Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

NODION 0 FEIRION.

News
Cite
Share

NODION 0 FEIRION. Yr oedd dydd Iau, Medi 18fed, yn ddi- wrnod pwysig yn y Bala. Yr oedd Cym- deithas Ryddfrydol y sir yn cynal ei chyfar- fod yno i edrych dros ei sefyllfa arianol, i ethol swyddogion, ac i ddarparu gogyfer a'r dyfodol. S. Pope, Ysw., bargyfreithiwr, oedd y cadeirydd y llynedd, ac ail-ddewiswyd ef. O'm rhan fyhun ni fuaswn yn dymuno ei well, y mae yn foneddwr arianog hael, yn Rhyddfrydwr aiddgar, ac yo caru ein cenedl ni lawn cymaint, hwyrach yn fwy nacy gellir disgwyl i Sais wneud. Bu tipyn o siarad yno yn nghylch y North Wales Liberal Federation. Credai llawer mai rhyw fath o Mutual Admiration Society yw. Amddi- ffynodd y Proff. Ellis Edwards hi yn wresog, ond terfynwyd y cyfarfod heb i neb a wn i newid fawr ar ei farn a ffurfiasai am dani cyn dyfod yno. Rhaid cael ychwaneg o oleu ar y cynghrair naca gafwydyno cyn y bydd iddo byth enill ymddiried y wlad. Y prif at-dyniad i'r Bala oedd cyfarfod cyflwyno tysteb i Mr T. E. Ellis, A.S., ar ei adferiad o'i gystiadd blin, am ei wasanaeth i'w genedl yn y Senedd. CyHwynid y dysteb yn Ysgoldy y Bwrdd. Codasid esarynlawr yn un pen iddi, a gosodasid rhes o blanhig- ion y n eu blodeu ar ei phen blaen. Ar y mur tu cefn i'r esgynlawr yr oedd baner galico yn gr6g uchel, ac arfbais hen frenin dall Bohemia arni,ar y naill du iddi yr oedd ysgellyn yr Ysgotyn ac ar y tu arall feill- ionen y Gwyddel, ond nid oedd y genineo na'r ddraig goch i'w gweled o gwbl yno. Yn gyfochrog a baner y brenin dall yr oedd enw CYNLAS ar un tu ac enw MABON ar y tu arall, ac uwchben y cyfan yr oedd enw GLADSTONE. Pobl faddeugar yw pobl y Bala onide ni fuasent yn rhoddi y lie penaf i enw Gladstone. Cynlas ddylasai gael hwnw. Hyd ygWB i ni wnaeth Gladstone ddim i Gymru ond o orfod heblaw poeri am ei phen bob tro y cafosld gyfle. Buasai cwynion Cymru yn llai heddyw pe buasai ein haelodau Seneddol yn y pymtheng mlynedd diweddaf wedi gosod Cymru o flaec. Glad- stone. Bu ein haelodau Seneddol yn hynod o ffyddlon i Gladstone ac yn ddirmygedig o anffyddlon i'w gwlad a'u cenedl. Nid cyn-, rychioli gwlad o bobl yw i aelod Seneddol mewn cyfarfod cyhoeddus fod ag un llygad yn diferu dagma wrth weled cyflwr truenus y bobl, a chadw ei lygad arall yn glir ddi- ysgog ar ryw swydd o elw neu enw iddo ei hun. Ymao dydd y cyfryw ti gynrychiol. ydd" yn mron darfod, ac ni bydd galar Cymru yn rhyw orlethol pan yr a adref-i dywyllwch. Buasai yn beth eithaf gweddus rhoddi enwau Simon Jones, William Thomas, ac M. D. Jones ar y mur ddiwrnod cyflwyn. iad y dysteb. Hwynthwy yn benai yn Sir Feirionydd a wnaeth y peth yn bosibl. Beth hefyd am ferthyron etholiadau Penllyn, ty- bed fod eu henwau a'u dioddef wedi cael eu gollwng dros gof yn barod ? Ni ddaeth yr un o gyd-aelodau Mr Ellis i'r cyfarfod. Darllenwyd llythyrau oddiwrth Osborne Morgan, Stuart Rendel, a Prichard Morgan yn ymesgusodi. Yr oedd yn dda f iawn genyf nn ddaethant yno. Ni