'r esgynlawr yr oedd baner galico yn gr6g uchel, ac arfbais hen frenin dall Bohemia arni,ar y naill du iddi yr oedd ysgellyn yr Ysgotyn ac ar y tu arall feill- ionen y Gwyddel, ond nid oedd y genineo na'r ddraig goch i'w gweled o gwbl yno. Yn gyfochrog a baner y brenin dall yr oedd enw CYNLAS ar un tu ac enw MABON ar y tu arall, ac uwchben y cyfan yr oedd enw GLADSTONE. Pobl faddeugar yw pobl y Bala onide ni fuasent yn rhoddi y lie penaf i enw Gladstone. Cynlas ddylasai gael hwnw. Hyd ygWB i ni wnaeth Gladstone ddim i Gymru ond o orfod heblaw poeri am ei phen bob tro y cafosld gyfle. Buasai cwynion Cymru yn llai heddyw pe buasai ein haelodau Seneddol yn y pymtheng mlynedd diweddaf wedi gosod Cymru o flaec. Glad- stone. Bu ein haelodau Seneddol yn hynod o ffyddlon i Gladstone ac yn ddirmygedig o anffyddlon i'w gwlad a'u cenedl. Nid cyn-, rychioli gwlad o bobl yw i aelod Seneddol mewn cyfarfod cyhoeddus fod ag un llygad yn diferu dagma wrth weled cyflwr truenus y bobl, a chadw ei lygad arall yn glir ddi- ysgog ar ryw swydd o elw neu enw iddo ei hun. Ymao dydd y cyfryw ti gynrychiol. ydd" yn mron darfod, ac ni bydd galar Cymru yn rhyw orlethol pan yr a adref-i dywyllwch. Buasai yn beth eithaf gweddus rhoddi enwau Simon Jones, William Thomas, ac M. D. Jones ar y mur ddiwrnod cyflwyn. iad y dysteb. Hwynthwy yn benai yn Sir Feirionydd a wnaeth y peth yn bosibl. Beth hefyd am ferthyron etholiadau Penllyn, ty- bed fod eu henwau a'u dioddef wedi cael eu gollwng dros gof yn barod ? Ni ddaeth yr un o gyd-aelodau Mr Ellis i'r cyfarfod. Darllenwyd llythyrau oddiwrth Osborne Morgan, Stuart Rendel, a Prichard Morgan yn ymesgusodi. Yr oedd yn dda f iawn genyf nn ddaethant yno. Ni raid i Mr Ellis wrth trfia na nawdd yr un o honynt, a buasai en hel yno gyda'r bwriad o roddi urddas ar y cyfarfodac ar Mr Ellis yr un peth a rhodditan ar ben tair canwyU frwyn i ddangos disgleirdeb yr haul ganol dydd hwyafyr haf! Darllenwyd yr anerchiad i Mr Ellis gan Mr Andreas Roberts, a rhoddwyd archeb ar yr ariandy am l,074p 19s 5c i Mr Ellis gan Mr John Parry o'r Bala. Anerchiad lipa, lipa oedd yr anerchiad a gyflwynwyd iddo a'i Chymraeg yn anystwyth a bratiog. Yr oedd un peth yn amlwg iewn i bawb yn y cyfarfod, sef i rywun neu rywrai—gwyddom amcan pwy-droi cyfarfod a ddylasai fod yn gyfarfod cenedl i fod yn gyfarfod enwad yn yr ystyr fanylaf. Ni chafodd neb ond Meth- odistiaid ddyweud gair yno ac eithrio Mr Pope a Mr Parry, ac yn rbinwedd eu swydd y cawsant hwythau, un fel eadeirydd y Gym- deithas Ryddfrydig, a'r Hall fel ei thrysor- ydd. Byddwn i yn arfer meddwl fod Hywel Cernyvy yn un o weinidogion mwyaf parchus y Bedyddwyr yn Meirion, gwn hefyd ei fod yn un o'r rhai mwyaf ymdrechgar dros yr achos Rhyddfrydig, ond er ei fod yn ymyl yr esgynlawr ni chafodd ddyweud gair. Bydded i'r Bedyddwyr osod hyn at eu calon. Gwyr pawb yn Meirion am M. D. Jones, Bod Iwan, fel Rhyddfrydwr, ac am ei lafur er ys dros ddeng mlynedd ar hugain dros ryddid, yr oedd yn llafurio a'i holl,galon o blaid Rhyddfrydiaeth pan yr edrychai y Methodistiaid ar