Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
OYFABFOD CHWARTEROL ANMBYN.…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
OYFABFOD CHWARTEROL ANMBYN. WYE DINBYCH A FFLINT, Cynaliwyd y diweddaf yn Mostyn, ar y dydd- iau Mawrth a Mereher, Medi 16eg a'r 17eg, 1890. Nos Fawrth, pregethwyd gan Mr Cadwaladr, Nebo a Mr Evans, Caer. Cafwyd t cynadledd am haner awr wedi deg, boreu ddydd Mercher, o dan lywyddiaeth y Parch. W. James, JSarn, y cadeirydd am y flwyddyn. Wedi-dech- reu trwy ddarllen a gweddio, gan Mr Michael, r Caergwrle, darllenwyda chadarnhawyd cofnod- ion y cyfarfod blaenorol, a phenclerfynwyd i- 1. ,Fod y cyfarfod nesaf i'w gynal yn Abergele, ddechreu Ionawr, 1891. 2. Fod y Parch. T. E Thomas, Coedpoetb, i ddarlleu papur yn y cyfarfod nesaf, ar y Modd- ion goreu,i godi achosion gweiniaid.' 3. Gan fod tymor swyddogion y cyfarfod chwatterol ar hen, ethol-wyd Dr Pan Jones, Mostyn, yn gadeirydd am y flwyddyn ddyfodol. 4. Penderfynwyd ar i'r ysgrifenydd, y Parch. T. Roberts, Wyddgrng, a'r trysorydd, Mr Michael, Caergwrle, aros yn eu swyddi am flwyddyn eto. 5. Nodwyd y personau canlynol i weithredu fel pwyllgor i ymgyDghori â hwy gyda golwg ar weithredoedd eapelydd yn y ddwy fir :-Mr Roberts, Rhos; Dr Pan Jones Mr Oliver, Tre- ffyaon; yr Henadur Jones, Rhuthyn Mr Jones, Rhesycae; a Mr Johnson, Caer. Cafwyd ymddiddan ar y pwysigrwydd fod yr holl eglwysi yn taiu sylw Pw gweithredoedd, ac yn gofalu ya briodol am danynt. 6. Derbymwyd yr eglwys ieuaDC yn Bethel, Gwersyllt, i'r undeb, a theimlai y frawdoliaeth yo llawen wrth glywed hanea am lwyddiant yr achos goreu yn y lie cynyddol hwn. 7. Penderfynwyd rhoddi llythyrau cymerad- wyaeth i'r brodyr, y Parch. Morlais Richards, Maesglas, a'r Parch. J. Evans, Caer, ar eu hym- adawiad o'n plith-y uaill i'r America, a'r llall i gymeryd gofal eglwys Seisnig yn y Trallwm. Teinalid chwithdod wrth feddwl eu colli o'n mysg; a dymuniad y gynadledd ydoedd ar iddynt fod yn ddedwydd a Ilwyddianus iawn yn ngwinllan eu Harglwydd am lawer blwyddyn eto. 8. Dygwyd ger bron achos dyled y capel yn Abergele; a phenderfynwyd gofyn i'r holl eglwysi yn y cylch roddi pob croesaw a phob cefnogaeth i Mr Davies, y gweinidog ieuanc sydd yn llafurio yno yn bresenol, i symud y baich o ddyjed sydd yn aros. 9. Darllenwyd papur gan y Parch. W. M. Davies, Abergele, ar 'Anfanteision Ymueilldu- aeth yr oes hon.' Cymerodd olwg ar anfanteis- ion allanol a mewnol Ymneillduaeth yn y dyddiau presenol, a thraddododd yn rhagorol arcynt. Siaradwyd yn mhellach ar bwnc y papur gan Dr Pan Jones, Mostyn; Mr Oliver; Mr Davies, Rhyl; Mr Roberts, Rhos; Mr Johnson, Caer; a Mr Williams, o Patagonia. Cafwyd amryw sylwadau miniog a phwrpasol iawn; a chondemnid rhai o'r ffyrdd a gyuierir gan rai o swyddogion yr Eglwys Sefydledig- yn Nghymrn yn y dyddiaa hyn i broselytio er mwyn chwanegu at rif eu haelodau. Pasiwyd fod diolchgarwch y gynad- ledd yn cael ei roddi i Mr Davies am ei bapur. rhagorol. 