Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

"BETH I FEDDWL 0 YSGRIFAU…

News
Cite
Share

"BETH I FEDDWL 0 YSGRIFAU Y PARCH D. WYNNE EVANS AR AIL DDY- FODIAD. A YDYNT YN UNION GRED P" [PARHAD.] Os y trown ein golygon i'r meusydd cenadol gwelwn fod llu mawr yn credu ac yn dysgu athrawiaeth yr ail-ddyfodiad cyn y milblynydd- oedd. Ami y dygpwyd y gwyn ynerbyn y Milenariaid fodeu hathrawiaeth yn tuedda i wanhau sel genhadol, ond nid oee dim yn well i wrthbrofi hyny na ffeithiau. Ceisiodd Proff. Beet guro Mr a Mrs Grattan Guinness ar y pen hwn, ond y mae eu hatebiad iddo yn an. atebadwy ac yn werth ei ddifynu, fel y canlyn 11 Y mae Proff. Beet yn dal fod crediniaeth yn agosrwydd y dyfodiad fel yr hyn a greir gan olygiadau y cyn-fillfwyddwyr, yn tueddu i wan- hau sel genhadol. Yr ydym ni wedi ei chael yn hollol i'r gwrthwyneb. Os ydyw yr amser yn fyr, mwyaf i gyd o angen sydd i'w ddefnyddio yn ddifrifol ac yn dda yn ol geiriau yr apostol ♦ a hyny yn fwy o gymaint a'ch bod yn gweled y dydd yn nesau.'j Ni ddarfu i'r fath gredo rwystro yr apostolion i droi'r byd a'i wyneb i waered, yr oeddynt hwy yn efengylwyr a chen- hadon pur frwdfrydig. Y mae y rhan fwyaf o'r cenhadon yn gynfillfwyddwyr. Nid ydyw y fath olygiadau yn rhwystro Hudson Taylor a'l ganoedd cenhadon yn China; nid ydynt yn rhwystro Moody gyda'i gyfarfodydd, na Spur- geon gyda'i bregethwyr. Nid ydynt yn rhwystro geon gyda'i bregethwyr. Nid ydynt yn rhwystro gwaith cenhadol Uydan-fyd George Miller nid ydynt erioed wedi ein hatal ninau gyda'n tair athrofa genhadol a'n cenhadaetb gartrefol, nac mewn anfon allan fal yr ydym ni wedi gwneuthur o fewn y pedair blynedd ar ddeg diweddaf rhwng pedwar a phump cant o genhadon; nid ydynt wedi rhwystro, eithr yn hytrach wedi oynorthwyo tyrfaoedd o rai ereill mewn llafctr- waith cyffelyb, ac nis gwnant rwystro byth. Dywedaf wrth derfynu ddarfod i mi gael yr anrhydedd o roddi llety i un o'n cenhadon mwyaf llwyddianus, er's rhai wythnosau yn ol, ac yn nghwrs ein hymddiddan ar y mater dan sylw, dywedodd nad oedd wedi cael amser i dalu sylw priodol i'r pwnc, ond ei fod yn bwriadu ei astudio. Fod ei briod yn tueddu i gredu atbraw- iaeth yr ailddyfodiad cyn y milflwyddiant, ac mai yr oil allasai efe ddywedyd ydoedd fod y rhai a adwaenai yn erednyr athrawiaeth yn ddynion gwir dda, ac fod ganddo barch calon iddynt. Wedi dywedyd cymaint a hynyna mewn ateb- iad i ofyniad clecyddol Colofn y Cleclon," dy- munaf hysbysu y byddaf bob amser yn barod i ateb unrhyw gwestiwn a gyfeirir ataf ar y mater, gan unrhyw ymofynydd pryderus. Da genyf .gael ar ddeall fod fy ysgrifau yn y Cronicl, os nad ydynt wedi argyhoeddi neb, wedi deffroi dyddardeb yn y pwnc pwysig hwn a esgeulusir mor druenus a chyffredinol. Bydd genyf air eto ar swn y milblynyddoedd yn yr Undeb Cym- reig eleni. D. EVANS WYNNE.

[No title]

Advertising