Wleidyddiaeth fel peth rby anghysegredig iddynt hwy gyffwrdd a'r peth ag un o'u bysedd, ond er fod yr hen ar- weinydd cenedl mewn lie amlwg yn y cyfar- fod ni wnaed sylw yn y byd o hono, er fod pobl yr esgynlawr yn medtu gweled Mr 0. M. Edwards, o Rydvchen, oedd y tu ol iddo. Nid cwvno yr wyf am iddynt ofyn i 0. M. Edwards, buasai yn resyn peidio gofyn iddo ddyweud gair, y mae wedi gwneud mwy dros Gymru na neb sydd yn fyw o'i oed, a diau genyf y gwna lawer mwy eto os es- tynir ei oes, ond cwyno yr wyf fod hen arwyr Rhyddfrydiaeth yn cael eu diystyru a'u hanwybyddu yn y fath gyfarfod yn unig i bob golwg am nad ydynt yn aelodau o'n henwad ni." Dyma fan gwan, man perygl Rhyddfrydiaeth Cymru ar hyn o oryd, a phan unwaith y Dadsefydlir ac y Dad- waddolir Eglwys Loegr yn Nghymru daw yn fwy amlwg. Gwnai Hywel Cernyw ac M. D. Jones y tro yn burion i fyned i siarad a gweithio yn adeg yr etholiad a hi yn dda cael eu help. Cafodd Anibynwyr a Bedyddwyr y fraint o ymladd a'u cleddyf ac a'u bwa eu hun holl frwydrau mawr rhy ddid gwladoI a chrefyddol yn Nghymru am lawn dau can' mlynedd heb ddim help ac nid yd- ynt wedi anghofio eto sut i ymladd a gorch- fygu. Diwrnod rhanu rhubanau oedd bi yn y Bala dydd Iau, ond nid oedd na Bed- yddiwr nac Anibynwr na Wesleyad i gael yr un fodfedd o honynt. Y mae cyfarfod y Bala wedi dwyn i berffaith eglurder mai ar- wyddair Sion Gorph yn mhethau gwleid- yddol Sir Feirionydd yw:—" I ni y perthyn yr HOLL ANRHYDEDD, rhaner y gweddill yn deg rhwng y mau enwadau eraill a byddant ddiolchgar." EXOBNUS.
I AT EGLWYSI YK ANIBYNWYR.
News
Cite
Share
I AT EGLWYSI YK ANIBYNWYR. HYN sydd i hysbysu fod ein hen weinidog y JLL Parch E. Celynydd Mason, yn aelod a phregeth- Wr rheolaidd a chymeradwy yn ein plith ni yn Eglwys Anibynol Penycoed, Maldwyn.-Ydym dros yr Eglwys, D. Roberts, E Benbow, R. Owens, T. Davies, Diaconiaid.
GOHEBIAETHAU.
News
Cite
Share
GOHEBIAETHAU. PARCH D. W. EVANS, AG AIL DDYFODIAD. MR GOL.N id cyndyn ddadleu yw fy mhwngc na'm hamcan, nac ymryson yn nghylch geiriau, a Mr Evans, canys o'r cyfryw bethau y mae cynfigen, ymryson, cableddau, drwg dybiau yn dyfod. Fy amcan yn gosod y tair adnod a osodais ar y cyntaf oedd cael eglurbad arnynt ac nid dadl. Felly na thyner cam gasgliad o'm dyben, a gadawer i'r enw pa un bynag ai gwaa," ai cadarn ydym. Nid yr enw yw y cwestiwn ond eglurhad ar y tair adnod fel y maent i lawr. Nid wyf yn diystyru tyb neb o'r saint ar unrhyw fater, ond y mae genyf hawl i ddatgan fy ngwrthwynebiad i'ch tyb chwi o'r hyn a ysgrifenasoch trwy gyfeirio y tair adnod i'ch sylw. Os wyf yu d-eall eich meddwl yn iawn difynwch yr adnodau canlynol i geisio- gwrthbrofi fy ngosodiacla-i y bydd i'r Iuddewoa ddychwelyd i'w gwlad, ac y bydd iddynt gael eu defnyddio eto mewn modd arbenig er bendith i'r byd." Dyma ddywedaf am werth eich "os.u Canys os yw eu gwrthodiad hwy yn gymod i'r j byd, bethfydd eu derbyniad hwy ond bywyd o feirw? Paul. Gadawaf y gweddill o'ch llythyr heb yr un sylw arno, nid am fy mod yn barnu nad yw ya werth, oblegid os oedd un than yn werth y