10. Galwodd Mr Oliver sylw y gynadledd at y Sabbath olaf o'r mis, yr hwn sydd wedi ei nodi i fod yn Sabboth i gydweddio am dywalltiad o'r Ysbryd Gl&n ar ein heglwysi. Mawr hyderid y buasai yr eglwysi yn gyffredinol yn y cylch yn neillduo y Sabbath hwn i gynal eyfarfodydd gweddio ar ei hyd, gan ddysgwyl yn ffyddiog bethau mawrion gan yr Arglwydd. 11. Ar gais yr eglwys yn Nantglyn, nodwyd y pelsonau canlynol i weithredu fel ymddiriedol- wyr ar y capel yno-y Parch. D. D. Richards; Mr H. Jones, Foel; Mr Rice Jones, watchmaker. Nantglyn Mr Joseph Evans, Aber, Nantglyn Henadur J. Jones, Rhuthyn; Mr D. Davies, Rhyl, Parch. O. Davies, Graigfechan; Mr J. M. Davies, Love Lane, Dinbych; a'r Parch. W. M. Davies, Abergele. 12. Ar gynygiad y Parch. J. M. Jones, Caer- gwrle, ac eiliad Dr Jones, Mostyn, pasiwyd fod y gynadledd hon yn dymuno ar holl Ymneilldu- wyr y wlad i gymeryd mantais ar holl fanteisiou dfddfcladdu a phriodi yn mhob ardal, ac yn dymuno ar i'r pwngc gael ei ddwyn i sylw yn mhob eglwys.' Sylwyd fod rhai swyddogion perthynol i'r Eglwys Sefydledig yn gwneuthur defnydd mawr o'r ffaith fod cynifer o Ymneillduwyr yn priodi yn yr Eglwys Sefydledig, ac yn cael eucladdu dan yr hen ddeddf. Terfynwyd y gynadledd trwy weddi gan y cadeirydd. Pregethwyd am ddau o'r gloch, gan Mr Thomas, Brynteg, a Mr Oliver, Tieffynon; ac am haner awr wedi chwech, gan Mr Daviep, Graigfechan ar y pwngc, sef, Haelioni gwir- foddol gyda chrefydd,' a Mr Johnson, Caer. Cafwyd cyfarfodydd dymunol a chroesaw mawr gan y cyfeillion yn Mostyn. Mawr ganmolir y bregeth ar y pwngc.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
GANWYD. MORGAN—Medi 13eg, priod Mr David Morgan, cigydd, Cadoxton, ar fab. PARRY—Medi 17eg, priod Mr Tom Parry, Berner- street, Birmingham, ar fab. BU FARW. DATIES.-Dydd Sul, Medi 14eg, bu farw Mrs Ann Davies, yn ymyl y gate, priod Mr John Davies, Saer, yr hon a gafodd hir gystudd, a chystudd trwm iawn, yn agos i chwech mlynedd, eto, hi a ddioddefodd yn dawel ac amyneddgar, a'i ffydd mor gref yn yr lesu, nes yr oedd yn gallu dyweud yn eu mynydau olaf, yn ddiogel yn mreichiaa fy Nghwaredwr, a'r dydd Iau canlynol, y daearwyd yr hyn oedd farwol o honi yu ngladdfa yr Eglwys Newydd. Yn gweinyddu wrth y ty y Parch. J. Davies, Wern. Bydded i'r priod a'r plant sydd wedi eu gadael ar ol i alaru i gael gafael ar yr un grefydd a'u mam, fel y caffont yr un nerth wrth farw. Goh. DAVIEs-Medi 14eg, yn 84 mlwydd oed, Arch- ddiacon Davies, Cwrt-y gollen, ger Crughywel. JONES— Medi 16eg, priod y diweddar Mr Owen Jones, cigydd, Fountain-street, Hirael, Bangor, yn 70ain mlwydd oed. Yr oedd yn aelod gyda'r Anibynwyr yn Salem. Claddwyd ei gweddillion marwol prydnawn Sadwrn canlynolyn mynwent Glanadda, ei gweinidog, Parch D Williams, yn gweinyddu ar lan y bedd. Gadawodd feibion a mercbed a llu o berthynasau i alaru ar ei hoi. Heddwch i'w llwch.