Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

---:-1 NEWYDDION CYMREIG.

News
Cite
Share

-1 NEWYDDION CYMREIG. AMMANFOHP.— Ymivdiad Cynonfardd Edwards -Cafodd trigolion Ammanford yn ddiweddar, yr bvfrydwch o weled a gwrandaw Cynonfardd. Daeth i'r lie yn benaf er mwyn talu ymweliad a chartref ei hen gyfaill Watcyn Wyn. Bu yn traddodi ei ddarlith benigamp ar Siarad a Darllen" yn yr Ivorites HEII, nos Lun, y 15fed cyfisol. Teimlai pawb oedd yn bresenol ei bod yn wledd o'r fath oren i wranaaw arno. Dangosai lawer o wallan cyffiedin, a rhoddai gyfarwyddiadau pa fodd i wella. Darllenodd ac adroddodd amryw ddarnau mor naturiol a meistrolgar, 'nes bod y gynulleidfa yn gwaeddi, "Melus, moes eto." Y dydd canlyn- ol, gwahoddwyd ef i Gwynfryn Academy, i roddi anerchiad i'r myfyrwyr ar araethyddiaeth; pryd oedd amryw o weinidogion y cylch ac eraill yn bresenol. Gofala Watcyn Wyn am wleddoedd amI i'r myfyrwyr sydd dan ei ofal; drwy fynu dynion goreu ac enwocaf y, genedl i roddi anerchiadau iddynt yn awr ae yn y man er's rbai misoedd yn ol y cawsent anerchiad rhagorol ar y gecadaeth, fan y Parch. Rowlands, Madagascar; yr hwn a ortreadodd ddull truenus y paganiaid o fy w, o flaen y bechgyn mewn modd effeithiol. Rhoddodd Cynonfardd iddynt gyfarwyddiadau pwysig pa fodd i sefyllo flaen cynulleidfa, yr hyn sydd yn bwysig iawn i bob siaradwr cyhoeddus oblegid ffurfia y gwrandawyr farn am yr areithiwr, wrth ei ym- ddangosiad allanol; hefyd rhoddodd awgrymiad- au sut i feistroli y llais, er gosod pob meddwl allan yn eglur; gan ddyweud fod yr areithiwr yn gyfrif- ol am ei aneglurder. Wedi hyny. rhoddodd gyfar- wyddiadau pa fodd i anadlu, a hyny er lies y peir- iant, trwy pa un yr ydym yn llefaru. Diameu y gwna yr anerchiad ddaioni mawr i'r myfyrwyr, a byddai yn werth i boll fechgyn ieuainc Cymru. ac sydd yn bwriadu troi mewn cylchoedd cyhoeddus, fynu ei glywed. Yr ydym fel cenedl wedi esgeuluso mwy ar y gangen hori, nac unryw gangen ar goeden fawr dysgeidiaeth. Hyderwn y gwna ymweHad Cynonfardd a'n gwlad, yn nghyd a'r llyfr cynwys"fawr a gyhoeddwyd ganddo, greu mwy o eynibyliad ynom fel dynion ieuaine i ymestyn at beilfeithrwydd inewn araethyddiaeth. Gellir dy- weud hefyd fod Gwynfryn Academy yn fwy llew- yrchus nag y bu er ei sefydliad. Drwy ymdrech a n-edrusrwydd y ddau athraw, yr anerchiadau gwerthfawr, a'r fyfyrgell a berthyn iddi, y mae'r ysgol yn cynyddu bob dydd, tuag ugain o fechgyn ynddi yn bresenol a'u gwynebau ar y weinidogaeth, heblaw y rhai sydd yn gwynebu cyfeiriadau eraill. Llwyddiant iddi eto yn y dyfodol, a diameu fod pob un sydd yn telmlo dyddordeb yn yr oes a ddel yn barod i ddyweud, Amen.—Efrydydd. GLYN EBBW.