Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
.......------.BARPPONljETH.
News
Cite
Share
BARPPONljETH. AB UNIAD Mr Griffith William Humphreys, mab hynaf y talentog fardd Elihu, A Miss Anne Jones, merch hynaf y diweddar Mr John Jones, coal merchant, y ddau o Blaenau Festiniog. 0 wael encil Clwb Hen Lancio.u" -Grutfydd Graflus wnaeth o'r goreu Fynu ei glws fenyw glân- Ei asen oedd yn eisiau. Ann luniaidd, nid oes un lanach-ns hwn, Mae'th hawl ynddi mwyach Llanwer eich dyddiau lloniach A bywyd, ohyd-yniaeb. Aurheg 'am adeg ydyw,-gem oreu Yn gymhares heddyw; Gwell i bawb er gallu byw- Mynedyn berclien menyw. w JFestiniog. MAWLGERDD YNYS MON. Mae wedi d'od yn hinon haf, I ben y Mynydd Twr yr af;, Eiateddaf yno ar gadair graig, Yn uchel iawn uwch berw r aig, I gym'ryd trem, a gwrandaw r adn Berseiniol gwyd o Ynys Mon. 0 holl lanerchau'r Ilawr i gyd, Un harddach man ni fedd y byd; Bihyw rosyn swynol wyt, mor fyw, Ar fonwes creadigaeth Duw! Y gwych brydyddion sydd yn son Am fyrdd teleidion Ynys Mon. Mi welaf yna'r nerthol fraich, At ddal yn ol aruthrol faich Y dyfnfor broch, gan roddi nawdd 1'r llongau lechant wrth ei glawdd, A phan y tawo'r gwynt a son," Y llongau wibiant o gylch Môn. ,Caergybi dlos, drafaidiol dre, A'th borthladd gwerthfawr dyna, efe; Gwel acw'r ager fadau chwim Yn hollti'r don fel pe bae ddim; Oddiar eu bwrdd dyrchafa ton 1 fawr glodfori Ynys M6n. Wi welaf acw'r bwthyn llwyd, LIe ce's y tamaid cynta' o fwyd 5 A'r lie tarawai'r galon hon Y curiad cyntaf dan fy mron. Am Dy'nffordd Deusant bydd fy son, A phentref Mechell Ynys Mdn. Melin y mynydd dacw hi! -O! llawer torth a roi'st 1 mi I .Mae'n troi, mae'n troi, yn troi o hyd, A malu a wna hyd ddiwedd byd Ac, O! mor hyfryd ydyw son, Am JAlaw a JMeddanen Môn. Pwy welodd mewn un rhan o'r byd Mor glysed man a'r Fenai glyd ? Palasau heirdd, a gwigoedd llawn, A'r cedyrn bontydd yma gawn, Am danynt hwy ni pheidir son, A glanau'r Fenai'n Ynys Mon. Hen wlad y dewrion oeddit ti, A gwlad Derwyddon ami eu rhi; Mae'u hen allorau yma o hyd, A sefyll wnant hyd ddiwedd byd Mam oeddit ti mewn dysg, mae son Am gyfrin gylchoedd Deri Mdn. Hen wlad gyfoethog wyt yu wir, Ceir haidd a gwenith lon'd dy dir Ac, O! mor swynol ydoedd sain, Dy wenyn chwim yn ngardd fy nain; Ac am dy wartheg blith mae son, A hufen melyn YnysMdn. Pel mamaeth ffrwythlon, llawn yw'th fron, 0 werthfawr reidiau'r ddaear hon; Dy fynydd efydd, dacw fo, A dacw wely dwfn dy lo; Ac am dy liwiau elywir son A gwenith feiui Ynys Mdn. Mi welaf draw'r Eirianell gu, Hen gartre'r bardd Llewelyn Dau; Lie bu Goronwy lawer gwaitb, Yn derbyn cardod ar ei daith Ac hyd y fam, fe bery'r son Am weithiau Gronwy Ddu o ton. •Y morfur anferth. TDwy afon Mechell a Deu- | taut. I Hen ynys hardd mae'th dirion wedi, r Yn arwydd-nodi dwyfel hedd Pregethir yma Iesu Grist, Yn geidwad i'r colledig trist; Tra glyna craig mewn craig bydd son Am Galfarifyn Ynys Mdn. Mi welaf acw yn y wlad, Lantrisant lwyd, lle'r huna'm tad! Hen gladdfa'r teulu ydwyt ti! A Deusant, ein Machpela ni. Ar gangau 'u coed, pruddglwyfus don, Chwareua'r gwynt ya Ynys M6n. Mae'r teulu'n myn'd, yn myn'd 0 hyd! 0 Ynys M6n i arall fyd! Dwy sydd yn ol o'r rhai dinam,- Fy modryb Jane, a'm banwyi fam, A beunydd clywir hwytha'u son Am fyn'd i'r bedd yn Ynys Mon'. 'R'wyf inau'n debhreu myn'd yn hen, Mae'r blew ynt gwyou dan fy ngen; A chyflym ddyfod mae y tro I'm rhoddi inau yn y, gro; Ac, O mor hyfryd fydd y son Ar oZ y Farn am Ynys Mon. Tra paro'r mor i olchi'th rudd, Tra'th lonir gan oleuni dydd; I Tra disgyn arnat wlaw a gwlifch, Yr iaith Gymraeg siaredi byth, Ac yn Gymraeg bydd geiriau'r don Ddatgana gwaredigion M6n. 1; Mae dy "fenys gwynion di" 1 n anwyl gan exn calon ni; Dy lanciau a'th wyryfon Had, Ynt adduraiadau pena'r wlad; A bydded eto'n fwy y son Am grefyddolder meibion M6n. Newport, 1890. loar; DDERWICI o FoN.