—Goh. WILLIAMS- Medi 13eg, wedi hir nychdod, yn 18 mlwydd oed, J 0 Williams, unig fab Mr Owen Williams, Penrhosgarnedd (gynt Tai'refail), Bangor. Claddwyd ef ar y 18t'ed, yn mynwent Gaerwen, Mon. Gweinyddwyd gan Mr Hughes a Mr Griffiths. Yr oedd yn fachgen ieuanc hynod obeithiol, a chrefyddol, ac wedi ei fagu felly yn hen eglwys Anibyuol Beulah. Ac ym- ddengys mai crefydd o'r iawn ryw oedd ganddo, oblegid talai yn dda iddo yn ei gystudd blin; fel yr oedd yn gallu dywedyd pan yn nychu o dan ingoedd ei anfchyd, Y mae yna le esmwyth yn fy aros inau," Pan ofynodd ysgrifenydd hyn o linellau iddo a hoffai gael gwella, dywedai, garT droi at ei dad, gadael fy nhad ei hunan yw yr anhawsdra." Dywedai Mrs Davies, Trebortb, wrtho, Y byddai ganddo lawer o achos diolch os cai wella." Xwy o lawer os caf fyned gartref," ebe yntau. Un o'i eiriau olaf wrth ymadael a'r byd ydoedd, Diogel yn mreichiau yr lesu," Onid oedd yn werth byw bywyd gwir dduwiol mewn trefn i gyraedd profiad fel yna. Bydded heddwch i'w lwch i huno yn dawel hyd foreu caniad udgorn Duw. A bydd- ed y nefoedd yn dyner wrth y tad galarus yn ei waeledd, ei unigedd, a'i dristweh mawr.—Goh.
OYFRANIADAU AT DDIRWY Y DR…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
OYFRANIADAU AT DDIRWY Y DR WILLIAMS, BETHESDA, AR Y CELT. £ s. c. Mr W. G. Thomas, Caernarf on 0 2 6 „ Robert Roberts, tailor, eto 0 1 0 John Williams, eto 0 2 0 „ Robert Roberts, Hole in the Wall-st. 0 1 0 W. Roberts, 39, High-street 0 1 0 „ J. Godfrey, guard 0 1 0 „ C. E. Jones, Bangor-street 0 1 0 „ John Williams, Market-street 0 1 0 „ Owen Williams, builder 0 2 0 „ J. R. Pritchard 0 2 6 Cyfanswm .£0 15 0
Advertising
Advertising
Cite
Share
St. Jacobs Oil Is the grandest remedy in the world. It conquers pafa always quickly and surely, it penetrates deep. It acts like magic. It relieves pain at once. No waiting. No dosing with quantities of medicine. It Is an outward application, harmless and sure. Endorsed by Lady Florence Dixie, Right Bev. Bishop Richardson, Henry Tollemache, M.P., the Bev. W. J. Caulfield Brown, M.A., the Ber. Edward Singleton, M.A.,D.D., and thousands of others equally prominent. No other medical discovery since the world began haa ever received each strong endorsement as 8t. Jacobs OiL No person hereattet need suffer from Rheumatic OX Seuzalgic cains, for St Jaoobs Oil oonqaem pais.
TAITH I MOROCCO.