-Dydd Liun, y 15fed cyfisol, y cynaliodd Mount Zion ei gwyl de, a daeth lluoedd yno i gyfranogi o'r danteithion rhagorol oedd wedi ei barotoi ar eu cyfer, ac yr oedd yr olwg fywiog oedd ar bawb yno yn profi i mi eu bod wrth eu bodd fel eglwys a chynulleidfa. Ar ol gorphen y wledd, am saith o'r gloch yn yr hwyr, yr oedd yno ddatganiad o'r llyfr tlws hwnw, .y Beibl darnied- ig," (The torn Beibl), gan gor y capel, yn cael eu cynorthwyo gan amryw gyfeillion, ac aethpwyd trwyddo yn ardderchog, a'r lie wedi ei orlenwi gan y gynulleidfa. Y mae clod mawr i'r brodyr yma am eu hymdrech a'u zel gyda'r aches, yr oedd pob arwydd y gwnant yn o dda at v ddyled. yn y blaen yr elont i wneuthur daioni.Dydd Sul, y 14eg cyfisol, cefais y fraint o glywed y Parch. Pethian Davies, Abereanaid, yn pregethu, ac yn wir, cefais fy moddloni yn fawr iawn, aeth a ni yn ol i'r hen oruwchwyliaeth. a rhoddodd hanes yr arch yn fanwl yn'ei holl gysylltiadau, a rhoddodd oleuni mawr i bawb yn y capel. Credaf fod dyfodol dysgiaer o flaen Pethian. Clywais befyd lane ieuanc o eglwys Penrhywceibr, y mae yn ddyn ieuanc gobeithiol iawn, er nad yw ond newydd ddechreu. Yr oedd megys un cyfarwydd a'r pwlpud, Yr oedd ei gyf- ansoddiad yn dl ws a chynwysfawr. Yr oedd dit'rif- old eb y gorchwyl yn ganfyddadwy arno, ac yr wyf yn credu fod o'r rhai sydd a. fyno Duw a hwy, mae yr arwyddion o hyny yn weladwy, ac y mae ffrwyth i fugail, sef Mr Thomas i weled yn eglur ar ei bltntyn.Wrth son am gantoresau sydd yn codi yn Glyn Ebbw, gofynwyd i mi pa le mae Maggie Prethyroe yn awr, ie yn wir, ebe finau, pa le y mae hi. Wei, y mae Maggie yn dyfod yn seren llachar yn y byd canyddol. Y mae hi yn un o'r contraltos mwyaf ffafriol yn y dyddiau presenol. Dylanwad. odd ei chanu hi mor fawr ar Mr Dyson, yr hwn sydd a'i Gipsy Choir ar hyd a lied ein gwlad. Y mae y gwr hwn yn gwneud ei oreu i ddenu ein merched Cymreig i ymuno a'i gor ft, diolch do iddo pa ganwyr sydd fel y Cymry yn ei ganu, ac y mae y fathforolaia gan Maggie, pe bai hi ond cael chwareu teg, a, cbael addysg golegaw1, er ei pher- ffeith o hi \n ngwahanol gangenan y wybodaeth, byddai hyny yn eij»wnend hi yn seren lachar yu ein gwlad yn yr ees ganyddol bon.Boddiad.- Dydd Mercher, 17eg cyfisol, digwyddodd tro galarus iawn, trwy i fachgen bychan Thomas Griffiths, New Colliers Row, syrthio i lyn dwfr a boddi. Yr oedd y llanc bychan yn myned i'r ysgol erbyn dau o'r gloch y prydcawn, ac ar bwjs yr ysgol fe aeth y bychan i wneud rhywbeth ar yr ytnyl y llyn, a gorbwysodd ei hun nes syrthiodd i fewn, ac er cyflymed y parodrwydd, methwyd achub ei fywyd, ac y maeclcd mawr iawn i'r wraig hono a wnaeth y fath ymdrech wrth neidio i'r dwfr ar ei ol, er ceisio ei acbub, ond ciliodd y bywyd, ae fe foddodd Arthur Griffiths, wyth mlwydd oed. Y