Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

BARDDONIAETH.

News
Cite
Share

BARDDONIAETH. I'R PARCH EDWARD JAMES, NEFYN. Am iaith o swyn ameutbyn,-a thaniol Ffraethineb diderfyn,— Yn ein hoes nid oes un dyn Sy'n hafal i James, Nefyn." pEp80(J Y TAFARNDY, Y llwyd fwrndwll dafarndy,—'strywgar rwyd, St6r gwirodydd echrys; Traflyncu wneir tra Duw'n dyst, Rhed dynion ar rawd diaystr Ty Ddewi. J. EYNON (Blodionwy). CYNHAUAF Y BEDD. Mi welais yr hauwr yn hau A'r egin o'r tir yn tarddu Mi wyliais y maesydd hyn bob dydd, A gwelais yr yn tyfu. Mi welais y baban bach gwan, Ar fynwes ei fam yn sugno; A gwyhais ei gynydd nes oedd Ya ddyn wedi gorphen prifio. I Dilynais y gwenith nes oedd Pob t'wysen wedi naelynu A'r cryman yn tori i lawr, Yr yd oedd wedi aeddfedu. Dilynais y dyn yr un modd, Nes ydoedd ei wallt wedi gwynv A gwelais ei dori i lawr, Fel t'wysen wedi aeddfeda. Myfinau a welais fyhun Mewn drych a'm gwallt wedi gwynu; Yn barod i gryman y bedd, Fel t'wysen wedi aeddfedu. Cynhauaf y bedd sydd yn sicr, Medelwr diffael yw angau; Ni arbed yr un pan y daw, Yn aeddfed ar ben ei ddyddiau. Rhaid myned o^rpalas a'r llys, Yn gystal a bwth y cardotyn; Ac nid oes dychwelyd yn ol, Byth wedi croesi y terfyn. I'r grawn o'r dywysen mae modd I godi yn fyw wedi marw Ond pan ddaw marwolaeth i ddyn, Marwplaeth dragwyddol fydd hwnw. Awst 30ain. R. J. DBMBL. DEIGRYN. Pa beth wyt ti, o ddeigryn m&d, Sydd fel tylodi yn mhob gwlad ? 'D'oes grudd o fewn gororau'r byd Na fu'n dy wisgo'r perlyn drud; Ha, cario'r galon yw dy waith I'r wyneb, mewn rhyw gerbyd Haith; A'i dwyn yn ei phriodol liw I siarad i'n gyfrolau byw. Canfyddaf fewnol fany dyn Yn tremio ar ei rudd ei hun, A d'wed wrth dreiglo tua'r llawr > Mai hon yw gwlad y cystudd mawr Mae hwn fel angel ddydd a nos Ar ruddiau leg y baban tlos; I'w fam fe garia'i galon wiw Fel caria engyl nef i Dduw. Y gruddiau cynta'th deimlodd di, A'th hanfod sydd yn dywyll i mi P'un ai llawenydd mawr ei glod Ai gofid roddodd i ti fod ? Ond os mae'r cyntaf oedd dy sail, Cawn ddeigryn gofid bob yn ail; Ni fedr gallu na maint na bri Roi terfyn ar dy loyw U. Os na chyrhaeddaist ti y:nef I fwydo tanau'i delyn ef, Ac os nad oeddyt ddigon hardd Roi'th droed i lawr yn Eden ardd, 'Rwyt ddigon hardd mewn lliw a maint I drweio gruddiau teg y saint; Ac os i olwg mil yn gas, Fe nofi berl wrth orsedd gras. FVth wisgwyd di gan Frenin hedd, Ar ol ei gyfaill wrth y bedd Ac mewn rhyw dostur mawr a loes Droa ddinas gynt wrth fyn'd i'r groes, Ae os oedd berlyn ddigon drud Ar ruddiau awdwr nef a byd, Am bechod gwisgwn ddagrau prudd Yn edifeiriol nos a dydd. Llanrwst. E. HARKER (Isnant).

Y PEIRIANT BARDDOL.

TRO YN YR ALBA^T.