News
Cite
Share
ysgrifenu ycbydig ar y pethau a dynasant fy sylw yn ystod fy arhosind i yn y He. Cefais gyfle i weled trayn Tangiers yr byn a elwir yn Laab el Baroo, neu Chwareu'r Pylor, un o'r chwareuon cenedlaethol. Oynhelir y chwareu hwn ar y traeth o'r tiialfan i'r dref ar ddistyll. Gwelem oddeutu -tri chant o Soldwyr Mwraidd wedi eu gwisgo yn holl liwiau yr enfys, yn tithio atom yn nghanol yr anhrefu mwyaf gyda'u drylliau ar i fyny mewn agwedd ymosodol, atebir eu rhuthr ar eiliad gan eu cadben neu Hadel Garbia gyda chodiad ei law. Rhuthrant wedyn bob yn ddau, yn un ac un, ac yna yn ddegau ar y naill ochr a'r llall, mewn eiliad neidiant yn ol neu yn mlaen gada'r parodrwydd cyflymaf gan saetbu a gwaeddi yn ddibaid. Yr (,edd y lIe yn llawn mwg ac arogl pylor yn mhen ychydig fynydau, fel pe buasai dyn ar faes y gwaed: ar bob llaw yr oedd ceffylau yn praneio, arfau yn vsgleinio, mentyll eoehion, melynion, gwyrddion, gleision yn cwhwfan ac yn ym- gymysgu a fflachiadau y cleddyfau ceimion. Gwanent heibio i ni un ar ol un fel drycb- iolaethau asgellog yn hen ac ieuanc. Yr oeddynt yn ddynion o faintioli anghyffredin, safent yn sythion yn eu gwrthaflau gyda'u penau wedi eu taflu yn ol a'u gwallfc yn cael ei chwythu gan y gwynt. Dalient eu gynau ar i fyny a rhoddai pob un ar ol saethu, waedd wylit. yr hon a gvfieitbid i ni gan ein harweinydd, a dyma'r cyfieithiadau: .c. Cyooer ofal "Ofymatn!" Yr enw Duw Fe'tn laddaf di! Yr wyt yn farw! Cefais fy nial! Cyflwynai Thai eu hergydion i amcan neu berson ueillduol, megys I'm cariad ferch I'm meistr I'm ceffyl! &c. Saethant i fyny, i lawr, ac yn ol gan blygu a throi fel pe wedi eu cylymu wrth y cyfrwy. Gwelid un yma ac acw a gollai ei fantell neu ei ^wrban, yn troi yn sydyn ac ar lawn dlth yn eu pigo i fynu a blaen y dry 11. Taflai rhai eu drylliau i fyny i'r awyr ac yna dalient hwy wrtb iddynt ddisgyn. Yr oedd eu hymdumiau a'u hedrychiad yn debyg i eiddo dynion wedi gwallgofi o dan ddylanwad 4diod feddwol, ac yn rhyfygu chwareu ag angeu mewn dull dibris ac ynfyd. Diferai gwaed o ochrau nifer fawr o'r meirch, a gorchuddid traed, gwrthaflau, a godreuon mentyll y marchogwyr a gwaed. Nis -anghofiaf rai o'r gwynebau a welais yn y fintai yma bytb. Yn mysg eraill yr oedd dyn ieuanc gyda phen cawraidd, a phar o ysgwyddau fel mynyddau, wedi ei wisgo mewn gwisg o liw y rhosyn a'r hwn a waeddodd amrai weithiau fel Hew rhuadwy areholledig. Nis anghofiaf ychwaith lane -pymtheg oed, llathraidd, penoeth, mewn gwyn a ddaeth beibio i mi dair gwaith gan waeddi Fy Nuw! Fy Nuw!" Yr oedd yno ben wr hefyd tra hynod, gyda wyneb dieflig a llygaid haner ynghau ac edrychai fel pe bai Honaid gwlad o haint yn dod ar ei ol. Un arall a dynodd fy sylw oedd negro, yr hwn oedd yn llygaid a danedd i gyd gyda cbraith ddofn ar draws ei dalcen ymnyddai hwn yn ei gyfrwy fel pe'r ymdrechai'n galed- i ryddhau ei hunan o afaelion palfau ellyll anweledig.