mae y gweddill o'r an gwerth. A. jofynaf eto i chwi gymeryd y tair adnod i'ch ystyriaeth bob yn air ar ol gair fel ag y maent i lawr a rhoddwch fyr waith arnynt, ac os gwelwch yn dda peidiwcha'm cyfarwyddo i at addewidion yn y prophwydi weithiau am eu bod o'r un gwerth i mi os wedi eu cyflawni er sicrwydd y eyflawnir y rhai sydd yn aros am eu eyflawniad, ag ydynt i chwithau er profi eich gosodiad os ydynt yn profi. Byddaf yn disgwyl byr waith genych ar y tair adnod a nodais fel y gallaf gyfeirio at adnodau a ddifynasoch yn eich holl ysgrifau, am nad yw gwirioneddau'r Beibl yn colli ei flas, a'i werth wrth ei chwilio. Dymunaf ddyweud y bydd dychweliad yr Iuddewon at Gristnogaeth y prawf amlycaf o ddwyfoldeb yr efengyl a cbadarnach na'r gwyrtbiau yn nyddiau Crist pan ar y ddaear, a'm gweddi ar Dduw ydyw os yn bosibl gael byw i'w weled. Hu GwAN. HIR WEDDIO. SYR,-Mae angen llawer o ddiwygiadau yn y byd a'r eglwys, y rhai fyddai yn fendith fawr i'w cael; ond nid wyf yn meddwl fod un diwygiad wnaethai fwy o les mewn eglwys na chael rhyw ddyfais i fyrhau y gweddiau hirion. Nid anaml y gwnant ddiflasu cyfarfod gweddi nes y byddant yn fwy o boen nag o bleser, yn fwy o gamp i fyned drwyddynt rywfodd, na theimlo yr enaid a'r ysbryd yn cael eu codi caa'r nefoedd, a hyny yn benaf oblegid meithder auadl rhai gweddiwyr. Oynghorai Moody i dynu ar gwr eu. hugan pan fyddont wedi eyrnaedd digon o' byd, ond teimlaf mai goruchwyliaeth anhawdd iawn i'w chario allan ydyw ht ;-<Hameu mai. fel byny y dylesid gwneud a digied a ddigio,oblegid peth tn byd fod Iles y cyfarfod gweddi, i raddau helaetb, yn cael ei ddinystrio drwy yr hir-weddio yma. Os byddwn wedi cael gafael bynod at weddio am ryw dro eithriadol, ni fyddai eMIai allan o le iddo barhau am o gwarter awr i ugain munud, ond fel arfer yn ein eyfarfodydd gweddi mae obump i ddeg munud yn Ilawn digon o hyd ynddi; wrth gwre, mae tipyn mwy o raff yn lwadwy i'r pregethwr, gan mai efe oi hun sydd ond fel rheol gwell i'r pregethwr i bechu ar yr ochr fyraf nag ar yr ochr hiraf, mae ugain munud o weddi yn hir iawn i bregethwr, a gwneir hyny fel rheol; megis y clywais weinidog yn dweyd unwaith mewn cysylltiad a bod aelodau yr eglwys yn ei feio am ei fod yn fyr iawn yn pregethu, gwell genyf meddai fod cant yn fy meio am fod yn rhy fyr, na dau yn fy meio am fod yn rhy hir. Mae rhyw arferiad gan y gweddiwyr hirion yma i wneud argraff ar feddyliau y gwrandawyr, eu bod yn tynu tua'r terfyu, o bosibl eu bod yn bwriada. mewn gwirionedd i dynu tua'r teifyn oddenta haner eu gweddi, ond mae rhyw frawddeg neu air yn eu gosod ar eu taith drachefn, fel nad oea- fawr argoel y ceir diweddglo buan, a pharant i'r
HANES UN DIWRNOD YN NGHAER.…
News
Cite
Share
J>. eillion Seisnig yma ofalu o hyn allan rhag dygwydd yr un anffawd eto. Gwyddant yn dda,—y pedwar enwad Seisnig yn Nghaer- fyrddin, nas gallant gael cynulliad mawr iawn pe elent oil at eu gilydd, heb gael llawer olr Capelau Cymreig atynt. Buasai yn dda genym oil gael clywed Mr MacNeill yn gyflawn y tro hwn. Ond fel hyn yn fylchog y bu.