fath ofid a thristweh y mae y fam anwyl a'r tad tyner wedi ei gael, wrth golli eu hanwyl bl- ntyn, yr hwn oedd yn berlyn yn y teulu. Yr Arglwydd gysuro y teulu yn eu galar. Wrth son am anrhydedd a gafodd S. M. Lewis, wrth basio mor llwyddianus er myned i'r brif atbrofa gerddorol, Llundain, nid fel cantores lleisiol yn unig a wnaeth, ond mewn gwir elfenau csrddoriaeth, hefyd, angenrhaid oedd arni hi i basio yn y ddwy safon, un fel y Ilall, ac y mae hyny yn profi ei bod yn berchen gwir dalent, ac os caiff iechyd da, y mae digon o yni ynddi i weithio ei ffordd yn y blaen. Y mae John Thomas (Pencerdd), Llundain, yn trosglwyddo Miss Lewis i'r Dr. Mackenzi, ei hathraw, mewn geiriau caredig iawn --Os wyf wedi deall yn iawn fod Mr David Jones, Libanus Road, wedi cael y fraint o lanw y sedd wag yn y Bwrdd Ysgol, yn lie W. Taner Hashes, (gynt weinidog Saron,) Glyn Ebbw. Aeth ef i Belfast. Diamjieu fod David Jones yn deilwng o'r swydd, a gobeithiaf y llanw y brawd ei le, fel y bydd yn sefyll yn uchel yn ngolwg y bobl pan y daw dydd yr etholiad nesaf. Wrth y gwaith y gwnewch yn awr y cewch eich anrhydeddu y pryd hwnw, haner y pwnc i'w gofalu bod yn mhob eisteddiad, er gwneud ei goreu dros ei le ei hun. Credaf fod Jacob Davies, yr aelod a rail y lie yma ei fod ef yn hynod ffyddlon, wn i ddim a ydyw wedi colli un eisteddiad neu beidio. Yn awr, trech dau nag un, gadewch i ni gael gwel'd beth a ellwch ei wneud, y maeyma lawer o waith cymwyso yn ysgolionGlyn Ebbw. Braidd i'w yn deg fod merched yn gweithio am flwyddyn Latl ddwy, a cbael dim am hyny, credaf y dylent gael rhyw gydnabyddiaeth, pe bai hono ond bechan, byddai hyny yn galondid mawr. Cadwn ein golwg ar ei ol yn y dyfodol, a gobeithiaf mae y cyfarchiad serchog hyny y byddant yn ei teilyngu: Da was da a ftyddlon," ao nid ewch oddi wrthyf." Wel ynte. ewch ati o ddifrif, a dangosweh i'r byd mai dod i weithio yr ydych, ac nid bod yn segur. Mr Gol., ai da neu ddrwg, ai doeth neu anoeth, ai cyfiawn ai annghyfiawn, ai gweddaidd ai anngwedd- aidd, ai crefyddol neu anghrefyddol, yw fod gwein- idogion yr efengyl, diaconiaid yr eglwysi, yn rhoddi eu henwau er cefnogi tafarnwyr i gael trwydded newydd ar eu ty. Yn Sir Frycheiniog y bu y fath beth annuwiol a hyn yma, dau weinidog, pump o ddiaconiaid a'i henwau er cael trwydded i werthu diodydd meddwol, pe buasai eu henwau hwy wedi eu gosod er ei tynu hwy i lawr, yna, buasai yn debyg i dda. Ond, be feddyliech chwi sydd yn deilwng i'r bobl yma. Duw ei hun sydd yn gwybod, nis gall, bodau meidrol amgyffred am un fynud, dynion yn proffesu fod yn blaot i Dduw, yn gwaeddi mynweh gwrw i'r bobl, tynu arwydd y Hew, neu goron, na wnewch er dim. Yr wyf ft yn gosod fy enw i lawr i gadw y dafarn i fyny. Car- wn yn fawr gael barn rhai o ddynion y Celt, beth y mae nhw ys feddwl am y fath bechod a hyn yna, A gred y byd, ein bod ni yn proffesu y grefydd sydd am sobri y byd, a ninau am roddi diodydd meddwol i'w drysu ? Na wnant yn wir, beth dybygwch chwi ?