Y PEIRIANT BARDDOL.
News
Cite
Share
Y PEIRIANT BARDDOL. Yr Ysgol Sabbothol.—Penillion go lew, ond yn cynWys rhai llmellau rhyddiaethol a syniadau cyffredin iawn. Nid ydych yn ymaros yn ddigon hir i fyfyrio ar eich testyn cyn dechreu odli, onide buasai mwy 0 dan yn y llinellau byn. Tybiaf fy mod wedi darllen cyfansoddiadau o'ch eiddo oedd- ynt yn llawer iawn gwell na hwn, a phrofa hyny nad ydych ar eich goreu y tro presenol. Yn sier gallwch wella ar ddarnau fel y canlynol, Er amled ei thylwyth urddasol Dros wyneb y ddaear a'r mor, Cyfrana yn rhad a boddhaol O'i bythol di-derfyn ystor." Dechreuais geisio gwella rhai llinellau, ond credaf mai y peth gorea fydd eu gadael i'w had- gyweirio genych chwi eich hun. Cyn dechreu odli, meddyliweh yn ddyfal ar y testyn, ac ni fyddai yr un niwed i chwi ysgrifenu eich meddyl- iau mewn rhyddiaeth yn gyntaf, er gweled a fyddant ya farddonol; ac wedi casglu defnyddiau felly, canwch linellau llawn 0 drydan awenyddol, ac os bydd i'ch can osod y mail fydd yn ei chludo ar dftn, na ofelwch ddim-nid yw beirdd yn fodau cyfrifol! Cofiwch fy mod yn ysgrifenu hyn am y gwn y gallwch wneud gwell gwaith ond i chwi geisio.. Y Dafarn.Dau englyn nerthol iawn, gyda r eithriad 0 gyrch yr ail- "ynfuan I fedd yr hen bethan." Mae yPeiriant yn dra hoff 0 ddiod ddirwestol, ond nis gall lyncu brychau gwallau cynghaneddol fel yr uchod ynddi. Yn wir, mae genych y peth byw anniffiniol hwnw sydd yn gwneud englynwr da. Newidia pethau'r byd.—C&n briodasol eto, a cheir ynddi lawer llinell bert; ond, yn wir ac yn wir, mae yma ormod 0 drafod manylion amgylch- iadau bywyd, a champau carwriaethol personau neillduol, i gyfiawnhau cyhoeddi y llmellau. Wele un penill, er engraifft,- II Rhyw amser hudoliaethus yw amser caru'n wir, Rhy fyr yr oriau welir, er iddynt fod yn hir Ha! da rwy'n coflo'r adeg, yr aem ein dau 0 hyd I garu y chwiorydd,-newidia pethau'r byd. Credaf mai mewn rhyw Mr lewyg anghyfrifol y cyfansoddodd y bardd linellau fel yr uchod, ac y diolcha i ni, wedi iddo ymbwyllo, am beidio eu cy- hoeddi. Dywed y bardd ei fod ef a'i gyfaill sydd newydd fyned i'r ystad anrhydeddus, wedi bod yn caru ryw chwiorydd a gellid tybio eu bod yn dra diwyd gyda'r gorchwyl, oblegid dywed-" Yr aem ein dau 0 hyd. Yr wyf yn bur aicr fod y ddau yn chwilio am y ftyrddmwyaf dirgel i fyned iw teithiau y pryd hwnw, a thybed nad tro gwael a'r bardd a'i gyfaill fyddai cyhoeddi 0 flaeu holl ddar- llenwyr y Celt-o ba rai y mae llu mawr yn hen lanciau direidus—yr hyn a gadwyd yn g§l cyhyd? A yw y bardd ei hun wedi cael ei Efa nis gwtI; y ond os nad yw, ofnaf yn sicr, pe cyhoeddid y gfin hon o'i eiddo, na chai un yn ei oesj—eblegid collai y rhyw deg bob ymddiried yn ei allu i gadw cyf- rinach; ac mae gweled cAn fel hon yn fy nghymeU i roddi y chwiorydd ar eu gbcheliad; a phriodol iawa fyddai iddynt,pan yn ysgrifenu at eu cariadou i ysg. rifenu Gyfrinachol" ar bob llythyr.-fel na byddo gan neb hawl yn oesoesoedd i gyhoeddi eu meddyl- ddrychau carwriaethol aruchel. Byddaiy gan dan sylw yn un o'r pethau mwyaf dyddorol i'w dodi yn llaw y cyfaill sydd newydd ymuno & chlwb mawr Priodas, ond nid doeth fyddai ei chyhoeddi. Ysgrifen y darn llaw.