raid i Mr Ellis wrth trfia na nawdd yr un o honynt, a buasai en hel yno gyda'r bwriad o roddi urddas ar y cyfarfodac ar Mr Ellis yr un peth a rhodditan ar ben tair canwyU frwyn i ddangos disgleirdeb yr haul ganol dydd hwyafyr haf! Darllenwyd yr anerchiad i Mr Ellis gan Mr Andreas Roberts, a rhoddwyd archeb ar yr ariandy am l,074p 19s 5c i Mr Ellis gan Mr John Parry o'r Bala. Anerchiad lipa, lipa oedd yr anerchiad a gyflwynwyd iddo a'i Chymraeg yn anystwyth a bratiog. Yr oedd un peth yn amlwg iewn i bawb yn y cyfarfod, sef i rywun neu rywrai—gwyddom amcan pwy-droi cyfarfod a ddylasai fod yn gyfarfod cenedl i fod yn gyfarfod enwad yn yr ystyr fanylaf. Ni chafodd neb ond Meth- odistiaid ddyweud gair yno ac eithrio Mr Pope a Mr Parry, ac yn rbinwedd eu swydd y cawsant hwythau, un fel eadeirydd y Gym- deithas Ryddfrydig, a'r Hall fel ei thrysor- ydd. Byddwn i yn arfer meddwl fod Hywel Cernyvy yn un o weinidogion mwyaf parchus y Bedyddwyr yn Meirion, gwn hefyd ei fod yn un o'r rhai mwyaf ymdrechgar dros yr achos Rhyddfrydig, ond er ei fod yn ymyl yr esgynlawr ni chafodd ddyweud gair. Bydded i'r Bedyddwyr osod hyn at eu calon. Gwyr pawb yn Meirion am M. D. Jones, Bod Iwan, fel Rhyddfrydwr, ac am ei lafur er ys dros ddeng mlynedd ar hugain dros ryddid, yr oedd yn llafurio a'i holl,galon o blaid Rhyddfrydiaeth pan yr edrychai y Methodistiaid ar Wleidyddiaeth fel peth rby anghysegredig iddynt hwy gyffwrdd a'r peth ag un o'u bysedd, ond er fod yr hen ar- weinydd cenedl mewn lie amlwg yn y cyfar- fod ni wnaed sylw yn y byd o hono, er fod pobl yr esgynlawr yn medtu gweled Mr 0. M. Edwards, o Rydvchen, oedd y tu ol iddo. Nid cwvno yr wyf am iddynt ofyn i 0. M. Edwards, buasai yn resyn peidio gofyn iddo ddyweud gair, y mae wedi gwneud mwy dros Gymru na neb sydd yn fyw o'i oed, a diau genyf y gwna lawer mwy eto os es- tynir ei oes, ond cwyno yr wyf fod hen arwyr Rhyddfrydiaeth yn cael eu diystyru a'u hanwybyddu yn y fath gyfarfod yn unig i bob golwg am nad ydynt yn aelodau o'n henwad ni." Dyma fan gwan, man perygl Rhyddfrydiaeth Cymru ar hyn o oryd, a phan unwaith y Dadsefydlir ac y Dad- waddolir Eglwys Loegr yn Nghymru daw yn fwy amlwg. Gwnai Hywel Cernyw ac M. D. Jones y tro yn burion i fyned i siarad a gweithio yn adeg yr etholiad a hi yn dda cael eu help. Cafodd Anibynwyr a Bedyddwyr y fraint o ymladd a'u cleddyf ac a'u bwa eu hun holl frwydrau mawr rhy ddid gwladoI a chrefyddol yn Nghymru am lawn dau can' mlynedd heb ddim help ac nid yd- ynt wedi anghofio eto sut i ymladd a gorch- fygu. Diwrnod rhanu rhubanau oedd bi yn y Bala dydd Iau, ond nid oedd na Bed- yddiwr nac Anibynwr na Wesleyad i gael yr un fodfedd o honynt. Y mae cyfarfod y Bala wedi dwyn i berffaith eglurder mai ar- wyddair Sion Gorph yn mhethau gwleid- yddol Sir Feirionydd yw:—" I ni y perthyn yr HOLL ANRHYDEDD, rhaner y gweddill yn deg rhwng y mau enwadau eraill a byddant ddiolchgar." EXOBNUS.

I AT EGLWYSI YK ANIBYNWYR.

GOHEBIAETHAU.

HANES UN DIWRNOD YN NGHAER.…