—JEhedydd Wyn. MANCEINION.-Booth Street Bast.—Cynaliodd yr eglwys uchod ei chymanfa flynyddol, nos Sadwrn a'r Sul diweddaf, 20fed a'r 21ain cyfisol, pryd y pregethwyd gan y Parchn. Miles, Aberystwyth a Henry Rees. Bryngwran, M6n. Y Parch. D. Wil- liarns, Rhydybont, oedd i bregethu gyda Miles, ond fe alwodd ei addewid yn ol. Ystyriem mai ym- ddygiad anngharedig a'r eglwye ac a'r weinidog oedd gwaith Mr Williams yn tynu yn ol, a hyny o fewn wythnos i'r gymanfa, heb un rheswm droa hyny byd y gwyddom ni; ond cawsom gymanfa dda, a'r pre- gethwyr yp eu hwyliau goreu. Diameu genyf y gwelir ffrwyth yn dilyn y gymanfa. hon, ond i ni ofalu am yr had a hauwyd —JO. M. RHESYOAE.- Yr 16eg cyfisol, cynhaliwyd te parti a ehyngerdd. Rhag blino y Gol. hynaws ni enwaf yboueddigesaua gymerasent ran, heblaw eu bod wedi cyfiawni eu dyledswydd yn wir foddhaol. Yn y eyngherdd, fe fethodd y llywydd a bod yn bres- enol (Cadben G. Ellis, C.S.), uc arweiniwyd gan Mr Mynyddwr Roberts, yn ddeheuig. Yn gyntaf fe gafwyd t6n gynulleidfaol; yna can Llwybr y Wyddfa," Mr Bartley, Dinbych; can "Cymru F dd" Mr Dodd, Caerlleon can Y Cymro Mr A Jones, Wyddgrng t6n gynulleidfaol; caii, Miss Hattie Davies, Penllyn, Deigryo ar fedd fy mam"; can "Yr eneth amdditad Mr Barfey; rhan-gan "Ygwanwyn" gan ran o gor meibion Lixwm; can "Y bachgen dewr Mr Dodd; can, Y ferch a'r gynog" Mr A. Jones "Hen wlad fy Nhadau unawd gan Mr A. Jones, a'r gynulleidfa yn uno yn v cydgan can Y plentyn a'r gwlith" Miss Hattie Davies; "Bwthyn amddifad" Mr Bartley; "Comrade song of Hope" cor meibion Lixwm Heu ffon fy Nain" Mr Dodd Death of Nelson Mr A. Jones "Hoayn yn gyru'r wedd Mr Dodd; "Iddrmgo Plumlymon cor meibion Lixwm. Yr oedd yr arweinydd yn ffraethebol dros ben. Terfynwytt gyda r diolchgarwch arferol gan y Parch. R. U. Jones, a thôn gynulleidfaol.-W. H. Davies. SIR BBNFRO.—Galwad.—Mae y Parch. J. G. Evans, Llundain (gynt Drewen), wedi cydsynio ar alwad dderbyniodd oddi wrth eglwys Saundersfoot a Sardis, Sir Benfro. Bwriada ddechreu ar ei wein- idogaeth yn ei faes newydd yn gynar yn y mis nesaf. Mae efe wedi profi ei hun yn weinidog da, a diau y bydd iddo gadw i fyny y gair da. sydd idclo. -Gohebydd. YSTALTFERA.—Mae yn ddigon posibl i gredu erbyn hyn fod eglwys y Pantteg wedi syrtbio mewn cariad a'r Parch. Ben Davies; Nebo, ac y mae mor debyg o fod priodas i gymeryd lie o'i rban hi, os gwna ef gydsynio, ac os felly y bydd, fe fydd ya gaffaeliad mawr i'r ardal.-Goh.

COLOFN Y CLECION.