—Mae yn y llinellau nerth awenyddol, ond yn gysyllfciedig a llawer 0 syniad- au cymysglyd a chyffredin. Wrth amcanu at f*n- ylwch, mae y llinellau canlynol yn colli pob mya- ryn o wres,— Ai llaw seraph, ynte Gabriel, Neu rhyw angel disglaer gwyrj Ynte llaw rhyw gerub cywrair, Fu yn eerfio'r geiriau hyn ?" Dylid newid y llinell olaf o'r ddwy hyn,- Dacw Daniel, fochgoch fachgen, Uwchbeu bysedd JPMC cCu pwynt." A byddai ychydig adgyweiriad ar yr holl gan ya tg llesol. Cwrw.- Ach! ond dan englyn da yw y rhai hyn, Angau.-Pnr dda ond y drydedd linell, 11 Na,-hwn ddyga fi'n ddigam." Er ei bod yn gywir mewn cynghanedd ma.9 yn Ilesg mewn iaith. Hyder y Cristion.—Gmv dda, ag eithrio un gair; ae mae hwnw yn ei andwyo. Annaturiol yw son am "kardd waedlyd loesau." GweHhewch hwn, a bydd yr englyn yn gampus. Nid oedd fodd i'w orphen yn gryfach,- mae'n llawenhau Yn Haw rhingyll yr angau." Yr wyf yn daer am i chwi wella y man-ffael- eddau uchod, am fy mod yn credu y gallwch, a bod y cyfansoddiadau yn werth i chwi wneud chwareu teg a. hwy drwy hyny. Paid a gwadn Iaith dy Fam.—Meddyliau cryfion. a barddonol, er fod eu gwisg dipyn yn after. Peidiwch a gwastraffu cymaint ar brif lythyrenau, oblegid ni ddylent fod end ar ddechreu brawddeg- au, llinellau mewn barddoniaeth, enwau personau a lleoedd, neu eiriau arweiniol mewn cylansoddiad. Gwyddoch fod "Du bach" y wasg mor ofalus fel y dyry mewn argraph bob peth fyddo ar yr ysgrif o'i flaen-yn enwedig y gwallau Pedr yn wylo.—Mae rhywbeth yn anorphenol yn mrawddegiad yr englyu hwn,- Serch lesu genym ar hyn rodd Ar y fynud erfyniodd." A rodd" beth ? Ar uniad, fyc.—Tri englyn doniol a phriodol i'r achlysur. Englyn i Br—.—I'r dim; tarawsocn yr hoel ar ei phen. Haul.— Diolch am dano Pe peidiai yr haul a chodi, buan y darfyddai am danom, oblegid delid ni gan nos, a gauaf, a gwallgofrwydd, ac angau! Syniadau da, ond fod yr awdwr heb dalu digon o sylw i reolau englyn. «Pabell,$c.—Buasai yn anmhosibl crynhoi mwy o feddwl i gan lleied o Ie, a dweyd dim gwell am ragorion ymarferol y "babell," nag a geir yma; ond-fel yn yr englyn i'r Haal —Md yw yr awdwr wedi aatudio y cynghaneddion. Dylai wneud ar bob cyfrif. Llinellau ar ymadawiad, y Parch. R. H. P.-Mae y llinellau yn orJawn 0 syniadau parchns a dy- muniadau da, ac mae y gwrthddrych yndeilwng iawn o'r oil. Er hyny, yr wyf yn bur sicr y dioicha awdwr y penillion i mi, mewn amser i dd'od, am beidio a chyhoeddi y penillion fel y maent; hawdd gweled nad yw ond newydd ddechreu prydydcTu, ond os deil ati bydd yn debyg 0 ragori. Yr oedd y llinellau yn werthfawr i'w darllen mewn cyfar- fod neillduol, ond nid ydynt yn ddigon graenus ell saerniaeth i'w cyhoeddi. Peidied ein gohebwyr ieuainc a meddwl mai oddiar yspryd coegfeirmadol y cyfyd sylwadau fel hyn, eithr yn hytrach oddiar awydd i'w llesoli, yn gystal ag i wneud^ Colotn Farddonol y Celt yn ddyddorol i'r holl ddarllenwyr. Telyneg.-Tlysion iawn, oddigerth ychydig linellau, megis,— Hawdd i fardd yw rhoi calsnig Iti, blentyn hoff, o gAn."